Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr
Merfyn Parry a Huw Williams – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen. Y Cynghorwyr Bob
Murray, Paul Penlington a Julian Thompson-Hill - Cysylltiad Personol - Eitem
rhif 12 ar y Rhaglen. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Ar y pwynt hwn,
gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y
Swyddogion Cynllunio ynglŷn â Datblygiad Scarborough ar safle’r Ocean
Beach yn y Rhyl. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod nifer o faterion mewn bod ac y
byddai diweddariad yn cael ei anfon at Grŵp Ardal yr Aelodau y Rhyl ar ôl
cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 21 Ionawr 2015
(copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ddydd Mercher, 21 Ionawr 2015. Gofynnodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts pam nad oedd yr holl Gynghorwyr, a gyfrannodd
yn ystod trafodaethau, wedi eu dyfynnu yn y cofnodion. Roedd y Cynghorydd
Hilditch-Roberts hefyd wedi codi'r mater mewn cyfarfod blaenorol o’r Cyngor ac
roedd o'r farn y dylid cofnodi sylwadau yn unol â hynny. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid
cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2015 fel cofnod
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-11) Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y Pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni
glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â cheisiadau
penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau,
cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
Ar y pwynt hwn,
cymerodd y Cynghorydd Win Mullen-James (Is-gadeirydd) rôl y Cadeirydd ar gyfer
Eitem 5 er mwyn galluogi’r Cynghorydd Raymond Bartley (Cadeirydd) i annerch y
Pwyllgor fel Aelod Ward Dinbych |
|
Sylwch, mae hon yn fersiwn ddiwygiedig
o'r adroddiad sy'n cynnwys eglurhad ar sylw a gafwyd gan Ann Jones AC yn unig. Ystyried cais i
greu llwybr teithio amlddefnyddiwr ar dir rhwng Eglwys Dewi Sant, Lôn Dewi Sant
a Ffordd y Brwcws Dinbych (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y cais
i greu llwybr teithio amlddefnyddiwr ar dir rhwng Eglwys Dewi Sant, Lôn Dewi
Sant a Ffordd y Brwcws, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus - Mr Kevin Ringer (yn erbyn) - eglurodd pam bod y trigolion
yn erbyn creu llwybr teithio amlddefnyddiwr, sef (i) diogelwch priffyrdd (ii)
amwynder gweledol (iii) ymddygiad gwrthgymdeithasol (iv) effaith ar goed (v)
cywirdeb y cynlluniau. Cadarnhaodd Mr Ringer bod y trigolion yn cefnogi llwybr
beicio, ond eu bod yn erbyn y llwybr arfaethedig. Mr Clwyd Wynne (o blaid) - eglurodd pam ei fod o a
thrigolion eraill o blaid y llwybr teithio amlddefnyddiwr. Dinbych yw un o unig
drefi yn Sir Ddinbych sydd heb lwybr beicio. Byddai'r cynnig yn darparu llwybr
diogel heb drafnidiaeth i drigolion a thwristiaid a byddai'n hyrwyddo
gweithgarwch corfforol i bob oed. Anerchodd y
Cynghorydd Raymond Bartley y Pwyllgor gan egluro pam y bydd yn pleidleisio yn
erbyn y cynnig. Anerchodd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Richard Davies, y Pwyllgor gan egluro ei fod yn
cynrychioli llais y rhan fwyaf o'i etholwyr ac felly o blaid y cais. Trafodaeth Gyffredinol - Mewn ymateb i faterion a godwyd, cafwyd
trafodaeth hir a manwl. Mae’r llwybr arfaethedig ar gael yn y cais a
gyflwynwyd. Nid yw llwybr amgen yn fater i’r Pwyllgor ei drafod heddiw. O ran y
materion a godwyd ynghylch cynnydd mewn troseddau ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol a diogelwch priffyrdd, byddai angen tystiolaeth i gefnogi'r
datganiadau hynny. Cadarnhaodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd
bod data wedi ei dderbyn a bod yr holl gyffyrdd wedi eu gwirio. Mae Archwiliad
Diogelwch y Ffyrdd Annibynnol wedi ei gynnal ac mae’r adroddiad wedi ei gynnwys
gyda'r papurau a ddosbarthwyd. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam nad oes
gohebiaeth gan yr Heddlu wedi ei chynnwys yn y papurau, cadarnhaodd y Rheolwr
Traffig, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd y byddai'r Heddlu yn ymwneud â’r mater pe
bai’n symud i Gam 3. Nid oes goleuadau wedi eu cynnwys fel rhan o’r cynnig.
Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori yn 2012, lle’r oedd 80% o'r ymatebwyr o blaid
llwybr heb drafnidiaeth. Cynnig - cynigiodd y Cynghorydd Raymond Bartley y dylid gwrthod y cais, yn groes i
argymhelliad y Swyddog, oherwydd: (i)
Pryderon
diogelwch priffyrdd oherwydd gwelededd cyfyngedig (ii)
Effaith
ar amwynder cymdogion oherwydd cynnydd mewn aflonyddwch Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bill Cowie. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 9 YMATAL - 0 GWRTHOD (yn groes
i argymhelliad y Swyddog) - 14 PENDERFYNWYD,
yn groes i argymhelliad y Swyddog, y
dylid GWRTHOD creu llwybr teithio
amlddefnyddiwr ar dir rhwng Eglwys Dewi Sant, Lôn Dewi Sant a Ffordd y Brwcws,
Dinbych. |
|
Ar y pwynt hwn
(10.45 am) cafwyd toriad. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11:00am. |
|
CAIS RHIF 01/2014/1390 - 51 PARC MYTTON, DINBYCH PDF 7 KB Ystyried cais i
godi estyniadau ac addasu annedd yn 51 Parc Mytton, Dinbych (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y cais
i godi estyniadau ac addasu annedd yn 51 Parc Mytton, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus - Mr Mark Evans (yn erbyn) - Siaradodd Mr Evans ar ran
ei fam, Mrs Freda Evans o 11 Dalar Wen, Dinbych. Eglurodd Mr Evans ei fod yn
erbyn yr estyniad arfaethedig oherwydd y byddai'n cael effaith andwyol ar
iechyd ei fam. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Rhys Hughes y dylid cymeradwyo codi’r estyniadau
ac addasu’r annedd yn 51 Park Mytton, Dinbych. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd
Bill Tasker. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 20 YMATAL - GWRTHOD - 1 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog fel y nodir yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 21/2014/0032/PF - COEDWIG CLWYD, MAESHAFN PDF 6 KB Ystyried cais i
godi storfa offer pren a lloches ar gyfer rheoli'r coetir (cais ôl-weithredol)
yn Big Covert, Coedwig Clwyd, Maeshafn (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y cais
i godi storfa offer pren a lloches ar gyfer rheoli'r coetir (cais
ôl-weithredol) yn Big Covert, Coedwig Clwyd, Maeshafn, yr Wyddgrug. Siaradwr Cyhoeddus - Mr Allan Morgans
(yn erbyn) - eglurodd pam ei fod yn erbyn
y cais a dywedodd ei fod yn pryderu’n arbennig am amddiffyn y coetir. Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y cynnig Cynllunio bod rhai mathau o
ddatblygiad o fewn coedwigoedd yn cael eu caniatáu. Byddai
Personau sydd angen strwythurau o'r fath ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â
choedwigaeth yn cyflwyno hysbysiad i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) cyn eu
codi. Yna, penderfynodd yr ACLl p’un a fyddai'r
datblygiad yn cael ei ganiatáu, neu a fyddai angen cais cynllunio. Yn
yr achos hwn, roedd y strwythur wedi’i godi a chais cynllunio wedi’i gyflwyno. Cafodd
y cais ei gefnogi gan Gynllun Rheoli Coetir. Teimlai'r
swyddogion, ar y cyfan, fod hyn yn dangos bod y strwythur yn rhesymol ofynnol
ar gyfer coedwigaeth. Efallai nad yw strwythurau eraill a
ddarganfuwyd mewn ardaloedd coedwig mor ddilys. Eglurodd yr Aelod
Lleol, y Cynghorydd Martyn Holland, pam ei fod yn gofyn i’r Aelodau wrthod y
cais. Eglurodd bod y mater wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd a hynny ar hyd
a lled coetiroedd Cymru. Mae Big Covert yn cael ei werthu fesul lleiniau ac mae
rhai lleiniau yn cael eu defnyddio fel cyrchfannau gwyliau, sy’n groes i'r
ddeddfwriaeth ac yn fwy na’r hyn sydd ei angen i reoli ardal fechan o goetir.
Cytunwyd bod angen gwneud y ddeddfwriaeth yn gliriach ac anogodd y Cynghorydd
Martyn Holland yr aelodau i ysgrifennu at yr Aelod Cynulliad i ofyn am newid yn
y canllawiau cynllunio ar gyfer coetiroedd yng Nghymru ac i bwysleisio'r angen
i newid y ddeddfwriaeth hefyd. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid gwrthod y cais, yn groes i
argymhelliad y swyddog, oherwydd: (i)
Ddim
ar gyfer gweithgareddau coedwigaeth dilys (ii)
Effaith
weledol ar yr AHNE Eiliwyd hyn gan y
Cynghorydd Dewi Owens. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 1 YMATAL - 2 GWRTHOD (yn groes
i argymhelliad y Swyddog) - 20 PENDERFYNWYD,
yn groes i argymhelliad y swyddog, y dylid GWRTHOD
y cais i godi storfa offer pren a lloches ar gyfer rheoli'r coetir (cais
ôl-weithredol) yn Big Covert, Coedwig Clwyd, Maeshafn, yr Wyddgrug. |
|
CAIS RHIF 21/2014/0096/PF - COEDWIG CLWYD, MAESHAFN PDF 6 KB Ystyried cais i
gadw sied bresennol ac adeiladu storfa goed (yn rhannol ôl-weithredol) yng
Nghoedwig Clwyd, Big Covert Maeshafn, Yr Wyddgrug (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y cais
i gadw sied bresennol a chodi storfa goed (rhannol ôl-weithredol) yng Nghoedwig
Clwyd, Big Covert, Maeshafn, yr Wyddgrug. Siaradwr Cyhoeddus - Mr Allan Morgans
(yn erbyn) – eglurodd pam ei fod yn erbyn
y cais. Dywedodd Mr Morgan bod y gwaith yn y coetiroedd wedi dechrau ymledu.
Mae cloddiau wedi eu plannu, toiledau wedi eu codi ac mae ysbwriel yn cael ei
adael mewn rhannau o’r coetir. Trafodaeth Gyffredinol – eglurodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Martyn
Holland, pam ei fod yn gofyn i’r Aelodau wrthod y cais. Mae’r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol hefyd yn ymwneud â’r mater gan eu bod yn rheoli’r rhan fwyaf o’r
coedwigoedd yn Sir Ddinbych. Cadarnhaodd y Cynghorydd Holland ei fod wedi cael
cyfarfod â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Dewi Owens y dylid gwrthod y cais, yn groes i
argymhelliad y swyddog, oherwydd: (i)
Ddim
ar gyfer gweithgareddau coedwigaeth dilys (ii)
Effaith
weledol ar yr AHNE Eiliwyd hyn gan y
Cynghorydd Bill Cowie. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 2 YMATAL - 2 GWRTHOD (yn groes
i argymhelliad y swyddog) - 20 PENDERFYNWYD,
yn groes i argymhelliad
y swyddog, y dylid GWRTHOD y cais i
gadw sied bresennol a chodi storfa goed (rhannol ôl-weithredol) yng Nghoedwig
Clwyd, Big Covert, Maeshafn, yr Wyddgrug. |
|
CAIS RHIF 18/2014/0793/PF - PENTRE MAWR COUNTRY HOUSE HOTEL, LLANDYRNOG, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i
newid defnydd tai allan i ffurfio 2 swît hunangynhwysol o lety gosod gwesty,
dymchwel seilo dur, adeilad amaethyddol â ffrâm ddur a wal garreg; gosod gwaith
trin carthffosiaeth a gwaith cysylltiol yn Pentre Mawr Country House Hotel,
Llandyrnog, Dinbych (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Merfyn Parry a Huw Williams gysylltiad personol â’r eitem hon. Cyflwynwyd y cais
i newid defnydd adeiladau allanol i ffurfio 2 swît hunangynhwysol sy’n rhan o’r
llety gwesty, dymchwel seilo dur, adeilad amaethyddol â ffrâm ddur a wal
garreg; gosod gwaith trin carthffosiaeth a gwaith cysylltiedig. Cynnig – Cynigion y Cynghorydd Merfyn Parry y
dylid cymeradwyo’r cais.
Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Julian Thompson – Hill. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 21 YMATAL - 1 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog fel y nodir yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 18/2014/0794/LB - PENTRE MAWR COUNTRY HOUSE HOTEL, LLANDYRNOG, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais
Adeilad Rhestredig i newid defnydd tai allan i ffurfio 2 swît hunangynhwysol o
lety gosod gwesty, dymchwel seilo dur, adeilad amaethyddol â ffrâm ddur a wal
garreg; gosod gwaith trin carthffosiaeth a gwaith cysylltiol yn Pentre Mawr
Country House Hotel, Llandyrnog, Dinbych (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Merfyn Parry a Huw Williams gysylltiad personol â’r eitem hon. Cyflwynwyd y cais
adeilad rhestredig i newid defnydd adeilad allanol i greu 2 swît hunangynhwysol
sy’n rhan o’r llety gwesty, dymchwel seilo ddur, adeilad amaethyddol â ffrâm
ddur a wal gerrig; gosod gwaith trin carthffosiaeth a gwaith cysylltiedig. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid cymeradwyo’r cais
Adeilad Rhestredig. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 21 YMATAL - 1 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais Adeilad
Rhestredig yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodir yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 24/2014/1246/PS - CHWAREL CRAIG Y DDYWART, RHUTHUN PDF 57 KB Ailystyried cais
a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio ar 21 Ionawr 2015 ar gyfer amrywio amod
rhif. 3 caniatâd cynllunio rhif cod 24/2007/0694 (a roddwyd dan apêl) i
ganiatáu i sefydliadau eraill fel yr awdurdodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru i
gael caniatâd i ddefnyddio'r safle yn y Cyfadeilad Hyfforddiant Gynnau, Chwarel
Craig y Ddywart, Rhewl, Rhuthun (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y cais
ar gyfer ailystyried y penderfyniad blaenorol i wrthod amrywio amod rhif 3
caniatâd cynllunio rhif cod 24/2007/0694 (a roddwyd dan apêl) i ganiatáu i
sefydliadau eraill fel yr awdurdodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru i gael caniatâd
i ddefnyddio'r safle yn y Cyfadeilad Hyfforddiant Gynnau, Chwarel Craig y
Ddywart, Rhewl, Rhuthun. Roedd y cais wedi
cael ei ddychwelyd at y Pwyllgor gan Swyddogion yn dilyn y penderfyniad i
wrthod a wnaed gan Aelodau yng nghyfarfod mis Ionawr 2015. Esboniodd
yr adroddiad eglurhaol gyda'r eitem hon y rhesymau dros hyn. Eglurodd y Swyddog Cynllunio,
lle'r oedd gan Swyddogion bryder gwirioneddol y gallai penderfyniad y Pwyllgor
arwain at ddyfarnu costau ar apêl, caniataodd y Cynllun Dirprwyo iddynt
ddychwelyd eitem i'w ystyried ymhellach.
Yn yr achos hwn, cododd yr
Aelodau bryderon ynghylch ofn am drosedd yn ymwneud â'r cynnig. Gan
mai cais a wnaed gan Heddlu Gogledd Cymru oedd hwn, teimlai swyddogion y gallai
ofn o'r fath fod yn anodd ei gyfiawnhau mewn apêl. Trafodaeth Gyffredinol – Ailadroddodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Merfyn
Parry, ei bryderon a chynigiodd unwaith eto y dylid gwrthod y cais. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid gwrthod y cais, yn groes i
argymhelliad y Swyddog Cynllunio. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw Williams. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Alice Jones y dylid cymeradwyo’r cais. Eiliwyd
hyn gan y Cynghorydd Rhys Hughes. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 YMATAL - 0 GWRTHOD (yn groes
i argymhelliad y swyddog) - 7 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddog fel y nodir yn yr adroddiad. |
|
BRIFF DATBLYGU TŶ NANT PDF 107 KB Gofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i gynnal ymgynghoriad ar y Brîff Datblygu
Safle drafft a'r Asesiad Amgylcheddol Strategol cysylltiedig gyda chyrff
statudol a'r cyhoedd (copi’n amgaeedig). Os caiff ei gymeradwyo, bydd y Brîff
Datblygu Safle yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu ar unrhyw gais cynllunio
ar y safle. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Bob Murray, Paul Penlington a Julian Thompson-Hill gysylltiad
personol â’r eitem hon. Cyflwynodd y
Rheolwr Cynllunio a Pholisi Datblygu adroddiad yn argymell y dylai’r Aelodau
gymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer Tŷ Nant, Ffordd Llys
Nant, Prestatyn a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd cyfnod yr
ymgynghoriad cyhoeddus yn o leiaf 8 wythnos a rhagwelir y bydd yn dechrau fis
Mawrth 2015. Bydd arddangosfeydd / digwyddiadau galw-i-mewn yn cael eu cynnal
yn Llyfrgell Prestatyn (manylion i'w cyhoeddi cyn gynted â phosibl). Bydd
canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio
gydag unrhyw newid arfaethedig yn sgil y sylwadau a dderbynnir. Nod y briff
datblygu safle yw gosod fframwaith i arwain unrhyw waith ailddatblygu posibl ar
y safle. Byddai'n caniatáu ar gyfer dymchwel neu gadw adeilad presennol Tŷ
Nant. Dylid cadw a pharhau i ddefnyddio ffryntiad Ffordd Llys Nant a Siambr
bresennol y Cyngor, os yn bosibl, ond mae cyfle am ddylunio arloesol ar weddill
y safle. Mae'r brîff datblygu yn caniatáu cymysgedd o ddefnyddiau e.e.
adwerthu, hamdden, preswyl, masnachol, swyddfeydd, iechyd, addysg a mannau
agored cyhoeddus ac mae angen cysylltiadau da i gerddwyr i'r Stryd Fawr. Mae perchenogaeth
y tir wedi ei rannu rhwng Cyngor Sir Ddinbych a'r Eglwys yng Nghymru, a
fyddai'n rhan o ddatblygiad y safle. Cynnig - Cynigiodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddog, a eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Paul Penlington. Roedd yr aelodau
eraill yn llwyr gytûn. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer Tŷ Nant, Ffordd
Llys Nant a’r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol (ynghlwm wrth yr
adroddiad) ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 12.25 p.m. |