Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 89 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Alice Jones gysylltiad personol a barn a oedd yn rhagfarnu Eitem
Rhif 8, Cais rhif 40/2015/0319 - Fferm Pengwern, Ffordd Nant y Faenol,
Bodelwyddan. Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad
personol ag eitem rhif 8. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Mai 2015
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Mai 2015. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2015 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-11) Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y Pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr
wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a ddaeth i law ar ôl
cyhoeddi'r Rhaglen a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er
mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid
amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 08/2014/1110 – Tir cyfagos i Werclas, Corwen PDF 6 KB Ystyried cais i Godi annedd, creu mynedfa newydd a maes parcio, gosod
gwaith trin a ffos gerrig a gwaith cysylltiedig ar dir ger Gwerclas, Corwen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi annedd, creu mynedfa newydd a man parcio, gosod gwaith trin a ffos gerrig
a gwaith cysylltiedig ar dir ger Gwerclas, Corwen. Siaradwyr Cyhoeddus- Miss Gill Naylor
ar ran Mr B Wallace (Yn erbyn) -
eglurodd y rhesymau pam bod Mr a Mrs Wallace yn erbyn codi annedd. Roedd
y rhesymau fel a ganlyn: ·
Byddai'r
annedd yn amlwg ac yn amharu ar y dirwedd ·
Fe
wnaeth y cais hepgor neu ddrysu manylion pwysig yn y cynllun ·
Nid
oedd y cais yn amddiffyn y goeden hynafol bresennol neu wrych ar ochr y ffordd,
a ·
Nid
oedd safle arall ger y fferm wedi cael ei ymchwilio'n drylwyr. Mrs J. Tudor (O blaid) - eglurodd ei rhesymau dros
godi’r annedd newydd. Roedd teulu Mr a Mrs Tudor wedi gweithio
ar y fferm am nifer o flynyddoedd.
Roedd Mr S Tudor a'i dad yn
gweithio gyda'i gilydd ar y fferm a oedd yn golygu gweithio oriau hir iawn. Felly,
byddai mantais glir o gael yr annedd yn agos at y fferm. Cadarnhaodd
Mrs Tudor ei bod hi a’i gŵr yn barod i weithio gyda'r Swyddogion Cynllunio
er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw effaith negyddol ar yr ardal leol. Dadl Gyffredinol – Fe wnaeth yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Cefyn
Williams, fynegi ei gefnogaeth i'r cais gan y byddai'n galluogi ac yn annog
pobl ifanc i aros yn y gymuned leol.
Codwyd pryder ynglŷn ag
ymateb partneriaeth yr AHNE a fyddai'n cael ei gwestiynu gan Gynghorwyr a oedd
yn aelodau o'r Bartneriaeth. Yn ystod y drafodaeth bu’n gonsensws barn
bod arallgyfeirio ar ffermydd yn ffordd ymlaen. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Cefyn Williams argymhelliad
y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes. PLEIDLAIS: O BLAID - 21 YN ERBYN - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 16/2015/0271 - NEUADD LLANBEDR, LLANBEDR DC RHUTHUN PDF 38 KB Ystyried cais i
Ddileu amod rhif 11 (sy'n gofyn am
ddarparu tai fforddiadwy) o ganiatâd cynllunio cod rhif 16/2014/1020 - Neuadd Llanbedr, Llanbedr DC, Rhuthun (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddileu Amod 11 (sy'n gofyn am ddarparu tai fforddiadwy) o ganiatâd cynllunio
cod rhif 16/2014/1020 yn Neuadd Llanbedr, Llanbedr DC, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus - Rhys Davies (O blaid) - eglurodd y rhesymau pam y
dylid dileu’r amod cynllunio gan nad oedd unrhyw ofyniad yn y Polisi Disodli
Annedd i ddarparu tai fforddiadwy, ac nid oedd wedi’i ystyried yn briodol gan
swyddogion i osod amod o'r fath. Yn ogystal â hyn, dywedodd Mr Davies na
fyddai darparu tai fforddiadwy o fewn y cynllun yn hyfyw. Os
na chytunwyd i ddileu'r amod, dywedodd Mr Davies y byddai'r ymgeisydd yn
apelio, a allai arwain at gostau i'r Cyngor. Dadl Gyffredinol - Eglurodd y Swyddog Cynllunio y rheswm dros yr
argymhelliad i ganiatáu dileu'r amod.
Roedd 11 uned annedd yn
nhermau cynllunio, a fyddai'n cael eu lleihau i 9 annedd. Roedd
yr 11 o fflatiau am gael eu disodli gan 9 tŷ a ystyriwyd o dan y Polisi
Disodli Annedd. Nid oedd hyfywedd tai fforddiadwy wedi cael ei
asesu. Dywedodd yr Aelodau bod angen tai fforddiadwy ym
mhentref Llanbedr. Nid oedd cynllun ariannol wedi’i gyflwyno gan yr
ymgeisydd i ddangos eu datganiad na fyddai tai fforddiadwy yn hyfyw. Crynhodd
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y drafodaeth ac eglurodd os byddai
aelodau yn gwrthod diddymu'r amod, y gallai'r ymgeisydd weithredu’r hawl i
apelio. O ran y mater o gostau, byddai'r rhain ond yn cael
eu dyfarnu os ystyrir bod y Cyngor wedi bod yn afresymol. Byddai
angen dau aelod i fynychu'r gwrandawiad apêl, i ddarparu tystiolaeth i'r
Arolygydd. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Huw Williams i wrthod y cais, yn groes i
argymhellion y swyddog, eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry. PLEIDLAIS: O BLAID - 2 YN ERBYN - 19 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD bod
y cais i ddileu Amod 11 yn cael ei WRTHOD,
yn groes i argymhelliad y swyddog, oherwydd nid oedd cynllun ariannol wedi’i
gyflwyno i brofi na fyddai tai fforddiadwy yn hyfyw. |
|
CAIS RHIF - 45/2013/1510 - SAFLE OCEAN BEACH, FFORDD WELLINGTON, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
Ddileu amod rhif 4 o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 45/2013/1510 i ganiatáu
gwaith tirlunio dros dro, ar neu cyn 31 Hydref 2015, Safle Ocean Beach, Ffordd
Wellington, Y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd cais wedi’i
gyflwyno i amrywio amod rhif 4 o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif
45/2013/1510 i ganiatáu gwaith tirlunio dros dro, ar neu cyn 31 Hydref 2015, ar
Safle Ocean Beach, Ffordd Wellington, y Rhyl. Siaradwr Cyhoeddus - Mr M Ralph (O blaid) - eglurodd y rhesymau pam y
dylid caniatáu’r cynnig i amrywio Amod 4. Roedd
rhan fach o'r safle datblygu wedi cael ei ddefnyddio fel lle caeedig ar gyfer y
gwaith amddiffyniad môr a oedd yn digwydd. Oherwydd
hyn, roedd yn ymddangos yn rhesymegol i gwblhau'r gwaith amddiffyniad môr, ac
ar ôl ei gwblhau, i wneud y gwaith tirlunio. Dadl gyffredinol - Mynegodd y Cynghorydd Joan Butterfield ei
hanfodlonrwydd ynghylch y diffyg tirlunio ar y safle datblygu. Datganodd
y Cynghorydd Butterfield, ynghyd ag aelodau eraill, bod angen tacluso’r safle
ac y dylid disodli neu drwsio a phaentio’r hysbysfyrddau o amgylch y safle yn
yr un lliw. Cynnig - bod caniatâd yn cael ei roi, yn unol ag
argymhelliad y swyddog, gyda’r diwygiadau ychwanegol: (i)
Amrywio
amod rhif 4 o ganiatâd cynllunio amlinellol cod rhif 45/2013/1510 i ganiatáu
gwaith tirlunio dros dro ar neu cyn 31 Hydref 2015, neu o fewn 14 diwrnod ar ôl
i'r Cyngor adael y lle caeedig o fewn y safle datblygu (ii)
Bod hysbysfyrddau presennol i gael eu disodli
neu eu trwsio a'u peintio yn yr un lliw. PLEIDLAIS: O BLAID - 17 YN ERBYN - 2 YMATAL - 2 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog i: (i)
Amrywio Amod Rhif 4 o ganiatâd cynllunio
amlinellol cod rhif 45/2013/1510 i ganiatáu gwaith tirlunio dros dro ar neu cyn
31 Hydref 2015, neu o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r Cyngor adael y lle caeedig o
fewn y safle datblygu, a (ii)
Bod
hysbysfyrddau presennol i gael eu disodli neu eu trwsio a'u peintio yn yr un
lliw. |
|
Ar y pwynt hwn (10.45 am) cafwyd toriad. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.00am. |
|
CAIS RHIF 05/2015/0353 - Pen y Graig, Glyndyfrdwy PDF 36 KB Ystyried cais i
ailddechrau defnydd preswyl o annedd ar gyfer deiliadaeth anghenion lleol a
chodi estyniad ym Mhen y Graig (de-orllewin Plas Tirion) Glyndyfrdwy, Corwen
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ailddechrau defnydd preswyl o annedd ar gyfer deiliadaeth anghenion lleol a
chodi estyniad ym Mhen y Graig (de-orllewin Plas Tirion) Glyndyfrdwy, Corwen. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Cefyn Williams bod y cais yn cael ei ohirio am fis
er mwyn caniatáu ar gyfer trafodaethau dros ddull dyluniad yr estyniadau
arfaethedig. Eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James. PLEIDLAIS – Dangoswyd dwylo’n cytuno’n unfrydol i ohirio am
fis. PENDERFYNWYD bod
y cais yn cael ei OHIRIO am fis er
mwyn caniatáu ar gyfer trafodaethau dros ddull dyluniad yr estyniadau
arfaethedig. |
|
CAIS RHIF 40/2015/0319 - Fferm Pengwern, Ffordd Nant y Faenol, Bodelwyddan PDF 6 KB Ystyried cais i
Godi adeilad amaethyddol gydag ardaloedd llawr caled, Fferm Pengwern, Ffordd
Nant y Faenol, Bodelwyddan (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi adeilad amaethyddol gydag ardaloedd llawr caled yn Fferm Pengwern, Ffordd
Nant y Faenol, Bodelwyddan. Yn y fan hon,
gadawodd y Cynghorydd Alice Jones Siambr y Cyngor yn dilyn ei datganiad o
gysylltiad personol ac un a oedd yn rhagfarnu yn yr eitem hon. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts argymhelliad y swyddog i
gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams. PLEIDLAIS: O BLAID - 18 YN ERBYN – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2015/0298 - 140A VALE ROAD, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
Newid defnydd o gyflenwyr adeiladwyr i siop cyrff cerbydau modur a bwth
chwistrellu a newidiadau cysylltiedig gan gynnwys gosod simnai awyru, 140A Vale
Road, Y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
newid defnydd o gyflenwyr adeiladwyr i siop cyrff cerbydau modur a bwth
chwistrellu a newidiadau cysylltiedig gan gynnwys gosod simnai awyru, 140A Vale
Road, y Rhyl. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Pat Jones argymhelliad y swyddog i wrthod y cais, a
eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Prendergast. PLEIDLAIS: O BLAID - 3 YN ERBYN - 17 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid GWRTHOD y cais yn unol ag
argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2015/0386 - 27 EDGBASTON ROAD, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
Godi estyniad 2 lawr yng nghefn yr annedd, 27 Edgbaston Road, Y Rhyl (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi estyniad 2 lawr yng nghefn yr annedd, 27 Edgbaston Road, Y Rhyl. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r
cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor. PLEIDLAIS: O BLAID - 19 YN ERBYN – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.10 a.m. |