Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Merfyn Parry a Peter Prendergast. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018 (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12
Rhagfyr 2018. O ran cywirdeb – Dywedodd Aelodau nad oedd unrhyw ymddiheuriadau yng nghofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018. Câi’r cofnodion eu diwygio gan nodi
ymddiheuriadau ar ran y Cynghorwyr Ann Davies, Peter Evans, Peter Prendergast a
Julian Thompson-Hill. PENDERFYNWYD, yn amodol ar y diwygiad
uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) - Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr
(taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â
cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno
sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau yn y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS 15/2018/1076 - ERW GOED, LLANARMON YN IÂL, YR WYDDGRUG PDF 6 KB Ystyried cais
i Amrywio amod rhif 4 y caniatâd cynllunio a roddwyd o dan god rhif 15/2016/0858 i alluogi ail leoli pwynt mynediad ar hyd blaen
y safle, mewn cysylltiad â chaniatâd amlinellol ar gyfer
datblygu 0.60ha o dir i bwrpasau preswyl yn Erw Goed,
Llanarmon Yn Iâl, Yr Wyddgrug
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i amrywio amod rhif 4 ar ganiatâd cynllunio 15/2016/0858
fel y gellid symud y fynedfa o flaen y safle, mewn cysylltiad â chaniatâd
amlinellol ar gyfer datblygu 0.60 hectar o dir at ddibenion preswyl yn Erw
Goed, Llanarmon yn Iâl, Yr Wyddgrug. Siaradwr Cyhoeddus – Peter Lloyd (O blaid) –
Esboniodd i’r Pwyllgor mai cais oedd hwn i amrywio caniatâd presennol ar gyfer
mynedfa i gerbydau. Y rheswm dros symud y fynedfa oedd lleoliad yr un a
gymeradwywyd mewn perthynas ag asedau Dŵr Cymru ar gyfer dŵr budr a
dŵr wyneb, a fyddai’n gwneud y datblygiad yn anymarferol. Byddai symud y
fynedfa’n rhagori’n sylweddol ar y cynlluniau gwreiddiol o ran gwella mannau
agored i’r cyhoedd a chadw coed a gwrychoedd. O ganlyniad i hynny, byddai
diwygio’r cynlluniau yn sicrhau tai a thai fforddiadwy ar y safle, yn gwneud
defnydd effeithlon o’r tir, yn cydymffurfio â’r safonau priffyrdd ac yn gwella
naws weledol y datblygiad o fewn y pentref a’r Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol. Trafodaeth Gyffredinol
– Rhoddodd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Martyn Holland, rywfaint o gefndir byr i’r cais i’r
aelodau. Dywedodd bod cymuned Llanarmon yn Iâl wedi cefnogi datblygu’r safle yn
y Cynllun Datblygu Lleol diwethaf. Hysbyswyd y Pwyllgor nad oedd y Cyngor
Cymuned yn gwrthwynebu amrywio’r amod, ond byddai’n dymuno cadw cymaint â
phosib o’r coed a’r gwrychoedd. Mynegodd y Cynghorydd Holland bryderon
ynglŷn â’r terfyn cyflymder ar y ffordd gerllaw’r cae chwarae presennol.
Roedd yn falch y byddai’r datblygiad yn ymestyn y parth 30mya, ond byddai’n
well ganddo ymestyn y parth y tu hwnt i’r cae chwarae ac adeiladu palmant er
diogelwch. Hysbyswyd y
Pwyllgor y byddai creu palmant wrth ymyl y ffordd yn golygu torri rhai o’r coed
a’r gwrychoedd. Fodd bynnag, awgrymwyd y gellid creu llwybr troed y tu mewn i’r
datblygiad, yr ochr arall i’r coed a’r gwrychoedd, fel na fyddai’n rhaid eu
torri. Dywedodd y Prif
Swyddog Cynllunio y byddai unrhyw ddatblygiad yn cael effaith ar y lôn, ond
byddai’r amrywiad a gynigiwyd yn cael llai o effaith ar y coed a’r gwrychoedd o
gymharu â’r fynedfa wreiddiol. Dywedodd y byddai’n ofynnol cyflwyno cais ar
gyfer y materion a gadwyd yn ôl ac y byddai hwnnw’n ymdrin â’r terfyn
cyflymder, felly gallai’r Pwyllgor drafod hynny pan gyflwynid y cynlluniau
manwl er cymeradwyaeth. Cadarnhaodd yr
Uwch Beiriannydd – Priffyrdd y byddai’n siarad â’r ymgeisydd ynglŷn â
chytundeb priffyrdd addas, a gallai feithrin cyswllt â’r aelod lleol i holi ei
farn ynglŷn â hyd y parth 30mya. Cytunodd y
Pwyllgor i roi nodyn i’r ymgeisydd er mwyn trafod mater y llwybr troed /
palmant cyn mynd ymlaen i gyflwyno cais manwl. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Jones dderbyn argymhellion y
swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Meirick Davies. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 17 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag
argymhellion y swyddog yn yr adroddiad, ynghyd â nodyn i’r ymgeisydd
ynglŷn â darparu llwybr troed / palmant. |
|
CAIS 02/2018/1090 - TIR YN (RHAN O ARDD) PENNANT, BRYN GOODMAN, RHUTHUN PDF 96 KB Ystyried cais i
datblygu 0.17 hectar o dir drwy godi 2 annedd ar wahân (cais amlinellol - pob
mater wedi’u cadw’n ôl) Tir yn (rhan o ardd) Pennant, Bryn Goodman,
Rhuthun LL15 1EL (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Cais i
ddatblygu 0.17 hectar o dir i godi dwy annedd ar wahân ar dir ym Mhennant, Bryn
Goodman, Rhuthun (cais amlinellol – pob mater wedi’i gadw’n ôl). Trafodaeth Gyffredinol – Esboniodd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Emrys Wynne, mai cais amlinellol oedd hwn ond fod
rhai trigolion yn pryderu ynghylch cynllun arfaethedig y safle. Gobeithiai y
byddai’r ymgeiswyr yn ystyried barn y trigolion wrth lunio’r cynlluniau manwl. Dywedodd y Prif
Swyddog Cynllunio y gellid trafod unrhyw bryderon â’r ymgeiswyr yn ystod y
drefn cyn ymgeisio. Tynnodd y
Cadeirydd sylw’r aelodau at yr wybodaeth atodol (taflenni glas) a oedd yn dileu
amod 5 ac yn diwygio amod 9 fel ei fod yn dweud ‘... nid yw hynny’n cyfleu
cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol...’ Ychwanegid
nodyn i’r ymgeisydd er mwyn annog y datblygwr i drafod y materion hynny’r oedd
trigolion lleol wedi’u codi ynglŷn â chynllun yr anheddau. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Davies dderbyn argymhellion y swyddogion i
gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Emrys Wynne. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 16 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog yn yr adroddiad, a diwygio’r amodau fel y nodwyd yn y
daflen ategol. |
|
CAIS 41/2018/0865 - HENDRE, BODFARI, DINBYCH PDF 95 KB Ystyried cais
ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i alluogi creu ffordd
fynediad, ardal ategol wedi’i dirlunio a gwaith cysylltiedig yn Fferm Yr Hendre,
Bodfari, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais
ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol fel y gellir creu ffordd
fynediad, ardal ategol wedi’i thirlunio a gwaith cysylltiedig yn Hendre,
Bodfari, Dinbych. Trafodaeth
Gyffredinol – Dywedodd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Christine Marston, fod y Cyngor Cymuned yn pryderu
ynglŷn â cholli cynefin bywyd gwyllt yn sgil torri’r gwrychoedd, ond bod
yr Ecolegydd wedi’i chael hi’n anodd asesu’r sefyllfa gan mai cais
ôl-weithredol ydoedd. Roedd y Cynghorydd Marston o’r farn y bu’r ymgeisydd yn
ystyriol o’r tirlun gyda’i waith, gan nodi’r amodau arfaethedig i ddiogelu coed
a gwrychoedd ar y safle. Amlygodd y
Cynghorydd Marston bryderon ynglŷn â llwybr ceffylau cyhoeddus oedd wrth
ymyl y dreif gwreiddiol, a oedd angen ei ddiogelu o ran ei led presennol fel y
câi’r cyhoedd rwydd hynt i fynd arno. Dywedodd mai mater priffyrdd oedd hyn, yn
hytrach na mater cynllunio. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Christine Marston dderbyn argymhelliad
y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 16 GWRTHOD – 0 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog yn yr adroddiad. |
|
CAIS 43/2018/0847 - PEN Y LLAN, BISHOPSWOOD ROAD, PRESTATYN PDF 6 KB Ystyried cais
i tynnu saith o goed onnen ac
un sycamorwydden yn ddarostyngedig i Orchymyn Diogelu Coed 1/1981 yn Pen Y Llan, Bishopswood Road, Prestatyn (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i dorri saith onnen ac un sycamorwydden, yn amodol ar
Orchymyn Diogelu Coed 1/1981, ym Mhen y Llan, Bishopswood Road, Prestatyn. Trafodaeth Gyffredinol – Rhoes yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Tina Jones, yr wybodaeth ddiweddaraf am
y cais. Hysbyswyd y Pwyllgor y cynhaliwyd ymweliad safle gyda’r aelod lleol
arall, y Cynghorydd Hugh Irving. Roedd y coed yn agos iawn at y tŷ, a
hysbyswyd y pwyllgor fod gwifrau trydan yn mynd o dan y canghennau uchaf. Roedd
y Cynghorydd Jones o’r farn y gallai’r coed fod yn beryglus pe byddai gwyntoedd
cryfion yn eu chwythu i lawr. Rhoes yr aelod lleol, y Cynghorydd Hugh Irving, wybodaeth ychwanegol
ynglŷn â hanes yr eiddo, a’r ffaith fod y coed yn ffinio â Safle o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a choetir hynafol. Fodd bynnag, roedd y tŷ’n
hŷn na chan mlynedd bellach, ac yn ddiweddar roedd y coed wedi tyfu uwch
ei ben. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y coed ar dir y Cyngor, a chytunodd y swyddogion i
drosglwyddo sylwadau’r aelodau i’r Gwasanaethau Cefn Gwlad, er mwyn sicrhau nad
oedd coed ar dir y Cyngor yn peri trafferth i berchnogion y tir cyfagos. Bu’r Pwyllgor hefyd yn trafod:
Pe cymeradwyid y cais, roedd hi’n amlwg o’r amodau mai’r bwriad oedd gadael
i’r coed aildyfu o’r bonion yn hytrach na’u difa. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Tina Jones dderbyn argymhelliad y swyddog i
gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Evans. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 14 GWRTHOD – 2 YMATAL – 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog. Daeth y
cyfarfod i ben am 10.15 a.m. |