Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

CROESO

Croesawyd pawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.  Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod.

 

 

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Cafodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei phenodi yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n peri rhagfarn yn y materion sydd i gael eu hystyried yn y cyfarfod hwn.

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO - THE MILLBANK, GRANGE ROAD, Y RHYL, SIR DDINBYCH LL18 4RD pdf eicon PDF 319 KB

Ystyried cais gan Heddlu Gogledd Cymru i Adolygu Trwydded Eiddo a wnaed yn unol ag Adran 51 yn Neddf Trwyddedu 2003 mewn perthynas â The Millbank, Grange Road, y Rhyl (amlinelliad o’r cyflwyniad a’r papurau cysylltiedig wedi’u hatodi).

 

Sylwer ar y weithdrefn mae’r Is-bwyllgor i’w dilyn (sydd wedi’i hatodi i’r rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

Penderfynwyd bod y Drwydded Eiddo yn cael ei hatal am gyfnod o ddeng wythnos a bod amodau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y drwydded er mwyn mynd i’r afael â phryderon a hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) -

 

(i)         ar ôl derbyn cais gan Heddlu Gogledd Cymru i Adolygu Trwydded Eiddo mewn perthynas â’r Millbank, Grange Road, y Rhyl a ddelir gan Mr. Parmvir Singh Bisla;

 

(ii)       Y sail dros adolygu, fel y nodwyd yn y cais, yw -

 

“Mae’r eiddo wedi methu â hyrwyddo Amcanion Trwyddedu: atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus a diogelu plant rhag niwed.

 

Ar 1 Medi 2023, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad yn adrodd digwyddiad o ymosodiad cyffredin - A140763

 

Ar 29 Hydref 2023, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad yn adrodd digwyddiad o anhrefn cyhoeddus yn yr eiddo - A173302

 

Ar 5 Tachwedd 2023, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad yn adrodd digwyddiad o ymosodiad cyffredin yn yr eiddo - A176556”

 

roedd manylion llawn y Cais i Adolygu ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad ond i grynhoi roedd yn ymwneud â 3 achos o anrhefn ar wahân - 

 

·       1 Medi 2023 - adroddiad o ymosodiad cyffredin yn cynnwys aelod o staff a afaelodd yng ngwddw cwsmer a’u bygwth (Atodiad B yn y Cais i Adolygu)

 

·       29 Hydref 2023 - adroddiad o ddigwyddiad yn erbyn y drefn gyhoeddus a oedd yn cynnwys aelodau o staff a chwsmeriaid.  Canfu Swyddogion Heddlu a aeth i’r digwyddiad nifer o bobl feddw a dau ddyn ar y llawr tu allan (roedd un yn anymwybodol ac yn gwaedu o anaf i’w ben).   Ar ôl adolygu fideos TCC roedd yr Heddlu o’r farn y bu anrhefn gan staff a chwsmeriaid a bod y naill barti a’r llall wedi defnyddio grym gormodol heb unrhyw amddiffyniad dros ddefnyddio grym o’r fath.  Roedd yr Heddlu hefyd o’r farn bod y Rheolwr a’u teulu wedi ymddwyn yn hynod fygythiol tuag at gwsmeriaid gyda phryderon pellach bod un cwsmer, 17 oed, wedi’i ymosod arno sawl gwaith; gydag un person arall wedi torri eu braich mewn dau le.   Roedd yr Heddlu’n credu fod yr anhrefn wedi’i achosi gan anghydfod yn ymwneud â diodydd yn y bar rhwng staff a chwsmeriaid, ac wedi mynd i’r pwynt lle’r oedd tri chwsmer a staff/aelodau o’r teulu yn cwffio, heb reolaeth dros y sefyllfa gan y tîm rheoli (Atodiad C - E yn y Cais i Adolygu a thystiolaeth TCC o’r digwyddiad)

 

·       5 Tachwedd 2023 - adroddiad o gwffio tu mewn i’r eiddo rhwng staff a chwsmeriaid, a bod un person wedi cael ei dagu a’i bwnio gan aelod o staff.  Wrth ymchwilio ymhellach, canfuwyd fod Deiliad y Drwydded Eiddo wedi anfon pedwar cwsmer tu allan, ac wedi ymosod arnynt y tu allan, gan arwain at un cwsmer yn troi ei arddwrn ac un arall yn torri ei fys (Atodiad F - G yn y Cais i Adolygu);

 

(iii)      o ystyried difrifoldeb dau o’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r eiddo, mynegodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd yr eiddo’n cael ei reoli’n briodol a bod Deiliad y Drwydded Eiddo a’r staff presennol wedi bod yn rhan o’r digwyddiadau a’r lefel o anrhefn a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiadau.  O ganlyniad, roedd yr Heddlu yn gofyn am roi ystyriaeth i ddiddymu’r Drwydded Eiddo oherwydd methiant i gydymffurfio â Deddf Trwyddedu 2003, yn benodol y methiant i hyrwyddo amcanion trwyddedu o ran Trosedd ac Anrhefn a Diogelu Plant rhag Niwed;

 

(iv)      nid oes unrhyw sylwadau pellach wedi’u derbyn gan Awdurdodau Cyfrifol nac aelodau o’r cyhoedd mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus i Adolygu’r Cais;

 

(v)       yr angen i ystyried y Cais am Adolygiad gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau a dderbyniwyd, ac

 

(vi)      yr opsiynau sydd ar gael i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Darparodd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.