Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.  Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu dosbarthu ynghynt i bawb a darparwyd copïau o’r Datganiad Polisi Trwyddedu yn y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad eu codi.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO – THE WELLINGTON, 34 WELLINGTON ROAD, Y RHYL pdf eicon PDF 194 KB

Ystyried cais am Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 Deddf Trwyddedu 2003 (mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais fel y gwnaed cais amdano, yn amodol ar yr amodau a gynigir gan Heddlu Gogledd Cymru ac y cytunwyd arnynt ymlaen llaw gyda'r Ymgeisydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar -

 

(i)        gais sydd wedi dod i law gan Mr. Sean Donnelly am Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â The Wellington (gynt The Liverpool Arms), 34 Wellington Road, Y Rhyl;

 

(ii)      mae’r ymgeisydd wedi gofyn am ganiatâd i ddarparu’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol:

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG

DYDDIAU PERTHNASOL

AMSER O

AMSER HYD

Digwyddiadau Chwaraeon Dan Do

(Dartiau/Pŵl/Dominos)

 Llun - Iau

Gwen- Sad

Sul

10:00

10:00

11:00

00:00

01:30

00:30

 

Cerddoriaeth Fyw (dan do) yn unig

Llun - Iau

Gwen - Sad

Sul

Nos Calan

17:00

12:00

11:00

00:00

01:30

12:30

02:00

Cerddoriaeth wedi’i Recordio (dan do) yn unig

Llun - Iau

Gwen - Sad

Sul

Nos Calan

10:00

10:00

11:00

10:00

00:00

01:30

12:30

02:00

Perfformio Dawns (dan do)

Gwen - Sad

Sul

Nos Calan

12:00

11:00

10:00

01:30

12:30

02:00

Adloniant o ddisgrifiad tebyg i gerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi’i recordio neu berfformiad dawns (Dan do)

Llun - Iau

Gwen - Sad

Sul

Nos Calan

10:00

10:00

11:00

10:00

00:00

01:30

12:30

02:00

 

Gwerthu Alcohol (i’w yfed YN yr eiddo ac ODDI AR yr eiddo)

Llun - Iau

Gwen - Sad

Sul

Nos Calan

10:00

10:00

11:00

10:00

00:00

01:30

00:30

02:00

 

(iii)     mae Trwydded Eiddo sy'n caniatáu gwerthu alcohol ac adloniant a reoleiddir yn y safle wedi cael eu hildio gan ddeiliad y drwydded blaenorol yn 2011;

 

(iv)     mae’r ymgeisydd wedi nodi bod y safle wedi bwriadu masnachu fel tafarn;

 

(v)      Gwrthwynebwyd y cais gan Heddlu Gogledd Cymru ond yn dilyn trafodaethau gyda'r ymgeisydd lluniwyd nifer o amodau sydd wedi eu cynllunio i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (Atodiad A) ac ar y sail honno gofynnodd yr Heddlu, pe byddai’r aelodau o blaid cymeradwyo’r cais, eu bod yn ystyried cynnwys yr amodau hynny o fewn Atodlen Weithredu’r eiddo;

 

(vi)     mae dau o sylwadau ysgrifenedig wedi'u derbyn gan bartïon â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus (Atodiad B i'r adroddiad) yn ymwneud yn bennaf ag aflonyddwch posibl o sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;

 

(vii)    yr Atodlen Weithredu arfaethedig (Atodiad C i'r adroddiad);

 

(viii)  Mae angen ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i Ganllawiau; Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i ddeddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol a dderbyniwyd.

 

(ix)     Nodwyd y dewisiadau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ynglŷn â’r cais.

 

Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD

 

 

Roedd yr ymgeisydd, Mr. Sean Donnelly yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais.  Eglurodd ei fod wedi cymryd yr eiddo yn ddiweddar a chyn hynny ei fod wedi bod yn denant Tafarn y Lorne, y Rhyl.  Yn ystod ei denantiaeth mae wedi sefydlu perthynas waith dda gyda'r Heddlu a pharhaodd yn aelod o'r cynlluniau Pubwatch a Chyswllt Tref.  Rhoddodd Mr. Donnelly sicrwydd ynghylch ei fwriadau yn y dyfodol, a rhoddodd wybod am newidiadau mawr tu mewn i'r eiddo er mwyn creu amgylchedd fel bwthyn i ddenu ei gleientiaid targed sy’n 30 oed a hŷn.  Nid oedd yn dymuno achosi aflonyddwch i gymdogion ac nid oedd yn bwriadu chwarae cerddoriaeth uchel, a rhoddodd wybod y byddai cerddoriaeth yn gyffredinol yn dod i ben am 11.30 pm ac y byddai'r adeilad yn cau tua 12 hanner nos.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd yr ymgeisydd -

 

·         nid oedd y gwaith adnewyddu yn cynnwys insiwleiddio sŵn ond os bydd sŵn yn broblem byddai'n ystyried y posibilrwydd

·         Rhoddodd wybod am ei brofiad blaenorol yn y fasnach drwyddedig, gan gynnwys ei denantiaeth yn Nhafarn y Lorne a chyn hynny rai blynyddoedd yn ôl yn Lloegr.

 

SYLWADAU HEDDLU  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE - CLWB GWLEDIG Y VALE, FFORDD YR WYDDGRUG, RHUTHUN

[Mae'r cais hwn wedi ei dynnu'n ôl yn ddiweddarach gan yr Ymgeisydd]

 

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

 

Penderfyniad:

Tynnwyd y cais hwn yn ôl gan yr Ymgeisydd.

 

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau bod y cais wedi ei dynnu'n ôl gan yr Ymgeisydd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.35pm.