Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd ar gyfer
y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd ar gyfer
y cyfarfod. Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi’u
hanfon at bawb ymlaen llaw ac yr oedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar
gael yn y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu â materion a ystyrir
yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried cais i
amrywio Trwydded Eiddo, yn unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003, ar gyfer
Bar VibeZ, 5 Oak Mews, Heol y Dderwen, Llangollen (mae amlinelliad o'r cais a
phapurau cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais i Amrywio Trwydded Eiddo yn amodol ar
nifer o addasiadau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Swyddog Arweiniol (Trwyddedu) adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw)
ynglŷn â’r canlynol - (i)
cais wedi dod i law oddi wrth
Mr. Joe Ainsworth i amrywio Trwydded Eiddo bresennol yn gysylltiedig â Bar
VibeZ, 5 Oak Mews, Heol y Dderwen, Llangollen, i ddechrau darparu cerddoriaeth
fyw (y tu mewn yn unig), a lluniaeth hwyr yn y nos (y tu mewn a thu allan),
ynghyd ag ymestyn yr oriau trwyddedadwy ar gyfer chwarae cerddoriaeth wedi'i
recordio (y tu mewn yn unig) ac i ymestyn yr oriau y ceir gwerthu alcohol i’w
yfed ar y safle presennol ac oddi arno (Atodiad A yr adroddiad) fel a ganlyn –
(ii)
mae’r Ymgeisydd hefyd yn
dymuno newid amod presennol ar ei drwydded o ‘Bydd cerddoriaeth wedi’i recordio
yn cael ei chadw i lefel sŵn cefndirol’ i nodi ‘Pan fydd cerddoriaeth yn
cael ei pherfformio ar ôl 21:00, gwneir gwiriadau rheolaidd y tu allan i’r
eiddo bob awr o leiaf i geisio sicrhau nad yw’r sŵn yn achosi niwsans
cyhoeddus’; (iii)
y Drwydded Eiddo bresennol
(Atodiad B yr adroddiad); (iv)
roedd Adran Iechyd yr
Amgylchedd y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau, yn rhoi gwybod am gwynion blaenorol
yn ymwneud â sŵn yn dod o’r eiddo ac ar yr adeg honno yr oedd Deiliad y
Drwydded yn gallu rheoli’r niwsans sŵn posibl yn ddigonol heb gymryd
unrhyw gamau ychwanegol. Fodd bynnag, nodwyd y byddai Iechyd yr Amgylchedd fel
arfer yn argymell ychwanegu amodau penodol at drwydded sy’n gofyn am gael
chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio tan 02:00, ond ar adeg eu hymateb, roedden
nhw’n credu na fyddai modd i’r amodau hyn gael eu gweithredu’n hawdd ac yn
effeithiol yn yr eiddo (Atodiad C yr adroddiad); (v)
nid yw Heddlu Gogledd Cymru
wedi gwneud unrhyw wrthwynebiad i’r cais; (vi)
mae tri o sylwadau
ysgrifenedig wedi'u derbyn gan Unigolion Eraill mewn ymateb i'r hysbysiad
cyhoeddus angenrheidiol yn ymwneud yn bennaf â tharfu posibl yn sgil sŵn,
ymddygiad gwrthgymdeithasol, trosedd ac anrhefn a diogelwch y cyhoedd (Atodiad
D yr adroddiad); (vii)
mae’r ymgeisydd wedi
cyflwyno ymateb ysgrifenedig i’r tri Unigolyn Arall a gyflwynodd sylwadau yn y
gobaith o fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a godwyd (Atodiad E yr adroddiad).
(viii)
mae rhagor o ohebiaeth wedi
dod i law gan y tri Unigolyn Arall (Atodiad F yr adroddiad) a'r Ymgeisydd
(Atodiad G yr adroddiad); (ix) cynigiwyd proses gyfryngu i bob parti yn sgil y sylwadau a gafwyd, ond ni fu modd dod i unrhyw gytundeb ffurfiol. Yn rhan o’r broses gyfryngu, cynigodd yr Ymgeisydd i ddod â cherddoriaeth i ben am 23:00, yn unol â dadreoleiddio Deddf Trwyddedu 2003, nid oedd angen caniatâd trwyddedu ar gyfer: perfformio cerddoriaeth ... view the full Cofnodion text for item 3. |