Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.  Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO NEWYDD – CO-OP (SAFLE ADEILAD NEWYDD YN GYFAGOS I LYS YR YNADON, PRESTATYN), VICTORIA ROAD, PRESTATYN pdf eicon PDF 212 KB

Ystyried cais am Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

 Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais fel y gwnaed cais amdano.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)        cais wedi dod i law gan Co-op Food Limited mewn perthynas â Co-op, Victoria Road, Prestatyn (Atodiad A i’r adroddiad);

 

(ii)      y bwriad i weithredu'r eiddo fel siop gyfleus a fydd ar agor bob dydd o’r wythnos ac yn gwerthu nwyddau, eitemau amrywiol ac alcohol i’w yfed oddi ar y safle yn unig;

 

(iii)     mae’r ymgeisydd wedi gofyn am awdurdod i ddarparu alcohol fel a ganlyn -

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG

DYDDIAU PERTHNASOL

AMSEROEDD

Darparu Alcohol (i’w yfed oddi ar y safle)

Dydd Llun – dydd Sul

06.00 – 23:00

Oriau y bydd yr eiddo yn agored i’r cyhoedd

Dydd Llun – dydd Sul

06.00 – 23:00

 

(iv)     mae un sylw ysgrifenedig (Atodiad B i’r adroddiad) wedi dod i law gan barti â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus, yn ymwneud ag aflonyddwch posibl o sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;

 

(v)      mae’r ymgeisydd wedi nodi parodrwydd i gyfryngu gyda’r parti sydd â diddordeb, fodd bynnag, mae’r gwrthwynebydd wedi nodi bod gwell ganddynt i'r mater ddod ger bron aelodau;

 

(vi)     yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a’r

 

(vii)    opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD

 

Roedd Mr. R. Arnot, Cyfreithwyr Ward Hadaway a Mr. O. Jones, Rheolwr Siop Co-op yn bresennol ar ran yr Ymgeisydd (Co-operative Food Limited).

 

Wrth gyflwyno achos ei gleient, rhoddodd Mr. Arnot -

 

·         ychydig o wybodaeth gefndir i Co-operative Food Limited, gan roi gwybod ei fod yn fanwerthwr mawr, adnabyddus, hir-sefydledig gydag enw da, gyda chynlluniau am ragor o fuddsoddiad ac ehangiad i Gymru; eglurodd werthoedd craidd Co-op hefyd a'u bod yn cefnogi cymunedau lleol ac elusennau

·         rhoddwyd gwybod bod y cais yn ymwneud ag adeilad newydd Siop Co-op ym Mhrestatyn, a oedd i fod i agor yn Ebrill 2019 gydag oriau agor safonol (6.00 am - 11.00 p.m.), er mwyn gwasanaethu i anghenion cwsmeriaid ac adlewyrchu arferion siopa modern

·         dangoswyd bod gwerthiant alcohol yn ymwneud â thua 15% o’r trosiant, gydag 85% o’r trosiant yn ymwneud â bwyd ac eitemau amrywiol, gan ddangos bod gwerthiant alcohol yn ategol at amrediad eang o gynhyrchion domestig y Siop

·         ymhelaethwyd ar bolisïau a gweithdrefnau cynhwysfawr Co-op, gan gynnwys pob mater yn ymwneud ag oedran, gyda chyfeiriad penodol at hyfforddiant a systemau ar gyfer sicrhau y cedwir yn llym at y polisi Her 25 (roedd manylion ynghylch Llawlyfr Hyfforddiant Craidd Co-op a gwybodaeth Oedran yn Bwysig wedi'u cylchredeg yn flaenorol i aelodau, ynghyd â chynllun bloc o'r eiddo)

·         cynllun manwl o’r eiddo a lleoli alcohol yn strategol oddi wrth y fynedfa, er mwyn atal mynediad uniongyrchol at gwsmeriaid, ynghyd â nifer a lleoliad y camerâu TCC mewnol ac allanol

·         cynghorwyd, yn unol â'r arfer, y cysylltwyd â’r Heddlu yn ystod y cam cynnar yn y broses a'u bod wedi cadarnhau eu bod yn fodlon o ran cynigion ar gyfer y Siop; tynnwyd sylw hefyd at y ffaith nad oedd unrhyw wrthwynebiadau i’r cais wedi dod i law gan awdurdodau cyfrifol

·         dyfynnwyd Canllaw a gyflwynwyd o dan Adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 10.15 yn ymwneud ag oriau masnachu: “Dylai siopau ac archfarchnadoedd fod yn rhydd i werthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle ar unrhyw adeg pan fydd y siop yn agored, oni bai bod rhesymau da, yn seiliedig ar amcanion trwyddedu, ar gyfer cyfyngu ar yr oriau hynny” a  ...  view the full Cofnodion text for item 3.