Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr Ian
Armstrong, Jeanette Chamberlain-Jones, Richard Davies, Stuart Davies, Alice
Jones, Peter Owen, Merfyn Parry, Pete Prendergast, Bill Tasker a Cheryl
Williams |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw fuddiannau personol neu anfanteisiol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Ym marn y
Cadeirydd, dylid ystyried hysbysiad o eitemau yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
I gadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf
2015 (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2015. Tudalen 16 – Rhif Cais 05/2015/0040/PF tir oddi ar
Lôn Werdd, Corwen – mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Meirick Davies,
dywedodd y swyddog cynllunio ei fod yn aros am ragor o fanylion ar y mesurau
lliniaru llifogydd cyn cysylltu â’r aelodau lleol ynghylch yr amodau cynllunio
i'w gosod. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, 2015
fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 9) - Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn
hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â'r
ceisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i
gyflwyno sylwadau cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n
briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 05/2015/0353/PF - PEN Y GRAIG (DE-ORLLEWIN I BLAS TIRION) GLYNDYFRDWY, CORWEN PDF 6 KB I ystyried cais i
ailddechrau defnydd preswyl o annedd ar gyfer deiliadaeth anghenion lleol a
chodi estyniad ym Mhen y Graig (de-orllewin Plas Tirion) Glyndyfrdwy, Corwen
(amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ailddechrau defnydd preswyl o
annedd ar gyfer deiliadaeth anghenion lleol a chodi estyniad ym Mhen y Graig
(de-orllewin Plas Tirion) Glyndyfrdwy, Corwen. Siaradwyr Cyhoeddus - Mr. B. Dewey (o
blaid) – Esboniodd gysylltiadau’r teulu gyda’r ardal, eu cymhwysedd ar
gyfer tai fforddiadwy, diffyg tai fforddiadwy yn yr ardal a manylion am yr
adeilad arfaethedig i’w adfer. Cyfeiriodd at ymdrechion i farchnata’r eiddo yn unol â pholisi a thynnodd
sylw at ei anaddasrwydd ar gyfer defnydd masnachol. Trafodaeth gyffredinol – Crynhodd y swyddog cynllunio (PM) yr adroddiad
a materion polisi perthnasol a arweiniodd at yr argymhelliad i wrthod y cais. Roedd swyddogion wedi ystyried bod defnydd
preswyl o’r eiddo wedi cael ei roi o’r neilltu ac yn groes i brofion polisi HEG
4 o'r Cynllun Datblygu Lleol, ni fu unrhyw dystiolaeth bod yr eiddo wedi cael
ei farchnata ar gyfer defnydd masnachol ac nad oedd unrhyw wybodaeth ariannol
wedi cael ei ddarparu i asesu a fyddai’r annedd yn fforddiadwy ar gyfer angen
lleol. Roedd Aelodau wedi clywed gan y siaradwr cyhoeddus bod rhyw ymgais wedi’i
wneud i farchnata'r eiddo ac o ystyried ei leoliad derbyniwyd y byddai'n anodd
ailddefnyddio’r adeilad at ddibenion masnachol. Fodd bynnag, y brif sail dros wrthod oedd y mater
o angen lleol am dai fforddiadwy. Pe bai Aelodau o blaid rhoi caniatâd i’r cais dylid ystyried sut y gellid rheoli’r eiddo yn y dyfodol ar
gyfer angen lleol am dai fforddiadwy yn hytrach na’i werthu ar y farchnad
agored i rywun o du allan i'r ardal. Cadarnhaodd swyddogion na chodwyd unrhyw bryderon penodol ynghylch yr
estyniad a’r elfennau dylunio. Siaradodd y Cynghorydd Huw Jones (Aelod lleol) o
blaid y cais a darparodd sicrwydd bod yr ymgeisydd yn fodlon derbyn amod i
sicrhau dyfodol fforddiadwy yr eiddo ar gyfer angen lleol. Cyfeiriodd at amgylchiadau’r teulu a’u
cysylltiadau â'r ardal, gan dynnu sylw at y diffyg tai fforddiadwy presennol a
rhinweddau adfer yr adeilad adfeiliedig ar gyfer defnydd preswyl. Yn ystod y ddadl roedd yr Aelodau'n cydymdeimlo
â'r cais yn amlygu pwysigrwydd tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol. Tynnwyd sylw hefyd at y manteision o adfer
yr eiddo o ran estheteg ac effaith weledol ac ar gyfer defnydd gwerth chweil yn
hytrach na gadael iddo ddirywio ymhellach. Cyfeiriwyd at geisiadau blaenorol wrth ystyried materion cynllunio tebyg
a'r angen i ddefnyddio ymagwedd gyson a synnwyr cyffredin. Roedd llawer o drafodaeth yn canolbwyntio
ar yr elfen tai fforddiadwy a rhoddodd y swyddogion eglurhad ar faterion
penodol fel a ganlyn – ·
Roedd
y cais ar gyfer meddiannaeth anghenion lleol ac ni ellid rhoi caniatâd
cynllunio drwy ddileu’r elfen honno ·
Cyfeiriwyd
at gymhwysedd â’r broses asesu ar gyfer tai fforddiadwy lleol ynghyd â pholisi
a chanllawiau cysylltiad lleol ·
Cadarnhawyd
yn absenoldeb amod i sicrhau dyfodol yr eiddo i ddiwallu angen lleol am dai
fforddiadwy, gellid gwerthu’r eiddo ar y farchnad agored i brynwr o du allan
i'r ardal ·
Pe
bai’r cais yn cael ei ganiatáu gyda chymal tai fforddiadwy, ni fyddai’n atal yr
ymgeisydd rhag gwneud cais i gael yr amod honno wedi’i dileu yn y dyfodol pe
dangoswyd nad oedd bellach angen lleol am dai fforddiadwy. Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd oddi wrth y Cydbwyllgor
AHNE a chynigwyd, pe bai’n cael ei ganiatáu, bod amod yn cael ei rhoi yn unol
â’r argymhellion ynglŷn â’r grisiau y credai a fyddai’n cyd-fynd yn well
â’r amgylchoedd. Nid oedd dim eilydd ar gyfer y cynnig hwnnw. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Cefyn Williams, bod y cais yn cael ei ganiatáu gydag amod i sicrhau dyfodol yr eiddo ar gyfer angen lleol am dai fforddiadwy, ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 18/2014/1164/PS – PARK HIGHFIELD, LLANGWYFAN, DINBYCH PDF 6 KB I ystyried cais i
amrywio amod rhif 12 o god caniatâd
cynllunio rhif 18/2012/1595 i ganiatáu 2
bwynt mynediad i aros ar agor ym Mharc Highfield, Llangwyfan, Dinbych (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer amrywio amod rhif 12 o god caniatâd cynllunio rhif 18/2012/1595 i
ganiatáu 2 bwynt mynediad i aros ar agor ym Mharc Highfield, Llangwyfan,
Dinbych. Siaradwyr Cyhoeddus - Ms. G. Butler (yn erbyn) – siaradodd Ms Butler ar ran trigolion lleol gan ddweud
bod eu hofnau diogelwch ffyrdd dros y defnydd o fynedfeydd dros dro wedi eu
cyfiawnhau ac adroddodd am y peryglon a achosir gan symudiadau traffig yn y
ddau bwynt mynediad. Mr. A. Armstrong (o blaid) - soniodd am gynllun y ffordd a’r
rhesymu dros gadw'r ddau bwynt mynediad mân sydd ddim ond yn cyfrif am tua 3 -
4% o symudiadau traffig gydag uchafswm o wyth lle parcio er mwyn gwasanaethu
dau adeilad a chaniatáu mynediad brys. Trafodaeth gyffredinol – yn absenoldeb y Cynghorydd
Merfyn Parry (Aelod lleol), siaradodd y Cynghorydd Joe Welch ar ei ran a
chyfeirio at e-bost a anfonwyd at Aelodau'r Pwyllgor yn rhoi manylion am ei
bryderon. Er y cydnabuwyd y gwaith a'r buddsoddi a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd,
gwireddwyd yr ofnau diogelwch a fynegwyd ar adeg y cais gwreiddiol, ac roedd y
ddwy fynedfa dros dro wedi cael eu camddefnyddio yn ystod y gwaith adeiladu. Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda
rheolwyr Parc Highfield, ond nid yw'r sefyllfa wedi gwella. Roedd yr ymgeisydd wedi dweud y dylid cadw
mynediad D oherwydd roedd yn dir dan glo
– gellid bod wedi osgoi hyn yn y datblygiad – a gallai’r safle weithredu'n dda
heb gadw'r mynedfeydd dros dro. O ganlyniad, cynigiodd Joe Welch y dylid gwrthod y cais, a chafodd hyn ei
eilio gan y Cynghorydd Dewi Owens. Amlygwyd safleoedd mynedfeydd A, B, C a D ar y
cynlluniau a ddarparwyd ac eglurodd yr Uwch Beiriannydd, Traffig a Chludiant
sut y rheolwyd y llif traffig ledled y safle. Adroddodd bod Mynediad C i'w ddefnyddio ar gyfer
Pine Cottage a Rose House yn unig gyda
gwell gwelededd, arwyddion priodol a rheolaeth traffig ar waith. Roedd cysylltiad drwodd i’r prif safle o
Fynedfa C ac er iddo awgrymu gosod rhwystr codi ar gyfer mwy o reolaeth, nid
oedd hyn wedi'i dderbyn gan yr ymgeisydd. Fodd bynnag ystyriwyd nad oedd yn ddigon o reswm
dros wrthod o ystyried y mesurau rheoli traffig eraill. Byddai'r mynediad D yn cael ei ddefnyddio
ar gyfer cerbydau cynnal a chadw yn unig heb unrhyw gysylltiad uniongyrchol i’r
prif safle ar gyfer staff. Roedd swyddogion yn ystyried y mynedfeydd hynny yn dderbyniol o ran
polisïau a chanllawiau perthnasol. Ystyriodd yr aelodau’r pryderon diogelwch
ffordd ynghyd â’r mesurau rheoli a oedd
ar waith i ymateb i'r pryderon hynny. Mynegwyd amheuon ynghylch effeithiolrwydd y
mesurau rheoli a’u gorfodaeth, yn enwedig o gofio nad oedd y mynedfeydd dros
dro eisoes yn cael eu camddefnyddio, mae'n debyg heb gosbau, ac o glywed bod
pryderon cychwynnol trigolion lleol wedi’u gwireddu, er gwaethaf sicrwydd i'r
gwrthwyneb. Dywedodd yr Uwch Beiriannydd bod traffig wedi bod yn hynod brysur yn ystod
y cyfnod adeiladu a chadarnhawyd na fu unrhyw ddamweiniau wedi’u cofnodi. Tynnodd sylw at y diffyg tystiolaeth i
gyfiawnhau gwrthod yn yr achos hwn o gofio'r mesurau lliniaru a'r cynllun
rheoli traffig. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Joe Welch wrthod y
cais ar sail diogelwch ffyrdd a threfoli tir gwledig, a chafodd hyn ei eilio
gan Dewi Owens. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 6 GWRTHOD - 12 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD GWRTHOD caniatâd, yn groes i argymhelliad y
swyddog, ar sail diogelwch ffyrdd a threfoli lonydd gwledig. |
|
CAIS RHIF 40/2014/1445/PF - TIR YN NHŶ FRY INN, LÔN TŶ FRY, BODELWYDDAN PDF 36 KB I ystyried cais
am siop gyfleus dosbarth A1 gyda pheiriant ATM, maes parcio cysylltiedig,
trefniadau mynediad a thirlunio ar dir Tŷ Fry Inn, Lôn Tŷ Fry,
Bodelwyddan (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladu siop gyfleus
dosbarth A1 gyda pheiriant ATM, maes parcio cysylltiedig, trefniadau mynediad a
thirlunio ar dir Tŷ Fry Inn, Lôn Tŷ Fry, Bodelwyddan. Mr. T. Hallet (o blaid) – tynnodd sylw at fanteision economaidd a chymunedol y
datblygiad a’r cydweithredu gyda’r swyddogion cynllunio a phriffyrdd i
ddiwygio'r cynllun er mwyn mynd i'r afael â’r materion a godwyd. Trafodaeth gyffredinol – yn absenoldeb y Cynghorydd Alice Jones
(Aelod lleol), siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts ar ei rhan a chyfeiriwyd at
e-bost a anfonwyd at aelodau'r Pwyllgor yn rhoi manylion am ei phryder dros y
defnydd o Ffordd Ronaldway gan ddarparu cerbydau. Roedd y Cynghorydd Jones yn hapus i gefnogi’r
datblygiad yn amodol ar roi amod ychwanegol yn cyfyngu cerbydau danfon rhag
mynd i mewn i Ronaldsway o Groesffordd Borth o blaid llwybrau mwy diogel o
gyfeiriad Ffordd Abergele. Ar ymadael y safle dylai cerbydau danfon droi i’r dde yn ôl ar Ffordd
Abergele. Roedd yr Aelodau yn cefnogi'r cynnig er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y
ffordd ar Ronaldsway a chytunodd y swyddogion y gellid cadw rheolaeth resymol
dros gyfeiriad y traffig yn y modd drwy amod; byddai’r cyfrifoldeb ar yr
ymgeisydd i gynghori sut byddai'n sicrhau cydymffurfiaeth. Rhoddodd y swyddogion sicrwydd bod
rheolaethau priodol ar waith i orfodi amodau o'r fath. Siaradodd yr Uwch Beiriannydd, Traffig a Chludiant
am gynnwys yr Adran Priffyrdd. Roedd y cynlluniau wedi'u diwygio yn dilyn archwiliad diogelwch ffyrdd
annibynnol ac roedd swyddogion yn fodlon bod y trefniadau mynediad arfaethedig
yn dderbyniol ac roedd digon o le ar y safle ar gyfer danfon, parcio a throi. Nodwyd y pryderon a godwyd gan Gyngor Tref
Bodelwyddan ond roedd swyddogion o'r farn na fyddai’r cynigion yn cael effaith
annerbyniol ar y rhwydwaith priffyrdd lleol. Eglurwyd, er gwaethaf y cyfyngiad pwysau, yn
gyfreithiol gallai unrhyw gerbyd masnachol ddefnyddio’r ffordd i gyrraedd
unrhyw safle. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Arwel Roberts y
dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog yn amodol ar amod
ychwanegol yn cyfyngu ar symudiadau traffig cerbydau danfon yn mynd i mewn ac
allan o’r safle drwy Ronaldsway i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffyrdd, cafodd
hyn ei eilio gan y Cynghorydd Meirick Davies. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y manylir
yn yr adroddiad yn amodol ar amod ychwanegol yn cyfyngu ar symudiadau traffig
cerbydau danfon yn mynd i mewn ac allan o’r safle drwy Ronaldsway i sicrhau
diogelwch defnyddwyr y ffyrdd. |
|
CAIS RHIF 15/2015/0629/PF - GLAN LLYN, ERYRYS, YR WYDDGRUG PDF 6 KB I ystyried cais
ar gyfer codi garej ar wahân yn lle’r garej presennol yng Nglan Llyn, Eryrys,
yr Wyddgrug (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi garej ar wahân yn
lle’r garej presennol yng Nglan Llyn, Eryrys, yr Wyddgrug. Trafodaeth gyffredinol - Doedd gan y Cynghorydd
Martyn Holland (Aelod lleol) ddim gwrthwynebiad i'r cais ond cyfeiriodd at
bryderon Cyngor Cymuned Llanarmon yn Iâl ynglŷn â maint y garej a’i
botensial i gael ei droi'n annedd yn y dyfodol. Roedd Partneriaeth AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy yn argymell dylid adfer y wal ffin ffryntiad carreg naturiol fel rhan
o'r datblygiad. Wrth ymateb i gwestiynau, dywedodd y Swyddog Cynllunio y byddai unrhyw
newid i ddefnydd y garej yn y dyfodol yn destun cais cynllunio arall ac felly
ni fyddai'n briodol i roi amod ar ei ddefnydd. Roedd y defnydd o garreg a awgrymwyd gan y
bartneriaeth AHNE eisoes wedi nodi ar y cynlluniau. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, bod y cais
yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 43/2015/0112 /PF – CARTREF GOFAL PRESWYL HIGHCROFT, 49 RHODFA HIGHBURY, PRESTATYN PDF 6 KB I ystyried cais i
newid defnydd o hen Gartref Gofal Preswyl/Nyrsio i 5 o anheddau hunangynhwysol
yng Nghartref Gofal Preswyl Highcroft, 49 Rhodfa Highbury, Prestatyn (amgaeir
copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
newid defnydd o hen Gartref Gofal Preswyl/Nyrsio i 5 o anheddau hunangynhwysol
yng Nghartref Gofal Preswyl Highcroft, 49 Rhodfa Highbury, Prestatyn. Trafodaeth Gyffredinol – Soniodd y Cynghorydd Anton Sampson (Aelod
Lleol) am ei ymweliad i’r safle ac nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r
cais. Adroddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod lleol) mai parcio oedd
prif wrthwynebiad y trigolion, ond nid oedd yn ystyried y byddai’r sefyllfa
barcio’n waeth nag oedd pan oedd y safle’n cael ei ddefnyddio fel cartref
nyrsio. Mewn ymateb i gwestiynau darparodd swyddogion cynllunio eglurhad ar y
polisi tai fforddiadwy ar gyfer datblygiad o lai na 10 o uned breswyl drwy
daliad swm gohiriedig. Derbyniwyd bod angen am y math o dai a gynigwyd ym Mhrestatyn ac roedd
swyddogion yn awyddus i sicrhau bod safonau mannau preswyl yn cael eu bodloni. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y
Cynghorydd Barry Mellor. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. Ar y pwynt hwn
(11.10 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
BRIFF DATBLYGU SAFLE: TŶ NANT, PRESTATYN - MABWYSIADU DOGFEN DERFYNOL PDF 123 KB I ystyried
adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Briff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer
Tŷ Nant, Prestatyn, gyda newidiadau a argymhellir, ar gyfer penderfynu ar
geisiadau cynllunio ac apeliadau (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus a’r Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai, adroddiad
yn cyflwyno’r Briff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer Tŷ Nant, Prestatyn
i’w fabwysiadu yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Rhoddodd y Cynghorydd Smith rywfaint o
gyd-destun i'r adroddiad ac esboniodd y gwahanol gamau yn y broses cyn
mabwysiadu dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol yn derfynol gan y Pwyllgor
Cynllunio. Roedd crynodeb o'r ymgynghoriad cyhoeddus a’r
sylwadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y Cyngor wedi'u cynnwys fel atodiad i'r
adroddiad. Wrth ymateb i'r sylwadau hynny cynigiwyd nifer o newidiadau a amlygwyd yn y
ddogfen derfynol. Roedd yr Aelodau yn falch o nodi ymateb da i'r ymgynghoriad eang a
diolchwyd i'r swyddogion am eu gwaith caled yn hynny o beth. Mewn ymateb i gwestiynau, eglurwyd bod y
briff yn hyblyg ynglŷn â 6 – 8 Ffordd Plas Nant a oedd yn caniatáu
dymchwel neu gadw ar yr amod y dylid cadw'r ffryntiad a Siambr y Cyngor os oes
modd. O ran mynediad o Rodfa’r Glyn roedd byffer tirwedd wedi’i awgrymu yng nghefn yr eiddo hynny a fyddai'n
caniatáu ar gyfer cadw’r mynedfeydd cefn hynny – roedd swyddogion eiddo edrych
ymhellach ar y mater. Cynnig – Cyfeiriodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill at astudiaeth gynhwysfawr a wnaed ac roedd yn ystyried bod yr
adroddiad yn adlewyrchu’r sylwadau a dderbyniwyd yn deg. O ganlyniad, cynigiodd y dylid mynd ag
argymhelliad y swyddog i fabwysiadu’r ddogfen, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd
Bob Murray. PLEIDLAIS: O BLAID - 18 YN ERBYN - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau’n mabwysiadu’r Briff Datblygu Drafft ar gyfer Tŷ Nant,
Prestatyn, ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad, gyda newidiadau a argymhellwyd,
i benderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL YNNI ADNEWYDDADWY – DRAFFT YMGYNGHORI PDF 156 KB I ystyried
adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i’r drafft Canllawiau Cynllunio Atodol ar
ynni adnewyddadwy fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno dogfen ddrafft Canllaw
Cynllunio Atodol (CCA) ar ynni adnewyddadwy fel sail ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus. Roedd y drafft CCA yn amlinellu'r cyd-destun polisi cenedlaethol a lleol ar
gyfer technolegau ynni adnewyddadwy, gwarchod tirwedd a gwarchod tir
amaethyddol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies i
fynd ag argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill. PLEIDLAIS: O BLAID - 17 YN ERBYN - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn cytuno ar y Canllaw
Cynllunio Atodol drafft ar ynni adnewyddadwy fel sail ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus. |
|
DRAFFT YMGYNGHORI: BRÎFF DATBLYGU SAFLE - TIR GER HEN YSBYTY HM STANLEY, LLANELWY PDF 100 KB I ystyried
adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i’r drafft Brîff Datblygu Safle ar gyfer y
safle tai gyfagos a neilltuwyd ger hen
Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol
Strategol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y
Parth Cyhoeddus a’r Rheolwr Cynllunio a Thai Strategol adroddiad yn argymell
cymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer y safle tai a ddyrannwyd
gerllaw’r hen Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy a’r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol
Strategol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Yn ystod y drafodaeth cafodd y safle
datblygu ei egluro fel y tir i'r de a'r tu cefn i’r hen safle ysbyty a thynnwyd
sylw at y cynllun safle. Roedd ymateb Swyddogion i ymholiadau’r Aelodau fel a
ganlyn:- ·
Cadarnhawyd bod adeilad rhestredig yn agos at y safle a nododd y briff y
byddai angen i unrhyw gynigion i gymryd hynny i ystyriaeth ·
Mae'r briff hefyd yn cynghori y dylai
cynigion datblygu geisio defnyddio enwau Cymraeg lleol perthnasol ar gyfer
strydoedd a’r datblygiad yn gyffredinol a byddai angen Asesiad Effaith
Cymunedol ac Ieithyddol ynghyd ag unrhyw gais cynllunio ·
Amlinellwyd yn y briff nad oedd y safle mewn ardal perygl llifogydd. Fel mater ar wahân, mynegodd aelodau lleol bryderon
ynghylch yr enw 'Livingstone Place' a roddwyd gan ddatblygwyr i safle arall yn
Llanelwy a chafwyd trafodaeth ynghylch cyfreithlondeb y broses. Cytunodd
swyddogion cynllunio i ddwyn y mater i sylw'r adran berthnasol i’w drafod
gyda’r datblygwr. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick
Davies y dylid mynd ag argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Rhys Hughes. PLEIDLAIS: O BLAID - 18 YN ERBYN - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod
yr aelodau'n cytuno ar y Briff Datblygu Safle ar gyfer y safle a ddyrannwyd ar
gyfer tai gerllaw hen Ysbyty HM Stanley, Llanelwy a'r ddogfen sgrinio Asesiad
Amgylcheddol Strategol cysylltiedig (fel ynghlwm wrth yr adroddiad) ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
I nodi cynnwys yr
Adroddiad Monitro Blynyddol CDLL cyntaf (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol ar gyfer Parth y Cyhoedd yr Adroddiad Monitro Blynyddol CDLl cyntaf
yn asesu’r perfformiad polisi am y cyfnod 1 Ebrill 2014 – 31 Mawrth 2015. Roedd
angen i’r Cyngor lunio AMB i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob
blwyddyn a’i gyhoeddi ar ei wefan. Byddai angen i’r Cabinet gymeradwyo’r AMB i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd yr Aelodau'n falch o nodi cynnydd ymysg y trigolion yn Sir
Ddinbych sy’n siarad Cymraeg ers 2006 ac mewn ymateb i gwestiynau cyfeiriodd y
swyddogion at y polisi yn y CDLl sy'n ymwneud â’r iaith Gymraeg a’r angen i
ddatblygiadau newydd lunio Asesiad Effaith Cymunedol ac Ieithyddol. Dywedodd y Swyddogion hefyd bod cyfeiriad
at y Gymraeg yn y Ddeddf Cynllunio newydd ar gyfer Cymru a chytunwyd i ddarparu
diweddariad amserol ar ddatblygiadau deddfwriaethol i’r Aelodau. PENDERFYNWYD nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD GWYBODAETH – NEWIDIADAU I REOLIADAU FFIOEDD CENEDLAETHOL A CHYFLWYNO NEWIDIADAU CYNGOR CYN-YMGEISIO Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn darparu aelodau gyda nodyn byr mewn perthynas
â newidiadau sydd ar fin digwydd i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd
ar gyfer Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015. Roedd
cyflwyniad diweddar ffioedd cyn-ymgeisio sy’n benodol i Wasanaeth Cynllunio Sir
Ddinbych hefyd wedi cael ei gynnwys. Ymhelaethodd swyddogion ar gynnwys yr adroddiad,
ac atebwyd cwestiynau arnynt. Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm. Dogfennau ychwanegol: |