Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIAD CYSYLLTIAD PDF 89 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn Eitem Rhif 5 Datganodd y
Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn Eitem Rhif 6. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Chwefror
2015 (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar ddydd Mercher, 18 Chwefror 2015. Dywedodd y
Cynghorydd Cheryl Williams nad oedd ei hymddiheuriadau wedi eu cynnwys yn y
cofnodion ar gyfer y cyfarfod. Dywedodd y
Cynghorydd Paul Penlington nad oedd y
Pwyllgor Cynllunio wedi cytuno i fabwysiadu Briff Datblygu Tŷ Nant
(Eitem 12) ond cytunodd i’r ymgynghoriad fynd rhagddo. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2015 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y Pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol.
Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a
dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â'r ceisiadau penodol. Er
mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid
amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
Ystyried cais i
ailddatblygu hen safle ysbyty trwy ddymchwel adeiladau presennol a chodi 6 o
unedau tai cymdeithasol gyda mynediad cysylltiedig a darpariaeth parcio; a
datblygu maes parcio ategol gyferbyn drwy godi 6 o unedau tai cymdeithasol gyda
mynediad cysylltiedig a darpariaeth parcio yn Ysbyty Cymunedol Llangollen a
Maes Parcio, Ffordd yr Abaty, Llangollen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ailddatblygu hen safle ysbyty trwy ddymchwel adeiladau presennol a chodi 6 o
unedau tai cymdeithasol gyda mynediad cysylltiedig a darpariaeth parcio; a
datblygu maes parcio ategol gyferbyn â’r 6 o unedau tai cymdeithasol gyda
mynediad cysylltiedig a darpariaeth parcio yn Ysbyty Cymunedol Llangollen a
Maes Parcio, Ffordd yr Abaty, Llangollen. Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol. Siaradwr Cyhoeddus - Roedd Mr Martin
Crumpton (Yn erbyn) wedi methu
mynychu cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio oherwydd salwch ond roedd wedi anfon
datganiad ac fe ddarllenodd y Prif Gyfreithiwr - Cynllunio a Phriffyrdd gynnwys
y datganiad i'r Pwyllgor. Mae'r datganiad yn nodi'r rhesymau pam bod
Mr Crumpton yn erbyn y bwriad o ail-ddatblygu safle’r ysbyty a'r maes parcio. Rhoddodd Mr Bryn
Davies (O blaid) fanylion cefndirol
byr ynghyd â rhesymau pam ei fod o blaid y cais. Eglurodd
Mr Davies ei fod yn cynrychioli Grwys Cynefin a fyddai'n gweithio mewn
partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i
ail-ddatblygu safle’r ysbyty a’r maes parcio pe bai’r cais yn cael ei
gymeradwyo. Cadarnhaodd yr
Aelod Ward, y Cynghorydd Stuart Davies, gan fod yr ysbyty wedi cael ei chau gan
BIPBC, y byddai ef o blaid ail-ddatblygu'r safle i ddarparu tai fforddiadwy i
bobl leol Llangollen. Esboniodd yr
Aelod Ward, y Cynghorydd Rhys Hughes, y byddai o blaid ail-ddatblygu'r safle
ysbyty ond byddai'n erbyn datblygu maes parcio. Dadl
Gyffredinol - eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio (PSC) i'r aelodau bod Swyddogion
Priffyrdd wedi gofyn am amodau ychwanegol i'w cynnwys pe bai'r cais yn cael ei
roi. Mewn ymateb i
faterion a godwyd cafwyd trafodaeth fanwl. Cafodd ei gadarnhau gan y PSC, er bod y cais a
gyflwynwyd yn cynnwys dau ddarn unigol o dir, gellid ei dderbyn fel un cais.
Dewis yr ymgeisydd oedd cyflwyno’r cais yn y modd hwnnw. Eglurwyd pe byddai'r cais yn cael ei
wrthod ar un elfen yna byddai'r cais cyfan yn methu. Cydnabuwyd bod parcio yn
broblem yn Llangollen, ond mae'r maes parcio dan sylw wedi bod yn cael ei
ddefnyddio gan ymwelwyr i'r ysbyty. Gellir cytuno ar ddeunyddiau ar gyfer y datblygiad
trwy amodau ar unrhyw ganiatâd. Cadarnhaodd Prif Gyfreithiwr - Cynllunio a
Phriffyrdd bod y dystysgrif perchenogaeth cywir wedi’i gyflwyno gan yr
ymgeiswyr. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies i ganiatáu'r
cais gan y byddai’r ailddatblygiad yn cwrdd ag anghenion pobl ifanc Llangollen. Eiliwyd hyn gan y
Cynghorydd Bob Murray. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Rhys Hughes i wrthod y cais
(yn groes i argymhelliad swyddogion) gan y byddai datblygu'r safle maes parcio
yn achosi problemau parcio ychwanegol yn Llangollen. Eiliwyd gan y
Cynghorydd Alice Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 19 YMATAL - 1 GWRTHOD - 5 PENDERFYNWYD bod
caniatâd yn cael EI ROI ar gyfer
ailddatblygu hen safle ysbyty trwy ddymchwel yr adeiladau presennol a chodi 6 o
unedau tai cymdeithasol gyda mynediad cysylltiedig a darpariaeth parcio; a
datblygu maes parcio ategol gyferbyn drwy godi 6 uned tai cymdeithasol a
mynediad cysylltiedig a darpariaeth parcio. Amodau priffyrdd ychwanegol wedi’u gosod
ar ganiatáu'r cais yn Ysbyty Cymuned Llangollen a Maes Parcio, Ffordd yr Abaty,
Llangollen. |
|
CAIS RHIF 10/2014/1168/PFT - HAFOTTY WEN, CORWEN PDF 6 KB Ystyried cais i
godi un tyrbin gwynt gydag allbwn o hyd at
250 cilowat, uchafswm uchder blaen llafn 48m, a datblygiad cysylltiedig
yn cynnwys adeiladu trac mynediad, llawr caled, twll cloddio, cysylltiad grid ac
ystafell switsys yn Hafotty Wen, Corwen (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
godi un tyrbin gwynt gydag allbwn o hyd at
250 cilowat, uchafswm uchder blaen llafn 48m, a datblygiad cysylltiedig
yn cynnwys adeiladu trac mynediad, llawr caled, twll cloddio, cysylltiad grid
ac ystafell switsys yn Hafotty Wen, Corwen. Datganodd y
Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol. Siaradwr Cyhoeddus - Mr John Brookes (Yn erbyn) - rhoddodd resymau pam ei fod
yn erbyn y cais a mynegodd bryderon ynghylch sŵn oherwydd maint y llafnau.
Hefyd, byddai’r tyrbin, os y gosodir, y gyntaf o'i fath yn y wlad. Mae'r
effaith ar yr eiddo cyfagos oherwydd maint y cynnig yn peri pryder mawr. Mrs Sian Wynne
Jones (O blaid) - rhoddodd resymau
dros ganiatáu'r cais. Eglurodd Mrs Wynne Jones hefyd ei bod wedi
byw yn yr ardal trwy gydol ei hoes ac y byddai'n sicrhau dyfodol i’w theulu a’i
phlant i fyw bywyd teuluol priodol yng Nghymru. Yn y fan hon,
cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu yr aelodau at y daflen las oedd yn dangos
cefnogaeth ychwanegol gan Arwel Rhys Davies i wneud 3 sylwadau ac nid 2. Dadl Cyffredinol – codwyd y
ffaith y byddai pellter y tyrbin yn llai na'r canllaw a osodwyd gan Lywodraeth
Cymru. Mae'r canllaw yn 500m ac mae'r cais yn 480m. Cadarnhaodd
y Rheolwr Datblygu nad oedd wedi bod yn ymwybodol o unrhyw geisiadau blaenorol
yn cael eu rhoi a oedd wedi bod yn llai na 500m. Byddai
allbwn sŵn y tyrbin, eto i gael ei ddefnyddio yn y wlad hon, yn cael ei
fonitro wrth osod y tyrbin a byddai amod yn ymwneud â monitro sŵn yn y
dyfodol yn cael ei gynnwys, os byddai’r cais yn cael ei roi. Y
rhesymau dros argymhelliad y swyddog i wrthod oedd o ganlyniad i’r effaith ar y
dirwedd. Arfaethedig - Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies i ganiatáu'r
cais (yn groes i argymhelliad swyddogion) ar sail arallgyfeirio ac ni fyddai
gosod y tyrbin yn niweidiol i'r dirwedd.
Eiliwyd hyn gan y Cyng. Huw
Hilditch-Roberts. Cadarnhawyd y
byddai'r bleidlais ar “ddod â’r amodau cynllunio awgrymedig yn ôl i'r Pwyllgor
Cynllunio i'w cymeradwyo pe bai’r cais yn cael ei roi". PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 12 YMATAL - 2 GWRTHOD - 11 PENDERFYNWYD bod
y cais yn cael EI ROI (yn groes i
argymhelliad y Swyddog) i ddod ag amodau cynllunio a awgrymwyd yn ôl i'r
Pwyllgor Cynllunio i'w cymeradwyo ar gyfer codi tyrbin gwynt unigol o hyd at
allbwn o 250 cilowat, uchafswm blaen llafn yn 48m o uchder, a datblygiadau
cysylltiedig yn cynnwys adeiladu trac mynediad, llawr caled, pwll cloddio, cysylltiad grid ac ystafell
switsys yn Hafotty Wen, Corwen. Y rheswm dros
y penderfyniad yn groes i argymhelliad y Swyddog Cynllunio, oedd rhoi sylw
dyledus i'r materion tirwedd / gweledol a mwynderau preswyl, a dylid rhoi sylw
priodol i rinweddau arallgyfeirio y cynigion, ac yn yr achos hwn yn cael eu
hystyried i gyfiawnhau rhoi caniatâd. |
|
CAIS RHIF 28/2014/1204/PF – FFERMDY TŶ COCH, STRYD TŶ COCH, HENLLAN, DINBYCH PDF 114 KB Ystyried cais i
ddymchwel adeiladau canolfan amaethyddol presennol a chodi 15 o anheddau,
newidiadau i'r fynedfa bresennol i gerbydau a lle parcio cysylltiedig (adnewyddu caniatâd cynllunio cod rhif. 28/2008/0578 Ffermdy Tŷ Coch, Stryd Tŷ Coch, Henllan, Dinbych
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddymchwel adeiladau canolfan amaethyddol presennol a chodi 15 o anheddau,
newidiadau i'r fynedfa bresennol i gerbydau a lle parcio cysylltiedig
(adnewyddu caniatâd cynllunio cod rhif. 28/2008/0578 – yn Ffermdy Tŷ Coch,
Stryd Tŷ Coch, Henllan, Dinbych. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies i
ganiatáu'r cais. Eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 24 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD bod
caniatâd yn cael EI ROI ar gyfer
dymchwel adeiladau canolfan amaethyddol a chodi 15 o anheddau, newidiadau i'r
fynedfa bresennol i gerbydau a lle parcio cysylltiedig (adnewyddu caniatâd
cynllunio cod rhif. 28/2008/0578 – yn Ffermdy Tŷ Coch, Stryd Tŷ Coch,
Henllan, Dinbych. |
|
CAIS RHIF 43/2015/0031/PF – 51 STRYD FAWR, PRESTATYN PDF 6 KB Newid defnydd y
llawr gwaelod o Ddosbarth A1 defnydd manwerthu i Ddosbarth A3 prydau parod
poeth.
Gosod blaen siop
newydd a newidiadau allanol cysylltiedig yn 51 Stryd Fawr, Prestatyn (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer newid defnydd y llawr gwaelod o fusnes gwerthu prydau bwyd parod poeth
o ddefnydd manwerthu Dosbarth A1 i Ddosbarth A3. Gosod
blaen siop newydd a newidiadau allanol cysylltiedig yn 51 Stryd Fawr,
Prestatyn. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i
ganiatáu'r cais. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bob Murray. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 24 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD bod
caniatâd yn cael EI ROI ar gyfer newid
defnydd y llawr gwaelod mewn busnes gwerthu prydau bwyd parod poeth o ddefnydd manwerthu Dosbarth A1
i Ddosbarth A3. Gosod
blaen siop newydd a newidiadau allanol cysylltiedig yn 51 Stryd Fawr,
Prestatyn. |
|
CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL HYSBYSEBION - MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL PDF 87 KB Ystyried
adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cynllunio (copi ynghlwm) i’r Aelodau gymeradwyo
mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) terfynol ar Hysbysebion i’w
defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Polisi a Chynllunio Datblygiad adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
i'r aelodau fabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol terfynol ar Hysbysebion ar
gyfer eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Mae ymgynghoriad
o 11 wythnos wedi’i wneud. Mae pedwar ymateb wedi dod i law, ond ni
chafodd unrhyw faterion o bwys eu codi. Cododd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bwynt ynglŷn â threfn gan nad yw'r
argymhellion yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd yr wythnos
flaenorol wedi dod i law. Felly, gofynnodd y Cynghorydd
Hilditch-Roberts i’r eitem gael ei ohirio nes y bydd trafodaeth lawn yn cael ei
gynnal ar ôl derbyn yr argymhellion gan Craffu. Felly, cynhaliwyd
pleidlais fel a ganlyn: GOHIRIO - 22 PEIDIO Â GOHIRIO - 1 PENDERFYNWYD gohirio'r
ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol Hysbysebion nes y bydd argymhellion gan y
Pwyllgor Craffu wedi eu derbyn. |
|
CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL “ARDALOEDD CADWRAETH” – MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL PDF 98 KB Ystyried
adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cynllunio (copi ynghlwm) i’r Aelodau gymeradwyo
mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) terfynol ar “Ardaloedd
Cadwraeth” yn unol â newidiadau a fwriadwyd wrth benderfynu ar geisiadau
cynllunio ac apeliadau yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Polisi a Chynllunio Datblygiad adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
i'r aelodau fabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol terfynol ar Ardaloedd
Cadwraeth ar gyfer eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau yn y dyfodol. Mae ymgynghoriad
o 11 wythnos wedi ei wneud. Mae pedwar ymateb wedi dod i law, ond ni
chafodd unrhyw faterion o bwys eu codi. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies i
gytuno mabwysiadu'r "Ardaloedd Cadwraeth" Canllawiau Cynllunio
Atodol. Eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts. PLEIDLAIS: O BLAID - 21 YMATAL - 0 YN ERBYN - 1 PENDERFYNWYD bod
y Canllaw Cynllunio Atodol “Ardaloedd Cadwraeth” yn cael ei fabwysiadu. |
|
CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL “ADEILADAU RHESTREDIG” – MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL PDF 99 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cynllunio (copi ynghlwm) i’r Aelodau gymeradwyo
mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) terfynol ar “Adeiladau
Rhestredig” yn unol â newidiadau a fwriadwyd wrth benderfynu ar geisiadau
cynllunio ac apeliadau yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Polisi a Chynllunio Datblygiad adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
i'r aelodau fabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol terfynol ar Adeiladau
Rhestredig i’w defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau yn y dyfodol. Mae ymgynghoriad
o 11 wythnos wedi ei wneud. Chwech ymateb wedi dod i law gyda mân
newidiadau. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i
gytuno mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol "Adeiladau Rhestredig". Eiliwyd
gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies. PLEIDLAIS: O BLAID - 21 YMATAL - 0 YN ERBYN - 1 PENDERFYNWYD bod
y Canllaw Cynllunio Atodol “Adeiladau Rhestredig” yn cael ei fabwysiadu. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Yn y fan hon,
gofynnodd y Cadeirydd i'r Aelodau os oedd unrhyw fater arall: Ø
Gofynnodd
y Cynghorydd Merfyn Parry am adroddiad i’w diweddaru ar ‘Pool Park’ yn y
Pwyllgor Cynllunio nesaf; Ø
Gofynnodd
y Cynghorydd Rhys Hughes am adroddiad i’w diweddaru ar Ysbyty Gogledd Cymru Ø
Hysbysodd
y Cynghorydd Joan Butterfield yr aelodau y byddai'r parc newydd yng Ngorllewin
y Rhyl yn agor mewn wythnos ac anogodd yr aelodau i ymweld â’r lle. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd y byddai adroddiadau "er
gwybodaeth" yn cael eu cyflwyno, ynghylch ‘Pool Park’ ac Ysbyty Gogledd
Cymru, a hynny yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a gynhelir ar 15
Ebrill 2015. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cymerodd y
Cadeirydd y cyfle i ddiolch i'r Swyddogion Cynllunio, Swyddog Cyfreithiol a
staff cymorth am eu gwaith. DIWEDD Y CYFARFOD
12.10PM. |