Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

CROESO

Croesawyd pawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.  Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod.

 

 

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod yn ffurfiol.

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Hugh Irving yn ffurfiol yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw eitem i’w thrafod yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad a oedd yn rhagfarnu.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO - THE GLANGLASFOR, 1 GLANGLASFOR, Y RHYL, SIR DDINBYCH LL18 1RP pdf eicon PDF 309 KB

Ystyried cais gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 51 Deddf Trwyddedu 2003 (mae amlinelliad o’r cais a’r papurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y weithdrefn i’w dilyn gan yr Is-Bwyllgor os gwelwch yn dda (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD fod yr amodau ar y Drwydded Eiddo yn cael eu haddasu yn unol â’r deuddeg addasiad fel yr argymhellwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn eu Cais Adolygu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) ar –

 

(i)        gais a oedd wedi dod i law gan Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Adolygu Trwydded Safle mewn perthynas â Glanglasfor, 1 Glanglasfor, Y Rhyl (copi o'r Drwydded Eiddo bresennol a'r amserlen weithredu gyfredol wedi'u hatodi fel Atodiad A yn yr adroddiad);

 

(ii)      y sail dros adolygu, a nodir yn y cais, yw -

 

“o ganlyniad i’r eiddo’n methu â hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu, yn benodol Atal Trosedd ac Anrhefn, Atal Niwsans Cyhoeddus ac Amddiffyn Plant rhag Niwed.  Yn ogystal, mynegwyd pryder nad oedd yr eiddo’n cadw at yr oriau a ganiateir yn ei drwydded eiddo.  Er gwaethaf ymdrechion gan Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd, roedd yr eiddo wedi methu yn barhaus ag ymgysylltu .  Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ddiffyg hyder yng Ngoruchwyliwr Dynodedig yr Eiddo, Deiliad y Drwydded Eiddo a Rheolwyr yr Eiddo i reoli'r eiddo’n gyfrifol”

 

atodwyd manylion llawn y Cais am Adolygiad fel Atodiad B yn yr adroddiad ond i grynhoi, mae’n ymwneud â digwyddiad ar 3 Mawrth 2022 pan godwyd pryderon difrifol ynglŷn â’r posibilrwydd o dorri rheolau’r drwydded eiddo; unigolion meddw yn yr eiddo; methu â rheoli cwsmeriaid; polisi gwirio oedran; plant yn feddw yn yr eiddo a’r eiddo yn cloi’r drysau tra bo plant yno, a’r diffyg ymgysylltiad dilynol gan Ddeiliad y Drwydded Eiddo / Goruchwyliwr Dynodedig yr Eiddo i drafod y pryderon hynny a phryderon blaenorol yn gysylltiedig â Covid ym mis Hydref 2020;

 

(iii)     cyfeiriwyd at y protocol gorfodi ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor, a oedd yn cynnwys cyfarfod ymgysylltu Lefel 1 gyda’r eiddo am ganiatáu i gwsmeriaid feddwi yn yr eiddo a methu â darparu lluniau teledu cylch cyfyng i’r Heddlu yn dilyn ymosodiad difrifol yn yr eiddo;

 

(iv)     yng ngoleuni’r digwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r eiddo, honnodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd gan yr eiddo fesurau digonol mewn lle i hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu, a thynnodd sylw hefyd at ddiffyg ymgysylltiad Deiliad y Drwydded Eiddo / Goruchwyliwr Dynodedig yr Eiddo gyda’r Heddlu a'r Cyngor.  O ganlyniad, roedd yr Heddlu wedi gwneud cais am adolygu’r drwydded eiddo a gofyn i aelodau ystyried nifer o fesurau ychwanegol er mwyn datrys y mater (atodiad C yn yr adroddiad);

 

(v)      nid oes unrhyw sylwadau pellach wedi’u derbyn gan Awdurdodau Cyfrifol nac aelodau o’r cyhoedd mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus gofynnol o’r Cais am Adolygiad;

 

(vi)     yr angen i ystyried y Cais am Adolygiad gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau a dderbyniwyd, ac

 

(vii)    yr opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu yr adroddiad gan amlinellu ffeithiau'r achos.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)

 

Roedd Mr . Aaron Haggas, Swyddog Trwyddedu’r Heddlu ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, yn bresennol ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

 

Wrth gyflwyno achos yr Heddlu, esboniodd Mr. Haggas bod yr Heddlu wedi ceisio ymgysylltu â’r eiddo trwyddedig ar y cyfle cyntaf posibl yn dilyn unrhyw bryder, a oedd yn tueddu i fod ar ffurf llythyr ffurfiol gyda disgwyliad i dderbyn neu wrthod y cynnig.  Roedd yn rhwystredig pan na fynychodd y rheiny a wahoddwyd, a hyd yn oed yn fwy rhwystredig pan anwybyddwyd gwahoddiadau dilynol.  Amlygwyd pa mor bwysig yw’r berthynas waith rhwng pob awdurdod cyfrifol ac eiddo trwyddedig ac roedd yr Heddlu yn gwbl ymwybodol o’r heriau a’r beichiau sy’n wynebu’r diwydiant trwyddedu.  Fodd bynnag, roedd cyfrifoldeb i hyrwyddo’n weithredol y pedwar amcan trwyddedu ac roedd y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â hynny yn cael eu  ...  view the full Cofnodion text for item 3.