Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar y pwynt hwn,
anfonwyd dymuniadau gorau at y Cynghorwyr Ian Armstrong a Peter Owen. |
|
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio, a chyhoeddodd gyda phleser mawr
bod Cyngor Sir Ddinbych wedi cael ei ganmol yn ddiweddar gan y Sefydliad Cynllunio
Trefol Brenhinol (RTPI) yng Ngwobrau Cynllunio Cymru 2015. Roedd
y gymeradwyaeth yn cydnabod y gwaith o adnewyddu Adeiladau Rhestredig Gradd II,
Plas Penddeuglawdd yn 37-39 Heol Pendyffryn, Y Rhyl. Mae'r
adeiladau, lle credir i un ohonynt i fod yr adeilad hynaf yn y Rhyl, yn dyddio
o hanner cyntaf yr 17eg ganrif. Rhestrwyd y ddau i fod mewn cyflwr gwael
gyda rhif 37 mewn cyflwr yn rhannol adfeiliedig. Wedi'i
leoli mewn stryd breswyl maestrefol ac yn difetha’r olygfa ers blynyddoedd
lawer, roedd yr adeiladau ar restr “Safleoedd Hyll” y Cyngor Corfforaethol, ar
Gofrestr "Adeiladau Rhestredig mewn Perygl" a Chofrestr Cartrefi Gwag
y Cyngor. Mynegodd y
Cadeirydd ei werthfawrogiad i'r holl swyddogion sy'n ymwneud â'r cynllun
rhagorol a llongyfarchodd bawb. Derbyniodd y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Dystysgrif a chyflwynodd Phil
Ebbrell, Pensaer Cadwraeth y Cyngor.
Hysbysodd Phil
Ebbrell yr Aelodau fod trafodaethau gyda pherchennog 37-39 Heol Pendyffryn, Y
Rhyl wedi cymryd lle i ddechrau ar ddiwedd y 1990au gan ei fod yn wag a bod yr
adeilad wedi dirywio. Yn y pen draw, cafodd yr eiddo ei werthu i
ddatblygwr lleol. Roedd Tai Gogledd Cymru yn cymryd rhan ac wedi
tynnu sylw at becyn cyllid i gynorthwyo
gyda'r prosiect. Crëwyd chwe eiddo dwy ystafell wely ar y safle. Mae
tri yn yr adeiladau rhestredig, gyda thri byngalo newydd yn cwrdd â safonau
cartrefi gydol oes, ac anheddau hygyrch i gadeiriau olwyn ar y tir. Mae
gan y Rhyl un o'r ardaloedd â’r angen mwyaf am dai yn Sir Ddinbych ac mae'r
datblygiad hollbwysig hwn wedi darparu tai fforddiadwy 2 ystafell wely o
ansawdd uchel ar gyfer pobl leol sydd â chysylltiad lleol. Roedd y prosiect
wedi arwain at ddefnydd cynhyrchiol o adeilad rhestredig adfeiliedig sy'n
diwallu anghenion lleol am dai fforddiadwy ac arbenigol ac wedi hybu ymdeimlad
o falchder dinesig. Llongyfarchodd y
Cynghorwyr Pat Jones a Meirick Lloyd Davies bawb a gymerodd ran yn y prosiect
gan ei fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r ardal. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Huw
Williams – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 7 ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 11 Tachwedd 2015
(copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2015. Yn y fan hon,
dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei fod yn teimlo dylai pob Aelod eu
priodoli i drafodaethau o fewn y cyfarfod. Nodwyd
y sylw hwn. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2015 fel cofnod
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-12) Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni
glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â cheisiadau
penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau,
cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 25/2015/0636/ - TIR I'R DWYRAIN O LYN BRENIG, NANTGLYN PDF 113 KB Ystyried cais i
adeiladu a gweithredu fferm wynt sy'n cynnwys un ar bymtheg o dyrbinau gwynt
ynghyd â newidyddion, traciau mynediad, offer switsio ar y safle ac adeilad
mesuryddion, dau dŵr anemometreg a'r seilwaith cysylltiedig ar gyfer
adeiladu a gweithredu (cynllun diwygiedig a weithredwyd yn rhannol dan
gyfeirnod caniatâd cynllunio 25/2007/0565) ar dir i’r dwyrain o Lyn Brennig,
Nantglyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyried cais i
adeiladu a gweithredu fferm wynt sy'n cynnwys un ar bymtheg o dyrbinau gwynt
ynghyd â newidyddion, traciau mynediad, offer switsio ar y safle ac adeilad
mesuryddion, dau dŵr anemometreg a'r seilwaith cysylltiedig ar gyfer
adeiladu a gweithredu (cynllun diwygiedig a weithredwyd yn rhannol dan
gyfeirnod caniatâd cynllunio 25/2007/0565) ar dir i’r dwyrain o Lyn Brenig,
Nantglyn. Mr G Bibby (Yn erbyn) - siaradodd dros drigolion
lleol a chyfeiriodd at hanes cynllunio blaenorol a gwrthwynebiadau yn seiliedig
ar dirwedd, effaith weledol a lles. Mr. J. Woodruff (o blaid) - cadarnhaodd fod y cynllun
wedi dechrau dan ganiatâd blaenorol a defnyddiwyd contractwyr lleol. Dadleuodd
effaith y cynnig i gynyddu uchder brig y tyrbin o 100 metr i 110 metr fel
anweladwy. Trafodaeth Gyffredinol – roedd y Swyddog Cynllunio (IW) yn crynhoi yr
adroddiad gan dynnu sylw at faint o wybodaeth a sylwadau a dderbyniwyd. Dywedodd
fod yr adroddiad yn ceisio penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio, ar y cais
cynllunio uchod a ystyriwyd yn y Pwyllgor ar 11 Tachwedd 2015, pan benderfynodd
Aelodau i wrthod caniatâd yn groes i argymhelliad y Swyddog. Cyfeirwyd y cais
yn ôl i'r Pwyllgor gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn unol â'r
Cynllun Dirprwyo cyfredol, ac ar ôl dilyn asesiad manwl ystyriwyd y byddai
cyflwyno’r seiliau dros wrthod yn peri risg sylweddol o ddyfarnu costau yn
erbyn y Cyngor mewn unrhyw apęl ddilynol. Roedd y Cyngor
wedi gofyn am gyngor technegol annibynnol ar y dirwedd a sŵn nad oedd yn
rhoi unrhyw sail dros wrthod ym marn y swyddogion. Roedd yr
adroddiad yn darparu gwybodaeth gefndir berthnasol i’r Aelodau a'r rheswm pam
fod Swyddogion yn gofyn i ailystyried y cais. Siaradodd y
Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) yn erbyn y cais a chynigiodd y dylid gwrthod
y cais ar y cynnydd ar effaith andwyol mwynder gweledol, ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Stuart Davies. Trafododd yr
Aelodau y cais a’r ystyriaethau cynllunio ymhellach a mynegwyd pryderon
difrifol dros effeithiau ychwanegol y cynnig ar wahân i'r rhai a grëwyd gan y
caniatâd presennol. Teimlai nifer o aelodau nad oeddent yn
gallu cefnogi'r cais o ystyried yr effaith niweidiol pellach ar y gymuned o
ganlyniad. Nid oedd aelodau wedi eu sicrhau y byddai'r
datblygiad arfaethedig yn arwain at lefelau sŵn derbyniol a chodwyd
pryderon pellach ynglŷn ag effaith y datblygiad arfaethedig ar iechyd a
lles. Mewn ymateb i
drafodaeth gofynnodd swyddogion i aelodau, fel yn y cyfarfod Cynllunio
diwethaf, i ystyried mai'r prif wahaniaeth i'r caniatâd cynllunio presennol
oedd cynnydd yn y dimensiynau tyrbin sy'n cynnwys cynnydd o uchder blaen llafn
o 10 metr. Roedd yn debygol y byddai angen i wrthodiad gael
ei amddiffyn mewn ymchwiliad cyhoeddus. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Joe Welch bod y cais yn cael ei wrthod, yn groes i
argymhelliad y Swyddog, ar sail effaith cynyddol ac arwyddocaol ar amwynder
gweledol. Eiliodd y Cynghorydd Stuart Davies y cynnig. PLEIDLAIS: O BLAID - 3 YN ERBYN - 20 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD bod
caniatâd yn cael ei WRTHOD, yn groes
i argymhelliad y Swyddog, ar sail effaith cynyddol a sylweddol ar amwynder
gweledol. Yn y fan hon,
gofynnodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i ddau aelod o'r Pwyllgor a
fyddai'n barod i gynrychioli'r Pwyllgor os yw'r mater yn cael ei apelio -
Cytunodd y Cynghorydd Joe Welch a Stuart Davies. |
|
Ar y pwynt hwn (10.35 am) cafwyd toriad Ailddechreuodd y cyfarfod am 10:50am. |
|
Cafodd yr eitem
ganlynol ei symud ymlaen ar yr Agenda ar gais yr Aelod Lleol, y Cynghorydd
Cefyn Williams, gan y byddai angen iddo adael cyn ddiwedd y cyfarfod. |
|
Ystyried
adroddiad gyda manylion am amodau y bwriedir eu rhoi at ganiatâd cynllunio ar
gyfer un tyrbin gwynt yn Tyfos, Llandrillo, Corwen a roddwyd yng nghyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio mis Tachwedd 2015 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad i geisio penderfyniad yr Aelodau ar amodau y bwriedir eu rhoi at
Ganiatâd Cynllunio ar gyfer un tyrbin gwynt yn Tyfos, a roddwyd yng nghyfarfod
y Pwyllgor Cynllunio mis Tachwedd 2015. Roedd y mater
wedi ei ddwyn ger bron yr Aelodau ar gais y Pwyllgor ym mis Tachwedd 2015, gan
fod y caniatâd yn groes i argymhelliad y Swyddog Cynllunio, ac nid oedd unrhyw
amodau i'r Aelodau ystyried. Nid trafod
rhinweddau’r penderfyniad oedd pwrpas yr eitem hon ond i drafod addasrwydd yr
amodau ynghlwm wrth y caniatâd. Cadarnhaodd y
Swyddog Cynllunio bod yr amodau yn amodau safonol tebyg i'r rhai a osodwyd ar
ganiatâd tyrbin sengl a ganiatawyd yn flaenorol. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Cefyn Williams bod yr amodau yn yr adroddiad yn
cael ei dderbyn. Eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes. PLEIDLAIS: O BLAID - 25 YN ERBYN - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau'n cytuno i osod amodau ar ganiatâd cynllunio 07/2015/0414 fel y'i
drafftiwyd, a bod y Dystysgrif Penderfyniad yn cael ei ryddhau. |
|
Ystyried cais am
osod un tyrbin gwynt gyda thrac mynediad cysylltiedig, sylfaen, llawr caled i’r
craen a chabinet cadw offer ar dir gerllaw Coedwig Clocaenog, i'r Gorllewin o
Tan y Creigiau, Clawddnewydd, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyried cais i
osod un tyrbin gwynt gyda thrac mynediad cysylltiedig, sylfaen, llawr caled i’r
craen a chabinet cadw offer ar dir gerllaw Coedwig Clocaenog, i'r gorllewin o
Tan y Creigiau, Clawddnewydd, Rhuthun. Mr P Fusco - (O blaid) - esboniodd y bu'n gweithio
fel Cynllunydd ar gyfer Constantine Wind Energy. Byddai'r
tyrbin gwynt yn 15 metr yn fyrrach na'r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol a oedd
yn golygu gostyngiad sylweddol yn hepgoriadau sŵn. Esboniodd Mr Fusco
manteision y tyrbin gwynt sengl ar y safle. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Rhys Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliodd
y Cynghorydd Hugh Williams y cynnig. PLEIDLAIS: O BLAID - 24 YN ERBYN - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 40/2015/0199/PF - TIR YNG NGHASTELL BODELWYDDAN, ENGINE HILL BODELWYDDAN, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
adeiladu atgynhyrchiad o ffosydd Rhyfel Byd Cyntaf ar dir yng Nghastell
Bodelwyddan, Engine Hill, Bodelwyddan, Y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Huw Williams fuddiant personol gan ei fod yn ffrindiau ar facebook
gyda Mr Eyton Jones]. Ystyried cais i
adeiladu atgynhyrchiad o ffosydd Rhyfel Byd Cyntaf ar dir yng Nghastell
Bodelwyddan, Engine Hill, Bodelwyddan, Y Rhyl. Mr P Eyton Jones (O blaid) - eglurodd gefndir y cais. Mae'r
cynnig wedi cael ei datblygu yn dilyn derbyn grant cyfalaf oddi wrth Gronfa
Grantiau Cyfamod Cymunedol Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mynegodd
Mr Eyton Jones ei siom ynglŷn ag amod 3 sy’n cynnwys briff gwylio archeolegol,
gan fod hynny yn ei farn ef yn ddiangen. Dadl cyffredinol - Byddai'r prosiect yn coffau 100 mlynedd ers y
Rhyfel Byd Cyntaf. Byddai'r ffosydd hefyd ar agor ar gyfer y Diwrnod
Lluoedd Arfog ar gyfer Gogledd Cymru a fyddai'n digwydd ym mis Mehefin 2016. Siaradodd y
Cynghorydd Alice Jones (Aelod Lleol) o blaid y cais, gan gynnwys amod 3,
eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies. Trafododd yr
Aelodau y cais a’r amodau ymhellach.
Cynigiodd y Cynghorydd Stuart
Davies fod amod 3 yn cael ei symud fel amod i'r cais ac i Archifydd y Sir i fod
yn gysylltiedig â'r ffosydd. Eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes. Eglurodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y byddai angen cynnal
pleidlais ynghylch y newid arfaethedig a oedd i ddiddymu amod 3. PLEIDLAIS: O BLAID - 10 YN ERBYN - 15 YMATAL - 0 Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd bod mwyafrif yr Aelodau
wedi pleidleisio i gynnwys yr Amod 3 gwreiddiol ar gyfer y cais. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Alice Jones bod y cais yn cael ei dderbyn. Eiliwyd
gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies. PLEIDLAIS: O BLAID - 23 YN ERBYN - 1 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Ystyried cais i
drosi swyddfeydd / gweithdai i ddarparu 19 o fflatiau hunangynhwysol. (ii) Codi bloc
o 6 fflat hunangynhwysol (yn cynnwys 2 Uned
Fforddiadwy). (iii) Codi 13 Uned Dechrau Cyflogaeth. (iv) Darparu Lle
Parcio Cysylltiedig, gofod amwynder a hamdden ar hen Iard Adeiladwyr Anglia,
Newmarket Road, Dyserth, Y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: I ystyried cais i drawsnewid swyddfeydd / gweithdai i
ddarparu (i) 19 o fflatiau hunangynhwysol. (ii) Codi bloc o 6 fflat
hunangynhwysol (yn cynnwys 2 Unedau Fforddiadwy). (iii) Codi 13 o Unedau
Cyflogaeth Cychwynnol a (iv) Darparu
Parcio Cysylltiedig, gofod amwynder a hamdden yn hen Iard Adeiladwyr Anglia a’r
Meysydd Parcio cyfagos, Newmarket Road, Dyserth, Y Rhyl. Mr K Prydderch - (Yn erbyn) - siaradodd ar ran y
"Grŵp Peidiwch â Dinistrio Dyserth" a chyfeiriodd at
amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mynegwyd pryder ynghylch newid yn yr
hinsawdd a faint o law a allai achosi llifogydd. Gofynnwyd
am brofion ymdreiddio Asesu Llifogydd. Mr G Kenyon - (O blaid) - eglurodd ei fod yn
gweithio i Kenyon Planning ym Manceinion
ac wedi bod yn gweithredu ar ran Walsh Investments yn y mater hwn. Mae'r
safle wedi bod ar werth am y pum mlynedd diwethaf heb unrhyw diddordeb ac,
felly, byddai'r datblygiad yn golygu manteision sylweddol i'r cyhoedd fel yr
oedd Safle Maes Brown. Trafodaeth Gyffredinol – roedd y Swyddog Cynllunio (IW) yn crynhoi yr
adroddiad gan dynnu sylw at faint o wybodaeth a sylwadau a dderbyniwyd. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Hugh Irving ei fod wedi mynychu'r cyfarfod safle ar ran y Cynghorydd
Peter Owen a oedd yn cefnogi’r datblygiad. Mynegodd
yr Aelodau bryderon ynglŷn â diogelwch yr A5151 (Ffordd Newmarket). Cadarnhaodd
yr Uwch Beiriannydd, Priffyrdd, bod un ddamwain wedi’i recordio a bod arolwg
cyflymder wedi ei gynnal a bod amodau wedi’u hawgrymu i wella gwelededd y
gyffordd. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y cais yn cael ei
ganiatáu. Eiliodd y Cynghorydd Barry Mellor y cynnig. PLEIDLAIS: O BLAID - 20 YN ERBYN - 4 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 46/2015 / 0765 / PF - TIR YNG NGWESTY BOD ERW, Y ROE, LLANELWY. PDF 5 KB Ystyried cais am
newid defnydd tir ar gyfer lleoli unedau storio diogel ar dir yng Ngwesty Erw
Bod ,Y Roe, Llanelwy (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyried cais i
newid defnydd tir ar gyfer lleoli unedau storio diogel ar dir yng Ngwesty Erw
Bod ,Y Roe, Llanelwy. Mr Anthony Davies
- (O blaid) - esboniodd y byddai'r
cais yn un dros dro am 3 blynedd ar gyfer unedau storio diogel. Mae
lleoliad gosod yr unedau storio ynghyd
â’r maint a’r disgrifiad wedi’u cadarnhau. Amseroedd mynediad i'r unedau fyddai
8am – 7pm. Cadarnhaodd Mr Davies y byddai'n hapus i weithio
gyda Swyddogion Cynllunio petai'r cais yn llwyddiannus. Dadl Gyffredinol - Gofynnodd y Cynghorydd Bill Cowie (Aelod Lleol) os
yw'r cais yn cael ei ganiatáu i’r swyddogion ymgynghori ef ar yr amodau i'w
hychwanegu. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bod y cais yn cael ei
ganiatáu, yn groes i argymhelliad y swyddog, gan fod y lleoliad ym Mholisi RD1
a dim ond am gyfnod o 3 blynedd.
Eiliodd y Cynghorydd Peter
Evans y cynnig. PLEIDLAIS: O BLAID - 20 YN ERBYN - 3 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod
y cais yn cael ei GANIATÁU yn groes i
Argymhelliad y Swyddog gan y byddai'r cais yn un dros dro am gyfnod o dair
blynedd. Swyddogion i ddrafftio
amodau i'w gosod ar y caniatâd. |
|
Ystyried cais am
gais cynllunio llawn i newid defnydd tir ar gyfer lleoli 26 carafán gan gynnwys
mynediad, lle parcio a gwaith
cysylltiedig, ac adeiladu 17 o anheddau ac addasu adeiladau presennol yn 2
annedd ym Mharc Carafanau Deva Plas, Ffordd Talargoch, Gallt Melyd, Prestatyn
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais wedi’i
dynnu'n ôl. |
|
CAIS RHIF 43/2015/0985/PF - 96 STRYD FAWR, PRESTATYN PDF 5 KB Ystyried cais am
newid defnydd y llawr gwaelod i ddefnydd bwyty dosbarth A3 a throsi’r lloriau
uchaf yn 3 fflat hunangynhwysol yn 96 Stryd Fawr, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyried cais am
newid defnydd y llawr gwaelod i ddefnydd bwyty dosbarth A3 a throsi’r lloriau
uchaf yn 2 fflat hunangynhwysol yn 96 Stryd Fawr, Prestatyn. Dadl Cyffredinol - Y Cynghorydd Hugh Irving (Aelod Lleol) yn
cefnogi'r cais, yn enwedig gan fod yr eiddo wedi bod yn wag a bod yr adeilad yn
dirywio. Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i ganiatáu'r cais. Cytunodd
y Cynghorydd Anton Sampson ond gofynnodd bod amod yn cael ei gynnwys fel bod yr
eiddo yn parhau i fod yn ddosbarth A3, cafodd hynny ei gefnogi gan y Cynghorydd
Bob Murray. Eglurodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd wrth yr Aelodau y byddai'n
rhaid iddynt bleidleisio ar y diwygiad i gyfyngu'r cais i ddefnydd bwyty yn
unig. PLEIDLAIS: O blaid ( i
ychwanegu cyfyngiad) - 11 Yn erbyn (ar
gyfer A3 hollgynhwysfawr yn unig) - 13 Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y cais yn cael ei
ganiatáu. Eiliodd y Cynghorydd Anton Sampson y cynnig. PLEIDLAIS: O BLAID - 18 YN ERBYN - 5 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R defnydd A3 hollgynhwysol,
yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2015/0359/PF – 53 FFORDD BRIGHTON, Y RHYL PDF 38 KB Ystyried cais am
godi 8 fflat, newidiadau i'r trefniadau mynediad presennol a chael gwared ar 7
o goed sy'n destun Gorchymyn Gwarchod Coed yn 53 Ffordd Brighton, Y Rhyl (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyried cais i
godi 8 fflat, newidiadau i'r trefniadau mynediad presennol a chael gwared ar 7
o goed sy'n destun Gorchymyn Gwarchod Coed yn 53 Ffordd Brighton, Y Rhyl. Diweddariadau Cyffredinol: Hysbysodd
y Cynghorydd Barry Mellor (Aelod Lleol) yr Aelodau ei fod o blaid y datblygiad
arfaethedig, ond nid oedd yn fodlon â cynllun y ffasâd sy'n wynebu'r ffordd. Mynegodd
y Cynghorydd Win Mullen James ei bod hithau’n cytuno â’r Cynghorydd Mellor. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Barry Mellor bod y cais yn cael ei wrthod, yn groes
i argymhelliad y Swyddogion, ar y sail nad oedd y datblygiad arfaethedig yn
parchu ffurf, cymeriad a dyluniad yr adeiladau cyfagos a’r amgylchedd
hanesyddol lleol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeanette
Chamberlain Jones. PLEIDLAIS: O BLAID - 9 YN ERBYN - 13 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD GWRTHOD y
caniatâd, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail nad oedd y datblygiad
arfaethedig yn parchu ffurf, cymeriad a dyluniad adeiladau cyfagos a'r
amgylchedd hanesyddol lleol. |
|
Ystyried adroddiad yn manylu ar y Telerau ar gyfer cytundeb cyfreithiol
Adran 106 arfaethedig ar gyfer Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan (KSS)
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Datblygu yr adroddiad a rhoddodd wybod i'r Aelodau am fanylion
Penawdau'r Telerau ar gyfer y Cytundeb Cyfreithiol Adran 106 arfaethedig ar
gyfer Safleoedd Strategol Allweddol Bodelwyddan (KSS). Gofynnodd
am gytundeb yr Aelodau i ganiatáu i Swyddogion i gwblhau Cytundeb Cyfreithiol
Adran 106 ar sail y telerau a gyflwynwyd, er mwyn gallu cyhoeddi'r Caniatâd
Cynllunio Amlinellol ac amodau perthnasol. Diolchodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Raymond Bartley i’r Rheolwr Datblygu am yr holl
wybodaeth a ddarparwyd a’r briffio cyn-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd
2015. Eglurodd y
Cynghorydd Alice Jones (Aelod Lleol) na allai gefnogi'r argymhelliad yn ei
ffurf bresennol ac y byddai'n gofyn iddo gael ei ddiwygio. Cadarnhaodd
yr Aelod Lleol y byddai'n cyflwyno ei hachos yn llawn yn dilyn dadl gan
Aelodau. Cadarnhawyd y
byddai amodau yn cael eu gosod ar y caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y
datblygiad. Mae cyfleusterau cymunedol yn cael eu darparu fel
y nodwyd yn yr adroddiad, a chadarnhawyd y byddai cyfraniad o £50,000 yn cael
ei dalu tuag at welliannau i'r Ganolfan Gymunedol bresennol. O ran tir
cyflogaeth â gwasanaeth, byddai'r datblygiad yn darparu 26 hectar o dir
cyflogaeth wedi’i gategoreiddio fel deunyddiau B1, B2 a B8 a fyddai'n cynnwys: ·
unedau
swyddfeydd micro ar gyfer busnesau
newydd gychwyn i ddenu a chadw Cwmnïau yn Sir Ddinbych ·
swyddfeydd
hunangynhwysol ·
Unedau
warws / uwch-dechnoleg / gweithdai gyda chynnwys a manyleb swyddfa atodol
uchel, a ·
defnydd
warysau / B8. Cadarnhaodd y
Rheolwr Cynllunio a Pholisi Datblygu fod Cyngor Tref Bodelwyddan wedi bod yn
cymryd rhan drwy gydol y broses gyfan ac roedd yr aelodau eisoes wedi cytuno ar
y Briff drafft yn dilyn y broses ymgynghori. Cafwyd trafodaeth
hir lle bu’r Aelod Lleol yn archwilio’r adroddiad a ddarparwyd. Cadarnhaodd
y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wrth yr aelodau bod 12 mis o drafod
wedi digwydd a bod swyddogion wedi trafod y datblygiad gorau a'r fargen orau. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alice Jones (Aelod Lleol) bod yr argymhelliad yn
cael ei gytuno, ond bod amod ychwanegol yn cael ei gynnwys. Eiliodd
y Cynghorydd Brian Blakeley y cynnig. PLEIDLAIS: O BLAID - 18 YN ERBYN - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod
- ·
Aelodau'n cytuno i benawdau’r telerau
arfaethedig ar gyfer Cytundeb Cyfreithiol Adran 106 fel y nodir yn y tabl yn
unol â phenderfyniad blaenorol y Pwyllgor Cynllunio (ac eithrio amnewid y
Cyfraniad Cyfleuster Cymunedol yn lle Cyfraniad Greenway Abergele). Gofynnir unwaith eto i Aelodau ddirprwyo'r
gwaith terfynol (gydag unrhyw fân newidiadau) ac ar ôl hynny cwblhau'r cytundeb
i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. Yn ogystal bod yr Aelodau'n caniatáu
rhyddhau'r Caniatâd Cynllunio Amlinellol (â'r amodau diweddaraf perthnasol) ar
gwblhau Cytundeb Cyfreithiol Adran 106 yn derfynol. ·
Bod "Grŵp Cynnydd mewn Cynllunio
Cymunedol” yn cael ei sefydlu i weithio ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych i lunio
Polisi Bodelwyddan yn gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Ardal a allai arwain
datblygiad ar draws yr anheddiad presennol yn ogystal â dyraniad estyniad
trefol y KSS, i fonitro a gwerthuso a dylanwadu ar wario arian sy’n bodoli
eisoes a cheisio cyllid amgen er mwyn sefydlu dyheadau'r gymuned leol ac i
wella'r budd a drafodwyd eisoes ac i weithio gyda'r gymuned i gyflawni
disgwyliadau trigolion er budd Iechyd a Lles holl drigolion y dref. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.30pm. |