Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
TEYRNGED – Y CYNGHORYDD RICHARD DAVIES Rhoddodd y Cadeirydd
deyrnged i'r Cynghorydd Richard Davies, a fu farw ar 22 Mawrth ac a fydd yn
cael ei golli'n fawr. Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn teyrnged
ddistaw. Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr Ian Armstrong, Brian Blakeley, Alice Jones,
Pat Jones, Win Mullen-James, Bob Murray, Merfyn Parry a Huw Williams |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2016
(amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Medi 2016. Dywedodd y Cynghorydd Meirick
Davies nad oedd rhifau’r tudalennau yn y cofnodion Cymraeg a Saesneg yn
cydredeg. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2016 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) - Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad
y pwyllgor ynghyd â dogfennau cysylltiol. Cyfeiriwyd
hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl
cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn ymwneud â'r ceisiadau penodol. Er
mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid
amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 43/2015/0315/PF - SAFLE YN SANDY LANE, PRESTATYN PDF 6 KB Ystyried cais i
ddymchwel strwythurau presennol a chodi tai byw ymddeol, cyfleusterau
cymunedol, tirlunio a man parcio ceir ar Safle yn Sandy Lane, Prestatyn (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddymchwel
strwythurau presennol a chodi tai i bobl wedi ymddeol, cyfleusterau cymunedol,
tirlunio a lleoedd parcio ceir ar safle yn Sandy Lane, Prestatyn. Siaradwr Cyhoeddus - Manylodd Mr. C. Butt
(McCarthy & Stone Ltd) (O blaid)
ar rinweddau'r cais o ran darparu llety ymddeol arbenigol sydd ei ddirfawr
angen yn yr ardal. Roedd pob maen prawf wedi'u bodloni ac eithrio mynediad a gwagio yn ystod
digwyddiadau perygl llifogydd eithafol fel y nodir yn Nodyn Cyngor Technegol
(TAN) 15 a oedd wedi'i seilio ar ragdybiaethau penodol. Byddai mesurau lliniaru yn cael eu
cyflwyno gan gynnwys cynllun llifogydd a rheoli safle priodol yn ystod
rhybuddion llifogydd. Trafodaeth Gyffredinol – Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio (IW) y cais gan gadarnhau cefnogaeth
gyffredinol i'r ffactorau cadarnhaol sy'n deillio o'r cynnig. Fodd bynnag, roedd y perygl o lifogydd yn
fater o bwys ac ymhelaethodd ar y rhesymau y tu ôl i argymhelliad y swyddogion
i wrthod y cais o ystyried: ‘Na ellid cyflawni’r meini prawf Derbynioldeb ar
gyfer goblygiadau llifogydd’ yn TAN 15 gan na fyddai llwybrau dianc / gwagio yn
weithredol yn unrhyw amodau. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jason McLellan (Aelod
Lleol) at y gefnogaeth leol ar gyfer y datblygiad a siaradodd o blaid y cais
gan ailadrodd y manteision cadarnhaol o ran yr economi, datblygu safle segur a
derbyn taliad swm gohiriedig. Dadleuodd fod y meini prawf nad oedd wedi eu cyflawni yn TAN 15 yn
seiliedig ar siawns o 1:1000 o lifogydd a oedd yn ddehongliad cul nad oedd wedi
ei weithredu gyda datblygiadau eraill mwy diweddar. Cydnabu’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill
hefyd fanteision y cynllun. Er yn cydnabod pryderon y swyddogion, amlygodd yr angen i fod yn realistig
o ystyried pa mor annhebygol y byddai digwyddiad mor eithafol yn digwydd o
gwbl. Yn ystod y drafodaeth fanwl a
ddilynodd, nododd aelodau rinweddau'r cais a chanlyniadau cadarnhaol ac
ystyriwyd a oedd y bendithion hynny’n gorbwyso'r pryderon am berygl llifogydd
sy'n deillio o'r methiant i gyrraedd y meini prawf derbynioldeb yn TAN 15 o
safbwynt goblygiadau llifogydd mewn digwyddiad llifogydd eithafol ac a ellid
lliniaru'r perygl ymhellach drwy osod amodau ychwanegol. Credai sawl aelod bod digwyddiad llifogydd
eithafol o'r fath yn annhebygol iawn gan y byddai’r realiti’n gadael llawer o’r
Rhyl a Phrestatyn o dan ddŵr. O ystyried y diffyg hanes o lifogydd ar safle'r cais, ei bellter oddi wrth
y môr a mesurau gwagio yn sgil llifogydd ychwanegol roedd llawer o gefnogaeth i
ganiatáu'r cais. Awgrymwyd hefyd y byddai'r datblygiad arfaethedig yn caniatáu mwy o
ddraenio ar y safle ac yn lleihau’r perygl o lifogydd yn yr ardal. Nododd yr Aelodau bod datblygiadau eraill
ger safle'r cais ac mewn ardaloedd perygl llifogydd yn y Rhyl a Phrestatyn wedi
cael eu cymeradwyo o'r blaen. Canmolodd y Cynghorydd Stuart Davies y datblygiad a’r rheolaeth o gynllun
ymddeol tebyg gan yr Ymgeisydd yn Llangollen gan nodi fod hynny’n rhoi sicrwydd
pellach. Anogodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid bod yn ofalus wrth
benderfynu ar y cais a chyfeiriodd at y llifogydd yn Ystâd Glasdir ym mis
Tachwedd 2012, a gafodd ganiatâd cynllunio yn dilyn cyfrifiadau perygl
llifogydd. Gofynnodd am ragor o wybodaeth a sicrwydd ynghylch y modelau llifogydd a'r
broses asesu yn yr achos hwn. Gofynnodd Aelodau hefyd a ellid gosod amodau ychwanegol er mwyn bodloni'r
meini prawf derbynioldeb a oedd heb eu cyflawni dan TAN 15 ac a roddwyd
ystyriaeth i astudiaethau eraill o’r llanw yn ystod y broses asesu ynghyd ag
unrhyw bosibilrwydd o gryfhau amddiffynfeydd rhag llifogydd. Dyma oedd ymatebion y
Swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r Aelodau - · roedd perygl llifogydd datblygiadau eraill fel Ysgol Bodnant, Parc Siopa Prestatyn, Nova a Glannau’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 11/2014/1188/PF - TIR Y TU ÔL I GLANDŴR, CLOCAENOG, RHUTHUN PDF 5 KB Ystyried cais i
godi 2 annedd ar wahân ar dir y tu cefn i Glandwr, Clocaenog, Rhuthun (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi 2 annedd sengl ar dir y tu
ôl i Glandŵr, Clocaenog, Rhuthun. Trafodaeth Gyffredinol - Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, esboniodd
swyddogion fod y sylwadau a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Clocaenog wedi cael
eu hystyried fel gwrthwynebiad i'r cais. O ganlyniad, roedd y cais wedi cael ei gyflwyno
i'r pwyllgor i'w benderfynu. Cytunwyd y dylai’r Cynghorydd Davies dafod y weithdrefn yn uniongyrchol
gyda swyddogion y tu allan i'r cyfarfod. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 43/2016/0106/TP - 113 FFORDD GALLT MELYD, PRESTATYN PDF 37 KB Ystyried cais am
gael gwared ar ganghennau o goeden Castanwydden (T2), cwympo 1 goeden
sycamorwydden a thocio 1 goeden Geirios (Grŵp G1) yn amodol ar Orchymyn
Cadwraeth Coed Rhif 3, 1985 yn 113 Ffordd Meliden,
Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i docio canghennau Castanwydden
(T2), torri 1 sycamorwydden i lawr a thocio 1 coeden Geirios (Grŵp G1) yn
amodol ar Orchymyn Cadwraeth Coed Rhif 3, 1985 yn 113 Ffordd Gallt Melyd,
Prestatyn. Trafodaeth Gyffredinol – Cydnabu’r Cynghorydd Peter Evans (Aelod Lleol) mai’r cyfeiriad post ar
gyfer Ffordd Gallt Melyd oedd Prestatyn ond gofynnodd er mwyn eglurder, i
adroddiadau yn y dyfodol gyfeirio at y lleoliadau hynny yn ward Gallt Melyd fel
'Gallt Melyd, Prestatyn' yn hytrach na Ffordd Gallt Melyd, Prestatyn . Cytunodd y Swyddog Cynllunio i godi'r
mater gyda'r Tîm Mapio. Cynnig – Nododd y
Cynghorydd Peter Evans ei fod wedi ymweld â’r safle ac roedd yn barod i gynnig
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd
Arwel Roberts. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 17 GWRTHOD - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 44/2016/0180/PF - 43 HEOL HENDRE, RHUDDLAN PDF 6 KB Ystyried cais am godi cegin awyr agored dan do ar ochr yr annedd yn 43 Heol
Hendre, Rhuddlan (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi cegin awyr agored dan do ar
ochr yr annedd yn 43 Heol Hendre, Rhuddlan. Trafodaeth Gyffredinol - Nododd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) y sylwadau a gyflwynwyd gan
Gyngor Tref Rhuddlan a dywedodd nad oedd wedi cymryd unrhyw ran yn y drafodaeth
honno. Ar ôl ymweld â'r safle, nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r cais. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Arwel Roberts argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac
eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Cefyn Williams. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad yn argymell bod Aelodau yn cytuno ar y Canllawiau Cynllunio Atodol
drafft ar Gadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth fel
sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David
Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno dogfen ddrafft
Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar Gadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth fel sail ar
gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Atgoffodd y Cynghorydd Smith aelodau o'r gwahanol gamau yn y broses cyn i’r
Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu dogfennau’r CCA yn derfynol. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Meirick Davies y dylid cymeradwyo argymhelliad y swyddogion, ac
eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts. PLEIDLAIS: O BLAID - 17 YN ERBYN - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod
yr aelodau'n cytuno ar y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar Gadwraeth a
Gwella Bioamrywiaeth, fel y nodwyd yn Atodiad 1 sydd ynghlwm i’r adroddiad, i
ymgynghori’n gyhoeddus arno am leiafswm o wyth wythnos. |
|
CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL YNNI ADNEWYDDADWY – I’W MABWYSIADU PDF 94 KB 1 Ystyried
adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol terfynol ar Ynni
Adnewyddadwy ar gyfer eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllaw
Cynllunio Atodol (CCA) terfynol ar Ynni Adnewyddadwy i’w defnyddio wrth
benderfynu ar geisiadau cynllunio. Cynhaliwyd ymgynghoriad wyth wythnos ac roedd
crynodeb o'r sylwadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y Cyngor wedi'u cynnwys
fel atodiad i'r adroddiad. Wrth ymateb i'r sylwadau hynny cynigiwyd
nifer o newidiadau a amlygwyd yn y ddogfen derfynol. Yn ystod y drafodaeth cododd y Cynghorydd Joe
Welch y materion canlynol - ·
cyfeiriodd
at Asesiad Sensitifrwydd a Chynhwysedd Tirwedd Conwy a Sir Ddinbych (Mai 2013)
nad oedd yn cynnwys manylion am bob caniatâd diweddar i dyrbinau gwynt -
cadarnhaodd y swyddogion fod y ddogfen wedi ei chynnwys fel atodiad er
gwybodaeth gefndirol a bod cofnodion ar wahân yn cael eu cadw o bob caniatâd a
roddwyd a thyrbinau gwynt a adeiladwyd ·
diolchodd
i'r swyddogion am ystyried barn y Cynghorau Cymuned ym mharagraff 6.4.4 o ran y
ffafriaeth i geblau tanddaearol ac y dylid cael trafodaeth bellach lle byddai
lein o geblau ar bolion ·
gofynnodd am eglurder o fewn paragraff 6.7.1 ynghylch
datgomisiynu datblygiad diangen - dywedodd y swyddogion y byddai angen ystyried
pob cais yn ôl eu rhinweddau eu hunain gan ystyried yr hyn a ystyriwyd yn
rhesymol dan yr amgylchiadau. Diolchodd y Cynghorydd David Smith y swyddogion a
gyfrannodd at ddatblygu dogfennau’r CCA am eu holl waith caled. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid cymeradwyo argymhelliad y swyddog fel y
nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Joan Butterfield. PLEIDLAIS: O BLAID - 16 YN ERBYN - 1 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD bod
yr aelodau’n mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol terfynol ar Ynni
Adnewyddadwy sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad, gyda’r newidiadau a
argymhellwyd, i'w defnyddio gan ymgeiswyr wrth gyflwyno ceisiadau cynllunio ac
ar gyfer swyddogion ac aelodau wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Cyn cau'r cyfarfod diolchodd
y Cadeirydd i'r aelodau am eu cydweithrediad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac
i’r swyddogion am eu cefnogaeth. Estynnodd ei ddymuniadau gorau hefyd i'r Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Win
Mullen-James gan obeithio y byddai’n cael gwellhad buan. Daeth y cyfarfod i ben am
10.45 a.m. |