Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.

 

 

CROESO

Croesawodd y Cynghorydd Hugh Irving, Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu bawb oedd yn bresennol ac aeth ati i gyflwyno pawb.  Fe soniodd hefyd am y gweithdrefnau y dylid eu dilyn yn y gwrandawiad, ac roedd y gweithdrefnau wedi cael eu dosbarthu i bawb yn barod.

 

 

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 3 o blaid, 0 yn erbyn

 

Penodwyd y Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Cafodd Cynghorydd Hugh Irving ei benodi’n ffurfiol yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu â’r busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant neu gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO - Y BODUNIG, STRYD FAWR, DYSERTH pdf eicon PDF 311 KB

Ystyried cais gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 51 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 3 o blaid, 0 yn erbyn

 

PENDERFYNWYD diddymu’r Drwydded Eiddo.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) yn dilyn -

 

(i)        cais a ddaeth i law gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu trwydded eiddo a ddelir gan Mr Abdulhamit Salih Colakoglu mewn perthynas â Y Bodunig, Stryd Fawr, Dyserth (copi o'r Drwydded Eiddo bresennol a'r amserlen weithredu gyfredol wedi’u hatodi fel Atodiad A i’r adroddiad);

 

(ii)      Y sail dros adolygu, a nodir yn y cais, yw:

 

 “Methu â hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu, yn enwedig Diogelwch y Cyhoedd ac Atal Trosedd ac Anrhefn.”

 

Mae manylion llawn y cais i adolygu ynghlwm yn Atodiad B yr adroddiad, ond yn gryno roedd yn ymwneud ag adroddiadau amrywiol fod yr eiddo wedi bod ar agor ar sawl achlysur gan dorri’r rheoliadau sydd mewn grym er mwyn ymateb i bandemig y Coronafeirws pan fu’n rhaid i dafarndai, clybiau a bwytai gau; mae'r Heddlu hefyd yn sôn am dystiolaeth CCTV a'u diffyg hyder yng ngallu rheolwyr yr eiddo i weithredu’n gyfrifol; felly gofynnodd yr Heddlu bod yr eiddo’n cau'n barhaol;

 

(iii)     cyfeiriwyd hefyd at Adolygiad blaenorol gan yr Heddlu arweiniodd at gael gwared ar Oruchwyliwr Safle Dynodedig Mr. Derek Coulton, a chafodd y swydd ei llenwi gan y Goruchwyliwr Safle Dynodedig presennol Mr. Nihat Colakoglu; serch hynny arhosodd Mr Derek Coulton yn Rheolwr oedd yn gyfrifol am redeg yr eiddo o ddydd i ddydd;

 

(iv)     derbyniwyd pedwar sylw yn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus gofynnol ynglŷn â’r cais i adolygu (ynghlwm yn Atodiad C yr adroddiad yma) – Mr. Derek Coulton yn gweithredu fel rhywun â diddordeb, ynghyd â thri llythyr pellach gan bartïon eraill â diddordeb, a thra eu bod yn cydnabod y materion a godwyd gan yr Heddlu, roeddynt yn gefnogol i’r eiddo aros agor;

 

(v)      ni chafwyd ymateb i’r cais i adolygu gan Ddeiliad Trwydded yr Eiddo Mr. Abdulhamit Salih Colakoglu;

 

(vi)     yr angen i ystyried adolygu’r cais gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a

 

(vii)    yr opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor tra’n penderfynu ar y cais.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.  Fe dynnodd sylw hefyd at wybodaeth ychwanegol oedd wedi cael ei ddosbarthu i bob parti ers cyhoeddi’r adroddiad oedd yn cynnwys (1) cronoleg lluniau fideo teledu cylch caeedig ar 30 Mawrth oedd wedi cael eu gadael allan o Atodiad 14 y papurau, a (2) cyflwynodd Heddlu Gogledd Cymru ddau adroddiad am wybodaeth bellach a datblygiadau diweddar yn yr eiddo.  Fe nodwyd hefyd y byddai’r Goruchwyliwr Safle Dynodedig – Mr. Nihat Colakoglu yn cynrychioli Deiliad Trwydded y Safle – Mr. Abdulhamit Salih Colakoglu yn ei absenoldeb.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)

 

Roedd Cyfreithiwr Cynorthwyol yr Heddlu Mr. Gareth Preston a Swyddog Trwyddedu’r Heddlu PC Manus Sheridan yn bresennol ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

 

Wrth gyflwyno’r achos dros yr Heddlu, awgrymodd Mr. Preston fod rheolwyr y safle wedi methu’n llwyr â chadw at yr amcanion trwyddedu, yn enwedig diogelwch y cyhoedd, ac o ystyried y pandemig byd eang, roedd hynny’n anfaddeuol. Cafwyd gwared ar y rheolwr ar y pryd, Derek Coulton fel Goruchwyliwr Safle Dynodedig yn 2014 yn dilyn Adolygiad blaenorol gan yr Heddlu, ond roedd wedi parhau fel rheolwr gyda chyfrifoldeb dydd i ddydd ar yr eiddo. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o reolaeth weithgar gan y Goruchwyliwr Safle Dynodedig na Deiliad Trwydded yr Eiddo. Y sail ar gyfer yr adolygiad yw methu â hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu, yn enwedig diogelwch y cyhoedd ac atal trosedd ac anrhefn.

 

Fe fanylodd Cyfreithiwr yr Heddlu ar y dystiolaeth gynhwysfawr a ddarparwyd yn y cais i adolygu,  ...  view the full Cofnodion text for item 3.