Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O WYBODAETH Dywedwyd wrth y
pwyllgor, oherwydd materion technegol, ni fyddai'n bosibl gweddarlledu’r
cyfarfod. Roedd y system bleidleisio electronig a’r sgriniau
arddangos tu mewn i'r siambr dal yn gweithio. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr Ian Armstrong, Jeanette Chamberlain-Jones,
Meirick Davies, Peter Evans, Rhys Hughes, Alice Jones, Dewi Owens a Merfyn
Parry. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
I gadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf
2015 (amgaeir copi). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 16 Medi 2015 i’w cymeradwyo. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2015 fel cofnod
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 a 6) Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn
hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â'r
ceisiadau penodol. |
|
CAIS RHIF 23/2015/0463/PFT-TIR YN CEFN YFED, CYFFYLLIOG, RHUTHUN PDF 5 KB Ystyried cais i
osod un tyrbin gwynt 500 kw gyda both uchder o 48m a diamedr rotor o 45m a
gwaith cysylltiedig ar Dir yn Cefn Yfed, Cyffylliog, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i osod un tyrbin gwynt 500 kw gyda
both uchder o 48m a diamedr rotor o 45m a gwaith cysylltiedig ar Dir yn Cern
Yfed, Cyffylliog, Rhuthun. Siaradwyr Cyhoeddus - Mrs. J. Williamson (Yn erbyn) – Roedd yn gwrthwynebu'r cais ar sail mwynderau gweledol
ac effaith sŵn ac yn siarad ar ran nifer o drigolion lleol yn y cyffiniau
a fyddai'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y datblygiad, gan amlinellu eu
pryderon. Mr. M. Jones (o
blaid) – manylodd am gysylltiadau ei deulu i'r fferm a phwysleisiodd
bwysigrwydd y datblygiad ar gyfer cynaliadwyedd y busnes fferm yn y dyfodol
sydd hefyd yn darparu cyflogaeth yn lleol. Dadleuodd na fyddai'r tyrbin yn amharu ar y
gorwel; roedd yn sylweddol dawelach na thyrbinau eraill, ac o ran effaith
gronnus, cwestiynodd a fyddai cynlluniau eraill yn cael eu
caniatáu i’w hadeiladu. Trafodaeth Gyffredinol - Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y
cais yn un o saith o geisiadau heb eu penderfynu ar hyn o bryd yn ymwneud â
datblygiadau tyrbinau sengl ac roedd yn bwysig ystyried pob un yn ôl ei
rinweddau ei hun. Roedd y rhesymau tu ôl i argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais yn yr
achos hwn wedi cael eu nodi yn yr adroddiad yn seiliedig ar effeithiau ar y
dirwedd/ gweledol a sŵn. Roedd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) wedi
ystyried manteision prosiect arallgyfeirio’r fferm ac effaith andwyol ar y
dirwedd a sŵn. Ar ôl ystyried maint a lleoliad y datblygiad, barn Ymgynghorydd Tirwedd y Cyngor, ac o ystyried
pryderon y Swyddog Rheoli Llygredd bod y lefelau sŵn yn rhy uchel ac ni
ellid eu rheoli'n briodol, cynigiodd y Cynghorydd Welch bod y cais yn cael ei
wrthod yn unol ag argymhellion y swyddogion ar sail effaith ar y dirwedd/
amwynder gweledol ac effaith sŵn. Yn ystod y drafodaeth roedd rhywfaint o
gydymdeimlad â'r cais ac ystyriodd yr aelodau a oedd y manteision o
arallgyfeirio’r fferm yn gorbwyso'r pryderon o ran effaith gweledol a sŵn. Roedd yr Aelodau yn arbennig o bryderus
ynghylch yr effaith sŵn posibl a gofynnwyd am eglurhad a thystiolaeth
bellach i gefnogi rhesymau’r swyddogion y byddai lefelau sŵn yn rhy uchel
ac ni ellid eu rheoli'n ddigonol. Cyfeiriwyd hefyd at y sylwadau hwyr a gyflwynwyd gan y Cyd-bwyllgor AHNE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (fel y manylwyd yn y taflenni glas) a
chwestiynodd yr aelodau eu rôl o fewn y broses ac ailadroddodd pryderon
blaenorol eu bod yn gweithredu y tu allan i'w cylch gorchwyl. Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y swyddogion
yn rhoi sylw i hyn ac eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr argymhelliad yn
yr achos hwn wedi cael ei wneud cyn derbyn sylwadau’r Cyd-bwyllgor AHNE. Ymatebodd y Swyddog Rheoli Llygredd i gwestiynau ynghylch effaith sŵn a dywedodd, ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd, na allai gefnogi'r cais. Esboniodd y prosesau a ddefnyddiwyd wrth asesu lefelau sŵn gan roi gwybod bod y lefelau sŵn wedi cael eu tanamcangyfrif yn yr achos hwn, heb unrhyw lwfans ar gyfer ansicrwydd, ac felly roedd yn debygol o dorri'r terfyn 35dB ar gyfer tyrbinau sengl. Roedd y tanamcangyfrif hwnnw hefyd wedi cael ei ddwyn ymlaen fel rhan o'r asesiad sŵn cronnus nad oedd wedi cymryd i ystyriaeth lefelau a ganiateir, a thrwy hynny’n cynyddu’r tanamcangyfrif. Roedd cwynion am sŵn sy'n deillio o dyrbinau yn brin yn gyffredinol oherwydd ei fod yn arferol i swyddogion fod yn fodlon ynghylch lefelau sŵn yn ystod y broses sgrinio gychwynnol ar gyfer ceisiadau. Fodd bynnag, roedd y cais hwn wedi methu ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 47/2015/0741/PS – GWESTY WHITE HOUSE HOTEL, FFORDD TREFFYNNON, RHUALLT, LLANELWY PDF 38 KB I ystyried cais i
gael gwared ar amod rhif 3 o ganiatâd
cynllunio cod rhif 47/2011/0527 sy’n
ymwneud ag amod defnydd tymhorol sy’n cyfyngu defnydd y safle ar gyfer carafannau
teithiol rhwng 31 Hydref a 1 Mawrth yng Ngwesty White House Hotel, Ffordd
Treffynnon, Rhuallt, Llanelwy (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer cael gwared ar amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio cod rhif 47/2011/0527 sy’n
ymwneud ag amod defnydd tymhorol sy’n cyfyngu defnydd y safle ar gyfer
carafannau teithiol rhwng 31 Hydref a 1 Mawrth yng Ngwesty’r White House Hotel,
Ffordd Treffynnon, Rhuallt, Llanelwy. Siaradwyr Cyhoeddus - Mr. P. Jones-Hughes (o blaid) – soniodd am lwyddiant y busnes a'r rhesymeg y tu ôl i'r
cais er mwyn darparu ar gyfer ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn ac ateb y galw ar
gyfer carafannau teithiol na ddiwallir ar hyn o bryd. Ymatebodd hefyd i sylwadau a godwyd yn
ystod y broses ymgeisio fel y manylwyd yn y papurau atodol hwyr (taflenni
glas). Trafodaeth gyffredinol - Yn absenoldeb y Cynghorydd Barbara Smith
(Aelod Lleol), siaradodd y Cadeirydd ar ei rhan gan ddweud ei bod yn gefnogol o
safbwynt Cyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waen, ond nad oedd digon o
resymau cynllunio dros wrthod. Roedd hi wedi nodi'r amod ychwanegol a gynigwyd o ran tirlunio pellach ac
yn cefnogi ei osod pe caniateid y cais. Mynegwyd peth pryder y gellid gosod cynsail ar gyfer meddiannaeth drwy
gydol y flwyddyn ar safleoedd carafannau gan arwain at ddefnydd preswyl heb
awdurdod a fyddai'n profi’n faich ar wasanaethau'r cyngor. Eglurodd swyddogion y gwahaniaeth rhwng y defnydd o safleoedd carafannau
sefydlog a safleoedd carafannau teithiol a chadarnhaodd bod y Pwyllgor
Archwilio Cymunedau yn cadw llygad manwl ar reoleiddio safleoedd carafannau. Roedd y cais yn yr achos hwn yn ymwneud â'r defnydd penodol o'r safle ar
gyfer carafannau teithiol yr oedd y swyddogion yn ystyried i fod yn hollol
resymol ac yn briodol. O ystyried yr amod bresennol o ran rheolaeth dros ddefnydd gwyliau, roedd
swyddogion yn fodlon bod y rheolaethau angenrheidiol ar waith i gyfyngu ar y
defnydd i ddibenion gwyliau yn unig ac nid fel man unig neu brif breswylfa. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Bill Cowie, ac
eiliwyd gan Julian Thompson-Hill, bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag
argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 19 GWRTHOD - 2 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. Daeth y cyfarfod i ben am 10.20 a.m. |