Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.

 

CROESO

Croesawodd y Cynghorydd Brian Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, bawb a oedd yn bresennol a chyflwyno pobl.  Tynnodd sylw hefyd at weithdrefnau sydd i’w dilyn yn y gwrandawiad, a oedd eisoes wedi’u dosbarthu i bawb.

 

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Brian Jones yn ffurfiol yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Brian Jones yn ffurfiol yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn ymwneud â'r busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu.

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO - THE ROYAL VICTORIA, SANDY LANE, PRESTATYN

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod yr oriau a ganiateir ar gyfer Cerddoriaeth wedi'i Recordio a Cherddoriaeth Fyw yn yr eiddo yn cael eu cwtogi i 12 hanner nos, dydd Llun i ddydd Sul a gosod amod o ran gweithredu mesurau lleihau sŵn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)        cais a dderbyniwyd gan Mr. M. O’Grady, Ysgrifennydd Cwmni Victoria Apartments (Prestatyn) Ltd i Adolygu Trwydded Eiddo sydd gan Admiral Taverns Limited mewn perthynas â The Royal Victoria, Sandy Lane, Prestatyn (mae copïau o’r Drwydded Eiddo bresennol a’r atodlen weithredu bresennol wedi eu hatodi yn Atodiad A yr adroddiad);

 

(ii)      cyflwynwyd y cais yn wreiddiol yn Chwefror 2020 ac oherwydd y pandemig gohiriwyd wedi hynny yr Is-bwyllgor Trwyddedu oedd i fod i wrando ar y cais ym Mawrth 2020;

 

(iii)     yr achos am adolygiad yn ymwneud ag amcanion trwyddedu atal trosedd ac anrhefn ac atal niwsans cyhoeddus ac, yn benodol, fel y nodir ar y cais, bod problemau sŵn yn yr eiddo ac o’i amgylch yn effeithio ar eiddo preswyl, ynghyd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (mae manylion llawn y Cais am Adolygiad wedi eu hatodi yn Atodiad B yr adroddiad);

 

(iv)     Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau (Atodiad C yr adroddiad) wrth ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus angenrheidiol o’r Cais am Adolygiad ac ar ôl edrych ar systemau’r Heddlu nid oeddent wedi codi unrhyw bryderon ynghylch cyfrifoldebau’r lleoliad dan yr amcanion trwyddedu yn ymwneud ag atal trosedd ac anrhefn a niwsans cyhoeddus;

 

(v)      sylwadau a dderbyniwyd gan Adran Rheoli Llygredd y Cyngor (Atodiad D yr adroddiad) yn cadarnhau rhywfaint o gysylltiad ers 2017 ynghylch cwynion sŵn yn gysylltiedig â’r eiddo ond nid oedd y cwynion hynny wedi eu profi felly ni chymerwyd camau gweithredu pellach;

 

(vi)     derbyniwyd naw datganiad gan lesddeiliaid/preswylwyr Victoria Apartments (Atodiad E yr adroddiad) i gefnogi’r Cais am Adolygiad sy’n cyfeirio at aflonyddwch sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;

 

(vii)    derbyniwyd sylwadau hefyd gan Ddeilydd y Drwydded Eiddo sef Admiral Taverns Limited (Atodiad F yr adroddiad) a’r Goruchwylydd Eiddo Dynodedig (Adroddiad G yr adroddiad) wrth ymateb i’r Cais am Adolygiad a materion a oedd yn codi o hynny;

 

(viii)  cyfryngu rhwng partïon wedi arwain at gyflwyno cynigion gan yr Ymgeisydd i fynd i’r afael â’r pryderon, sef cwtogi oriau agor a gosod mesurau ynysu rhag sŵn (Atodiad H yr adroddiad). Ymatebodd Deilydd y Drwydded Eiddo na allai gytuno â'r cynnig i gwtogi'r oriau gan na fyddai hynny'n gwneud y safle’n hyfyw ond cytunodd y byddai’n cwrdd â swyddogion ar y safle i ystyried mesurau lleihau sŵn (Atodiad I yr adroddiad).  Serch hynny, oherwydd cyfyngiadau Covid-19, nid oes cyfarfod wedi ei gynnal ar y safle hyd yma;

 

(ix)     yr angen i ystyried y Cais am Adolygiad gan gyfeirio at Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a’r sylwadau a dderbyniwyd, ac

 

(x)      yr opsiynau sydd ar gael i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD

 

Roedd yr Ymgeisydd, Mr. M. O’Grady, Ysgrifennydd Cwmni Victoria Apartments (Prestatyn) Ltd (VAPL) yn bresennol i gefnogi’r Cais am Adolygiad.

 

Wrth gyflwyno’i achos, cyfeiriodd Mr. O’Grady at yr achos dros gael adolygiad, fel y manylir amdano yn y cais a gefnogir gan naw datganiad gan dystion (Atodiad E yr adroddiad).  Rhoddodd ychydig o gefndir y gwahanol bartïon sy’n gysylltiedig â hyn, gan gynnwys Admiral Taverns fel rhydd-ddeiliad yr adeilad cyfan, ac esboniodd fod yr hen westy wedi cael ei droi'n ddau ar hugain o unedau preswyl a osodir ar les hir, a bod Admiral Taverns wedi cadw un fflat, ynghyd â thafarn y Victoria.  Tan 2017 roedd dau o gyfarwyddwyr VAPL hefyd yn aelodau o fwrdd Admiral Taverns ond, oherwydd gwrthdaro buddiannau, nid ydynt bellach ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 3.