Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.  Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO NEWYDD - DEUTCH'S BAR, 39 WELLINGTON ROAD, Y RHYL pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried cais am Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran Deutch’s Bar 39 Wellington Road, Y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD i roi Trwydded Eiddo ar gyfer yr oriau diwygiedig a nodwyd yn adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu ac yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr Atodlen Gweithredu.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)         cais gan Mr Gary Longworth am Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â Deutch’s Bar, 39 Wellington Road, y Rhyl yn cynnig darpariaeth o gerddoriaeth byw (dan do yn unig) ynghyd â darpariaeth o gerddoriaeth wedi’i recordio (dan do yn unig), darpariaeth o unrhyw beth tebyg i gerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi’i recordio neu berfformiadau o ddawns (dan do yn unig), a gwerthu alcohol i’w yfed ar ac oddi ar y safle (Atodiad A o’r adroddiad);

 

(ii)       cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol ar 19 Medi 2023 ond oherwydd camgymeriad gan yr Ymgeisydd, ni chyhoeddwyd y rhybudd cyhoeddus angenrheidiol mewn cyhoeddiad lleol o fewn yr amserlen statudol ac felly ailgyflwynwyd y cais ar 12 Hydref 2023;

 

(iii)      mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais am ganiatâd i ddarparu’r canlynol -

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY

DIWRNODAU PERTHNASOL

O

TAN

Darparu alcohol (i’w yfed oddi ar y safle)*

 

 

Darparu alcohol (i’w yfed ar y safle)*

Llun – Gwener

Sadwrn – Sul a Gwyliau Banc

 

Llun – Sul

 

14:00

 

 

 

18:00

23:40

 

 

 

23:40

Darparu cerddoriaeth fyw (dan do)

Llun – Sul

10:00

00:00

Darparu cerddoriaeth wedi’i recordio (dan do)

Llun – Sul

10:00

00:00

Darparu unrhyw beth tebyg i gerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi’i recordio neu berfformiad dawns (dan do)

Llun – Sul

10:00

00:00

Oriau y mae’r eiddo ar agor i’r cyhoedd

Llun – Sul

10:00

00:00

 

* Oriau diwygiedig a gynigwyd fel rhan o gyfryngu [oriau gwreiddiol a gynigwyd i werthu alcohol oedd o 10:00 bob dydd; yr Ymgeisydd wedi ailystyried oriau alcohol yn dilyn y sylwadau a ddaeth i law.]

 

(iv)      daeth tri sylw ar ddeg i law yn wreiddiol gan Unigolion Eraill mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus gofynnol, ond mae un sylw wedi’i dynnu’n ôl yn dilyn cyfryngu.  Mae a wnelo’r sylwadau eraill yn bennaf ag aflonyddwch posibl oherwydd sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (Atodiad B yr adroddiad);

 

(v)       Mae’r Ymgeisydd wedi meithrin cyswllt â Heddlu Gogledd Cymru ac adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor ac wedi cytuno i gynnwys nifer o amodau wrth gyflwyno’r cais o’r newydd (Atodiad C o’r adroddiad) a fyddai’n rhan o’r Atodlen Weithredu pe caniateid y cais;

 

(vi)      Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cyflwyno sylwadau o blaid y cais (Atodiad D o’r adroddiad).

 

(vii)    mae cyfryngu wedi’i gynnig i holl bartïon ar ôl ystyried y sylwadau a ddaeth i law a does dim cytundeb ffurfiol wedi’i gyrraedd.  Yn sgil y cyfryngu mae’r Ymgeisydd wedi cynnig diwygio’i gais drwy newid yr oriau gwerthu alcohol, a chyflwyno ymateb i’r Unigolion Eraill a gyflwynodd sylwadau gyda’r gobaith i fynd i’r afael â rhai o bryderon a godwyd (Atodiad E o’r adroddiad);

 

(viii)   yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i'r Canllawiau a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a

 

(ix)      yr opsiynau sydd ar gael i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Darparodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

CAIS YR YMGEISYDD

 

Roedd Mr Gary Longworth, yr Ymgeisydd yn bresennol i gefnogi’r cais.

 

Eglurodd Mr Longworth y rheswm tu ôl ei gais a’i fwriad i weithredu galeri a bar gerddoriaeth, i ddarparu lleoliad i arddangos paentiadau ei dad, ac i arddangos talent leol am ddim, drwy gelf a cherddoriaeth. Ar ôl symud i’r ardal yn ddiweddar, cyfeiriodd ei fod wedi bod yn  chwilio am leoliad addas ar gyfer y pwrpas hwn, gan ddarparu man wal ddigonol i arddangos paentiadau ei dad a’r rhai o artistiaid awyddus, ac i roi cyfle i arddangos  ...  view the full Cofnodion text for item 3.