Agenda, decisions and draft minutes
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn
sgil pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo
gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. |
|
CROESO Croesawodd y Cynghorydd Hugh Irving, Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, bawb a
oedd yn bresennol a chyflwyno pobl.
Tynnodd sylw hefyd at weithdrefnau sydd i’w dilyn yn y gwrandawiad, a
oedd wedi’u dosbarthu eisoes i bawb. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod yn ffurfiol. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Hugh Irving yn ffurfiol yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu. |
|
Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 51
o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD fod
yr amodau ar y Drwydded Eiddo yn cael eu haddasu yn unol â’r deuddeg addasiad
fel yr argymhellwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn eu Cais Adolygu, gan gynnwys
diddymu'r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol – (i)
cais wedi dod i law gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu
Trwydded Eiddo mewn perthynas â The North, 27 Wellington Road, y Rhyl (roedd
copi o'r Drwydded Eiddo bresennol a'r amserlen weithredu gyfredol wedi’u hatodi
fel Atodiad A i’r adroddiad); (ii)
y sail dros adolygu, a nodir yn y cais, yw - “Methu â hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu, yn enwedig Atal Trosedd ac Anrhefn,
Diogelwch y Cyhoedd ac Atal Niwsans Cyhoeddus”. roedd manylion llawn y Cais am
Adolygiad wedi’u hatodi fel Atodiad B yr adroddiad, ond i grynhoi, roeddent yn
ymwneud â chronoleg o nifer o ddigwyddiadau trosedd, anhrefn ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r eiddo, ei gwsmeriaid a rhedeg y
sefydliad, sy’n dyddio’n ôl i fis Rhagfyr 2018 gan arwain at ddiffyg hyder o
ran rheolaeth gyffredinol yr eiddo; o ganlyniad, roedd yr Heddlu wedi argymell
addasu’r Drwydded Eiddo fel ffordd o fynd i’r afael â meysydd pryder; (iii)
cyfeiriwyd at ddefnyddio’r protocol gorfodi ar y cyd gyda
Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor i ddelio â phroblemau mewn eiddo trwyddedig,
gan arwain at y cais i Adolygu’r Drwydded Eiddo; (iv)
roedd dau sylw wedi dod i law mewn ymateb i’r hysbysiad
cyhoeddus gofynnol am y Cais am Adolygiad (wedi’u hatodi fel Atodiad C i’r
adroddiad); (v)
roedd sylwadau wedi dod i law mewn ymateb i’r Cais am
Adolygiad gan Mr. Robin Jones, Cyfarwyddwr The North, y Rhyl Cyf (Deiliad
Trwydded Eiddo – PLH) a Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig (DPS) (wedi’u hatodi fel
Atodiad D i’r adroddiad); (vi)
yr angen i ystyried y Cais am Adolygiad gan ystyried
Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau a dderbyniwyd, a (vii)
yr opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor wrth benderfynu ar
y cais. Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu yr adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos. Tynnodd sylw hefyd at wybodaeth ychwanegol
gan Heddlu Gogledd Cymru (a oedd wedi’i chytuno a’i dosbarthu i bawb cyn y
gwrandawiad) a oedd yn cynnwys cyfeirio at ddigwyddiadau eraill a fu ers
cyflwyno'r Cais am Adolygu ar gyfer cyfnod mis Mawrth 2020 - mis Awst 2020. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU) Roedd
Cyfreithiwr Cynorthwyol yr Heddlu, Mr. Gareth Preston a Swyddog Trwyddedu’r
Heddlu, PC Manus Sheridan yn bresennol ar ran Heddlu Gogledd Cymru. Wrth
gyflwyno’r achos ar ran yr Heddlu, ailadroddodd Mr. Preston y sail dros adolygu
a dywedodd, er bod cyfathrebu parhaus rhwng y rheolwyr a’r Heddlu, nid oedd y
rheolwyr wedi gweithredu newid i ddileu’r anawsterau gyda gweithrediad parhaus
yr eiddo, neu eu lleihau’n sylweddol hyd yn oed. Roedd y wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd fel
tystiolaeth gan yr Heddlu yn dangos nad oedd problemau wedi cael sylw priodol
ac roeddent yn parhau i effeithio ar yr ardal.
O ganlyniad, nid oedd gan yr Heddlu ffydd yn y ffordd yr oedd yr eiddo’n
cael ei redeg, a dywedasant fod angen newid llwyr. Wrth fanylu ar yr addasiadau a argymhellir
i’r drwydded, barn yr Heddlu oedd eu bod yn gwbl gymesur o ystyried natur eang
a difrifol y problemau a oedd yn parhau.
Roedd yr Heddlu yn cefnogi ac annog economi hwyr y nos ffyniannus,
bywiog a diogel, ac felly nid oeddent wedi gofyn i’r eiddo gau, ond o ystyried
faint o dystiolaeth oedd yn yr achos hwn, gallai hyn fod yn ystyriaeth i’r
Is-Bwyllgor. Cyfeiriodd Cyfreithiwr yr Heddlu at y dystiolaeth gynhwysfawr a ddarparwyd yn y Cais am Adolygiad a nifer yr achosion o gael eu galw allan i’r eiddo yn ystod y bum mlynedd diwethaf, ... view the full Cofnodion text for item 3. |