Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorwyr Ian
Armstrong, Bill Cowie, Rhys Hughes, Barri Mellor a Merfyn Parry |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Ray
Bartley – Cysylltiad Personol – Eitemau 5 ac 17 ar y Rhaglen. Y Cynghorydd
Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 9 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Jason McLellan – Cysylltiad Personol a Rhagfarnol – Eitem rhif 11 ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Mehefin
2015 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2015. Tudalen 17 – Rhif Cais 40/2015/0319 – Dywedodd y
Cynghorydd Meirick Davies nad oedd y cofnodion wedi cofnodi bod y Cynghorydd
Alice Jones wedi dychwelyd i’r cyfarfod ar ôl i eitem busnes, yn ymwneud â
Fferm Pengwern, Bodelwyddan ddod i ben. PENDERFYNWYD –
y dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 17 Mehefin 2015 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 14) - Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas)
a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â'r ceisiadau penodol. Er
mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid
amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 01/2015/0347/PR - TIR WRTH YMYL FRON DEG, FFORDD RHUTHUN, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer manylion edrychiad, gosodiad a maint yr 14 o anheddau a thirlunio a
gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio amlinellol 01/2014/0072
(Cais Materion a Gadwyd yn ôl) ar dir ger Fron Deg, Ffordd Rhuthun, Dinbych
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Bartley gysylltiad
personol â’r eitem hon gan ei fod yn Aelod Lleol]. Cyflwynwyd cais ar gyfer manylion ymddangosiad,
gosodiad a maint 14 o anheddau a chyflwynwyd thirluniad safle yn unol ag amod
rhif 1 o ganiatâd cynllunio amlinellol 01/2014/0072 (Cais Materion a Gadwyd yn
Ôl) ar dir wrth ymyl Fron Deg, Ffordd Rhuthun, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus - Mr. S. Evans (Yn
erbyn) - mynegodd bryderon am ddwysedd y datblygiad a llygredd golau. Trafodaeth Cyffredinol – Roedd Y Cynghorydd Richard Davies (Aelod
Lleol) yn rhannu'r pryderon a fynegwyd gan Mr. Evans ynghylch gor-ddwysau’r
safle gan ei fod yn credu na fyddai'n gweddu i'r ardal. Cyfeiriodd at hanes cynllunio yn ymwneud â
6 annedd ac roedd y cais presennol yn dangos cynnydd sylweddol i 14 o anheddau. Mynegwyd pryderon pellach ynglŷn â
ffens derfyn a materion perchenogaeth a threfniadau mynediad i Glwb Criced
Dinbych. Gan ystyried amgylchiadau lleol, roedd y Cynghorydd Davies o’r farn y
byddai llai o dai yn fwy buddiol ar y safle. Roedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Ray Bartley (Aelod
Lleol) hefyd yn rhannu'r pryderon a godwyd a gofynnodd lle byddai'r swm cymudol
yn cael ei wario. Crynhodd y Swyddog Cynllunio (DR) y rhesymau y tu
ôl i'r argymhelliad i ganiatáu'r cais. Roedd y Polisi RD1 Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
yn ceisio sicrhau’r defnydd mwyaf effeithlon o dir, drwy gyflawni dwysedd
isafswm o 35 annedd i bob hectar, oni bai bod amgylchiadau lleol yn pennu
dwysedd is. Byddai'r cais yn darparu 28 annedd i bob hectar ac roedd swyddogion yn
ystyried hyn yn briodol o ystyried yr ardal leol. Fe gyfeiriwyd hefyd at gyd-destun safle Llywodraeth Cymru o ran cyflenwad 5
mlynedd o dir ar gyfer tai – fe eglurwyd, er bod Sir Ddinbych wedi clustnodi
digon o dir ar gyfer tai, roedd cyflymder y datblygu yn araf ac felly roedd Sir
Ddinbych yn disgyn yn is na'r targed 5 mlynedd. Yn yr achos hwn nid yw'r safle yn safle a glustnodwyd yn y CDLl, ond roedd
wedi cael ei ystyried tra’n cyfrifo lefel y tir oedd ei angen ar gyfer tai. Ymatebodd swyddogion hefyd i bryderon yr aelodau lleol, a chodwyd
cwestiynau yn ystod trafodaeth gyffredinol gan aelodau eraill fel a ganlyn - ·
nid
yw anghydfodau ynghylch ffiniau yn faterion cynllunio ond yn hytrach yn
faterion sifil ·
nid
oedd y cais yn cynnwys mynediad i'r Clwb Criced ac felly nid oedd wedi bod yn
fater i’r swyddogion ei asesu ·
gellid
rheoli goleuadau yn hawdd drwy amod i sicrhau na fydd unrhyw effaith andwyol,
er y cydnabuwyd nad oedd unrhyw ystyriaethau arbennig yn y lleoliad hwn a
fyddai'n gwarantu hynny ·
byddai
unrhyw ofod agored a grëwyd ar y safle yn fach iawn, felly roedd swyddogion yn
argymell gwario swm cymudol ar wella darpariaeth bresennol yn ward isaf Dinbych
– roedd y cae chwarae agosaf tua hanner milltir i ffwrdd ·
roedd
darpariaeth mannau agored ar gyfer datblygiadau tai yn cael eu hasesu ar sail
achos wrth achos, ac nid oedd gosod amodau
yn yr achos hwn yn ystod y cyfnod cynllunio amlinellol yn ddewis priodol ·
roedd
dwysedd y datblygiad wedi cael ei asesu yn erbyn polisi cynllunio cyfredol, ac
roedd nifer yr anheddau yn llai na’r trothwy presennol, roedd swyddogion yn
credu na fyddai’r dwysedd arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad
yr ardal, ac felly ni ystyriwyd hwy yn rhesymau dros wrthod. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Dewi Owens. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 21 GWRTHOD - 2 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 05/2015/0040/PF - TIR ODDI AR LÔN WERDD, CORWEN PDF 33 KB Ystyried cais i
godi tŷ unllawr a gwneud newidiadau i'r fynedfa bresennol i gerbydau ar
dir oddi ar Lôn Werdd, Corwen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi annedd un llawr newydd ac
addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ar dir oddi ar Lôn Werdd, Corwen. Siaradwyr Cyhoeddus - Mrs. K. James (O
Blaid) – Tynnodd sylw at y perygl llifogydd fel yr unig fater sy'n peri pryder
a bu’n dadlau mai arweiniad yn unig oedd Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 (Map
Cyngor Datblygu a Pherygl Llifogydd) a gallai mesurau lliniaru gael eu cyflwyno
i ymdrin ag unrhyw effaith bosibl a diwallu
prawf cyfiawnhad TAN 15. Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Huw Jones (Aelod
Lleol) o blaid y cais ac amlygodd yr angen am farn gytbwys ar deilyngdod y
cais. Dywedodd fod y gwrthwynebiad cychwynnol gan y Cyngor Tref o ran mynediad
wedi cael ei ddatrys a bod angen penderfynu ar y cais ar sail yr elfen risg
llifogydd. O ganlyniad, tynnwyd sylw’r Aelodau at y canlynol - ·
TAN
15 Adran 6: Cyfiawnhau Lleoliad Datblygiad – cyfeiriwyd at yr angen i gael
rhywfaint o hyblygrwydd er mwyn mynd i'r afael â'r perygl llifogydd. ·
TAN 15 Adran 11: 'Rheoli Datblygu'
- dywedodd yn nhermau mân ddatblygiadau byddai'n fater i'r awdurdod cynllunio i
farnu p'un ai i wneud defnydd o Adran 6 (uchod) lle mae safle yn disgyn yn
rhannol o fewn parth C ·
Rhoddwyd rhywfaint o
gyd-destun o ran lleoliad y safle a'i leoliad mewn perthynas â pherygl
llifogydd a gafodd ei ddangos ar y cynlluniau a ddangoswyd i'r pwyllgor -
dadleuwyd bod y safle yn eistedd ar derfyn eithaf y parth llifogydd, ac mae'n
ddigon posibl y tu allan iddo, ac mae’r pwynt agosaf at lifogydd rhyw 405 metr
i ffwrdd ·
Nid oedd Cyfoeth Adnoddau
Naturiol Cymru (NRW) wedi gwrthwynebu'r cais ond roedd wedi cyflwyno nifer o
argymhellion ac amodau petai’r cais yn cael ei ganiatáu - roedd hyn yn cynnwys
codi lefel yr adeilad i liniaru perygl llifogydd ·
Fe
gadarnhaodd CNC bod 3 achos o lifogydd wedi bod yng Nghorwen ers 1964 ac nid
oedd y safle dan sylw wedi bod dan ddŵr ·
Cynllun
Datblygu Lleol - cyfeiriwyd at ddyhead y Cyngor i ddatblygu safleoedd tir llwyd
yng Nghorwen i ddiwallu anghenion a buddsoddiad lleol. Ar y cyfan, roedd yr aelodau’n credu bod yr Aelod
Lleol wedi gwneud achos cryf dros ganiatáu'r cais. Cadarnhaodd y Swyddogion Cynllunio eu
hargymhelliad i wrthod y cais yn seiliedig ar leoliad y safle o fewn parth
llifogydd C2 fel y nodwyd gan fapiau Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor TAN 15 na
ddylid caniatáu datblygiadau preswyl o fewn parth C2. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts, i gymeradwyo’r cais, yn groes i
argymhelliad y swyddog, ar y sail y gallai’r perygl llifogydd gael ei liniaru
yn yr achos hwn, drwy roi amodau ynghlwm â’r caniatâd cynllunio, ac y dylid
dirprwyo’r pŵer i swyddogion ac aelodau lleol i roi amodau cynllunio ar y
caniatâd. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 22 GWRTHOD - 2 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid ei GYMERADWYO yn groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail y gallai’r
perygl llifogydd gael ei liniaru yn yr achos hwn, ac y gellir dirprwyo
pŵer i swyddogion ac aelodau lleol i roi amodau cynllunio ar y caniatâd
fel y bo’n briodol. |
|
CAIS RHIF 23/2014/1440/PF – COED CLOCAENOG, SARON, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i
godi is-orsaf drydan 132kV a gwaith cysylltiedig yng Nghoed Clocaenog, Saron,
Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol â’r eitem hon gan ei fod yn aelod
o Grŵp ‘Pylon the Pressure’] Cyflwynwyd cais i godi is-orsaf drydan 132kV a
gwaith cysylltiedig yng Nghoedwig Clocaenog, Saron, Dinbych. Siaradwyr Cyhoeddus - Mr. M. Barlow (Yn
erbyn) – roedd yn amheus am yr angen am is-orsaf ar hyn o bryd a mynegodd
bryderon dros y tirwedd a’r effaith weledol. Ms. C. Duffy, SP Manweb (O Blaid) - eglurodd y maint yr ymgynghori a wnaed ynghyd â mesurau
lliniaru i ymdrin â materion a godwyd. Mae hi'n cytuno â chasgliadau'r adroddiad
cynllunio ac yn derbyn yr amodau arfaethedig. Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol)
yn gwrthwynebu'r cais a mynegodd bryderon ynghylch - ·
ymagwedd
dameidiog a gymerwyd ar gyfer Prosiect Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru ac
effeithiau cronnol yr is-orsaf ynghyd ag elfennau eraill o'r prosiect ·
dadleuodd
yn erbyn yr angen am is-orsaf yn ystod y cam yma o ystyried fod y cais ar gyfer
y prosiect llinellau uwchben eto i'w cymeradwyo; y ffaith fod Fferm Wynt
Clocaenog yn destun adolygiad barnwrol; a ffermydd gwynt eraill oedd heb gael
eu hadeiladu – yn sgil hynny oll, ystyrir y cais yn gynamserol ·
diffyg
ymgynghori cyhoeddus a dogfennau'n cael eu darparu yn Gymraeg a gwybodaeth
gamarweiniol oedd yn tynnu oddi ar wir effaith yr is-orsaf ·
digonolrwydd
yr Adroddiad Amgylcheddol a'r asesiad sŵn cronnus ·
effeithiau
ar amwynder, twristiaeth, iechyd preswylwyr a sŵn. Ymatebodd y Swyddog Cynllunio (DS) i'r materion a
godwyd fel a ganlyn - ·
nid yw
natur y broses cais cynllunio yng Nghymru yn caniatáu i bob elfen o’r prosiect
fferm wynt gael ei thrin dan un cais ·
roedd yr ymgeisydd wedi dweud
nad oedd yr is-orsaf yn ddibynnol ar ganlyniad naill ai her gyfreithiol Fferm
Wynt Clocaenog, na phrosiect llinellau uwch ben arfaethedig, a byddai dal angen
yr is-orsaf petai’r cysylltiad grid yn digwydd drwy geblau danddaear. ·
roedd
Cymraeg yn cael ei annog i’w ddefnyddio mewn ymgynghoriadau, ond nid oedd yn
ofyniad cyfreithiol ·
ystyriodd y swyddogion y cais
yn dderbyniol mewn egwyddor ar ôl asesu effaith yr is-orsaf ar yr ardal leol ac
ystyried fod y safle o fewn Ardal Chwilio Strategol Coedwig Clocaenog (SSA)
[roedd y polisi cynllunio yn nodi bod newid tirwedd o ddatblygiad fferm wynt yn
dderbyniol o dan Ardaloedd Chwilio Strategol] ·
ar y
cyfan roedd swyddogion yn cytuno â chasgliadau’r adroddiad amgylcheddol gan
greu y gallai’r materion gael eu lliniaru ·
er
nad yw'r Swyddog Gwarchod y Cyhoedd wedi cytuno gyda'r holl gyfrifiadau yn yr
asesiad sŵn cronnol nad oedd wedi herio ei gadernid ac wedi derbyn ei
gasgliadau; gallai lefelau sŵn gael eu rheoli drwy amodau er mwyn diogelu
amwynder trigolion lleol. Yn ystod trafodaeth fanwl ystyriodd yr aelodau
rinweddau'r cais a mynegi amheuon ynghylch dilysrwydd casgliadau'r asesiad
sŵn cronnus o ystyried bod cwestiynau wedi codi ynghylch y fethodoleg a
ddefnyddiwyd i gyfrifo'r lefelau sŵn. Mynegwyd pryderon hefyd dros harddwch ac effaith
ar y dirwedd, yn enwedig y gantri 9 metr o uchder arfaethedig a fyddai'n
debygol o fod yn weladwy iawn, a'r effeithiau dilynol ar y gymuned a
thwristiaeth. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Joe Welch, ac fe’i
eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams, bod y cais yn cael ei wrthod, yn groes i
argymhelliad y swyddog, ar sail yr effaith sŵn cronnol posibl ac effaith
weledol bosibl ar y dirwedd o'r is-orsaf. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 3 GWRTHOD - 20 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cynnig, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar sail yr effaith sŵn cronnol posibl ac effaith weledol bosibl ar y dirwedd o'r ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried cais i ailddatblygu safle’r hen ysbyty cymunedol drwy godi 24 o
anheddau a chreu mynedfa newydd i gerbydau yn 49 The Avenue, Woodland Park,
Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Jason McLellan gysylltiad
personol sy’n rhagfarnu â’r eitem hon oherwydd ei fod yn byw yn agos iawn at y
datblygiad. Byddai'n siarad ar yr eitem hon fel aelod o'r cyhoedd a byddai'n gadael y cyfarfod
tra bod y cais yn cael ei ystyried ac ni fyddai’n cymryd unrhyw ran bellach yn
yr achos.] Cyflwynwyd cais i ailddatblygu safle'r hen ysbyty
cymuned drwy godi 24 o anheddau ac adeiladu mynediad newydd i gerbydau yn 49,
The Avenue, Woodland Park, Prestatyn. Siaradwyr Cyhoeddus - Y Cynghorydd Jason McLellan (Yn erbyn) – mynegodd bryderon dros or-ddwysau’r safle ac eiddo nad
oedd yn cyd-fynd â chymeriad yr ardal, ynghyd â materion priffyrdd. [Ar yr adeg hon,
gadawodd y Cynghorydd McLellan y cyfarfod.] Trafodaeth Gyffredinol - Crynhodd y Swyddog Cynllunio (PM) yr
adroddiad a’r rhesymau dros argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo. O ystyried dwysedd y datblygiad
arfaethedig a'r math o anheddau yn yr ardal ni ystyriwyd y byddai effaith
annerbyniol ar gymeriad yr ardal. O ran priffyrdd, o ystyried y defnydd blaenorol y safle fel ysbyty cymuned,
nid yw’n debygol y byddai unrhyw gynnydd sylweddol mewn traffig ac ystyriwyd
nad oedd y cais yn codi unrhyw bryderon sylweddol o ran priffyrdd neu
hygyrchedd. Rhoddodd y Cynghorydd Hugh Irving (Aelod Lleol)
rhywfaint o hanes cefndir y safle a dywedodd ei fod wedi cysylltu â thrigolion
oedd yn gwrthwynebu’r cynigion. Mynegwyd pryderon ynghylch maint a graddfa'r datblygiad nad oedd yn
cyd-fynd â chymeriad cyffredinol yr ardal a materion parcio a diogelwch y
ffyrdd yn deillio o draffig a fyddai’n cael ei greu. Gofynnodd i'r aelodau ystyried gwrthod y
cais i gael ailddatblygiad a fyddai’n cydweddu’n well â’r ardal. Ychwanegodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, er bod lefelau dwysedd yn dod o fewn trothwy’r polisi, roedd y
cynigion yn cynrychioli gor-ddwysau o ran yr amgylchedd lleol. Roedd yn derbyn cymysgedd cyffredinol yr
anheddau yn yr ardal ond teimlai nad oedd yr arddull tri llawr yn gydnaws â'r
ardal o amgylch. Adroddodd y Cynghorydd Win Mullen-James ar yr
ymweliad safle diweddar ac arsylwadau a wnaed o ran y cyd-destun lleol (roedd
manylion yr ymweliad safle wedi cael ei ddarparu o fewn y papurau atodol hwyr). Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio at y pwyntiau a
godwyd ac ymateb fel a ganlyn - ·
roedd
dwysedd y datblygiad yn is na'r gofynion Cynllun Datblygu Lleol ac yn debyg i
ddatblygiad presennol yn yr ardal ·
roedd
agosrwydd yr eiddo presennol wedi cael eu mesur ac roeddynt yn cwrdd â'r
safonau sylfaenol sy'n ofynnol ar gyfer pellter rhwng anheddau ·
er y
byddai yna effaith ar amwynder preswyl, ni fyddai'n arwyddocaol ·
ni
fyddai'r annedd arfaethedig talaf ar flaen y safle yn uwch nag adeilad
presennol yr adeilad, ac oherwydd yr amrywiaeth o anheddau yn yr ardal, ni
ystyrir y byddai'r datblygiad yn niweidiol i gymeriad ac ymddangosiad yr ardal
leol ·
byddai
sylw gofalus i fanylion tirlunio a byddai amodau’n cael eu rhoi ·
ynghylch
draenio dŵr wyneb, roedd swyddogion yn trafod â Dŵr Cymru ac nid
oeddynt wedi codi unrhyw bryderon hyd yn hyn. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, bod y cais yn cael ei ganiatáu yn
unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 12 YMATAL - 0 GWRTHOD - 11 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 44/2015/0364/PF - 6, GROVE TERRACE, FFORDD Y TYWYSOG, RHUDDLAN, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
symud piler brics a gosod giatiau pren yn 6 Teras Grove, Ffordd y Tywysog,
Rhuddlan (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i symud piler o frics a gosod
giatiau pren yn 6 Grove Terrace, Ffordd y Tywysog, Rhuddlan. Siaradwyr Cyhoeddus - Ms S. King (O
Blaid) - dadlau dros gydraddoldeb ag eiddo cyfagos gan ddweud bod
strwythurau tebyg wedi cael eu tynnu ac yn amheus ynghylch unrhyw niwed i
gymeriad/ymddangosiad yr ardal leol. Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod
Lleol) o blaid y cais gan ddweud y byddai symud ac ail-leoli’r postyn yn gwella
effaith weledol ac yn gydnaws ag eiddo eraill yn yr ardal. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cais a derbyniwyd
cefnogaeth gan Gyngor Tref Rhuddlan a thrigolion eraill. Siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts
(Aelod Lleol) hefyd o blaid y cais a theimlai cynsail eisoes wedi ei osod yn yr
ardal. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts,
ac eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, fod y cais yn cael ei ganiatáu, yn
groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail na fyddai unrhyw effaith andwyol ar
yr ardal o ganlyniad i'r datblygiad a fyddai'n gydnaws ag eiddo eraill yn yr ardal. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 20 YMATAL - 0 GWRTHOD - 2 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail na
fyddai unrhyw effaith andwyol ar yr ardal o ganlyniad i'r datblygiad a fyddai'n
gydnaws ag eiddo eraill yn yr ardal. |
|
CAIS RHIF 18/2015/0501/PF - BRYN EGWALLT, LLANDYRNOG, DINBYCH PDF 5 KB Ystyried cais i
godi estyniad un llawr ac estyniad deulawr ym Mryn Egwallt, Llandyrnog, Dinbych
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi estyniadau un llawr a
deulawr yn ym Mryn Egwallt, Llandyrnog, Dinbych. Trafodaeth Gyffredinol - Yn absenoldeb y Cynghorydd Merfyn Parry
(Aelod Lleol) dywedodd y Cadeirydd nad oedd gan y Cynghorydd Parry unrhyw
wrthwynebiad i'r cais. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James, i gymeradwyo’r cais yn unol ag
argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 21 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 21/2015/0562/PF - BRYN HYFRYD, MAESHAFN, YR WYDDGRUG PDF 6 KB Ystyried cais i
godi estyniadau i ochr a chefn yr annedd presennol ym Mryn Hyfryd, Maeshafn, yr
Wyddgrug (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi estyniadau i ochr a chefn
yr annedd bresennol ym Mryn Hyfryd, Maeshafn, Yr Wyddgrug. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James, bod y cais yn cael ei ganiatáu
yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 20 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 20/2015/0199/PF - TIR YNG NGHASTELL BODELWYDDAN, ENGINE HILL, BODELWYDDAN, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
greu ffosydd Rhyfel Byd Cyntaf ar dir yng Nghastell Bodelwyddan, Engine Hill,
Bodelwyddan, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i adeiladu atgynhyrchiad o ffosydd
Rhyfel Byd Cyntaf ar dir yng Nghastell Bodelwyddan, Engine Hill, Bodelwyddan, Y
Rhyl. Argymhellodd y swyddogion gohirio’r cais i roi amser i Ymgeiswyr
ddarparu gwybodaeth archeolegol bellach i Ymddiriedolaeth Archeolegol
Clwyd-Powys. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Cheryl Williams, bod y cais yn
cael ei ohirio yn unol ag argymhelliad y swyddog. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO - 20 YN ERBYN GOHIRIO - 2 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid GOHIRIO'R cais
yn unol ag argymhelliad y swyddog er mwyn rhoi cyfle i wybodaeth archeolegol
bellach gael ei ddarparu. |
|
CAIS RHIF 45/2015/0451/PF - CLWB BINGO APOLLO, STRYD FAWR, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
godi to ar un ongl i ddarparu ardal ysmygu dan do ym mlaen yr adeilad, a
newidiadau allanol yng Nghlwb Bingo Apollo, Stryd Fawr, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi to ar oleddf unigol i
ddarparu ardal ysmygu dan do i flaen yr adeilad, a newidiadau allanol yng
Nghlwb Bingo Apollo, Stryd Fawr, Y Rhyl. Cynnig – Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield
(Aelod Lleol) na fyddai unrhyw effaith niweidiol yn sgil y datblygiad a
chynigiodd bod y swyddog yn argymell caniatáu’r cais, ac fe'i eiliwyd gan y
Cynghorydd Cheryl Williams. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 YMATAL - 1 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2015/0452/PF - CLWB BINGO APOLLO, STRYD FAWR, Y RHYL PDF 37 KB Ystyried cais
adeilad rhestredig ar gyfer gwaith adnewyddu mewnol ac allanol, darparu man
ysmygu dan do ym mlaen yr adeilad a gosod arwyddion wedi eu goleuo’n fewnol,
gosod llythrennu ffasgia newydd a goleuadau ffasâd yng Nghlwb Bingo Apollo,
Stryd Fawr, y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais adeilad rhestredig i ailwampio
mewnol ac allanol, darparu man ysmygu â chysgod iddo i flaen yr adeilad a gosod
arwyddion mewnol â goleuadau, llythrennu ffasgia a goleuadau ffasâd newydd yng
Nghlwb Bingo Apollo, Stryd Fawr, Y Rhyl. Cynnig - Doedd
gan y Cynghorydd Joan Butterfield (Aelod Lleol) ddim unrhyw wrthwynebiad i'r
cais a chynigiodd bod y swyddog yn ei ganiatáu, ac fe’i eiliwyd gan y
Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 20 YMATAL - 1 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
PROSIECT ISADEILEDD MAWR CYSYLLTIADAU FFERMYDD GWYNT GOGLEDD CYMRU PDF 160 KB Ystyried ymateb
i'r cais am ganiatâd datblygu a gyflwynwyd i'r Arolygiaeth Gynllunio mewn
perthynas â Phrosiect Isadeiledd Mawr Cysylltiadau Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn gofyn i'r aelodau
ystyried ymateb i'r cais am ganiatâd datblygu a gyflwynwyd i'r Arolygiaeth
Gynllunio mewn perthynas â'r Prosiect Isadeiledd Mawr Cysylltiadau Ffermydd Gwynt
Gogledd Cymru. Mae Scottish
Power Manweb yn symud ymlaen â’r cynigion ar gyfer llinellau uwchben er
gwaethaf ffaith bod y Cyngor, mewn egwyddor, o blaid cysylltiad dan y ddaear. Heb
ragfarnu sefyllfa’r Cyngor, mae’r pwyllgor bellach wedi cytuno y dylai’r Cyngor
gytuno ar Gytundeb Perfformiad Cynllunio a chymryd rhan yn y broses Archwilio. Cafwyd
diweddariad am y sefyllfa ddiweddaraf ac amserlenni. Ystyriodd yr
Aelodau yr Adroddiad Effaith Leol (ynghlwm wrth yr adroddiad) ac o ystyried yr
amserlenni tynn dan sylw, cytunwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei lenwi’n
llawn drwy ymgynghori ag aelodau ward perthnasol a’i gyflwyno ar yr adeg
briodol. O ran cynrychiolaeth y Cyngor, cytunwyd bod y Cyngor yn gwrthwynebu yn
ffurfiol i'r prosiect llinell uwchben ar sail yr effaith weledol; colli tir
amaethyddol a'r effeithiau posibl ar iechyd, twristiaeth a bioamrywiaeth. Yn
olaf, ystyriodd yr aelodau enwebu aelodau i gynrychioli'r Cyngor mewn
Gwrandawiadau Archwiliad dilynol, a mynegodd y Cynghorwyr Meirick Davies, Alice
Jones a Joe Welch ddiddordeb yn hynny o beth. PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor yn- ·
cytuno ar fformat yr Adroddiad Effaith
Leol drafft ynghlwm fel Atodiad D i'r adroddiad ac am Adroddiad Effaith Leol
derfynol i'w gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio, mewn ymgynghoriad ag Aelodau
Wardiau perthnasol ·
cytuno bod y Cyngor, cytunwyd
bod y Cyngor yn gwrthwynebu yn ffurfiol i'r cynnig datblygu ar sail yr effaith
weledol; colli tir amaethyddol, a'r effeithiau posibl ar iechyd, twristiaeth a
bioamrywiaeth, ac ·
enwebu Cynghorwyr Meirick
Davies, Alice Jones a Joe Welch i gynrychioli'r Cyngor mewn Gwrandawiadau
Archwiliad. |
|
BRIFF DATBLYGU SAFLE DRAFFT: CAE FFYDDION, DYSERTH PDF 100 KB Ystyried adroddiad
(copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer
safle Cae Ffyddion yn Nyserth a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol
Strategol cysylltiedig gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus
a’r Rheolwr Cynllunio a Thai Strategol (AL) adroddiad ar y cyd yn argymell bod
aelodau yn cytuno ar Friff Datblygu Safle (BDS) ar gyfer clustnodi safle tai
Cae Ffyddion, Dyserth a’r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol ar
gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Rhoddodd y Cynghorydd Smith rhywfaint o gyd-destun
i'r adroddiad ac eglurodd y gwahanol gamau yn y broses cyn i’r Pwyllgor
Cynllunio fabwysiadu'r Briff Datblygu Safle a'u pwysigrwydd wrth ddatblygu
meini prawf i fodloni gofynion lleol. Dywedwyd wrth yr aelodau hefyd bod y safle wedi ei
ddyrannu ar gyfer datblygu tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ac y byddai proses
ymgynghori yn cael ei chynnal ar y cyd ag aelodau lleol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Owen (Aelod Lleol)
at sylwadau a dderbyniwyd oddi wrth Ann Jones AC ynghylch yr ymgynghoriad a
chadarnhaodd y swyddogion y cytunwyd i ymestyn y cyfnod ymgynghori i 13 wythnos
ac y byddai o leiaf pedwar digwyddiad cyhoeddus yn cael eu cynnal yn ystod y
cyfnod hwnnw; byddai'r holl drigolion yn cael eu hysbysu o'r ymgynghoriad. Teimlai'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts dylid rhoi mwy o bwys ar
safleoedd clustnodi tai yn y CDLl tra’n ymgymryd ag adolygiadau ysgol o ran yr
effaith ar ddarpariaeth addysgol a llwybrau mwy diogel. Cadarnhaodd swyddogion
bod cydweithwyr addysg yn derbyn manylion am safleoedd oedd yn cael eu
clustnodi a datblygiadau sydd ar y gweill yn ystod y broses honno. Petai datblygiadau yn creu rhagor o alw ar
ysgolion, byddai angen cyfraniad datblygwr i gynyddu'r capasiti. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Peter Owen
argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies. PLEIDLAIS: O BLAID - 19 YN ERBYN - 2 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod
yr aelodau'n cytuno ar y Briff Datblygu Safle ar gyfer y safle a glustnodwyd ar
gyfer tai Cae Ffyddion, Dyserth a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol
Strategol cysylltiedig (fel ynghlwm wrth yr adroddiad) ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus. |
|
BRIFF DATBLYGU SAFLE DRAFFT: Y BRWCWS DINBYCH, SAFLEOEDD TAI A DDYRANNWYD YN Y CDLL PDF 99 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft
ar gyfer safleoedd datblygu tai ‘Y Brwcws’ yn Ninbych a'r ddogfen sgrinio
Asesiad Amgylcheddol Strategol cysylltiedig gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Bartley gysylltiad
personol â’r eitem hon gan ei fod yn Aelod Lleol]. Cyflwynwyd adroddiad yn argymell i’r aelodau
gymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer safleoedd tai ‘Brookhouse’ yn
Ninbych a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) amgaeedig ar
gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r egwyddor ar gyfer datblygu tai wedi cael ei
sefydlu yn y CDLl a nod y Briff Datblygu Safle oedd rhoi arweiniad cadarn ar
gyfer datblygiad arfaethedig. Trafododd yr Aelodau'r broses ymgynghori a dulliau gwahanol o ymgysylltu
â'r cyhoedd. Cytunwyd i ddefnyddio dull cyson o ymgynghori o ran amserlen a nifer o
ddigwyddiadau cyhoeddus gan ystyried barn yr aelodau lleol o ran lleoliadau ac
amseroedd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Bill Tasker
argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd David Simmons. PLEIDLAIS: O BLAID - 17 YN ERBYN - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod
yr aelodau'n cytuno ar y Briff Datblygu Safle ar gyfer y safleoedd a
glustnodwyd ar gyfer tai yn ‘Brookhouse’, Dinbych a'r ddogfen sgrinio Asesiad
Amgylcheddol Strategol cysylltiedig (fel ynghlwm wrth yr adroddiad) ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus. |
|
BRIFF DATBLYGU SAFLE DRAFFT: FFORDD HENDRE A MAES MEURIG, GALLT MELYD. PDF 99 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft
ar gyfer safleoedd datblygu tai Ffordd Hendre a Maes Meurig yng Ngallt Melyd
a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol cysylltiedig gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn argymell yr aelodau i gytuno ar y Briff Datblygu Safle drafft ar
gyfer safleoedd tai Ffordd Hendre a Maes Meurig yng Ngallt Melyd a'r ddogfen
sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) amgaeedig ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus. Dywedodd y swyddogion fod y ddau safle wedi eu
dyrannu yn y CDLl ar gyfer tai, ond maent yn parhau i fod yn safleoedd dadleuol
yn lleol ac fe ymdrinnir â phryderon yn y briff. Roedd y Cynghorydd Peter Evans (Aelod Lleol) yn fodlon bod y materion sy'n
peri pryder wedi eu cynnwys o fewn y briff drafft a byddai’n agored i
ymgynghoriad cyhoeddus. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai'r
safleoedd yn cael eu nodi'n glir ar y cynllun lleoliad cyn yr ymgynghoriad
cyhoeddus. Cytunodd yr Aelodau ar ymagwedd gyson gan ddefnyddio’r ddwy eitem
flaenorol o ran ymgynghori gyda’r bwriad o wneud y mwyaf o ymgysylltu â'r
cyhoedd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James. PLEIDLAIS: O BLAID - 20 YN ERBYN - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylai aelodau gytuno ar y Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer safleoedd tai
Ffordd Hendre a Maes Meurig yng Ngallt Melyd a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol
Strategol (fel sydd ynghlwm â'r adroddiad) ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Daeth y cyfarfod i ben am 1.05pm. |