Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorwyr Bill
Cowie, Richard Davies, Bob Murray, Peter Owen, Merfyn Parry, Arwel Roberts a
Bill Tasker |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd
Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitemau rhif 5 ac 8 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Williams – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2015
(copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2015. TTudalen 12, paragraff olaf - mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd Stuart Davies, cadarnhaodd swyddogion fod llythyr i
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cael ei ddrafftio ac y byddai'n cael
ei anfon ar ôl ymgynghori â'r Cadeirydd. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2015 fel cofnod
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-10) - Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth a gyflwynwyd yn
hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â
cheisiadau penodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 07/2015/0414/PFT - TYFOS, LLANDRILLO, CORWEN PDF 37 KB Ystyried cais i
godi tyrbin gwynt gydag uchder tŵr tyrbin o
30.5 metr (48.01 metr i flaen y llafn), blwch rheoli a gwaith cysylltiol yn
Nhyfos, Llandrillo, Corwen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad
personol gan ei fod wedi mynychu cyfarfodydd ‘Grŵp Pylon the Pressure’. Datganodd y Cynghorydd Huw Williams
gysylltiad personol gan mai’r siaradwr cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon oedd
Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbedr DC ac roedd ef hefyd yn aelod o’r cyngor
hwnnw.] Roedd cais wedi’i gyflwyno i godi un tyrbin gwynt
gydag uchder tŵr tyrbin o 30.5 metr (48.01 metr i flaen y llafn), blwch
rheoli a gwaith cysylltiol yn Nhyfos, Llandrillo, Corwen. Siaradwyr Cyhoeddus - Mr. A. Jedwell (Yn erbyn) - esboniodd y byddai lleoliad y tyrbin yn ymwthiol ac yn
niweidiol i'r dirwedd a byddai'n cael effaith andwyol ar yr economi ymwelwyr a
thrigolion cyfagos. Ms S. Jones (o
blaid) - manylodd gysylltiadau'r teulu â'r fferm dros bedair cenhedlaeth
a'r angen i arallgyfeirio’r fferm er mwyn sicrhau hyfywedd y busnes ar gyfer y
genhedlaeth nesaf. Byddai'r cynllun yn caniatáu i fuddsoddiad gael ei wneud ar y fferm a oedd
yn darparu cyflogaeth a chefnogaeth i fusnesau lleol eraill. Trafodaeth Gyffredinol – Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio (IW) yr
adroddiad a'r angen i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhinweddau arallgyfeirio fferm
yn erbyn yr effaith leol a lledaeniad cynyddol o dyrbinau. Yn yr achos hwn, roedd swyddogion yn
argymell bod y cais yn cael ei wrthod. Cyfeiriodd y Cynghorydd Cefyn
Williams (Aelod Lleol) at y penderfyniad anodd i'w wneud a'r angen i aelodau
ffurfio eu barn eu hunain. Roedd yn teimlo y byddai'r effaith weledol yn fychan iawn o ystyried y lleoliad
a oedd y tu allan i'r AHNE ac ardaloedd Parc Cenedlaethol. Yn ystod y drafodaeth pwysleisiwyd
pwysigrwydd y diwydiant ffermio ynghyd â rôl ffermio i gadw a gwella harddwch
naturiol y tirlun. Tynnwyd sylw at y trafferthion sy'n wynebu'r gymuned ffermio, gan gynnwys
colli cymorthdaliadau fferm a'r angen ar gyfer prosiectau arallgyfeirio er mwyn
sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol. Nododd yr aelodau fod y safle y tu allan i ffiniau tirweddau statudol ac
sy’n bwysig yn genedlaethol ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad gan Gydbwyllgor
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu Gyfoeth Naturiol Cymru. Wrth ystyried effaith gronnus bosibl
nododd yr aelodau y byddai cymorthdaliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyrbinau
yn y dyfodol yn cael ei dynnu'n ôl a fyddai'n debygol o arwain at lai o
geisiadau. O ganlyniad, mynegwyd llawer o gefnogaeth i'r prosiect arallgyfeirio ar y
fferm oedd yn destun y cais. Roedd ymateb Swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r
Aelodau fel a ganlyn:- ·
ystyriodd
y swyddogion y byddai'r tyrbin yn ychwanegu at y lledaeniad cynyddol o
ddatblygiadau gwynt yn yr ardal yn arwain at effaith gronnol annerbyniol ar y
dirwedd – roedd effaith gronnus yn ystyriaeth cynllunio perthnasol ·
Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi sylwadau yn
bennaf ar ardaloedd statudol ac yn tueddu i ohirio i'r awdurdod lleol ar
effaith ar y dirwedd leol fel yn yr achos hwn ·
byddai'r
tyrbin yn cael ei leoli y tu allan i Ardal Chwilio Strategol dynodedig ar gyfer
datblygu ffermydd gwynt, ac ·
tynnu
sylw at yr angen i ystyried ystyriaethau cynllunio perthnasol ac ystyriaethau
nad ydynt yn bersonol wrth benderfynu ar y cais. Cynnig - Trwy roi sylw dyledus i'r effaith ar y
tirlun/gweledol, materion twristiaeth ac effaith cronnus posibl, roedd y
Cynghorydd Cefyn Williams yn credu bod yr achos dros arallgyfeirio ar ffermydd
yn gorbwyso pryderon cynllunio eraill a chynigiodd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd
Huw Hilditch-Roberts fod y cais yn cael ei ganiatáu. Dywedodd y swyddogion pe bai
aelodau'n penderfynu caniatáu'r cais, y dylai amodau cynllunio sy’n cael eu
cymhwyso ar gyfer y caniatâd gael eu cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor i'w
cymeradwyo. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 14 GWRTHOD - 6 ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 08/2015/0792/PO - TIR SY’N GYFFINIOL Â HAFOD WEN, CYNWYD, CORWEN PDF 37 KB Ystyried cais i
ddatblygu 0.09 hectar o dir drwy godi 1 annedd (cais amlinellol gyda phob mater
wedi eu cadw’n ôl) ar dir sy’n gyffiniol â Hafod Wen, Cynwyd, Corwen (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cais ei gyflwyno i ddatblygu 0.09 hectar o
dir drwy godi 1 annedd (cais amlinellol gyda phob mater wedi eu cadw’n ôl) ar
dir sy’n gyffiniol â Hafod Wen, Cynwyd, Corwen. Siaradwyr Cyhoeddus - Mr P. Lloyd (o
blaid) - soniodd am fanteision busnes gwarchod plant yr ymgeisydd i’r
gymuned ehangach a chyfeiriodd at nifer o gyfeiriadau polisi sy'n cefnogi
datblygiadau defnydd cymysg, busnesau bach ac adeiladau newydd y tu allan i
ffiniau datblygu. Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Cefyn Williams
(Aelod Lleol) o blaid y cais o ystyried amgylchiadau penodol yr achos a chan
gofio agosrwydd y safle i'r ffin ddatblygu. Yn ystod y drafodaeth mynegwyd
rhywfaint o gefnogaeth i'r cais o ystyried bod y busnes gwarchod plant yn ased
gwerthfawr i’r gymuned ac roedd y Cynghorydd Meirick Davies yn cymharu
amgylchiadau'r cais i un amlosgfa yng Nghefn Meiriadog a oedd wedi’i ganiatáu
yn seiliedig ar angen lleol. Codwyd cwestiynau ynghylch y defnydd busnes arfaethedig ynghyd â materion
priffyrdd a darparodd swyddogion yr ymateb canlynol i'r materion a godwyd - ·
roedd
ffiniau datblygu tai wedi eu gosod er mwyn amddiffyn aneddiadau rhag lledaenu
ac roedd safle'r cais yn disgyn y tu allan i’r ffin hwnnw ·
dau
safle wedi eu nodi ar gyfer tai o fewn y ffin datblygu yn y lleoliad hwnnw ac
roedd yn well bod y safleoedd hynny yn cael eu datblygu ·
roedd
y cais ar gyfer annedd sengl, nid busnes, ac nid oedd unrhyw sicrwydd wedi ei
roi y byddai'r eiddo'n cael ei gadw fel cyfleuster gwarchod plant am byth a
oedd wedi cyfrannu at argymhelliad y swyddog i wrthod ·
nid
oedd unrhyw faterion priffyrdd neu bryderon ynghylch rhannu mynediad ·
nid oedd amgylchiadau personol yn ystyriaethau
cynllunio perthnasol, a gall caniatáu'r cais arwain at fewnlifiad o geisiadau
cyffelyb. Cynnig - Ar ôl ystyried y byddai busnes gwarchod
plant lleol yn cael ei weithredu o'r annedd a gellid gosod amod fel y cyfryw,
ac o ystyried ei agosrwydd at y ffin ddatblygu, teimlai'r Cynghorydd Cefyn
Williams fod rhinweddau'r cais yn cyfiawnhau rhoi caniatâd yn yr achos hwn. Cynigiodd, ac eiliodd y Cynghorydd Stuart
Davies, fod y cais yn cael ei ganiatáu. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 8 GWRTHOD - 12 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 19/2015/0699/PF - GRAIG, LLANELIDAN, RHUTHUN PDF 6 KB Ystyried cais i
ddymchwel adeilad tai allan presennol sydd ynghlwm a chodi estyniad deulawr a
gwneud gwaith cysylltiedig yn Graig, Llanelidan, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cais ei gyflwyno i ddymchwel adeilad tai
allan presennol sydd ynghlwm a chodi estyniad deulawr a gwneud gwaith
cysylltiedig yn Graig, Llanelidan, Rhuthun. Mr. G. Powell (o
blaid) - eglurodd ei gysylltiadau teuluol â'r eiddo a'r rhesymeg y tu ôl
i'r cais er mwyn adnewyddu rhan o'r ffermdy er budd ei deulu a'i ddefnyddio. Hefyd amlygodd fanteision lleol o’i safle
glampio. Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Hugh Evans (Aelod
Lleol) o blaid y cais a thynnodd sylw at y dehongliad o'r Canllaw Cynllunio
Atodol Estyniadau i Annedd. Roedd yn credu bod y cynnig yn sympathetig i'r ardal leol ac adeiladau ac
roedd yn cyd-fynd â'r estyniadau i'r ddau eiddo cyfagos. Roedd hefyd yn dadlau fod yr adroddiad yn
gwrth-ddweud gan ei fod yn datgan na fyddai'r cynigion yn cael effaith
annerbyniol ar amwynder preswyl, ond roedd yn argymell gwrthod oherwydd y
byddai'r cynnig yn cael effaith andwyol ar yr adeilad a chefn gwlad lleol o’i
amgylch. Ystyriodd yr Aelodau y dyluniad, graddfa a lleoliad
yr estyniad arfaethedig ac roedd barn gymysg ynghylch y nodweddion dylunio
newydd. Cafwyd cefnogaeth i egwyddor y datblygiad, ond anghytundeb dros addasrwydd
y dyluniad. Credai rhai aelodau nad oedd y dyluniad yn cyd-fynd â chymeriad yr adeilad presennol
a'r ardal, ac y dylai cynlluniau gael eu diwygio a’u hailgyflwyno. Teimlai'r aelodau eraill bod y broses o
foderneiddio yn dderbyniol, yn enwedig o ystyried estyniadau tebyg i eiddo
cyfagos, gan dynnu sylw at yr angen am degwch a chysondeb. Er na wrthwynebwyd egwyddor y datblygiad
roedd swyddogion o’r farn nad oedd y cynigion presennol yn parchu digon o
gymeriad yr adeilad gwreiddiol ac roedd yn annerbyniol o ystyried nodweddion
traddodiadol yr eiddo. Nid oedd digon o adnoddau i wirio’r ardal o gwmpas ar gyfer caniatâd
cynllunio blaenorol ar ôl derbyn ceisiadau cynllunio. Wrth ymateb i drafodaeth amlygodd y Cynghorydd
Hugh Evans y mater o gysondeb yn ei ardal leol gydag estyniadau mwy sylweddol a
ganiateir mewn eiddo cyfagos ac ychwanegodd na fu unrhyw wrthwynebiad lleol i'r
cais. Cynnig - Roedd y Cynghorydd Stuart Davies yn
ystyried na fyddai'r estyniad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar gymeriad a
golwg yr annedd bresennol a chefn gwlad agored o'i amgylch a chynigiodd, ac
eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens, fod y cais yn cael ei ganiatáu, yn groes i
argymhelliad y swyddog. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 11 GWRTHOD - 10 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD,
yn groes i argymhelliad y swyddogion, ar y sail na fyddai'r estyniad yn cael
effaith andwyol ar gymeriad a golwg yr annedd bresennol ac o amgylch cefn gwlad
agored. Ar y pwynt hwn
(2.30pm) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
CAIS RHIF 25/2015/0636/PFWF - TIR I'R DWYRAIN O LYN BRENIG, NANTGLYN PDF 113 KB Ystyried cais i
adeiladu a gweithredu fferm wynt sy'n cynnwys un ar bymtheg o dyrbinau gwynt
ynghyd â newidyddion, traciau mynediad, offer switsio ar y safle ac adeilad
mesuryddion, dau dŵr anemometreg a'r seilwaith cysylltiedig ar gyfer
adeiladu a gweithredu (cynllun diwygiedig a weithredwyd yn rhannol dan gyfeirnod
caniatâd cynllunio 25/2007/0565) ar dir i’r dwyrain o Lyn Brennig, Nantglyn
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol gan ei fod wedi mynychu
cyfarfodydd Grŵp ‘Pylon the Pressure’.] Cafodd cais ei gyflwyno i adeiladu a gweithredu
fferm wynt sy'n cynnwys un ar bymtheg o dyrbinau gwynt ynghyd â newidyddion,
traciau mynediad, offer switsio ar y safle ac adeilad mesuryddion, dau dŵr
anemometreg a'r seilwaith cysylltiedig ar gyfer adeiladu a gweithredu (cynllun
diwygiedig a weithredwyd yn rhannol dan gyfeirnod caniatâd cynllunio
25/2007/0565) ar dir i’r dwyrain o Lyn Brenig, Nantglyn. Mrs. D. Jones (Yn
erbyn) - siaradodd dros drigolion lleol a chyfeiriodd at hanes cynllunio
blaenorol a gwrthwynebiadau yn seiliedig ar dirwedd, effaith weledol a lles. Mr. J. Woodruff (o blaid) - cadarnhaodd fod y cynllun wedi dechrau dan ganiatâd
blaenorol a defnyddiwyd contractwyr lleol. Dadleuodd y byddai effaith y cynnig i gynyddu
uchder brig y tyrbin o 100 i 110 medr yn anweladwy ond byddai'n arwain at
ddetholiad ehangach o dyrbinau i ddewis ohonynt. Trafodaeth Gyffredinol – roedd y Swyddog Cynllunio (IW) yn
crynhoi yr adroddiad gan dynnu sylw at faint o wybodaeth a sylwadau a
dderbyniwyd. Roedd yn darparu rhywfaint o gyd-destun i'r cais gan amlinellu'r caniatâd
cynllunio ar gyfer un ar bymtheg o dyrbinau gydag uchder blaen llafn o 100
metr. Roedd y cynnig ar gyfer tyrbinau 110 metr o uchder yn yr un lleoliad o fewn
yr Ardal Chwilio Strategol (SSA) a chyfeiriwyd at faint a lleoliad y tyrbinau
eraill yn yr ardal. Roedd y Cyngor wedi gofyn am gyngor technegol annibynnol ar y dirwedd a
sŵn nad oedd yn rhoi unrhyw sail dros wrthod ym marn y swyddogion. Siaradodd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) yn
erbyn y cais gan bwysleisio'r angen i ddiogelu cymunedau lleol yn yr ardal. Cyfeiriodd at y cyfoeth o wrthwynebiad a
theimlad y cyhoedd yn erbyn y datblygiad, gan amlygu bod y cynigion gwreiddiol
wedi eu diwygio i leihau uchder blaen llafn o 115 i 100 metr er mwyn cyd-fynd
â'r amgylchedd ac o bwys arbennig yn yr achos hwn. Ymhelaethodd ar y dirwedd arwyddocaol ac
effaith weledol y gwahaniaeth uchder ynghyd â phryderon ynglŷn â sŵn
a hydroleg. Mynegodd y Cynghorydd Stuart Davies bryderon difrifol ynghylch yr effaith
sŵn a fyddai yn ei farn yn sylweddol ac roedd hefyd yn cwestiynu'r angen
am dyrbinau mwy pan oedd llai o ddefnydd gweithredol o’r tyrbinau wedi’i gynnig
er mwyn rheoli sŵn. Ymatebodd y Swyddogion i’r materion a godwyd gan
ddweud - ·
roedd
angen ystyried a fyddai effaith y cynnydd arfaethedig yn uchder y tyrbin yn
annerbyniol o ystyried y caniatâd cynllunio presennol a chan gymryd i
ystyriaeth cyd-destun tyrbinau presennol eraill a rhai a ganiatawyd o fewn yr
ardal ynghyd â'r cyngor technegol ar dirwedd a sŵn ·
o ran
pryderon hydroleg, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried manylion y cais
ac wedi codi unrhyw wrthwynebiadau, fodd bynnag, byddai'n bosibl gosod amodau
ar y caniatâd os yw hynny'n briodol er mwyn rheoli effeithiau ·
roedd
effaith y sŵn yn ystyriaeth ddifrifol ac roedd ymgynghorydd sŵn
annibynnol wedi cynnal adolygiad manwl a ddaeth i'r casgliad nad oedd sŵn
yn fater hollbwysig cyn belled â bod amodau er mwyn cwrdd â safonau sŵn -
derbyniwyd bod ffermydd gwynt yn cynhyrchu sŵn ond y mater oedd a fyddai
gweithredu’r fferm wynt yn fwy na'r terfynau rhesymol ·
darparwyd
mwy o ddewis o dyrbin yn yr ystod uchder o 110 metr mewn cyferbyniad â 100
metr. Trafododd yr Aelodau y cais a’r ystyriaethau cynllunio ymhellach a mynegwyd pryderon difrifol dros effeithiau ychwanegol y cynnig ar wahân i'r rhai a grëwyd gan y caniatâd presennol. Teimlai nifer o ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
CAIS RHIF 45/2015/0786/PF – HOME BARGAINS, MARSH ROAD, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried y cais i
godi estyniad a gwneud newidiadau i uned fanwerthu bresennol a dymchwel adeilad
ym mhen deheuol y safle yn Home Bargains, Marsh Road, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cais ei
gyflwyno i godi estyniad a gwneud newidiadau i uned fanwerthu bresennol a
dymchwel adeilad ym mhen deheuol y safle yn Home Bargains, Marsh Road, y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol – Cefnogodd y Cynghorydd Pat Jones (Aelod
Lleol) y cais gan gredu y byddai'r datblygiad yn gwasanaethu'r gymuned yn dda
ac yn creu swyddi. Roedd y Cynghorydd Pete Prendergast (Aelod Lleol) hefyd yn siarad o blaid y
cais ond gofynnodd am amod ychwanegol er mwyn lleddfu pryderon y gwrthwynebwyr,
i ddarparu rhywfaint o dirlunio/sgrinio i'r ffens derfyn. Cadarnhaodd y swyddogion y gellid gosod
amod i gynllun plannu arfaethedig gael ei gyflwyno a'i gymeradwyo gan yr
awdurdod cynllunio a chadarnhawyd y byddai trefniadau cynnal a chadw safonol yn
cael eu cymhwyso ar gyfer caniatâd. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Pat Jones
argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais, a eiliwyd gan y Cynghorydd Barry
Mellor, yn amodol ar amod ychwanegol ynghylch sgrinio priodol ar gyfer y ffens
derfyn. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 17 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD
yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a phapurau
atodol ac yn amodol ar amod ychwanegol yn gofyn am gynllun plannu er mwyn
darparu sgrin ar gyfer y ffens derfyn i'w gyflwyno a'i gymeradwyo gan yr
awdurdod cynllunio cyn ei weithredu. |
|
CAIS RHIF 45/2015/0944/PF - 26 WALNUT CRESCENT, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer codi garej ym mlaen annedd yn 26 Walnut Crescent, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer codi garej ym mlaen annedd yn 26 Walnut Crescent, y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Brian Blakeley
(Aelod Lleol) o blaid argymhelliad y swyddog i ganiatáu’r cais. Nododd wrthwynebiad Cyngor Tref y Rhyl ac
un sylw arall a dderbyniwyd ond roedd o'r farn nad oedd unrhyw sail dros
wrthod. Cynnig – Roedd y Cynghorydd Brian Blakeley yn cynnig argymhelliad y swyddog i ganiatáu’r cais, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 16 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CANLLAWIAU I DDATBLYGWYR PDF 119 KB Ystyried
adroddiad yn cyflwyno canllawiau cynllunio i’w defnyddio yn y broses
cyn-ymgeisio ac wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio i’w cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd adroddiad ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyo’r
canllawiau cynllunio i’w defnyddio yn y broses cyn-ymgeisio ac wrth benderfynu
ar geisiadau cynllunio i’w cymeradwyo. Holodd y Cynghorydd Peter Evans ynglŷn â’r
rhagdybiaeth yn y nodyn cyfarwyddyd y byddai'n cael ei gymeradwyo gan y
Pwyllgor Cynllunio ac esboniodd swyddogion na fyddai'r ddogfen yn cael ei
defnyddio oni bai y byddai wedi ei chymeradwyo. Croesawodd y Cynghorydd Evans y cyfeiriad at
'Galluedd Priffyrdd' (tudalen 169) i sicrhau digonolrwydd y mynediad i'r
rhwydwaith ffyrdd a safle presennol ond ailadroddodd ei rwystredigaethau
ynghylch y diffyg isadeiledd a phroblemau priffyrdd yn safle datblygu tai
dynodedig y CDLl yng Ngallt Melyd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Alice Jones at 'yr Iaith Gymraeg a Diwylliant'
(tudalen 170) ac amlygodd yr angen am fesurau arbennig wrth ddatblygu'r Safle
Strategol Allweddol (SSA) ym Modelwyddan. Eglurodd swyddogion fod y nodyn cyfarwyddyd wedi
cael ei lunio mewn perthynas â datblygiadau y tu allan i'r Cynllun Datblygu
Lleol. Byddai adroddiad ar y cytundeb Adran 106 mewn perthynas â Safle Strategol
Allweddol Bodelwyddan yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf a dywedodd y
swyddogion y byddai'n well i’r Cynghorydd Jones godi mater yr Iaith Gymraeg a
Diwylliant bryd hynny. PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau'n cymeradwyo'r nodyn cyfarwyddyd cynllunio (yn amgaeedig fel Atodiad
1) i'w ddefnyddio yn y broses cyn gwneud cais ac wrth benderfynu ar geisiadau
cynllunio. Daeth y cyfarfod i ben am 3.45pm. |