Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Pat
Jones – cysylltiad personol – Eitem 10 ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys wedi codi. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf
2017 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2017. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf
2017 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried cais i
ddymchwel hen adeiladau ysgol ar safle hen Ganolfan Technoleg ac Addysg
Alwedigaethol Dinbych, Lôn Ganol, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddymchwel hen adeiladau ysgol ar safle hen Ganolfan Technoleg ac Addysg
Alwedigaethol Dinbych, Lôn Ganol, Dinbych. Cododd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gwestiynau ynglŷn â mynediad i’r safle. Mewn ymateb i'r
Aelod Ward, y Cynghorydd Gwyneth Kensler, eglurodd swyddogion fod y cais yn
gofyn i’r Cyngor am Ganiatâd Ardal Gadwraeth ac mae’r cais wedi cael ei
gyfeirio at y Pwyllgor Cynllunio. Bwriad hyn oedd caniatáu Aelodau i roi
ystyriaeth i bryderon a godwyd gan CADW dros y bwriad i golli adeilad
gwreiddiol yr ysgol yn 1903 os rhoddwyd caniatâd ar y telerau a geisiwyd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler y dylid
caniatáu'r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y
Cynghorydd Mark Young. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 02/2017/0688 PF - 15 Haulfryn, Rhuthun PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer creu mynedfa i gerbydau ac ardal barcio i du blaen annedd yn 15 Haulfryn,
Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
greu mynedfa gerbydau a man parcio o flaen annedd yn 15 Haulfryn, Rhuthun. Siaradodd y
Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Lleol) o blaid y cais. Credai y byddai o fudd i’r
ffordd bengaead a’r trigolion cyfagos.
Cododd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies bryderon mewn perthynas â
dŵr wyneb, gan ofyn a ellid defnyddio rhywbeth amgen i darmac i helpu
amsugno dŵr wyneb. Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Meirick Lloyd
Davies, dywedodd y swyddogion bod y safle eisoes yn cynnig palmant gyda
systemau draenio i reoli lefelau’r dŵr. Hysbysodd y Prif Swyddog Cynllunio
yr aelodau ei bod o fewn eu grym i gynnwys amod yn y cais yn nodi bod rhaid
defnyddio arwyneb mân-dyllog o fewn ffin y plot er mwyn helpu amsugno dŵr
dros ben. Cynnig - Cynigiodd y
Cynghorydd Emrys Wynne argymhelliad
y Swyddog i ganiatáu’r cais, gan gynnwys yr amod o ddarparu arwyneb mân-dyllog yn ardal y ffin, ac fe’i eiliwyd gan y
Cynghorydd Peter
Evans. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 13 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CANIATÁU’R cais, gan gynnwys
yr amod ychwanegol, yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 15/2017/0573 PF - Tŷ Minffordd, Eryrys, yr Wyddgrug PDF 95 KB Ystyried cais i
godi garej ddwbl ar wahân gyda llety llawr cyntaf yn Tŷ Minffordd, Eryrys,
yr Wyddgrug (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cais i godi garej ddwbl ar wahân gyda llety ar y llawr cyntaf yn Nhŷ
Minffordd, Eryrys, Yr Wyddgrug. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw
Jones y dylid
caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog, gan gynnwys yr amod ychwanegol
bod y garej yn cael ei godi er mwynhad deiliaid Tŷ Minffordd yn unig, ac
nid fel llety byw hunangynhaliol. TM100 CAIS RHIF 15/2017/0573 PF - TŶ MINFFORDDD,
ERYRYS, YR WYDDGRUG PLEIDLAIS: CYMERADWYO – 12 GWRTHOD – 5 YMATAL – 0 |
|
CAIS RHIF 16/2017/0628 PF - Tyn y Celyn, Llanbedr Dyffryn Clwyd Rhuthun PDF 6 KB Ystyried cais i
ddymchwel annedd bresennol a thai allanol, a chodi annedd newydd yn Nhyn y
Celyn, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddymchwel yr annedd a thai allan presennol a chodi annedd arall yn eu lle yn
Nhyn y Celyn, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun. Eglurodd y
Rheolwr Datblygu bod asiant yr ymgeisydd wedi gofyn am i’r cais gael ei ohirio
er mwyn iddo gael digon o amser i gasglu gwybodaeth mewn ymateb i sylwadau
Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys am y cais. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Ann Davies y dylid gohirio’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y
Cynghorydd Mark Young. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO - 14 YN ERBYN GOHIRIO - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
gohirio’r cais i’w drafod rhywbryd eto. |
|
CAIS RHIF 43/2017/0541 PF - Linden Close, Prestatyn PDF 6 KB Ystyried cais i
newid ac estyniadau i annedd yn 1 Linden Close, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
wneud newidiadau ac estyniadau i annedd yn 1 Linden Close, Prestatyn. Trafodaeth gyffredinol - Croesawodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod Lleol) y diwygiadau i amod 3 y cais
fel y manylir arnynt yn yr wybodaeth ategol.
Mynegodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bryderon y byddai’r balconi
yn groes i gymeriad yr ardal ac y byddai'n effeithio ar breifatrwydd eiddo
cyfagos. Ategodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y pryderon a godwyd o ran y
trigolion cyfagos. Mewn ymateb i'r
pryderon a godwyd gan yr Aelodau, eglurodd y Swyddog Cynllunio bod amod 3 yr
argymhelliad yn cynnwys codi sgriniau gwydr cymylog i leihau’r posibilrwydd o
edrych dros eiddo cyfagos. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Ellie Chard y dylid caniatáu’r cais yn unol ag
argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 12 GWRTHOD - 1 YMATAL - 2 PENDERFYNWYD y
dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2017/0335 PO – Tir gerllaw 21 Stanley Park Avenue, y Rhyl PDF 6 KB Ystyried cais i ddatblygu 0.05 ha o dir drwy godi 1
annedd (cais amlinellol gan gynnwys mynediad, gosodiad a graddfa) ar dir ger 21
Stanley Park Avenue, Y Rhyl (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Pat Jones gysylltiad personol (mae ei mab yn gyfaill
i’r ymgeisydd). Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.05ha hectar o dir drwy godi 1 annedd (cais
amlinellol gan gynnwys mynediad, gosodiad a graddfa) ar dir ger 21 Stanley Park
Avenue, Y Rhyl. Siaradodd y Cynghorydd Brian Jones (Aelod Lleol) o blaid y cais, yn dilyn
trafodaethau â thrigolion cyfagos oedd hefyd o blaid y datblygiad. Cytunodd y
Cynghorydd Ellie Chard â barn y trigolion lleol o blaid y cais. Cafwyd crynodeb
o hanes cefndirol y cais gan y Swyddog Cynllunio, a nododd bod yr ymgeisydd
wedi caffael tir ychwanegol, oedd i gynnwys gardd y tu ôl i'r eiddo, Cynyddu
maint safle’r cais a hygyrchedd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Brian Jones, y dylid caniatáu’r cais yn unol ag
argymhellion y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James y
datblygiad arfaethedig o safbwynt cynllunio. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
RHIF Y CAIS 45/2017/0575 PF – 8/9 Stryd Marchnad, y Rhyl PDF 6 KB Ystyried cais i
newid defnydd siop adwerthu dosbarth A1 yn wasanaethau ariannol a phroffesiynol
dosbarth A2 gydag ystafelloedd atodol yng nghefn rhif. 8 Stryd Y Farchnad, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
newid defnydd siop adwerthu dosbarth A1 i fod yn wasanaeth ariannol a
phroffesiynol dosbarth A2 gydag ystafelloedd atodol yng nghefn rhif 8 yn 8/9
Stryd y Farchnad, y Rhyl. Eglurodd y
Swyddog Cynllunio fod adolygiad o ddisgrifiad y cais wedi cael ei gynnwys yn y
papurau ategol i egluro mai bwriad y cynnig yw cyflwyno defnydd A1 i rif 8
Stryd y Farchnad ac i fynd i’r afael â phryderon a godwyd gan Gyngor Tref y
Rhyl. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James argymhelliad y
Swyddog i ganiatáu'r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Pat Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel
y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Y DIWEDDARAF AR APELIADAU CYNLLUNIO PDF 102 KB Ystyried
gwybodaeth am adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar
benderfyniadau apêl cynllunio a gafwyd gan y Arolygiaeth Gynllunio
ar achosion o fewn y Sir (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth yn darparu amlinelliad o benderfyniadau
diweddar yr Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau cynllunio a gyflwynwyd yn erbyn
penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan y Cyngor Sir. Roedd yr adroddiad
gwybodaeth yn trafod y cyfnod o fis Medi 2016 hyd heddiw. Anogwyd yr aelodau i
gysylltu’n uniongyrchol â swyddogion perthnasol y tu allan i’r cyfarfod os oedd
angen rhagor o wybodaeth arnynt am achosion penodol. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad
gwybodaeth. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 10:15 a.m. Dogfennau ychwanegol: |