Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cyng.
Joe Welch gysylltiad personol ag eitemau 8 a 12 ar y rhaglen. Datganodd y Cyng.
Julian Thompson-Hill gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 12 ar y
rhaglen. Datganodd y Cyng.
Merfyn Parry gysylltiad personol ag eitem 12 ar y rhaglen. |
|
Penodi Cadeirydd Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y
cyngor 2017/2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am
enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2017/18. Cynigiodd
y Cyng. Merfyn Parry y dylid penodi'r Cyng. Joe Welch yn Gadeirydd, ac eiliwyd
hynny gan y Cyng. Peter Evans. Cododd pawb eu
dwylo i ddangos eu bod yn cytuno â'r cynnig. PENDERFYNWYD penodi’r
Cyng. Joe Welch yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Penodi Is-gadeirydd
y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y
cyngor 2017/2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am
enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2017/18.
Cynigiodd y Cyng. Bob Murray y dylid penodi'r Cyng. Alan James yn Is-Gadeirydd,
ac eiliwyd hynny gan y Cyng. Pat Jones. Cododd pawb eu
dwylo i ddangos eu bod yn cytuno â'r cynnig. PENDERFYNWYD penodi'r
Cyng. Alan James yn Is-Gadeirydd y
Pwyllgor Cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2017
(copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2017. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2017 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 7 - 18) Cyflwynwyd y
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad gan y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at wybodaeth ategol a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r
rhaglen a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu i aelodau o’r
cyhoedd siarad, cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 11/2016/0324/PF - TIR I’R GOGLEDD O GLOCAENOG, CLOCAENOG, RHUTHUN PDF 96 KB Ystyried cais i
ddatblygu 0.95 hectar o dir drwy godi ysgol gynradd gymuned newydd gan gynnwys
ardaloedd chwarae y tu allan, ardal i fywyd gwyllt, maes parcio gyda man
gollwng teithwyr a chreu mynediad newydd i geir, ar dir i’r gogledd o
Glocaenog, Clocaenog, Rhuthun (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghr. Joe Welch a Merfyn Parry gysylltiad personol. Datganodd y Cyng.
Julian Thompson-Hill gysylltiad personol sy’n rhagfarnu oherwydd ei fod wedi
bod yn aelod o’r Bwrdd Moderneiddio Addysg. Dywedodd y
Cadeirydd, y Cyng. Joe Welch, bod plant yn ei ward yn mynychu Ysgol Carreg
Emlyn a’i fod wedi mynychu sesiwn dynnu lluniau yn ddiweddar. Credodd y gallai
hynny fod wedi rhoi’r argraff i’r cyhoedd ei fod wedi penderfynu ar y cais
ymlaen llaw. Teimlodd y Cadeirydd na fyddai’n briodol iddo gymryd rhan yn y
drafodaeth na’r bleidlais, ac felly gadawodd y Siambr ar gyfer yr eitem hon. Bu i’r
Is-Gadeirydd, y Cyng. Alan James, gadeirio’r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer yr
eitem hon. Cyflwynwyd cais i
ddatblygu 0.95 hectar o dir drwy godi ysgol gynradd gymunedol newydd gan
gynnwys ardaloedd chwarae y tu allan, ardal i fywyd gwyllt, maes parcio gyda
man gollwng a chreu mynediad newydd i geir, ar dir i’r gogledd o Glocaenog. Siaradwr Cyhoeddus – Dywedodd Mr Kenny
Atherton (yn erbyn) nad oedd ganddo
unrhyw wrthwynebiad i godi ysgol newydd ond ei fod yn pryderu ynghylch draeniau
budr ac yn erbyn y cynnig i ddefnyddio carthbwll. Dywedodd y dylai dyluniad yr
ysgol fod yn fodern ac economaidd wyrdd. Dywedodd Mr Peter
Lloyd (yn erbyn) ei fod yn cynrychioli Grŵp Preswylwyr Clocaenog nad oedd
yn cefnogi’r datblygu’r safle dan sylw. Roedd y grŵp wedi mynegi pryderon
ynghylch agosrwydd y datblygiad at yr eglwys. Mynegwyd pryderon ynghylch y
carthbwll arfaethedig, a oedd yn cael ei ystyried yn amgylcheddol anghynaladwy.
Dywedodd Mr Huw
Wyn Jones (o blaid) ei fod yn
cynrychioli Grŵp Cefnogi Adeilad Newydd Clocaenog. Eglurodd bod bron i
dair blynedd wedi mynd heibio ers uno’r ddwy ysgol ac y byddai ysgol newydd o
fudd i’r disgyblion ac yn sicrhau ffyniant y gymuned. Dywedodd hefyd nad oes
gan y Grŵp Cefnogi unrhyw wrthwynebiad na phryder ynghylch y carthbwll. Dywedodd Mrs
Sarah Jones (o blaid) ei bod yn byw
yn y gymuned, yn rhiant, yn llywodraethwr ac yn athrawes yn yr ysgol. Roedd
hi’n croesawu’r cais ar gyfer ysgol newydd. Mae’r ysgol bresennol ar ddau safle yn anghynaladwy. Mae’r plant yn haeddu adeilad ac adnoddau addas
i’r byd sy’n newid. Trafodaeth Gyffredinol - darparodd y Rheolwr Datblygu wybodaeth am hanes y safle. Eglurodd bod draenio yn fater sydd wedi
achosi oedi ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wedi cynnal
trafodaethau manwl ac mae’r ddau gorff yn cytuno â’r cynnig i osod carthbwll
gydag amodau. O ran lleoliad yr
ysgol, byddai’r prif adeilad 140 metr o’r eglwys. Nid yw CADW wedi mynegi
unrhyw wrthwynebiad i'r cais. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Oherwydd
bod yn rhaid i blant 3 a 4 mlwydd oed deithio hyd at awr i’r ysgol, byddai’r
ysgol newydd hon yn lleihau amser teithio ·
Byddai’r
adeilad yn ysgol fodern gyda lifft, cae pêl-droed go iawn a gofod y tu allan ·
Mynegodd sawl aelod o’r pwyllgor
eu bod o blaid adeiladu ysgol newydd, gan annog pob aelod i gefnogi'r cais Cynnig – Cynigodd y Cyng. Ann Davies, ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Merfyn Parry, y
dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog. Gofynnodd y Cyng.
Meirick Lloyd Davies am bleidlais wedi’i chofnodi. Cadarnhaodd Pennaeth y
Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n rhaid i un rhan
o chwech o’r pwyllgor gefnogi’r cais. Ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio (19 aelod)
byddai’n rhaid i dri aelod gytuno. Cefnogodd y Cynghr. Mark Young, Merfyn
Parry, Peter Evans, Meirick Lloyd Davies ac Ann Davies y cais am bleidlais
wedi’i chofnodi. Cafwyd pleidlais
wedi’i chofnodi, fel a ganlyn: CYMERADWYO’R CAIS ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ar y pwynt hwn (10.45 am) cafwyd egwyl o 5 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.50 a.m. |
|
Ar y pwynt hwn,
bu i’r Cadeirydd, y Cyng. Joe Welch, symud yn ôl i sedd y Cadeirydd a chadeirio
gweddill y cyfarfod. |
|
CAIS RHIF 01/2017/0235/PF - CYFFORDD FFORDD Y FFAIR, LÔN LLEWELYN, DINBYCH PDF 95 KB Ystyried cais i
osod colofn telathrebu gydag antena wedi’i guddio, 1 lloeren â chysylltiad
radio 0.6, 2 gabinet offer ar y llawr a datblygiad cysylltiedig yng nghyffordd
Ffordd y Ffair, Lôn Llewelyn, Dinbych (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
osod colofn telathrebu gydag antenau wedi’u cuddio, 1 lloeren â chysylltiad
radio 0.6, 2 gabinet offer ar y llawr a datblygiad cysylltiedig yng nghyffordd
Ffordd y Ffair, Lôn Llewelyn, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus – Dywedodd Jennie
Hann (o blaid) bod cysylltiadau â’r
rhyngrwyd yn wael ar draws y sir ac y byddai'r cynllun o fudd i gwsmeriaid
Vodafone a Telefonica. Nid oes gan CADW unrhyw wrthwynebiad i’r golofn ac mae’r
dyluniad yn cyd-fynd ag adeileddau trefol eraill. Trafodaeth Gyffredinol – Gofynnodd yr Aelod Lleol, y Cyng. Glenn Swingler, sawl cwestiwn technegol a atebwyd gan y
Prif Swyddog Cynllunio. Awgrymwyd y byddai’n well cyfeirio’r cwestiynau at y
gweithredwr, a chafodd eu cwestiynau eu cyflwyno i’r cynrychiolydd a oedd yn
bresennol yn y cyfarfod. Codwyd y pwyntiau
canlynol yn ystod y drafodaeth: ·
Mae’r
ymgeisydd wedi darparu datganiad cydymffurfiaeth gyda chanllawiau Comisiwn
Cenedlaethol Ymbelydredd Di-Ïoneiddio (ICNIRP) mewn perthynas â gosod yr offer
telathrebu arfaethedig. Yn ôl cyngor Iechyd y Cyhoedd Lloegr dylai amlygiad i
donnau radio gydymffurfio â chanllawiau’r ICNIRP. ·
Nid
yw lleoli’r offer telathrebu mewn man arall wedi’i godi mewn unrhyw
gynrychiolaeth flaenorol {0><}70{>Cynnig – Cynigodd y
Cyng. Meirick Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Huw Jones, y dylid
cymeradwyo’r cais yn unol ag
argymhellion y swyddog. <0} Eglurodd Pennaeth
y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r bleidlais
yn seiliedig ar ddiwygiad arfaethedig y Cyng. Meirick Lloyd Davies. Os na
dderbynnir y cynnig bydd pleidlais arall yn cael ei chynnal ar yr argymhelliad
gwreiddiol. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 13 YMATAL - 0 GWRTHOD - 2 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais
yn unol ag argymhelliad y swyddogion ac yn amodol ar y diwygiad canlynol: Bydd y datblygiad y mae'r caniatâd hwn yn ymwneud
ag ef yn dechrau cyn 14 Mehefin 2019. |
|
CAIS RHIF 05/2017/0239/PF - TIR GERLLAW (I’R DWYRAIN) O YSTÂD DDIWYDIANNOL TYN Y LLIDIART PDF 97 KB I ystyried cais i
godi ffatri cynhyrchu bwyd (Dosbarth B2) gyda warws a dosbarthu’n integredig
(Dosbarth B8) a chyfleusterau swyddfa (Dosbarth B1); uned lles ategol i
weithwyr (Dosbarth D2); mynediad i gerbydau a cherddwyr, maes parcio, mannau i
barcio beiciau, gwasanaethu, storio biniau, offer, is-orsaf drydan, gwaith trin
pecynnau preifat, tirlunio a gwaith cysylltiedig, ar dir gerllaw (i’r dwyrain)
o Ystâd Ddiwydiannol Tyn y Llidiart (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi ffatri cynhyrchu bwyd (Dosbarth B2) gyda warws a dosbarthu’n integredig
(Dosbarth B8) a chyfleusterau swyddfa (Dosbarth B1); uned lles ategol i
weithwyr (Dosbarth D2); mynediad i gerbydau a cherddwyr, maes parcio, mannau i
barcio beiciau, gwasanaethu, storio biniau, offer, is-orsaf drydan, gwaith trin
pecynnau preifat, tirlunio a gwaith cysylltiedig, ar dir gerllaw (i’r dwyrain)
o Ystâd Ddiwydiannol Tyn y Llidiart, Corwen. Siaradwr Cyhoeddus – Rhoddodd Justin
Paul (asiant) (o blaid) hanes y
cwmni ers 1986. Mae’r cwmni yn anelu at drosiant o £40 miliwn erbyn 2019. Mae’r
safle presennol yn gyfyngedig. Nod y cwmni yw agor ffatri newydd yn 2018. Mae’r
cwmni yn canolbwyntio ar eu staff yn ogystal â’u cynnyrch. Maent yn bwriadu
buddsoddi mewn cyfleusterau lles, hyfforddiant a datblygu staff. Byddai staff
a’u teuluoedd yn cael mynediad i’r cyfleusterau iechyd a lles yn ogystal â
chyrsiau dysgu Cymraeg. Trafodaeth Gyffredinol – Siaradodd y Cyng. Huw Jones (Aelod Lleol) o
blaid y cais ond gofynnodd am eglurhad gan swyddogion ynghylch y canlynol: ·
Mae
llwybr yn cael ei ddefnyddio gan blant sy’n cerdded i Ysgol Caer Drewyn a
chadarnhawyd bod cynnig i greu llwybr arall. ·
Mae
safle bws oddeutu 400 metr o’r safle arfaethedig. ·
Cadarnhaodd
y Swyddog Cynllunio y byddai’n canfod a yw’r cynnig o ran y Gymraeg yn
berthnasol i’r cynllun newydd a’r cynllun presennol. ·
Mae
Asesiad Effaith Sŵn wedi’i gyflwyno i gefnogi’r cais er mwyn asesu'r
tebygolrwydd o effeithiau anffafriol. Ymgynghorwyd â Swyddog Rheoli Llygredd y
Cyngor o ran y dogfennau technegol perthnasol ac ni chododd unrhyw wrthwynebiad
i’r cais, ar yr amod y cynhwysir amodau cynllunio i sicrhau cydymffurfio â’r
asesiad sŵn. Os oes gan drigolion cyfagos unrhyw broblem
o ran sŵn fe ddylent gysylltu â’r Cyngor Tref neu Gymuned. ·
Bydd
yr Aelod Lleol a’r Adran Gynllunio yn cyfarfod â Wholebake mewn perthynas â’r
materion archeolegol. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Huw Jones, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Meirick Lloyd
Davies, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais
yn unol ag argymhelliad y swyddogion. |
|
Ystyried cais i
godi 63 annedd a mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir i’r
gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi 63 annedd a mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir i’r
gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus – Mynegodd Alan
Edwards (yn erbyn) bryderon ynghylch
elfennau o’r cais, gan gynnwys y llwybr troed a chroesi’r A525. Roedd yn
pryderu ynghylch lleoliad y tanc storio LPG a'r effaith ar y coed a blannwyd
fel cofeb ryfel. Tynnodd Matt
Gilbert (o blaid) sylw at y ffaith
bod y safle yn safle a neilltuwyd. Mae ar y safle angen mynediad a byddai’r
coed yn cael eu hail-blannu o flaen yr eiddo. Mae’r cynllun wedi’i ddiwygio ac
yn darparu mynediad i gerddwyr. Mae’r mynediad ar hyd yr A525 wedi’i ddarparu
yn unol â chyngor y swyddogion priffyrdd. Byddai manylion y tanc LPG yn unol
â’r rheoliadau. Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio fanylion y
datblygiad cymysg a fyddai’n cynnwys chwe thŷ fforddiadwy. Cadarnhaodd y
Cyng. Hugh Evans (Aelod Lleol) bod y cais wedi achosi llawer o bryder i
drigolion lleol. Cododd nifer o faterion a ymatebwyd iddynt yn ystod y
drafodaeth. Codwyd y pwyntiau
canlynol yn ystod y drafodaeth: ·
Ymwelwyd
â'r safle'n ddiweddar a lleddfwyd rhai o’r pryderon. Dywedwyd y gallai'r
manylion a gyflwynwyd ar gyfer cymeradwyaeth o ran amodau’r datblygiad gael eu
cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor cynllunio. ·
Mae
datganiad cludiant wedi’i gynnwys gyda'r cais. Bydd y parth 30mya yn cael ei estyn. Mae’r
manylion priffordd o ran yr A525 yn cyrraedd y safonau sefydledig. ·
Y
cynnig yw codi 63 o anheddau ar 2.6 hectar, sef dwysedd o 24.2 annedd ar bob
hectar yn seiliedig ar arwynebedd safle gros. Mae hyn yn is na’r ffigwr o 35
annedd a ganiateir ym Mholisi RD1. O ystyried cyd-destun yr ardal gyfagos, yr
ardaloedd helaeth o fannau agored a gynigir, a natur a dwysedd y datblygiad tai
presennol ar gyrion y pentref, ystyrir bod dwysedd y datblygiad arfaethedig hwn
yn cyd-fynd â chymeriad y tai presennol yn yr ardal. ·
Byddai
datblygu fesul cam yn cael ei reoli a byddai’r cais am gymeradwyaeth ar gyfer y
Cynllun Adeiladu Fesul Cam/Strategaeth yn cael ei gyflwyno eto i’r Pwyllgor
Cynllunio. ·
Hygyrchedd
ac integreiddio – mae’r datblygwyr wedi dangos cyswllt posibl â’r datblygiad
cyfagos yn y pentref ar eu cynllun. Byddai datblygu’r cyswllt hwn ymhellach yn
gofyn am ganiatâd cynllunio. Byddai hyn hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Cynllunio yn y dyfodol. ·
Archeoleg
– mae’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol wedi’i wirio ac ni cheir safleoedd
archeolegol hysbys yn yr ardal dan sylw, ond mae arteffactau Rhufeinig wedi’u
canfod y tu hwnt i’r safle. Nid oes unrhyw wrthwynebiad technegol wedi’i
dderbyn. ·
Soniodd
y Cyng. Merfyn Parry am agosrwydd y gwaith trin carthion at y datblygiad a bod
yna broblemau gorlifiant ar y safle. Gofynnodd am fwy o waith rhwng Sir
Ddinbych a Dŵr Cymru. ·
Coed
wedi’u diogelu – nid yw’r Arbenigwr Coed wedi gwrthwynebu’r cais, yn amodol ar
gynnwys amodau yn gofyn am Ddatganiad Dull Coedyddiaeth a manylion yr
ail-blannu a'r tirlunio ysgafn. ·
Roedd
y coed ar Ffordd Wrecsam yn agos at gael eu dynodi’n Cofeb Ryfel. Nid yw cofeb
ryfel yn ddynodiad cynllunio ac mae colli ac amnewid y coed wedi'i drafod
eisoes. · Mae’r datblygiad preswyl arfaethedig, yn seiliedig ar gyfrifiadau cydnabyddedig, yn debygol o arwain at yr angen am 15 lle cynradd ac 11 lle uwchradd ychwanegol. Cadarnhawyd, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf am gofrestr yr ysgol, bod yna 20 lle cynradd a 268 lle uwchradd gwag yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd agosaf. Mae hyn yn golygu bod digon o le ar gyfer plant y datblygiad arfaethedig ac felly ni fyddai angen cyfraniad ariannol. ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
Ar y pwynt hwn (12.30 p.m.) cafwyd egwyl o 20
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.50 p.m. |
|
CAIS RHIF 21/2017/0045/PF - 4 BRYN ARTRO AVENUE, LLANFERRES PDF 93 KB Ystyried cais i
godi annedd newydd yn lle’r un presennol, yn 4 Bryn Artro Avenue, Llanferres
(copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi annedd newydd yn lle’r un presennol, yn 4 Bryn Artro Avenue, Llanferres. Siaradwr Cyhoeddus – Dywedodd Roy
Astbury (yn erbyn) ei fod yn byw yn
2 Bryn Artro Avenue, Llanferres. Byddai’r annedd newydd yn 400mm oddi wrth ffin
ei eiddo ac yn fawr iawn. Roedd wedi gofyn am gynyddu’r pellter i 1 metr. Trafodaeth Gyffredinol – Siaradodd y Cyng. Julian Thompson-Hill ar ran y Cyng. Martyn Holland (Aelod
Lleol) a oedd ar ei wyliau. Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio, oherwydd lled y
safle, pe byddai bwlch o 1 metr yn cael ei ddarparu rhwng Rhif 2 yna y byddai
hynny wedyn yn effeithio ar y bwlch rhwng yr eiddo newydd a Rhif 6. Gofynnodd y
Cyng. Julian Thompson-Hill a fyddai modd dod i gyfaddawd a darparu bwlch o
800mm rhwng yr eiddo newydd a’r eiddo cyfagos. O ran y
cyfaddawd, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu y gellir dilyn gweithdrefn i ganfod
datrysiad ac y gellir sôn am hyn wrth yr ymgeisydd. Cynnig - Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Julian
Thompson Hill, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, yn
amodol ar edrych ar y dewis o godi’r eiddo newydd 800mm o’r ddau dŷ
cyfagos. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 YMATAL - 0 GWRTHOD - 1 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog, yn amodol ar edrych ar y dewis o
godi’r eiddo newydd 800mm o’r ddau dŷ cyfagos. |
|
CAIS RHIF 46/2017/0270/PF - TIR YN (RHAN O ARDD) PERTH Y TERFYN, MOUNT ROAD, LLANELWY PDF 6 KB Ystyried cais i
godi 1 annedd ar wahân ac adeiladu mynediad newydd i gerbydau ar Dir yn (rhan o
ardd) Perth y Terfyn, Mount Road, Llanelwy (copi'n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi 1 annedd ar wahân a chreu mynediad newydd i gerbydau ar dir yn (rhan o
ardd) Perth y Terfyn, Mount Road, Llanelwy. Siaradwr Cyhoeddus – Dywedodd Maria
Jones (yn erbyn) ei bod yn
gwrthwynebu lleoliad yr eiddo ar y safle. Mae agosrwydd yr eiddo yn golygu y
byddai’r datblygiad yn edrych i mewn i'w gardd ac yn edrych yn fawr iawn.
Byddai’n well petai’r eiddo yn cael ei godi yng nghanol y safle. Mae’r swyddogion
o’r farn nad yw’r cynnig yn cael effaith annerbyniol ar amwynder preswylwyr
presennol na darpar breswylwyr ac nad yw’n mynd yn erbyn unrhyw bolisi
cynllunio mewn perthynas ag amwynder. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Christine Marston, y dylid cymeradwyo’r cais
yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 YMATAL - 0 GWRTHOD - 1 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais
yn unol ag argymhelliad y swyddogion. |
|
Ystyried cais i
Amrywio amod rhif 3 o Ganiatâd Cynllunio Cyngor Rhanbarth Glyndŵr, cyf.
1/11632 i gynyddu uchafswm y carafannau o 10 i 20 ym Mharc Carafanau Teithiol
Lleweni, Parc Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i amrywio amod rhif 3 Caniatâd
Cynllunio Cyngor Rhanbarth Glyndŵr, cyf 1/11632, i gynyddu nifer y
carafannau o 10 i 20 ym Mharc Carafannau Teithiol Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug,
Dinbych. Cynnig – Cynigiodd y Cyng. Mark (Aelod
Lleol), ac fe’i eiliwyd gan y Cyng.
Bob Murray, y dylid gohirio ystyried y cais er mwyn caniatáu trafodaeth bellach
i ddatrys materion iechyd a diogelwch. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO -
15 YMATAL - 0 YN ERBYN GOHIRIO
- 0 PENDERFYNWYD GOHIRIO ystyried
y cais. |
|
CAIS RHIF 01/2017/0171/PF - FORGE COTTAGE, 9 BROOKHOUSE COTTAGES, BROOKHOUSE ROAD, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i
godi estyniad ac addasiadau i annedd yn Forge Cottage, 9 Brookhouse Cottages,
Brookhouse Road, Dinbych (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cyng.
Joe Welch gysylltiad personol. Cyflwynwyd cais i
estyn ac addasu Forge Cottage, 9 Brookhouse Cottages, Brookhouse Road, Dinbych. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Meirick Lloyd Davies,
ac fe’i eiliwyd gan y Cyng.
Merfyn Parry, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais
yn unol ag argymhelliad y swyddogion. |
|
CAIS RHIF 05/2017/0266/PC – SAFLE GWERSYLL YR ORSAF, CARROG, CORWEN PDF 6 KB Ystyried cais am
estyniad i safle gwersylla presennol i ddarparu lleiniau ar gyfer dau bod
gwersylla a naw llain ar gyfer carafanau teithiol/pebyll a gwaith cysylltiedig
(cais ôl-weithredol), yn Safle Gwersyll yr Orsaf, Carrog, Corwen (copi'n
amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
am estyniad i safle gwersylla presennol i ddarparu lleiniau ar gyfer dau bod
gwersylla a naw llain ar gyfer carafanau teithiol/pebyll a gwaith cysylltiedig
(cais ôl-syllol), yng Ngwersyll yr Orsaf, Carrog, Corwen. Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cyng. Huw Jones (Aelod Lleol) o blaid y cais ond gofynnodd am
amodau i wahaniaethu rhwng pebyll, yurts a charafannau ac ati. Gofynnwyd hefyd
am eglurhad ynghylch y mesurau sydd yn eu lle i sicrhau y defnyddir y safle ar
gyfer carafannau teithiol ac nad yw’r safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer aros
am fwy na 21 diwrnod. Cytunwyd bod yn rhaid i’r gweithredwr gadw cofrestr i
nodi pryd mae ymwelwyr yn cyrraedd ac yn gadael. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Huw Jones, ac fe’i eiliwyd gan y
Cyng. Emrys Wynne, y dylid
cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac yn amodol ar amodau
ychwanegol yn ymwneud â’r mathau o bodiau ac i gadw cofrestr o amseroedd
cyrraedd a gadael. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais
yn unol ag argymhellion y swyddog, ac yn amodol ar amodau ychwanegol yn ymwneud
â’r mathau o bodiau ac i gadw cofrestr o amseroedd cyrraedd a gadael. |
|
CAIS RHIF 20/2016/1242/PO – TIR GERLLAW PARADWYS, GRAIGFECHAN, RHUTHUN PDF 6 KB Ystyried cais i
ddatblygu tir ar gyfer dibenion preswyl, yn cynnwys mynediad (Cais Amlinellol,
ar gyfer materion eraill a gadwyd yn ôl), ar dir gerllaw Paradwys, Graigfechan,
Rhuthun (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddatblygu tir at ddibenion preswyl, yn cynnwys mynediad (cais amlinellol ar
gyfer materion eraill a gadwyd yn ôl), ar dir gerllaw Paradwys, Graigfechan, Rhuthun. Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd y Cyng. Hugh Evans (Aelod Lleol) bryder
ynghylch yr effaith ar Graigfechan. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Roedd
pryderon wedi’u codi ynghylch yr effaith ar ffynnon ar y safle ac effaith y
datblygiad ar y cyflenwad i anheddau yn y gogledd. Ym marn y swyddogion roedd
hwn yn fater sifil a chyfrifoldeb y datblygwyr yw sicrhau y cedwir yr hawliau. ·
Bydd
y trefniadau draenio yn dilyn canllawiau Sir Ddinbych a chenedlaethol a bydd
manylion gwaith trin carthffosiaeth a dŵr wyneb yn cael eu nodi yn y cais
manwl. ·
Dewis
yr ymgeisydd yw cyflwyno rhan o’r safle a neilltuwyd ar gyfer datblygu. Gellir
cynnwys amodau a/neu nodiadau canllaw i sicrhau y cytunir ar drefniadau tai
fforddiadwy a mannau agored ar gyfer y safle cyfan. ·
Mae
mesurau gostegu traffig wedi’u rhoi ar waith yn y pentref i fynd i’r afael â’r
materion traffig. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Meirick Lloyd
Davies, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais
yn unol ag argymhelliad y swyddogion. |
|
CAIS RHIF 23/2017/0256/PS – TIR GERLLAW LLYS GWILYM, LLANRHAEADR, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i
amrywio amodau 2 a 3 caniatâd cynllunio amlinellol cod rhif 23/2014/0375 er mwyn
caniatáu 2 flynedd arall ar gyfer cyflwyno cais am gymeradwyo materion a gadwyd
yn ôl, ar dir gerllaw Llys Gwilym, Llanrhaeadr, Dinbych (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
amrywio amodau 2 a 3 caniatâd cynllunio amlinellol rhif 23/2014/0375 er mwyn
caniatáu 2 flynedd arall ar gyfer cyflwyno cais i gymeradwyo materion a gadwyd
yn ôl, ar dir gerllaw Llys Gwilym, Llanrhaeadr, Dinbych. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Meirick Lloyd Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Merfyn
Parry, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais
yn unol ag argymhelliad y swyddogion. |
|
CAIS RHIF 24/2017/0069/PF – BOD YNYS, RHEWL, RHUTHUN PDF 5 KB Ystyried cais i
adeiladu mynediad newydd i ffarm ym Mod Ynys, Rhewl, Rhuthun (copi’n
amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
greu mynediad newydd i fferm ym Mod Ynys, Rhewl, Rhuthun. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Bob Murray, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Peter Evans, y
dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 13 YMATAL - 1 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais
yn unol ag argymhelliad y swyddogion. |
|
Ystyried
adroddiad yn cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed Cyngor Sir Ddinbych rhif 01/2017 yn
ymwneud â thir gerllaw Glasfryn, Gellifor (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
Adroddiad Gorchymyn Cadw Coed Rhif 01/2017 yn ymwneud â thir gerllaw Glasfryn,
Gellifor. Gofynnodd y Prif
Swyddog Cynllunio i’r pwyllgor ohirio ystyried yr eitem er mwyn dilyn y
weithdrefn briodol o ran cysylltu â’r perchnogion. Bydd y goeden wedi’i diogelu
dan y gorchymyn presennol tan fis Medi 2017, ond bydd yr adroddiad ar
gadarnhau’r gorchymyn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio cyn hynny. Cynnig – Cynigodd y Cyng. Meirick Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Julian
Thompson-Hill, y dylid gohirio ystyried yr adroddiad. PENDERFYNWYD GOHIRIO ystyried
y Gorchymyn Diogelu Coed. |
|