Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyn dechrau’r cyfarfod, mynegodd y Cadeirydd, Aelodau’r
Pwyllgor Cynllunio a Swyddogion, eu cydymdeimlad â gweddw a theulu’r Cynghorydd
Peter Owen a fu farw dros y penwythnos. Talodd y Cadeirydd deyrnged i’r gwaith
a wnaed gan y Cynghorydd Owen dros y blynyddoedd fel Cynghorydd. Cafwyd munud o
dawelwch er parch at y Cynghorydd Peter Owen. |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Dywedodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones fod y
Cynghorydd Ian Armstrong yn dymuno diolch i bawb a oedd wedi anfon cardiau a
dymuniadau da yn ystod ei salwch diweddar. Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Richard Davies yntau,
sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd, yn diolch i bawb am eu dymuniadau am adferiad
buan. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Raymond Bartley gysylltiad personol ag Eitem 8.
|
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Chwefror
2016 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 17 Chwefror, 2016. Mynegodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ei anfodlonrwydd
gyda chymeradwyo, mewn cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio, adeiladu
mynedfa newydd ac addasu’r fynedfa bresennol yn hen Safle Gwydr Arbennig
Pilkington, Ffordd Glascoed, Llanelwy. Dywedodd y Cynghorydd Lloyd Davies y
byddai’r gymeradwyaeth yn cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos, Derwen Deg. Canmolodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts safon y
cofnodion. PENDERFYNWYD fod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2016, yn cael eu cymeradwyo
fel rhai cywir |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 6) Cyflwynwyd y ceisiadau a dderbyniwyd sydd angen penderfyniad
gan y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 15/2016/0001/PF - Canol y Cae, Eryrys PDF 5 KB I ystyried cais
ar gyfer codi garej yng Nghanol y Cae, Eryrys, Yr Wyddgrug (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi garej yng Nghanol y Cae, Eryrys, Yr
Wyddgrug. Trafodaeth
Gyffredinol – Cadarnhaodd y Cynghorydd Martyn Holland (Aelod Lleol) nad
oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais, ond y byddai’n cynnig tirweddu ychwanegol
rhwng y garej ag ymyl y ffordd. Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill ganiatáu’r cais gan ychwanegu amod ar gyfer tirweddu ychwanegol,
ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen James. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 18 YMATAL – 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD fod caniatâd
yn cael ei ROI yn unol ag
argymhelliad y swyddog fel ag y manylwyd arno yn yr adroddiad ynghyd â
Thirweddu ychwanegol. |
|
CAIS RHIF 15/2016/0026/PF - CLOVER GRANGE, LLANARMON YN IÂL PDF 6 KB I ystyried cais
ar gyfer codi garej ar wahân yn Clover Grange, Llanarmon yn Iâl, Yr Wyddgrug
(copi ynghlwm) . Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi garej sengl gyda storfa uwch ei phen
(yn rhannol ôl-weithredol) yn Clover Grange, Llanarmon yn Ial, Yr Wyddgrug. Trafodaeth
Gyffredinol – Cadarnhaodd y Cynghorydd Martyn Holland (Aelod Lleol) nad
oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais. Holwyd pam fod dau gais wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor
Cynllunio a chadarnhawyd, o dan y cynllun dirprwyo, os oedd y Cynghorau Tref a
Chymuned yn argymell gwrthod, ei bod yn ofynnol i’r cais gael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Cynllunio. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, eiliwyd gan y Cynghorydd
Win Mullen James, fod y cais yn cael ei ganiatáu. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 17 YMATAL – 0 YN ERBYN – 1 PENDERFYNWYD fod caniatâd yn cael ei ROI yn unol
ag argymhelliad y swyddog fel ag y manylwyd arno yn yr adroddiad. |
|
Yn y fan hon,
rhodiodd yr Aelod Arweiniol dros y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith,
eglurhad byr a chefndir y tri Brîff Datblygu Safle a oedd i gael eu cyflwyno
i’r Pwyllgor cynllunio. |
|
Rhoi gwybod i'r
Aelodau o'r ymatebion i'r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Briff Datblygu Safle
drafft ar gyfer y Tir gerllaw'r hen Ysbyty H.M. Stanley, Llanelwy a diwygiadau
arfaethedig i'r Brîff (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn argymell fod yr Aelodau’n cytuno i fabwysiadu’r
Brîff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer y tir gerllaw hen ysbyty HM Stanley,
Llanelwy. Pe bai’n cael ei
fabwysiadu, byddai’r Brîff Datblygu Safle yn dod yn un o gyfres o nodiadau
Canllawiau Cynllunio Atodol sy’n ehangu ar bolisïau a dyraniadau safle Cynllun
Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2006-2021. Byddai’r Brîff Datblygu Safle yn sail i benderfynu ar unrhyw
geisiadau cynllunio ar y safle yn y dyfodol. Nod y brîff oedd cynnig canllawiau
ar y problemau posibl y byddai’n rhaid i ddatblygwyr eu hystyried, canllawiau
dylunio perthnasol yn lleol ar y safle a sicrhau fod gofynion y Cyngor ar gyfer
datblygu ar y safle yn cael eu cyflawni. Cafwyd ymgynghoriad
cyhoeddus dros 8 wythnos o 5 Hydref 2015 i 30 Tachwedd 2015. Roedd adroddiad yr
ymgynghoriad yn cynnwys crynodeb o bob ymateb wedi’i roi ynghlwm wrth yr
adroddiad. Cynhaliwyd dwy sesiwn galw heibio yn Llanelwy, yn ystod y
cyfnod ymgynghori lle’r oedd swyddogion yn bresennol i siarad â’r cyhoedd a
rhoi mwy o wybodaeth a chyngor. Derbyniwyd 11 o ymatebion ysgrifenedig yn ystod y cyfnod
ymgynghori ac roedd 16 o sylwadau wedi’u gosod ar y mapiau yn y sesiynau galw
heibio. Cafwyd trafodaeth
am y Brîff Datblygu Safle ac un o’r prif bryderon oedd y glustogfa o amgylch
Hosbis St Kentigern er mwyn cadw’r heddwch a’r tawelwch yno. Eglurwyd fod hyn
wedi’i gynnwys yn y Brîff Datblygu Safle ac y byddai’r datblygwyr yn cael eu
hysbysu fod yn rhaid cynnwys yr Awdurdod Lleol mewn trafodaethau ynghylch y
tirweddu ger yr Hosbis. Cynnig – Cynigiodd
y Cynghorydd Bill Cowie dderbyn argymhelliad y Swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y
Cynghoryd Peter Evans. PLEIDLAIS: Dros – 16 Ymatal – 0 Yn Erbyn – 0 PENDERFYNWYD fod yr
Aelodau’n cytuno i fabwysiadu’r Brîff Datblygu Safle ar gyfer y “Tir gerllaw
hen Ysbyty HM Stanley, Llanelwy, i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau
cynllunio ac apeliadau cynllunio. |
|
BRÎFF DATBLYGU SAFLE: SAFLEOEDD BRWCWS, DINBYCH – MABWYSIADU DOGFEN DERFYNOL PDF 129 KB Rhoi gwybod i'r
Aelodau o'r ymatebion i'r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Briff Datblygu Safle
drafft ar gyfer Safleoedd Brwcws, Dinbych, a diwygiadau arfaethedig i'r Brîff
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Raymond Bartley,
gysylltiad personol â’r eitem hon fel Aelod Lleol. Aeth y Cynghorydd Win Mullen
James i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon yn unig. Cyflwynwyd adroddiad a oedd yn argymell fod yr Aelodau’n
cytuno i fabwysiadu’r Brîff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer safleoedd
Brwcws, Dinbych. Pe bai’n cael ei fabwysiadu, byddai’r Brîff Datblygu Safle
yn dod yn un o gyfers o nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol sy’n ehangu ar
bolisïau a dyraniadau safle Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2006-2021. Byddai’r Brîff Datblygu Safle yn sail i benderfynu ar unrhyw
geisiadau cynllunio ar y safle yn y dyfodol. Nod y brîff oedd cynnig canllawiau
ar y problemau posibl y byddai’n rhaid i ddatblygwyr eu hystyried, canllawiau
dylunio perthnasol yn lleol ar y safle a sicrhau fod gofynion y Cyngor ar gyfer
datblygu ar y safle yn cael eu cyflawni. Dywedodd yr Aelod
Lleol, y Cynghorydd Raymond Bartley, nad oedd ef na’r preswylwyr lleol o blaid
y datblygiadau a hynny oherwydd nifer o ffactorau yn cynnwys: ·
Llifogydd ·
Traffig a materion priffyrdd ·
Yr effaith ar ysgolion ·
Yr effaith ar Feddygon Teulu ac ysbytai ·
Gwasanaethau a chartrefi i’r henoed ·
Y system garthffosiaeth ac a allai gymryd
cynifer o dai ychwanegol. ·
Problemau parcio pan mae gwasanaethau’n cael eu
cynnal yn yr Eglwys leol. ·
Problemau parcio pan mae digwyddiadau’n cael eu
cynnal ym Melin Brwcws. Yn y fan hon, cynigiodd yr Aelod Lleol fabwysiadu’r Brîff
Datblygu Safle, eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies. Cadarnhaodd y
Rheolwr Cynllunio a Pholisi Datblygu y byddai’r Brîff Datblygu Safle yn hynod o
lym o ran y gofynion y byddai’n rhaid i’r darpar ddatblygwyr eu cynnal. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
wedi cael ei gytuno a’i fabwysiadu gan y Pwyllgor Cynllunio oherwydd y gwelwyd
tystiolaeth o angen am dai yr oedd yn rhaid i’r Awdurdod Lleol ei ddiwallu.
Byddai adolygiad o’r CDLl yn digwydd yn 2017. Yn ystod yr adolygiad, pe bai tystiolaeth
yn dod i law a oedd yn profi newid yn yr angen am dai, yna dyna fyddai’r amser
i ofyn am ddad-ddyrannu safleoedd. Dim ond o dan adolygiad y CDLl y gellid
dad-ddyrannu safleoedd. Cynigiodd yr Aelod
Lleol ganiatáu’r Brîff Datblygu Safle er mwyn galluogi creu gofynion pwysig a
llym y byddai’n rhaid i’r datblygwr lynu atynt. Cadarnhawyd, gyda mabwysiadu’r Brîff Datblygu Safle, pe bai
cais cynllunio’n cael ei gyflwyno a oedd yn dangos diffyg isadeiledd a ddim yn
bodloni’r gofynion a osodwyd yn y Brîff, yna byddai gan y Pwyllgor Cynllunio y
grym i wrthod y cais. Wedi gwrthod, pe bai’r Datblygwr yn cyflwyno apêl yn
erbyn y penderfyniad, yna gallai’r Awdurdod Lleol ddangos y Brîff Datblygu
Safle fel tystiolaeth. Nid oedd safle Ysbyty Gogledd Cymru wedi cael ei ddyrannu’n
benodol ar gyfer tai ond roedd yn cael ei ystyried yn hap-safle. Cynnig – Cynigiodd
y Cynghorydd Raymond Bartley argymhelliad y swyddog, eiliwyd gan y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies. PLEIDLAIS: Dros – 17 Ymatal – 0 Yn erbyn – 1 PENDERFYNWYD fod yr
Aelodau’n cytuno i fabwysiadu’r Brîff Datblygu Safle ar gyfer safleoedd Brwcws,
Dinbych, i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau
cynllunio. |
|
Rhoi gwybod i'r
Aelodau o'r ymatebion i'r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Briff Datblygu Safle
drafft ar gyfer datblygiad preswyl yn Ffordd Hendre a Maes Meurig, Gallt Melyd
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn argymell fod yr Aelodau’n cytuno i
fabwysiadu’r Brîff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer datblygiad preswyl yn
Ffordd Hendre a Maes Meurig, Meliden. Roedd Llywodraeth
Cymru wedi cadarnhau, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth ddilynol
gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, y gellid trin Canllawiau Cynlluniau Atodol
(CCA) / Briffiau Datblygu Safle fel ystyriaeth gynllunio berthnasol pan mae
Awdurdodau Cynllunio Lleol, Arolygwyr Cynllunio a Llywodraeth Cymru yn
penderfynu ar geisiadau ac apeliadau cynllunio. Pe bai’n cael ei
fabwysiadu, byddai’r Brîff Datblygu Safle/nodyn CCA yn dod yn un o gyfres o
Ganllawiau a fyddai’n ehangu ar bolisïau a dyraniadau safle Cynllun Datblygu
Lleol Sir Ddinbych 2006-2021. Byddai polisïau neu egwyddorion datblygu i
ddyraniadau safle unigol mewn fformat a oedd yn anelu at lywio proses, dyluniad
ac ansawdd datblygiadau newydd. Cafwyd trafodaeth gyffredinol a gofynnodd y Cynghorydd Peter
Evans am nodi ei fod ef yn bendant yn erbyn datblygu ar y safleoedd. Cadarnhawyd y
byddai datganiad i’r wasg yn cael ei gyflwyno gydag eglurhad llawn am y broses
o fabwysiadu Brîff Datblygu Safle fel bod preswylwyr yn ymwybodol y byddai’r
Brîff yn fecanwaith a fyddai’n sicrhau fod meini prawf yn cael eu bodloni o
fewn y datblygiad. Cynigiwyd – Cynigiodd
y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies argymhelliad y swyddog, eiliwyd gan y
Cynghorydd Bill Cowie. PLEIDLAIS: Dros – 16 Ymatal – 0 Yn Erbyn – 1 PENDERFYNWYD fod yr
Aelodau’n mabwysiadu’r Brîff Datblygu Safle – Datblygiad preswyl yn Ffordd
Hendre a Maes Meurig, Meliden, yn unol â’r newidiadau a gynigiwyd fel ag yr
amlinellwyd yn yr Adroddiad Ymgynghori. |
|
CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL COED A THIRLUNIO – DRAFFT YMGYNGHOROL PDF 82 KB I ystyried
adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i’r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar
Goed a Thirlunio fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad a oedd yn argymell fod yr Aelodau’n
cytuno ar y Canllawiau Cynllunio Atodol ar goed a thirlunio fel sail i
ymgynghoriad cyhoeddus. Yn dilyn mabwysiadu
Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych, roedd angen diweddaru CCA ar goed a
thirweddu er mwyn rhoi mwy o arweiniad i ddatblygwyr, Swyddogion ac Aelodau.
Roedd CCA drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ynghlwm wrth yr adroddiad. Cynnig – Cynigiodd
y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddog, eiliwyd gan y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill. PLEIDLAIS: For – 18 Ymatal – 0 Yn Erbyn – 0 PENDERFYNWYD fod yr
Aelodau’n cytuno ar y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar goed a thirlunio
fel sail i ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
DADANSODDIAD O APELIADAU CYNLLUNIO 2015/2016 PDF 158 KB Hysbysu’r Aelodau
am berfformiad yr Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas ag Apeliadau
Cynllunio fel y gall yr Aelodau archwilio’r achosion unigol (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn argymell fod yr Aelodau’n nodi
cynnwys yr adroddiad ac yn codi unrhyw faterion am achosion arbennig gyda’r
Swyddogion y tu allan i’r Pwyllgor Cynllunio. PENDERFYNWYD fod yr
Aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad ac yn codi unrhyw faterion ac achosion
arbennig gyda’r Swyddogion y tu allan i’r Pwyllgor Cynllunio. |
|
Yn y fan hon, diolchodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler i’r
swyddogion a’r diweddar Jane Kennedy a fu’n gweithio ar brosiect Ysbyty Gogledd
Cymru. Daeth y cyfarfod i
ben am 11.10 a.m.
|