Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Gweinyddwr Pwyllgor 01824 706715 E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 88 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Ray
Bartley – Cysylltiad Personol – Eitem 5, 6 a 7 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies a Mark Young – Cysylltiad Personol – Eitemau rhif 5 ac 6
ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2016
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2016. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Hydref
2016 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU I GAEL CANIATÂD DATBLYGU (EITEMAU 5 – 8 AR Y RHAGLEN) Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at
wybodaeth atodol hwyr (taflenni glas). Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 01/2014/1330PF - HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH PDF 36 KB Ystyried cais i drawsnewid, adfer, dymchwel rhai rhannau ac addasu’r prif
adeiladau rhestredig at ddibenion preswyl (34 annedd), a datblygu tir yr ysbyty
ar gyfer defnydd cymysg i alluogi datblygu, gan gynnwys hyd at 200 o unedau
preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o unedau busnes, mynediad a gwaith
cysylltiedig ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cyng
Raymond Bartley a Mark Young gysylltiad personol oherwydd eu bod yn aelodau o
Gyngor Tref Dinbych.] [Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol oherwydd ei fod yn gweithio
yn yr ysbyty o'r blaen.] Cyflwynwyd cais i
drawsnewid, adfer, dymchwel rhai rhannau ac addasu’r prif adeiladau rhestredig
at ddibenion preswyl (34 annedd), a datblygu tir yr ysbyty ar gyfer defnydd
cymysg i alluogi datblygu, gan gynnwys hyd at 200 o unedau preswyl a hyd at
1114 metr sgwâr o unedau busnes, mynediad a gwaith cysylltiedig ar safle hen
Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Dadl gyffredinol - Rhoddodd y Swyddog Cynllunio (IW) rywfaint o
wybodaeth gefndirol a oedd yn cyffwrdd ar hanes y safle, gan gynnwys ei gau yn
1995 a statws rhestredig yr adeiladau, a gafodd eu hystyried gan CADW i fod yr
enghraifft orau o'i math yng Nghymru. Roedd polisïau cynllunio wedi'u datblygu
a oedd yn caniatáu i alluogi datblygiad i helpu greu cyfalaf i gynorthwyo ag
adfer yr adeiladau. Roedd y cais yn debyg o ran natur i un a gafodd ganiatâd yn
2006. Cadarnhawyd mai
perchennog presennol y safle oedd Freemont (Dinbych) Cyf, ond yr ymgeisydd ar
gyfer y cais cynllunio oedd Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog yn gweithredu ar
ran Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Gogledd Cymru. Roedd y Gorchymyn Prynu Gorfodol wedi’i
gadarnhau, ond roedd Datganiad Breinio Cyffredinol yn aros i gael ei gyflwyno,
a fyddai'n gofyn am awdurdodiad y Pwyllgor Cynllunio. Wrth weithredu’r Datganiad Breinio
Cyffredinol a mynd heibio’r dyddiad breinio, yna byddai'r teitl yn cael ei
basio i'r cyngor. Unwaith y bydd y
cyngor wedi cymryd perchnogaeth o’r safle, byddent yn ei drosglwyddo ar unwaith
i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Gogledd Cymru. Roedd yr Ymddiriedolaeth
wedi'i sefydlu i ddelio ag Adeiladau Rhestredig cymhleth a mawr ledled y
DU. Unwaith roedd y berchnogaeth wedi’i
throsglwyddo i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Gogledd Cymru efallai y
byddant yn gallu cael mynediad at gymorth grant amrywiol i gynorthwyo gyda'r
datblygiad. Nid oedd unrhyw
ddarpariaeth tai fforddiadwy fel rhan o'r cais, er byddai cyfle i Gymdeithas
Tai brynu rhai o'r tir i adeiladu cartrefi. Nid oedd gan swyddogion priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cais yn amodol ar
gynnwys amodau safonol sy’n gofyn am gymeradwyaeth o fanylion llawn y gwaith
priffyrdd, ffyrdd ystad mewnol ac isadeiledd cysylltiedig, datganiad(au) dull
adeiladu, a gwella cysylltiadau beicio a cherdded gyda'r dref. Roedd y cynigion
datblygu’n ymwneud â'r gwaith o adfer y prif Adeilad Rhestredig. Byddai rhai adeiladau ar y safle yn cael eu
dymchwel. Nid oedd unrhyw gynigion penodol yn y cais
mewn perthynas â Chartref y Nyrsys, y Capel, y Mortiwari neu adeiladau Ward
Aled a gafodd eu nodi fel "adeiladau y gellid eu cadw os yw defnydd
terfynol addas a hyfywedd yn cael eu canfod". Cadarnhaodd y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mai 'ymarfer papur' oedd y cam costio
yn ei hanfod ar hyn o bryd, oherwydd pan fydd y tir yn cael ei brynu a thai yn
cael eu hadeiladu ac yn dechrau gwerthu, byddai mwy o hyder yn y farchnad dai
ac efallai y bydd prisiau yn cynyddu. Pe
rhagorwyd ar ddisgwyliadau, byddai'r Ymddiriedolaeth yn dyrannu'r cyllid i
achub adeiladau eraill o fewn y safle. O ran y mater o
ystlumod, cadarnhawyd y byddai mesurau lliniaru yn cael eu gweithredu i ymdrin
ag effeithiau ar rywogaethau Ewropeaidd a warchodir. Cynigiodd y Cynghorydd Colin Hughes (Aelod Ward) ei gefnogaeth i ddatblygu'r safle a datganodd ei bwysigrwydd i dref Dinbych. Anogodd y Cynghorydd Hughes i’r Pwyllgor Cynllunio bleidleisio o blaid y cais cynllunio. Yn y fan hon, mynegodd ei ddiolch i'r holl gynghorwyr, swyddogion ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog a oedd wedi bod yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 01/2014/1331/LB - HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH PDF 112 KB Ystyried cais
adeilad rhestredig ar gyfer gwaith arfaethedig ar brif adeiladau'r safle, gan
gynnwys dymchwel ac ailadeiladu rhai rhannau, a dymchwel adeiladau y tu ôl ac
i'r gogledd o’r prif adeiladau ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cyng
Raymond Bartley a Mark Young gysylltiad personol oherwydd eu bod yn aelodau o
Gyngor Tref Dinbych.] [Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol oherwydd ei fod yn gweithio
yn yr ysbyty o'r blaen.] Cyflwynwyd cais
ar gyfer gwaith arfaethedig ar brif adeiladau'r safle, gan gynnwys dymchwel ac
ailadeiladu rhai rhannau, a dymchwel adeiladau y tu ôl ac i'r gogledd o’r prif
adeiladau (Cais Adeilad Rhestredig) ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Y Cynghorydd
Colin Hughes (Aelod Ward) - Cadarnhaodd ei fod wedi cael sicrwydd llawn y
byddai cymaint o adeiladau ag sy'n bosibl yn cael eu cadw. Byddai rhai adeiladau’n cael eu colli sydd
wedi dirywio y tu hwnt i atgyweirio ac mae rhai nad oedd yn berthnasol i'r
datblygiad yn y dyfodol. Unwaith eto,
anogodd y Pwyllgor Cynllunio i bleidleisio o blaid y cais Adeilad Rhestredig. Mynegodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith, ei fod ef hefyd yn
cytuno gyda'r cynigion a dywedodd bod y rhain yn ffordd ymlaen ar gyfer safle'r
ysbyty. Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais Adeilad Rhestredig, ac fe’i eiliwyd
gan Huw Hilditch-Roberts. PLEIDLAIS: O BLAID - 21 YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 01/2016/0924/PR - TIR Y TU CEFN I 4 LÔN WYNNE RHWNG 39 A 41 FFORDD CELYN, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais
gyda manylion edrychiad a thirlunio a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1
caniatâd cynllunio amlinellol 01/2013/0969 (cais materion a gadwyd yn ôl) ar
dir y tu ôl i 4 Lôn Wynne rhwng 39 a 41 Ffordd Celyn, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cyng
Raymond Bartley gysylltiad personol oherwydd ei fod yn aelod o Gyngor Tref
Dinbych.] Cyflwynwyd cais
gyda manylion edrychiad a thirlunio a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1
caniatâd cynllunio amlinellol 01/2013/0969 (cais materion a gadwyd yn ôl) ar
dir y tu ôl i 4 Lôn Wynne rhwng 39 a 41 Ffordd Celyn, Dinbych. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young argymhelliad y
Swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bill Cowie. PLEIDLAIS: O BLAID - 22 YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y Swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 10/2015/0936/PS - TIR WRTH YMYL TYN-Y-BEDW, BRYNEGLWYS, CORWEN PDF 6 KB Ystyried cais i
amrywio amodau 2 a
3 caniatâd cynllunio amlinellol rhif 10/2012/0610 i roi mwy o amser ar gyfer cyflwyno
materion a gadwyd yn ôl a newid y dyddiad cychwyn mewn perthynas â’r tir wrth
ymyl Tyn-y-Bedw, Bryneglyws, Corwen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer amrywio amod rhifau 2 a 3 o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 10/2012/0610 i
roi mwy o amser ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl a newid y dyddiad
cychwyn mewn perthynas â’r tir wrth ymyl Tyn-y-Bedw, Bryneglwys, Corwen. Y Cynghorydd Hugh
Evans (Aelod Ward) - mynegodd bryderon ynghylch cysylltiadau trafnidiaeth
gyhoeddus gan fod y rhain yn dirywio ac roedd angen rhoi sylw iddynt. Hefyd mynegodd bryder ynglŷn â Dwr Cymru
a oedd wedi gwrthwynebu'r datblygiad gan eu bod yn cynghori y byddai'n
gorlwytho gwaith trin dŵr gwastraff ac nid oedd gwelliannau wedi’u
cynllunio o fewn eu Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Hugh Evans ei gefnogaeth i argymhelliad y swyddog i alluogi bod
datblygu'r safle yn symud ymlaen. Dadl Gyffredinol – awgrymwyd y dylai’r amod “bydd y datblygiad a
ganiateir drwy hyn yn dechrau naill ai cyn i bum mlynedd o ddyddiad y caniatâd
hwn ddod i ben.....” gael ei newid i dair blynedd i symud datblygiad y safle yn
ei flaen yn gynt. Eglurwyd gan Swyddogion
Cynllunio na fyddai byrhau'r cyfnod yn gwella cyflymder y datblygiad. Roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda
Dŵr Cymru i'w hannog i fynd i'r afael â'u Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Joe Welch argymhelliad y
swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bill Cowie. PLEIDLAIS: O BLAID - 22 YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Ar y pwynt hwn (10.50 a.m.) cafwyd egwyl o 20
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.10am. |
|
BRIFF DATBLYGU SAFLE DRAFFT: SAFLEOEDD DINBYCH UCHAF PDF 337 KB Ystyried
adroddiad yn argymell bod aelodau yn cytuno ar y Briff Datblygu Safle drafft ar
gyfer safleoedd tai arfaethedig Dinbych Uchaf, a'r ddogfen sgrinio Asesiad
Amgylcheddol Strategol amgaeedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno'r Brîff Datblygu Safle
drafft: Safleoedd Dinbych Uchaf, fel sail ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus. Atgoffodd y Cynghorydd Smith yr Aelodau o wahanol gamau’r broses cyn i’r
Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu’r Briff Datblygu Safle yn derfynol. Cadarnhaodd yr
Uwch Swyddog Cynllunio y byddai'r cyfnod ymgynghori am 9 wythnos oherwydd
cyfnod y Nadolig, ac y byddai'n cael ei gynnal o 5 Rhagfyr 2016 tan 3 Chwefror
2017. Mynegodd y
Cynghorydd Colin Hughes (Aelod Ward) ei ddiolch i'r Uwch Swyddog Cynllunio a
gweddill y tîm am eu gwaith ar y Brîff Datblygu Safle Drafft. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies argymhelliad
y swyddog i gymeradwyo’r Brîff Datblygu Safle Drafft ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus, a eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young. PLEIDLAIS: O BLAID - 22 YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau'n cytuno ar y Briff Datblygu Safle Drafft - Safleoedd Dinbych Uchaf
fel sy’n amgaeedig yn Atodiad 1 i'r adroddiad, ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
Ystyried
adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Nodyn Canllaw Cynllunio Atodol drafft Rhwymedigaethau Cynllunio yn unol â'r newidiadau
arfaethedig ar gyfer eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn argymell
y dylid mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Rhwymedigaethau
Cynllunio. Atgoffodd yr Aelodau o
wahanol gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu’r ddogfen
Canllawiau Cynllunio Atodol yn derfynol. Yn dilyn cyfnod
ymgynghori o wyth wythnos, cynigwyd sawl diwygiad mewn ymateb i'r sylwadau a
dderbyniwyd, a oedd wedi'u hamlygu yn y ddogfen derfynol a’u nodi yn yr
Adroddiad Ymgynghori. Tynnodd y Rheolwr
Cynllunio Strategol a Thai sylw'r Aelodau at y prif newid arfaethedig. Roedd y
Canllawiau Cynllunio Atodol:
Rhwymedigaethau Cynllunio’n ddogfen newydd, er ei bod yn ail-adrodd
elfennau o’r canllawiau mabwysiedig presennol, fel Tai Fforddiadwy a Chynllunio
a'r Iaith Gymraeg. Os caiff ei
fabwysiadu, byddai’r nodyn cyfarwyddyd newydd yn atodiad i Bolisi CDLl BSC3
“Sicrhau Cyfraniadau Isadeiledd o Ddatblygiadau”. Cafwyd trafodaeth
ac yn dilyn rhai Aelodau yn mynegi eu pryder ynglŷn ag elfen costau’r
ddogfen, awgrymwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, ar dudalen 248 Adran
14.1 yn dilyn y geiriad "... .. eang", y dylid cael atalnod llawn a
bod gweddill y frawddeg yn cael ei dileu ynghyd â'r chwe phwynt bwled. Felly, byddai’r paragraff yn darllen fel a
ganlyn: “14.1 Mae Sir Ddinbych yn mwynhau amgylchedd cyfoethog
ac amrywiol ac mae angen gwarchod a gwella cymeriad cefn gwlad, y dirwedd a'r
amgylchedd adeiledig. Mae llawer o
elfennau sy'n gallu cael eu cwmpasu o dan y term 'amgylchedd' felly gall
cyfraniadau o dan y maes hwn fod yn eang". Cadarnhaodd y
Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai y byddai'r diwygiad arfaethedig yn
ymarferol. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Barry Mellor fod yr Aelodau
yn mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol yn cynnwys y diwygiad fel y nodwyd
uchod, a eiliwyd gan y Cynghorydd Joan Butterfield. PLEIDLAIS: O BLAID - 21 YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau yn mabwysiadu'r Nodyn Canllawiau Cynllunio Atodol drafft:
Rhwymedigaethau Cynllunio sy’n amgaeedig fel Atodiad 1, gyda diwygiadau a
argymhellir ynghyd â’r diwygiad a gynigiwyd ac y cytunwyd arno heddiw, ar gyfer
eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. |
|
NODIADAU CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT: MANNAU AGORED HAMDDEN - DOGFEN YMGYNGHORI PDF 242 KB Ystyried
adroddiad yn argymell bod aelodau yn cymeradwyo Canllawiau Cynllunio Atodol
drafft ‘Mannau Agored Hamdden’ ar gyfer ymgynghori cyhoeddus (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, adroddiad yn cyflwyno Nodyn Canllawiau Cynllunio
Atodol Drafft: Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus, fel sail
ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Atgoffodd y Cynghorydd Smith Aelodau o wahanol gamau’r broses cyn i’r
Pwyllgor Cynllunio wneud y mabwysiadu terfynol. Cadarnhaodd y
Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai y byddai'r cyfnod ymgynghori am 9 wythnos
oherwydd cyfnod y Nadolig, ac y byddai'n cael ei gynnal o 5 Rhagfyr 2016 tan 3
Chwefror 2017. Cafwyd trafodaeth gyffredinol, a diolchodd y Cynghorydd David Smith i'r
Swyddog Polisi Cynllunio am ddarn mor ddwys o waith i fannau agored gael eu
defnyddio gan bobl ifanc a phobl o bob oed. Hefyd, fe anogodd
y Cynghorydd Smith yr Aelodau i godi unrhyw faterion gyda'r ddogfen cyn iddi
ddod yn ôl gerbron y Pwyllgor Cynllunio i'w mabwysiadu. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield bod yr
Aelodau yn cymeradwyo'r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol drafft: Man Agored Hamdden,
Atodiad 1, i fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus dros leiafswm o naw wythnos. PLEIDLAIS: O BLAID - 21 YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau yn mabwysiadu'r ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol drafft: Man Agored
Hamdden, yn amgaeedig fel Atodiad 1, i fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus
dros leiafswm o naw wythnos. |
|
Daeth y cyfarfod i
ben am 11.58 a.m. |