Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthin

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr holl bartïon i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.  Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt i bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni wnaeth unrhyw un ddatgan cysylltiad.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED BERSONOL - YMGEISYDD RHIF 15/1517/LAPER pdf eicon PDF 122 KB

Ystyried cais am Drwydded Bersonol gan Ymgeisydd Rhif 15/1517/LAPER a gyflwynwyd yn unol ag Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)        chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 15/1517/LAPER am Drwydded Bersonol newydd yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (Atodiad B yr adroddiad);

 

(ii)      rhoi Trwydded Bersonol i unigolyn yn awdurdodi’r unigolyn hwnnw i gyflenwi alcohol, neu awdurdodi cyflenwi alcohol, yn unol â thrwydded eiddo ac sydd mewn grym am nifer digyfyngiad o flynyddoedd oni bai ei bod yn cael ei hildio, ei diddymu, ei hatal neu ei fforffedu;

 

(iii)     yr Ymgeisydd wedi datgan trosedd berthnasol heb ei threulio fel rhan o'r broses o ymgeisio am Drwydded Bersonol;

 

(iv)     Heddlu Gogledd Cymru wedi mynegi gwrthwynebiadau i'r cais ar y sail y byddai caniatáu'r drwydded yn tanseilio amcan atal troseddu Deddf Trwyddedu 2003 (Atodiad A i'r adroddiad);

 

(v)      yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i'r Canllawiau a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a

 

(vi)     yr opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Rhoddodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r achos.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol i gefnogi ei gais ac adroddodd ar ei waith a'i brofiad yn y fasnach dafarndai.  Roedd yn dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant hwnnw ac wedi cael ei annog gan ei gyfoedion i wneud cais am Drwydded Bersonol er mwyn cyflawni ei uchelgais.  Eglurodd ei fod eisiau parhau yn y math hwnnw o waith yn hytrach na bod yn ddi-waith a cheisio am waith mewn diwydiannau eraill.

 

CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD CYMRU

 

Roedd Mr Aaron Haggas, Swyddog Trwyddedu'r Heddlu yn cynrychioli Heddlu Gogledd Cymru.  Er yn cydnabod fod yr Ymgeisydd wedi bod yn onest wrth ddatgan ei euogfarn nododd yr Heddlu ei fod yn euogfarn difrifol ac yn drosedd berthnasol nad oedd wedi ei threulio o dan amodau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. O ganlyniad, nododd yr Heddlu y byddai caniatáu'r drwydded yn tanseilio'r amcan atal troseddu ac y dylai'r Ymgeisydd ail-ymgeisio pan fydd yr euogfarn wedi cael ei dreulio.  Nododd Mr. Haggas hefyd nad oedd angen Trwydded Bersonol ar yr Ymgeisydd er mwyn gweithio yn y fasnach drwyddedig.

 

 Cymerodd yr aelodau'r cyfle i holi'r Ymgeisydd ynghylch ei euogfarn a mynegwyd pryder ei fod wedi methu â mynegi unrhyw edifeirwch ynglŷn â hynny yn ystod ei gyflwyniad.  Ymatebodd yr ymgeisydd i'r aelodau fel a ganlyn -

 

·         cydnabu ei fod wedi bod yn ffôl yn ei ieuenctid a’i fod yn difaru ei ymddygiad yn y gorffennol, ond rhoddodd sicrwydd ynghylch ei ymddygiad presennol ac yn y dyfodol, gan gadarnhau ei fod wedi dal swydd â chyfrifoldeb yn y fasnach dafarndai yn ddiweddar ac roedd yn dymuno datblygu ei uchelgais i’r perwyl hwnnw

·         ymhelaethodd ar ei euogfarn a'r ddedfryd a roddwyd iddo a oedd wedi gwneud iddo ddeffro o ran ei ymddygiad a'i fod wedi dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol

·         ymddiheurodd am ei ymddygiad yn y gorffennol gan ddweud ei fod wedi bod yn ifanc a ffôl ac yn hawdd i’w arwain

·         amlygodd fod ei amgylchiadau wedi newid ac roedd yn mwynhau gweithio yn y fasnach dafarndai ac yn dymuno datblygu gyrfa yn y proffesiwn.

 

DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD

 

Dywedodd yr Ymgeisydd nad oedd ganddo ddim arall i'w ychwanegu at ei gyflwyniad.

 

GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS

 

Ar y pwynt hwn (2.15pm) gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.

 

PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd benderfyniad yr Is-bwyllgor i'r rhai a oedd yn bresennol ac adroddodd y Prif Gyfreithiwr y rhesymau dros  ...  view the full Cofnodion text for item 3.