Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd
Merfyn Parry ddatgan cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu yn Eitem 6. Bu i’r Cynghorydd
Huw Williams ddatgan cysylltiad Personol yn Eitem 6. Bu i’r Cynghorydd
Brian Blakeley ddatgan cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu yn Eitem 12. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 20 Ionawr 2016
(copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2016. Tudalen 11 –
Cadarnhaodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Raymond Bartley, fod brîff wedi’i anfon
ynghylch cynnwys y cofnodion at y Cynghorwyr i gyd. Cytunodd y Cynghorwyr ag
awgrym y Cadeirydd, oherwydd bod cynnwys y cofnodion wedi cael eu cymeradwyo
gan yr Arweinwyr Grŵp yn 2010, y dylid mynd â’r mater yn ôl gerbron yr
Arweinwyr Grŵp i ailwerthuso cynnwys cofnodion a gofnodwyd ar gyfer pob
cyfarfod Pwyllgor. Roedd y brîff yn
datgan pe bai Aelod o Bwyllgor am i’w sylwadau gael eu cofnodi, y dylent ddweud
hynny yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD,
yn ddarostyngedig i’r uchod, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr
2016 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD DATBLYGU (EITEMAU 5 - 14) - Cyflwynwyd
ceisiadau a dderbyniwyd a oedd angen penderfyniad y Pwyllgor arnynt, ynghyd â
dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at wybodaeth atodol hwyr (tudalennau
glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi’r agenda, ac yn ymwneud â cheisiadau penodol.
Er mwyn caniatáu ceisiadau i gael siarad yn gyhoeddus, cytunwyd i amrywio trefn
y ceisiadau ar yr agenda yn unol â hynny. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 14/2015/0854 - FOEL UCHAF, CYFFYLLIOG, RHUTHUN PDF 38 KB Ystyried cais i
Osod 2 dyrbin gwynt (uchder tŵr tyrbin 24.8m, uchder o’r ddaear i flaen y
llafn 36.6m) offer amgáu cysylltiedig a thraciau mynediad ar Dir yn Foel Uchaf,
Cyffylliog, Rhuthun (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Bu i’r
Cynghorydd Merfyn Parry ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem
hon oherwydd bod merch y Cynghorydd Parry’n briod â mab yr ymgeisydd. Gadawodd
y Cynghorydd Parry’r Siambr ar y pwynt hwn]. [Bu i’r
Cynghorydd Huw Williams ddatgan cysylltiad personol yn yr eitem hon oherwydd ei
fod yn adnabod yr ymgeisydd a’r gwrthwynebydd]. Cyflwynwyd cais i
godi dau dyrbin gwynt (uchder y tŵr 24.8m, uchder o’r ddaear i flaen y
llafn 36.6m), adeilad cysylltiedig i gadw cyfarpar a thraciau mynediad ar dir
yn Foel Uchaf, Cyffylliog, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus – Jo Anne
Williamson (Yn erbyn) – cyfeiriodd
at gysylltiadau ei theulu â’r ardal. Ehangodd ar y rhesymau y tu ôl i’r
gwrthwynebiad a bod hynny oherwydd amwynder gweledol a niwsans sŵn. Richard Adams (Dros) – eglurodd fod y Cyngor Cymuned
lleol o blaid y cais. Nid oedd unrhyw broblemau sŵn yn gysylltiedig â’r
cais ac roedd y tyrbinau mewn lleoliad ffafriol ac uchder tyrau’r tyrbinau’n
isel. Trafodaeth Gyffredinol – Rhoddodd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol)
fanylion i’r Pwyllgor am gefndir y cais. Cyflwynwyd y cais beth amser yn ôl, yn
wreiddiol am un tyrbin mawr. Newidiwyd hyn i ddau dyrbin llai. Codwyd y mater y
byddai’r tyrbinau y tu allan i’r ardal strategol oherwydd i bryder gael ei
leisio bod tyrbinau’n cael eu lleoli mwyfwy y tu allan i’r ardal strategol. Bu’r Aelodau’n
trafod amrywiol ffactorau’r cais a dywedodd y Cynghorwyr Stuart Davies a Huw
Williams eu bod o blaid y cais a bod angen i ffermydd gael arallgyfeirio. Cadarnhaodd y
Swyddog Cynllunio fod asesiad sŵn wedi’i ddarparu i’r ymgynghorydd mewnol
ac allanol. Dywedodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei fod wedi cael gwybod nad oedd ceisiadau
cynllunio blaenorol i gael eu hystyried ond eto bod y cais hwn yn rhoi hanes
ceisiadau eraill i’r Aelodau fel y gallent wneud penderfyniad gwybodus.
Gofynnodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts am eglurhad ar hyn. Cadarnhaodd y
Rheolwr Datblygu y byddai’r sylw ynghylch yr hanes cynllunio’n cael ei drafod
nes ymlaen yn y cyfarfod o dan eitem Ran 2. Bu’r Pwyllgor yn
trafod haeddiannau’r cais a’r ystyriaethau cynllunio perthnasol. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies ac eiliodd y
Cynghorydd Huw Williams y dylid caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad
swyddogion, ar sail y cydbwysedd rhwng arallgyfeirio ac amwynder. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 7 YMATAL - 0 GWRTHOD – 15 PENDERFYNWYD GWRTHOD caniatâd
yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 40/2015/1150 - TŶ FRY INN, LÔN TŶ FRY, BODELWYDDAN PDF 39 KB Ystyried cais i
amrywio amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio
Cod Rhif 40/2014/1445/PF i ddarllen “Ni
fydd nwyddau yn cael eu derbyn na eu hanfon o'r safle, gan gynnwys trin a
chasglu gwastraff a gweithgarwch arall o fewn y maes gwasanaeth, tu allan i
oriau 07:00awr a 21:00awr o ddydd Llun i ddydd Gwener, 07:00hrs - 20:00awr ar
ddydd Sadwrn a 09:00hrs - 18:00awr ar ddydd Sul a Gwyliau’r Banc” yn Nhŷ Fry Inn, Lôn Tŷ Fry, Bodelwyddan (copi wedi’i
atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
amrywio amod Rhif 3 ar ganiatâd cynllunio Cod Rhif 40/2014/1445/PF i ddarllen
“ni ddylid derbyn na chludo dosbarthiadau o’r safle, gan gynnwys symud a
chasglu gwastraff a gweithgareddau eraill yn yr ardal wasanaeth, y tu allan i’r
oriau 07.00am a 21.00pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener, 07.00am – 20.00pm ar
ddydd Sadwrn a 09.00am – 18.00pm ar ddydd Sul ac ar Wyliau Banc” ar dir tafarn
Tŷ Fry, Lôn Tŷ Fry, Bodelwyddan, Y Rhyl. Siaradwr Cyhoeddus – Gillian Whitfield
(Dros) – eglurodd y rheswm y tu ôl
i’r cais i amrywio’r amseroedd dosbarthu. Eglurwyd na fyddai nifer y
dosbarthiadau’n cynyddu ac y byddai hynny’n aros ar ddau y dydd. Trafodaeth Gyffredinol - Yn gyntaf
tynnodd y Cynghorydd Alice Jones (Aelod Lleol) sylw’r Pwyllgor at y lleoliad
anghywir a dywedodd nad yn Lôn Tŷ Fry oedd y safle ond yn Ronaldsway.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Jones na fyddai’n cefnogi’r cais oherwydd bod ganddi
bryderon ynghylch sut y cyflawnwyd yr Archwiliad Diogelwch Ffyrdd. Eglurodd fod
Archwiliad Diogelwch Ffyrdd wedi cael ei gyflawni ar y safle ond ei fod wedi’i
wneud rhwng 10.00am ac 11.00am gan ddau berson mewn tywydd cymylog a chawodlyd
a ddywedodd mai ysgafn oedd y traffig a symudiadau cerddwyr. Dywedodd y
Cynghorydd Jones y byddai’n mynd â’r Archwiliad Diogelwch Ffyrdd i’r Pwyllgor
Craffu i’w ystyried. Cefnogodd y Cynghorydd Arwel Roberts gynnig y Cynghorydd
Alice Jones. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield ac eiliodd
y Cynghorydd Win Mullen James argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 20 YMATAL – 1 GWRTHOD – 2 PENDERFYNWYD RHOI caniatâd yn
unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 43/2015/1120 - 72 FFORDD GRONANT, PRESTATYN PDF 6 KB Ystyried cais am
Dorri 1 goeden castan y meirch yn amodol ar Orchymyn Gwarchod Coed ar dir yn 72
Ffordd Gronant, Prestatyn (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
gwympo coeden gastanwydden oedd â Gorchymyn Gwarchod Coed arni ar dir yn 72
Ffordd Gronant, Prestatyn. Siaradwr Cyhoeddus – Caroline Jones (Yn erbyn) – eglurodd wrth y Pwyllgor
fod ei chartref gyferbyn â’r safle lle’r oedd y goeden hon. Dywedodd Ms Jones
nad oedd yr adeiladwyr wedi gwarchod gwreiddiau’r goeden wrth wneud gwaith ar y
dreif a bod rhai o’r gwreiddiau wedi cael eu torri. Er gwaetha’r tywydd drwg yn
ddiweddar, roedd y goeden yn dal i sefyll a ddangosai ba mor gryf ydoedd. Trafodaeth Gyffredinol – Lleisiodd y Cynghorydd Anton Sampson (Aelod
Lleol) ei wrthwynebiad i gwympo’r goeden oherwydd bod Gorchymyn Gwarchod Coed
arni. Eglurwyd wrth y
Pwyllgor fod y caniatâd cynllunio gwreiddiol wedi’i roi yn dangos bod y goeden
i gael ei chadw. Gofynnodd Aelodau i’r Rheolwr Datblygu holi a ellid cymryd
camau yn erbyn y datblygwyr am wneud difrod i goeden wedi’i gwarchod.
Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu y byddai’n gofyn am gyngor ar hyn. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Anton Sampson ac eiliodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad
swyddogion, ar y seiliau bod y goeden yn darparu amwynder sylweddol yn yr ardal
ac nad oedd digon o dystiolaeth i ddangos bod cwympo’r goeden yn hanfodol ac yr
ystyrid y byddai cwympo’r goeden yn cael effaith annerbyniol ar amwynder yr
ardal. PLEIDLAIS: CANIATÁU: 1 YMATAL: 1 YN ERBYN: 21 PENDERFYNWYD gwrthod
caniatâd, yn groes i argymellion swyddogion, ar y seiliau bod y goeden yn darparu
gwerth amwynder sylweddol yn yr ardal ac nad oedd digon o dystiolaeth i ddangos
bod cwympo’r goeden yn hanfodol ac yr ystyrid y byddai cwympo’r goeden yn cael
effaith annerbyniol ar amwynder yr ardal. |
|
Ar y pwynt hwn (11.05 a.m.) cafwyd egwyl o chwarter
awr. Ailgychwynnodd y cyfarfod am 11.20 a.m. |
|
CAIS RHIF 44/2015/1075 - TIRIONFA, RHUDDLAN PDF 6 KB Ystyried cais i
Ddatblygu 3.39 hectar o dir ar gyfer datblygiad preswyl (cais amlinellol –
cedwir pob mater) ar Dir i’r dwyrain o Dirionfa, Rhuddlan, Y Rhyl (copi wedi’i
atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddatblygu 3.39 hectar o dir ar gyfer datblygiad preswyl (cais amlinellol –yr
holl faterion i’w cadw’n ôl) ar dir i’r dwyrain o Dirionfa, Rhuddlan, y Rhyl. Siaradwr Cyhoeddus – Pauline Evans (Yn erbyn) – lleisiodd bryderon
ynghylch sut y byddai datblygu’r safle’n effeithio ar yr ardal leol oherwydd
bod yno broblemau draenio, nid oedd unrhyw feddygon yn Rhuddlan ac roedd yr
ysgolion lleol yn llawn. Byddai’r datblygiad hefyd yn achosi problemau o ran
faint o draffig a fyddai yn yr ardal. Trafodaeth Gyffredinol – Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu mai cais ar gyfer
datblygiad preswyl ar safle tai wedi’i ddyrannu oedd hwn. Cais cynllunio
amlinellol ydoedd ac felly ni fyddai’r manylion llawn am nifer a maint y
datblygiad yn hysbys hyd nes y daethai cais cynllunio llawn i law. Ni
dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru na
Phriffyrdd. Dywedodd y
Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) ei fod yn erbyn y datblygiad, felly
hefyd Gyngor Tref Rhuddlan. Dywedodd fod y safle a ddyranwyd yn dir fferm ac na
ddylid ei ddefnyddio ar gyfer datblygiad preswyl. Cododd y Cynghorydd Roberts y
mater bod y tir yn gorsiog, y ffaith nad oedd meddyg yn Rhuddlan a bod yr
ysgolion lleol yn llawn. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod eisiau gweld
arolwg traffig ffyrdd. Dywedodd y
Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) ei bod hithau hefyd yn erbyn y datblygiad
am resymau tebyg i rai’r Cynghorydd Roberts. Cadarnhaodd y
Rheolwr Datblygu y byddai Arolygydd Priffyrdd wedi asesu’r safle dan sylw i
gadarnhau a fyddai’r cae’n addas i’w ddatblygu. O ran fater yr ysgolion, byddai
hyn yn rhan o’r amod “ni cheir meddiannu unrhyw dŷ hyd nes y rhoddir
caniatâd ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer trefniadau i
gydymffurfio â pholisïau’r Cyngor ynghylch cyfrannu at gyfleusterau addysgol”. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts ac eiliodd y
Cynghorydd Alice Jones y dylid gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad
swyddogion. PLEIDLAIS: CANIATÁU– 14 YMATAL – 1 YN ERBYN – 7 PENDERFYNWYD RHOI
caniatâd yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2015/1182-29 VEZEY STREET, Y RHYL PDF 39 KB Ystyried cais i
Amrywio amod 3 a osodwyd ar ganiatâd cynllunio 45/2013/0828 i ganiatáu cynnydd
yn yr oriau defnydd i: 06:00 - 20.30
dydd Llun i ddydd Gwener (08:00 – 20:00 ar hyn o bryd) 07:00 – 14:00
dydd Sadwrn (08:00 - 14:00 ar hyn o bryd) 08:00 - 14:00
dydd Sul (fel sy'n bodoli eisoes) yn 29 Vezey
Street, y Rhyl (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Bu i’r
Cynghorydd Brian Blakeley ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem
hon oherwydd ei fod wedi cyflogi’r ymgeisydd yn flaenorol. Ar y pwynt hwn,
gadawodd y Cynghorydd Blakeley Siambr y Cyngor]. Cyflwynwyd cais i
amrywio amod 3 ar ganiatâd cynllunio 45/2013/0828 i ganiatáu cynnydd yn yr
oriau defnydd i: 06.00 – 20.30 o
ddydd Llun tan ddydd Gwener (08.00 – 20.00 ar hyn o bryd) 07.00 – 14.00
dydd Sadwrn (08.00 – 14.00 ar hyn o bryd) 08.00 – 14.00
dydd Sul (fel ar hyn o bryd) yn 29 Vezey
Street, Y Rhyl Siaradwr Cyhoeddus – Katie Jones (Dros) – dywedodd fod y gampfa’n fusnes
teuluol ac wedi bod yn gyfleuster hamdden ers dwy flynedd. Byddai ymestyn oriau
agor y gampfa’n sicrhau ei bod ar gael i fwy o bobl leol ac yn eu hannog i
ddefnyddio’r gampfa drawsnewid ac i fyw’n iachach. Trafodaeth Gyffredinol – Cadarnhaodd y Cynghorydd Pat Jones (Aelod Lleol)
ei bod hi a’i chyd-Gynghorydd Peter Prendergast wedi ymweld â’r gampfa ac na
chlywsant unrhyw sŵn y tu allan i’r adeilad a fyddai’n aflonyddu ar
drigolion lleol. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod o blaid y cais i ymestyn yr
oriau agor. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Pat Jones ac eiliodd y
Cynghorydd Peter Prendergast y dylid caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad
swyddogion, ar sail cefnogi busnesau lleol, cefnogi iechyd a lles ac na
fyddai’r oriau ychwanegol yn achosi unrhyw sŵn neu aflonyddwch ychwanegol.
PLEIDLAIS: CANIATÁU – 17 YMATAL – 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD CANIATÁU yn groes i argymhelliad
swyddogion, ar sail cefnogi busnesau lleol, cefnogi iechyd a lles ac na
fyddai’r oriau ychwanegol yn achosi unrhyw sŵn neu aflonyddwch ychwanegol.
|
|
CAIS RHIF 46/2015/0984 - TIR ODDI AR CWTTIR LANE, LLANELWY PDF 36 KB Ystyried cais i
Adeiladu adeilad peiriannau cynhyrchu pŵer 16MW gan gynnwys offer ategol a
mynediad newydd ar dir oddi ar Cwttir Lane, Llanelwy (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi adeilad gwaith cynhyrchu trydan 16MW i gynnwys cyfarpar cysylltiedig a
mynedfa newydd ar dir oddi ar Cwttir Lane, Llanelwy. Siaradwr Cyhoeddus – Elizabeth Evans (Dros) – gwaith oedd hwn i gefnogi’r
Grid Cenedlaethol pryd nad oedd digon o drydan i ateb y galw. Roedd Asesiadau
Sŵn ac Ansawdd Aer wedi eu derbyn. Dewiswyd y safle arfaethedig fel cae
llwyd. Roedd y datblygiad wedi’i leoli a’i ddylunio’n dda a byddai’n darparu
pedair swydd llawn amser. Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Bill Cowie o blaid y cais. Cynigiodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fod y ffordd yn cael ei lledu yn hytrach na
dibynnu ond ar y mannau pasio cymeradwy. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arwel Roberts. Cadarnhaodd y
Cadeirydd y byddid yn cael pleidlais ar gynnig y Cynghorydd Meirick Lloyd
Davies i ledu’r ffordd. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 3 YN ERBYN – 16 Gwrthodwyd y
cynnig i ledu’r ffordd. Cynnig– Cynigiodd y Cynghorydd Bill Cowie ac eiliodd y Cynghorydd Rhys Hughes
argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 18 YMATAL – 0 YN ERBYN – 1 PENDERFYNWYD RHOI caniatâd
yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 06/2014/1436 - HENDRE BRYN CYFFO, GWYDDELWERN, CORWEN PDF 36 KB Ystyried cais i Osod un tyrbin gwynt Endurance X29 gyda thrac mynediad
cysylltiedig, llawr caled i graen, sylfeini, a chabinet i gadw’r mesurydd ar
dir yn Bryn Hendre Cyffo, Gwyddelwern, Corwen (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
osod un tyrbin gwynt endurance X29
gyda thrac mynediad cysylltiedig, llawr caled ar gyfer craen, sylfeini a
chwpwrdd i gadw’r mesurydd ar dir yn Hendre Bryn Cyffo, Gwyddelwern, Corwen. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies ac eiliodd y Cynghorydd Meirick Lloyd
Davies argymhelliad swyddogion i ganiatáu’r cais. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 14 YMATAL – 1 YN ERBYN – 3 PENDERFYNWYD RHOI caniatâd
yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 18/2015/1146 - HIGHFIELD PARK, LLANGWYFAN, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i
amrywio amod rhif 12 o god caniatâd
cynllunio rhif 18/2012/1595 i ganiatáu 2
bwynt mynediad i aros ar agor ym Mharc Highfield, Llangwyfan, Dinbych (copi
wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y cais
cynllunio i amrywio amod rhif 12 ar ganiatâd cynllunio Cod Rhif 18/2012/1595 i
ganiatáu i ddau bwynt mynediad gael aros ar agor yn Highfield Park, Llangwyfan,
Dinbych, wedi cael ei DYNNU’N ÔL yn ffurfiol gan yr Asiant. |
|
CAIS RHIF 25/2015/1164 - TIR I’R DWYRAIN O LYN BRENIG PDF 38 KB Ystyried cais i
Amrywio amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio cyf 25/2007/0565 i ganiatáu i dyrbin
rhif 12 a ffordd gangen berthnasol i gael lwfans micro-leoli 30m a thyrbin 14 a
ffordd gangen berthnasol i gael lwfans micro-leoli 49m ar dir i'r Dwyrain o Lyn
Brenig, Nantglyn (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
amrywio amod rhif 3 ar ganiatâd cynllunio 25/2007/0565 i ganiatáu i dyrbin rhif
12 a ffordd gangen berthnasol gael
lwfans micro-leoli 30m ac i dyrbin rhif 14 a ffordd gangen berthnasol gael lwfans micro-leoli 49m ar
dir i’r dwyrain o Lyn Brenig, Nantglyn. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies ac eiliodd y Cynghorydd Brian
Blakeley argymhelliad swyddogion i ganiatáu’r cais. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 17 YMATAL – 0 YN ERBYN – 1 PENDERFYNWYD RHOI caniatâd
yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 47/2015/1174 – 11 LLYS Y TYWYSOG, TREMEIRCHION PDF 5 KB Ystyried cais i
Godi balconi yng nghefn annedd yn 11 Llys y Tywysog, Tremeirchion, Llanelwy
(copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi balconi yng nghefn y tŷ yn 11 Llys Y Tywysog, Tremeirchion, Llanelwy. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies ac eiliodd y
Cynghorydd Rhys Hughes argymhelliad swyddogion i ganiatáu’r cais. PLEIDLAIS: CANIATÁU – 17 YMATAL – 0 YN ERBYN – 1 PENDERFYNWYD RHOI caniatâd
yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad. |
|
BRÎFF DATBLYGU SAFLE: CAE FFYDDION, DYSERTH - MABWYSIADU DOGFEN DERFYNOL PDF 133 KB Rhoi gwybod i Aelodau am y sylwadau a gafwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad
cyhoeddus ar y Brîff Datblygu Safle drafft ar gyfer Cae Ffyddion, Dyserth ac i
ofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Brîff Datblygu gyda newidiadau arfaethedig (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol Tir y Cyhoedd, yr adroddiad ar gyfer
Brîff Datblygu’r Safle: Cae Ffyddion, Dyserth – Mabwysiadu’r ddogfen derfynol
(wedi’i gylchredeg yn flaenorol). Roedd Aelodau
wedi cymeradwyo’r ddogfen ddrafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 15
Gorffennaf 2015 a bu’n destun ymgynghoriad cyhoeddus am 13 wythnos hyd at 30
Hydref 2015. Pwrpas yr
adroddiad oedd hysbysu’r Aelodau o sylwadau a dderbyniwyd drwy’r ymgynghoriad
cyhoeddus ar y Brîff Datblygu Safle drafft ar gyfer Cae Ffyddion, Dyserth a
gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Brîff Datblygu gyda’r newidiadau arfaethedig.
O’i gymeradwyo, byddai’r Brîff Datblygu Safle’n cael ei ddefnyddio i helpu i
benderfynu unrhyw geisiadau cynllunio ar y safle. Eglurodd yr Uwch
Swyddog Cynllunio y newidiadau yn y Brîff Datblygu Safle. Daeth y
Cynghorydd Martyn Holland i’r Pwyllgor Cynllunio i siarad ar ran y Cynghorydd
Peter Owen a oedd, yn anffodus, wedi methu â bod yno oherwydd salwch. Roedd y
Cynghorydd Owen am i’r pwyllgor gael gwybod ei fod yn erbyn y datblygiad. Y
prif resymau dros beidio â bod o blaid y datblygiad oedd: (i)
Effaith
datblygiad mawr ar ffyrdd lleol (ii)
Dŵr
ffo’n gysylltiedig â datblygiad dwysedd uchel; a (iii)
Effaith
ar addysg oherwydd bod yr ysgol leol bron yn llawn. Gofynnodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Raymond Bartley, i’r Cynghorydd Holland anfon
dymuniadau gorau pawb yn y Pwyllgor Cynllunio at y Cynghorydd Peter Owen. Dywedodd y
Cynghorydd Peter Evans ei fod wedi lleisio pryderon am yr A547 a thraffig i
mewn i bentref Gallt Melyd dros y blynyddoedd yng nghyfarfodydd y LDP. Cadarnhaodd yr
Uwch Swyddog Cynllunio y byddid yn ymchwilio i’r holl faterion pan fyddai’r
cais cynllunio manwl yn dod i law. Unwaith y byddent yn gwybod y manylion o ran
nifer a maint y tai etc, byddai’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Cynllunio. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y
dylid mabwysiadu’r Brîff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer Cae Ffyddion,
Dyserth gyda’r newidiadau oedd yn cael eu hargymell, ar gyfer penderfynu
ceisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio. PLEIDLAIS: DROS (mabwysiadu)
– 13 YMATAL – 1 YN ERBYN (peidio
â mabwysiadu) – 3 PENDERFYNWYD fod
Aelodau’n cytuno i fabwysiadu’r Brîff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer Cae
Ffyddion, Dyserth oedd ynghlwm fel Atodiad 1, gyda’r newidiadau oedd yn cael eu
hargymell, ar gyfer penderfynu ceisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio. |
|
CYHOEDDWYD YR ADRODDIAD O DAN ADRAN 21 DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU) 2005 PDF 75 KB Cyhoeddwyd yr
Adroddiad o dan adran 21 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005
(Cyfeirnod yr Achos: 201400990) (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Datblygu Adroddiad a gyhoeddwyd o dan Adran 21 Deddf Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cyfeirnod yr Achos 201400990) (wedi’i
gylchredeg yn flaenorol). Roedd Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) wedi cyflwyno adroddiad ymchwilio fel
rhybudd i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. Roedd y rhan gyntaf yn rhoi crynodeb
o’r adroddiad ymchwilio ac roedd yn ddi-enw. Rhan 2 oedd ail ran yr adroddiad
ac roedd yn dadansoddi canfyddiadau ac argymhellion y PSOW yn fwy manwl. PLEIDLAIS: Cafwyd
pleidlais codi dwylo oedd yn unfrydol o blaid derbyn yr argymhelliad yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD
bod yr Aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad cryno yn Atodiad A a’r sylwadau a
wnaed ar argymhellion a) i c) yn yr adroddiad. |
|
PENDERFYNWYD
o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972 y dylid cau allan y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail ei bod yn
debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
mharagraffau 12, 13, 14, 16 ac 18a o Ran 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol
1972. |
|
CYHOEDDWYD YR ADRODDIAD O DAN ADRAN 21 DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU) 2005 Cyhoeddwyd yr
Adroddiad o dan adran 21 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005
(Cyfeirnod yr Achos: 201400990)
(copi i ddilyn). Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Gyfreithiwr - Cynllunio a Phriffyrdd Ran 2 o’r adroddiad. Eglurodd y
Rheolwr Datblygu gynnwys yr adroddiad ymchwiliad perthnasol a gyhoeddwyd o dan
Adran 21 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Cynhaliwyd
trafodaeth fanwl ar y materion o dan Adran 21 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus (Cymru) 2005. PLEIDLAIS: O BLAID - 15 YMATAL - 0 YN ERBYN - 0 PENDERFYNWYD: (a)
Aelodau yn nodi ac yn derbyn argymhellion
OGCC a) i c) gan ystyried y mesurau y cytunwyd arnynt ac a weithredwyd gan
Swyddogion. (b)
Ar ôl ystyriaeth y materion a chyngor yn
yr adroddiad hwn bod y Cyngor yn cadarnhau na fydd yn ceisio dirymiad ffurfiol
y caniatâd cynllunio (c)
Aelodau'n cytuno i gyfarwyddo ymhellach y
Prisiwr Dosbarth i asesu effaith unrhyw ddatblygiad a gwblhawyd (yn destun cais
materion a gadwyd yn ôl yn gysylltiedig â'r caniatâd amlinellol) ar eiddo yr
achwynwyr, o fewn mis o gwblhau'r datblygiad, a thalu swm iddi sy'n cyfateb i'r
gwahaniaeth mewn gwerth cyn ac ar ôl y datblygiad. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.35 p.m. |