Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr
Peter Evans, Colin Hughes a Pat Jones |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiadau personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Hugh
Evans – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 7 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Dewi
Owens – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 12 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Merfyn Parry – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Williams – Cysylltiad Personol a Chysylltiad sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 5 ar y
Rhaglen a Chysylltiad Personol – Eitem rhif 7 ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 10 Medi, 2014
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a
gynhaliwyd ar 10 Medi 2014 i’w cymeradwyo. Cywirdeb – Tudalen 12 – Cais rhif. 12/2014/0611/PF
– Cynghorodd y Cynghorydd Cefyn Williams nad oedd wedi cyfeirio at brisiau tai
yn Nerwen. PENDERFYNWYD –yn
amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 10 Medi 2014 fel cofnod
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD DATBLYGU (EITEMAU 5-12) Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn
hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â'r
ceisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i
gyflwyno sylwadau cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n
briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF. 19/2014/0702 / PFT - MAES TRUAN, LLANELIDAN, RHUTHUN Ystyried cais am
osod tyrbin gwynt, uchder both 30.5m ac 45.07m i flaen y llafn, bocs rheoli a
gwaith cysylltiedig ym Maes Truan, Llanelidan, Rhuthun (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Huw Evans gysylltiad
personol gan fod yr Ymgeisydd wedi gwneud rhywfaint o waith ffermio iddo. Datganodd y Cynghorydd Huw Williams
gysylltiad personol gan fod yr Ymgeisydd wedi gwneud rhywfaint o waith ffermio
iddo bedair blynedd yn ôl.] Cyflwynwyd cais ar gyfer gosod tyrbin gwynt 30.5m uchder
both ac 45.07m i flaen y llafn, bocs rheoli a gwaith cysylltiedig ym Maes
Truan, Llanelidan. Siaradwyr Cyhoeddus- Mr M. Brooker (Yn
Erbyn) – amlygu pryderon ynglŷn â thirwedd ac effaith weledol ynghyd â
lefelau sŵn tyrbin o’r fath. Mr A. Jones, yr ymgeisydd (O Blaid) – eglurodd gysylltiadau’r teulu gyda’r ardal a'r gymuned
ffermio a bod angen arallgyfeirio er mwyn darparu hyfywedd y fferm yn y
dyfodol. Trafodaeth Gyffredinol - Crynhodd y Swyddog
Cynllunio’r adroddiad a’r rhesymau dros argymhelliad y swyddogion i wrthod y
cais yn seiliedig ar effaith ar dirwedd a’r effaith weledol. Ymatebodd y Swyddogion i nifer o faterion
gweithdrefnol a godwyd mewn perthynas â'r cais, yn enwedig o ran y broses
ymgynghori. Yn dilyn cadarnhad na
fyddai'r sŵn yn cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos, siaradodd y
Cynghorydd Hugh Evans (Aelod Lleol) o blaid y cais, gan gredu fod y buddiannau
economaidd lleol yn drech na’r pryderon cynllunio a godwyd. Yn ystod trafodaeth fanwl ystyriodd yr aelodau
fuddiannau’r cais gan drafod, yn helaeth, ynglŷn â'r ystyriaethau
cynllunio perthnasol a'r polisïau perthnasol. Derbyniwyd yn gyffredinol y byddai arallgyfeiriad
y prosiect yn sicrhau hyfywedd y fferm ac yn fuddiol i’r gymuned leol ehangach
ac roedd rhan fwyaf o’r drafodaeth yn ceisio sefydlu os oedd y buddiannau
hynny'n drech na'r effaith weledol a'r ystyriaethau eraill. Ystyriodd yr Aelodau faint a lleoliad y
tyrbinau yn yr ardal mewn perthynas â safle’r cais ac eglurodd y swyddogion y
rhesymeg tu cefn i’r penderfyniadau cynllunio sy’n gysylltiedig â datblygiadau
tyrbinau eraill. Nodwyd fod caniatâd ar gyfer tyrbin 15kW ar y safle yn parhau hyd fis
Ionawr 2015. Roedd y mater a oedd cymeradwyo’r cais hwn yn ychwanegu at
ledaeniad tyrbinau gwynt yn yr ardal yn ddadleuol. Rhoddwyd ystyriaeth i’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan Gydbwyllgor
Ymgynghorol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn
Dyfrdwy a Chyfoeth Naturiol Cymru. Nodwyd nad oedd
Cydbwyllgor Ymgynghorol yr AHNE yn ymgynghorai statudol ac nad oeddent wedi
cynnal ymweliad safle gan arwain at gwestiynau ynglŷn â digonedd eu
hymateb a'u rôl yn y broses. Er bod y swyddogion wedi rhoi pwysau sylweddol i ymateb Cyfoeth Naturiol
Cymru roedd cryfder eu sylwadau hwyr yn destun trafodaeth hefyd. Ystyriodd yr Aelodau'r effaith ar eiddo cyfagos a darparodd y swyddogion
sicrwydd y gellid rheoli’r sŵn yn effeithiol gydag amodau cynllunio i
sicrhau na fyddai effaith andwyol a nodwyd llythyr cefnogaeth gan gymydog cyfagos.
Cynnig – Ystyriodd y Cynghorydd Stuart Davies bod
achos hyfyw ar gyfer arallgyfeirio fferm, a bod y buddiannau’n drech na’r
pryderon cynllunio eraill, ac fe gynigodd, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Merfyn Parry, bod y cais yn cael ei gymeradwyo, yn groes i argymhelliad y
swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 6 YMATAL - 3 Yn dilyn penderfyniad aelodau’r pwyllgor gofynnwyd iddynt bleidleisio os
dylid cyflwyno adroddiad ynglŷn â’r amodau cynllunio a materion cytundeb
cyfreithiol i’r pwyllgor i’w gymeradwyo neu os dylid rhoi pwerau dirprwyol i
swyddogion mewn cydweithrediad â’r Cadeirydd a’r Aelod Lleol. PLEIDLAIS: ADRODD YN ÔL I’R PWYLLGOR -11 DIRPRWYO PWERAU I'R SWYDDOGION - 16 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn groes i argymhelliad y swyddog, ac y dylid rhoi pwerau dirprwyol i'r swyddogion, mewn cydweithrediad â Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a’r Aelod Lleol, i roi amodau cynllunio ar y cais ac ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF. 31/2013/1079 / PFHY - TIR YN ELWY MEADOWS, FFORDD ISAF DINBYCH, LLANELWY Ystyried cais am
osod cynllun trydan dŵr micro ar dir yn Elwy Meadows, Ffordd Dinbych Isaf,
Llanelwy (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd cais wedi’i gyflwyno er mwyn gosod cynllun
hydro-drydan micro ar dir yn Elwy Meadows, Ffordd Isaf Dinbych, Llanelwy. Gofynnodd y Swyddogion am gael gohirio’r
cais er mwyn gallu cyflawni ymgynghoriadau ychwanegol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens, bod y cais yn cael ei ohirio'n unol â
chais y swyddog. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO – 27 YN ERBYN GOHIRIO-0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid GOHIRIO’R cais er mwyn ymgynghori ymhellach. Ar y pwynt hwn
(11.00 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
CAIS RHIF. 41/2013/0857 / PF – TŶ TAFARN DINORBEN ARMS, BODFARI, DINBYCH Ystyried cais i
newid defnydd a thrawsnewid, gyda dymchwel yn rhannol, o gyn-dafarn i ffurfio 1
annedd ac adeiladu garej ar wahân yn y cefn yn Nhŷ Tafarn Dinorben,
Bodfari, Dinbych. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer newid defnydd a
thrawsnewid, gan ddymchwel yn rhannol, cyn dŷ tafarn i ffurfio 1 Annedd a chodi garej
ar wahân tu cefn i Dŷ
Tafarn Dinorben Arms, Bodfari, Dinbych. Siaradwyr Cyhoeddus- Mr. A. Williams (Yn Erbyn) – gofynnodd i’r aelodau gymhwyso eu polisïau’n llym gan
ddadlau nad oedd y cais yn diwallu meini prawf newid defnydd yn yr achos hwn. Mr. T. Thackery, yr Ymgeisydd (O Blaid) – adroddodd ynglŷn â’r dylanwadau ariannol ac
economaidd ar ôl caffael yr eiddo yn 2010 a dadleuodd yn erbyn ei hyfywedd yn y
dyfodol. Trafodaeth Gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd Barbara Smith
(Aelod Lleol) yn erbyn y cais, gan gefnogi’r gwrthwynebiad a gyflwynwyd gan
Gyngor Cymuned Bodfari. Dadleuodd nad oedd y meini prawf a nodwyd ym Mholisi HEG 10 o'r Cynllun
Datblygu Lleol wedi’u diwallu oherwydd (1) nid oedd wedi arddangos nad oedd yr
eiddo'n hyfyw bellach, (2) nid oedd yr eiddo wedi’i farchnata, a (3) ni
archwiliwyd pob opsiwn rhesymol arall i ganfod defnyddiwr newydd. Ystyriodd yr aelodau fuddiannau’r cais a
chwestiynu cadernid y dystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i Bolisi HEG 10.
Mynegwyd pryderon nad oedd y meini prawf wedi'u cyflawni gan nad oedd y safle
wedi'i farchnata ers 2008 ac ni ddarparwyd tystiolaeth o farchnata. Roedd safbwyntiau cymysg ynglŷn â chynaladwyedd yn y dyfodol gydag
enghreifftiau o dai tafarn eithaf llwyddiannus wedi’u darparu ond cydnabuwyd
hefyd bod nifer o fusnesau tebyg wedi methu. Mynegwyd pryderon ynglŷn â chyflwr yr eiddo ac er nad oedd yr
aelodau’n dymuno ei weld yn dirywio ymhellach roeddent yn cydymdeimlo â
safbwynt y gymuned. Cydnabu'r swyddogion nad oedd profion y polisi wedi’u diwallu’n llawn ond
roeddent yn argymell y dylid rhoi’r caniatâd oherwydd y byddai'r tebygolrwydd o
ddenu busnes hyfyw ar ôl blynyddoedd o esgeulustod yn annhebygol ac oherwydd y
byddai’r cynnig yn sicrhau defnydd hir dymor ar gyfer yr adeilad oedd yn safle
dolur llygad ar hyn o bryd. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau ynglŷn â manylion y cais a’r
meysydd parcio ar y safle pe cymeradwyir y cais. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch- Roberts, bod y cais yn cael ei
wrthod oherwydd eu bod wedi methu â marchnata’r eiddo mewn ymateb i Bolisi HEG
10. Awgrymwyd terfyn amser o ddeuddeg mis er dibenion marchnata. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 12 GWRTHOD - 15 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD rhoi caniatâd, yn groes i argymhelliad y swyddog, yn
seiliedig ar fethiant i farchnata’r eiddo yn unol â Pholisi HEG 10 y Cynllun
Datblygu Lleol. |
|
CAIS RHIF. 41/2013/0858 / LB – TŶ TAFARN DINORBEN ARMS, BODFARI, DINBYCH Ystyried cais
adeilad rhestredig ar gyfer trawsnewid a dymchwel yn rhannol ac addasiadau i
gyn-dafarn i ffurfio 1 annedd gyda garej newydd ar wahân yn y cefn yn Nhŷ
Tafarn Dinorben, Bodfari, Dinbych. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais adeilad rhestredig i drawsnewid,
dymchwel yn rhannol ac addasu cyn dŷ tafarn i ffurfio 1 annedd gyda garej
newydd ar wahân tu cefn i Dŷ Tafarn Dinorben Arms, Bodfari, Dinbych. Eglurodd y swyddogion bod y Pwyllgor wedi gwrthod
y cais cynllunio cynharach ar gyfer prif ddefnydd fel annedd ac roedd y cais
hwn yn ymdrin ag effaith yr addasiadau arfaethedig yn unig. Yn dechnegol gellir cymeradwyo’r cais ond
ni ellid dechrau ar y gwaith adeiladau oherwydd nid oedd caniatâd cynllunio. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch- Roberts, bod y cais yn cael ei
ohirio er mwyn canfod bwriad yr ymgeisydd yn dilyn penderfyniad y pwyllgor o
ran yr eitem flaenorol. Gan na chafwyd trafodaeth ynglŷn â buddiannau’r cais cynghorodd y swyddogion
y byddai'n briodol ystyried ei ohirio. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO – 22 YN ERBYN GOHIRIO – 4 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid GOHIRIO'R cais er mwyn penderfynu ar fwriadau’r ymgeisydd yn dilyn
penderfyniad y pwyllgor i wrthod cais cynharach i newid defnydd. |
|
CAIS RHIF. 06/2014/0996/PF - OROR FARM, GWYDDELWERN, CORWEN Ystyried cais i
godi sied wartheg amaethyddol, seilo bwyd anifeiliaid a chyfleusterau trin yn
Oror Farm, Gwyddelwern, Corwen (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Huw Williams, fel
Ymgeisydd, gysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu a gadawodd y
cyfarfod wrth i’r eitem hon gael ei thrafod. Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad
personol am ei fod wedi delio gyda'r Ymgeisydd.] Cyflwynwyd cais i godi sied wartheg amaethyddol,
seilo bwyd a chyfleusterau trin yn Oror Farm, Gwyddelwern, Corwen. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Joan Butterfield
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Rhys Hughes. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 25 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF. 15/2014/0888 / PF - TIR GER CANOL Y CAE, FFORDD Y PENTREF, ERYRYS, YR WYDDGRUG Ystyried cais i
godi adeilad amaethyddol ar gyfer storio a lloches stoc ar dir ger Canol Y Cae,
Ffordd y Pentref, Eryrys, Yr Wyddgrug (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi adeilad amaethyddol fel
storfa a gwarchodfa stoc ar dir ger Canol y Cae, Ffordd y Pentref, Eryrys, yr
Wyddgrug. Trafodaeth Gyffredinol – Nid oedd gan y Cynghorydd Martyn Holland
(Aelod Lleol) unrhyw wrthwynebiad mawr ond cyflwynodd nifer o faterion o ran
ymgynghori a maint yr adeilad arfaethedig. Ymatebodd y swyddogion (1) eu bod wedi ymgynghori
â’r cymdogion, (2) yn dilyn pryderon y Cyngor Cymuned ceisiwyd mwy o gyngor gan
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig oedd yn nodi bod maint yr adeilad
yn rhesymol, a (3) derbyniwyd bod angen ei guddio â sgrin ac roedd wedi’i
gynnwys yn amod 4 yr adroddiad. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Arwel Roberts. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 26 GWRTHOD – 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF. 43/2014/0906 / AD - 79 STRYD FAWR, PRESTATYN Ystyried cais ar
gyfer gosod 2 arwydd ffasgia wedi ei oleuo'n allanol ac 1 arwydd ymwthiol
wedi’i oleuo'n allanol yn 79 Stryd Fawr, Prestatyn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i osod 2 arwydd ffasgia wedi’u
goleuo’n allanol ac 1 arwydd crog wedi’i oleuo’n allanol yn rhif 79 Stryd Fawr, Prestatyn. Cynnig – Gan ystyried yr amod diwygiedig o ran y
lliw fel y nodwyd yn y papurau ategol hwyr cynigodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill (Aelod Lleol) ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes, y
dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 25 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn
yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
CAIS RHIF. 46/2014/0710 / PF - GWYLFA, SGWÂR BRONWYLFA, LLANELWY Ystyried cais am
newid defnydd o siop Dosbarth A1 i Ddosbarth A3 bwyty a siop bwyd cyflym ar
Gwylfa, Sgwâr Bronwylfa, Llanelwy (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Dewi Owens gysylltiad
personol gan ei fod yn byw yn agos at safle’r cais cynllunio.] Cyflwynwyd cais i newid defnydd Siop Dosbarth A1 i
Fwyty a Siop Cludfwyd Poeth Dosbarth A3 yng Ngwylfa, Sgwâr Bronwylfa, Llanelwy.
Trafodaeth Gyffredinol – Cydbwysodd y Cynghorydd Dewi Owens (Aelod
Lleol) oes oedd angen siop cludfwyd poeth arall yn erbyn nifer yr eiddo gwag. Ceisiodd sicrwydd ynglŷn â rheoli
arogl ac oriau agor. Amlygodd y Cynghorydd Bill Cowie (Aelod Lleol) broblemau traffig yr oedd y
preswylwyr yn eu dioddef ac y byddent yn gwaethygu ar ôl cwblhau datblygiad tai
Bryn Gobaith a gofynnodd i gael ailymweld â’r mater hwn. Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd
Davies am ystyriaeth i adfer y gofod parcio o flaen yr eiddo pe bai'r cais yn
cael ei gymeradwyo. Ymatebodd y swyddogion - ·
Bod
amod wedi’i gynnig i sicrhau bod system echdynnu mygdarth wedi’i osod yn yr
eiddo a’i fod yn diwallu gofynion yr awdurdod. ·
Bod y
swyddogion yn cynnig amod newydd o ran oriau agor yr eiddo a oedd yn rhesymol
ar gyfer eiddo bwyd [0900-2100 dydd Llun i ddydd Sadwrn a 1100 i 2000 ddydd
Sul] ·
Bod
yr eiddo wedi’i ddynodi o fewn ffin canol y dref a bod asesiad y Peiriannydd
Priffyrdd wedi ystyried y defnydd blaenorol a’r defnydd arfaethedig ac wedi
penderfynu na fyddai’n achosi materion priffyrdd. ·
Er
nad oedd yn rhan o’r cais hwn cytunodd y swyddogion i drafod yr awgrym i
ailosod gofod parcio tu allan i'r eiddo gyda Swyddogion Priffyrdd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Rhys Hughes
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Merfyn Parry. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 25 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn
yr adroddiad a’r papurau ategol. |
|
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) yn argymell mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol
drafft 'Gofynion Parcio mewn Datblygiadau Newydd' yn unol â'r diwygiadau
arfaethedig ar gyfer penderfynu ar geisiadau ac apeliadau cynllunio yn y
dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, adroddiad yn cyflwyno Canllaw Cynllunio Atodol
drafft ‘Gofynion Parcio mewn Datblygiadau Newydd’ i’w mabwysiadu yn dilyn
ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol- ·
O ran
darpariaeth parcio ar gyfer myfyrwyr ysgolion uwchradd nodwyd fod gan bob ysgol
eu polisi personol i ganiatáu llefydd parcio i fyfyrwyr ai peidio. ·
Crybwyllwyd
safbwynt y Cyngor o beidio â chefnogi fflatiau un ystafell mewn datblygiadau a
gofynnodd yr aelodau am gael dileu'r cyfeiriadau at fflatiau un ystafell o'r
canllawiau. ·
Ceisiwyd
sicrwydd a fyddai dull synnwyr cyffredin yn cael ei ddefnyddio wrth gymhwyso'r
canllawiau ar gyfer datblygiadau mewn safleoedd strategol allweddol yn y
dyfodol, a chadarnhaodd y Rheolwr Polisi y byddai ychydig o hyblygrwydd yn y
polisi ond pwysleisiodd bwysigrwydd y gofynion parcio fel man cychwyn. ·
Codwyd
pryderon fod parcio annigonol wedi’i gynnig ar gyfer sectorau penodol megis
anheddau hunangynhwysol ar gyfer pobl hŷn a thai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle'r oedd cyfyngiad o ran
cludiant cyhoeddus, ac roedd pryderon y byddai tai’n cael eu gwasgu at ei
gilydd gan waethygu’r broblem. Ymatebodd y Rheolwr Polisi mai canllaw oedd y ddogfen yn unig ac roedd
darpariaeth ar gyfer amrywiaeth er mwyn ystyried amgylchiadau lleol fyddai’n
caniatáu hyblygrwydd. Mae’n debyg y byddai gan dai newydd fwy nag un ystafell wely ac roedd
darpariaeth newydd o ofodau parcio ar gyfer ymwelwyr wedi'u cynnig ar gyfer
datblygiadau mwy. Gofynnodd y Cynghorydd Stuart Davies am gael
diwygio ffigyrau darpariaeth parcio. Cyfeiriodd y Cynghorydd David Smith at
gyfleoedd blaenorol i ymateb i’r ymgynghoriad gan gynghori y byddai angen
ymgynghoriad cyhoeddus ychwanegol ar gyfer unrhyw ddiwygiadau. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons
argymhelliad y swyddog yn amodol ar ddileu’r geiriau 'fflat un ystafell' yn y
tabl ar dudalen 6, paragraff 6.13, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Richard
Davies. PLEIDLAIS: O BLAID - 20 YN ERBYN - 2 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD yn amodol ar ddileu ‘fflat un ystafell’
o’r tabl ar dudalen 6, paragraff 6.13 y ddogfen, bod yr aelodau’n mabwysiadu
drafft Canllawiau Cynllunio Atodol ’Gofynion Parcio mewn Datblygiadau Newydd’
yn unol â’r diwygiadau arfaethedig er mwyn penderfynu ar geisiadau cynllunio ac
apeliadau yn y dyfodol. |
|
CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL SIOPAU CLUDFWYD POETH – DRAFFT YMGYNGHORI Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) yn argymell yr aelodau i gytuno ar y CCA drafft ar
siopau cludfwyd poeth fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno drafft Canllaw Cynllunio
Atodol ar siopau cludfwyd poeth ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Cyfeiriodd yr aelodau at baragraff 6.7 ynglŷn
â sbwriel ac amlygwyd problemau cyfredol gan alw i gryfhau'r mesurau bod camau
gorfodi llym yn cael eu cymhwyso yn erbyn troseddau gollwng sbwriel. Crybwyllwyd y cynnig o gyflwyno cyfyngiad
ar siopau cludfwyd poeth ger ysgolion hefyd, yn enwedig gan fod nifer o
ysgolion yn agos at ganol trefi, a chydnabuwyd fod gan yr ysgolion eu polisïau
eu hunain yn nodi a ddylid caniatáu’r disgyblion i adael tir yr ysgol yn ystod
amser cinio. Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau fod ganddynt gyfle i gyflwyno sylwadau
ynglŷn â'r ddogfen yn ystod y cyfnod ymgynghori o wyth wythnos. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies
argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Jeanette
Chamberlain-Jones. PENDERFYNWYD yn unfrydol bod yr aelodau’n cymeradwyo’r
Canllaw Cynllunio Atodol drafft ar siopau cludfwyd poeth ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus. |
|
DATGANIAD SEFYLLFA: BANC TIR MWYNAU YN SIR DDINBYCH Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) yn argymell aelodau i gytuno ar ddatganiad sefyllfa
yng ngoleuni cyhoeddi’r Adolygiad 1af o’r Datganiad Technegol Rhanbarthol a
Llythyr Eglurhad CL-04-14 i ddangos ymrwymiad Sir Ddinbych i gyfrannu at y galw
am fwynau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, adroddiad yn argymell bod yr aelodau’n cytuno â
datganiad sefyllfa yn dilyn cyhoeddiad Adolygiad Cyntaf Datganiad Technegol a
Llythyr Eglurhaol CL-04-14 i arddangos ymrwymiad Sir Ddinbych i gyfrannu tuag
at y galw am fwynau. Roedd gofyniad i sicrhau y gwneir cyfraniad
priodol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i ddiwallu'r galw am fwynau. Eglurodd yr Uwch Swyddog Mwynau a
Chynllunio Cymru ynglŷn â goblygiadau adolygiad CDLl Sir Ddinbych, yn
enwedig o ran cerrig wedi’u malu a thywod a graean, ynghyd â’r rhesymeg o ran
termau’r datganiad sefyllfa. Yn gryno ystyriwyd bod y polisi cyfredol yn ddigon hyblyg i ddiwallu’r galw
newydd pe bai’r angen oherwydd y dyraniadau cyfredol. Mewn ymateb i’r cwestiynau eglurodd y swyddog
botensial ffracio ym Modelwyddan ond cadarnhaodd nad oedd olew a nwy yn rhan
o’r polisi a byddai’n cael ei drin ar wahân pe bai'n codi. Awgrymodd y Cynghorydd David Smith mai
Gweithgor y CDLl fyddai’r man gorau i drafod ffracio a’i oblygiadau ar gyfer
Sir Ddinbych. Amlygodd y Cynghorydd Martyn Holland nifer y chwareli anweithredol yn ei
ward a holodd am botensial yn y dyfodol. Cadarnhaodd y swyddog bod digon wrth gefn yn y sir
ac amlygodd ddyraniad yn y CDLl oedd yn dangos ardal a ffefrir yn Ninbych /
Aberchwiler ond na chafwyd unrhyw ddiddordeb gan y diwydiant. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies
argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Cheryl Williams. PENDERFYNWYD yn
unfrydol bod yr aelodau’n cytuno â’r datganiad sefyllfa a argymhellwyd ym
mharagraff 5.1 yr adroddiad. |
|
Y DIWEDDARAF AR ACHOS CYDYMFFURFIAETH CYNLLUNIO Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) yn diweddaru’r aelodau ar achosion cydymffurfiaeth
cynllunio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn diweddaru’r aelodau
ynglŷn ag achosion cydymffurfiaeth cynllunio, gan gynnwys rhai oedd wedi’u
hawdurdodi’n flaenorol yn y pwyllgor ac achosion o ddiddordeb cyffredinol. Anogwyd yr aelodau i gysylltu â swyddogion
perthnasol tu allan i’r cyfarfod os oeddent angen rhagor o wybodaeth
ynglŷn ag achosion penodol. PENDERFYNWYD nodi’r
adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm. |