Agenda, decisions and draft minutes
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol
oherwydd pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng
fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. |
|
CROESO Croesawodd y Cynghorydd Hugh Irving, Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu bawb
oedd yn bresennol ac aeth ati i gyflwyno pawb.
Fe soniodd hefyd am y gweithdrefnau y dylid eu dilyn yn y gwrandawiad,
ac roedd y gweithdrefnau wedi cael eu dosbarthu i bawb yn barod. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Pleidlais: 3 o
blaid, 0 yn erbyn Penodwyd y
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Cafodd Cynghorydd
Hugh Irving ei benodi’n ffurfiol yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu â’r busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw fuddiant neu gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu. |
|
DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO - Y BODUNIG, STRYD FAWR, DYSERTH PDF 311 KB Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 51
o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: Pleidlais: 3 o
blaid, 0 yn erbyn PENDERFYNWYD diddymu’r
Drwydded Eiddo. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (wedi’i
ddosbarthu’n flaenorol) yn dilyn - (i)
cais a ddaeth i law gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu
trwydded eiddo a ddelir gan Mr Abdulhamit Salih Colakoglu mewn perthynas â Y
Bodunig, Stryd Fawr, Dyserth (copi o'r Drwydded Eiddo bresennol a'r amserlen
weithredu gyfredol wedi’u hatodi fel Atodiad A i’r adroddiad); (ii)
Y sail dros adolygu, a nodir yn y cais, yw: “Methu â
hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu, yn enwedig Diogelwch y Cyhoedd ac Atal Trosedd
ac Anrhefn.” Mae manylion llawn y cais i
adolygu ynghlwm yn Atodiad B yr adroddiad, ond yn gryno roedd yn ymwneud ag
adroddiadau amrywiol fod yr eiddo wedi bod ar agor ar sawl achlysur gan dorri’r
rheoliadau sydd mewn grym er mwyn ymateb i bandemig y Coronafeirws pan fu’n rhaid
i dafarndai, clybiau a bwytai gau; mae'r Heddlu hefyd yn sôn am dystiolaeth
CCTV a'u diffyg hyder yng ngallu rheolwyr yr eiddo i weithredu’n gyfrifol;
felly gofynnodd yr Heddlu bod yr eiddo’n cau'n barhaol; (iii)
cyfeiriwyd
hefyd at Adolygiad blaenorol gan yr Heddlu arweiniodd at gael gwared ar
Oruchwyliwr Safle Dynodedig Mr. Derek Coulton, a chafodd y swydd ei llenwi gan
y Goruchwyliwr Safle Dynodedig presennol Mr. Nihat Colakoglu; serch hynny
arhosodd Mr Derek Coulton yn Rheolwr oedd yn gyfrifol am redeg yr eiddo o ddydd
i ddydd; (iv)
derbyniwyd pedwar sylw yn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus
gofynnol ynglŷn â’r cais i adolygu (ynghlwm yn Atodiad C yr adroddiad yma)
– Mr. Derek Coulton yn gweithredu fel rhywun â diddordeb, ynghyd â thri llythyr
pellach gan bartïon eraill â diddordeb, a thra eu bod yn cydnabod y materion a
godwyd gan yr Heddlu, roeddynt yn gefnogol i’r eiddo aros agor; (v)
ni chafwyd ymateb i’r cais i adolygu gan Ddeiliad
Trwydded yr Eiddo Mr. Abdulhamit Salih Colakoglu; (vi)
yr
angen i ystyried adolygu’r cais gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r
Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth
berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a (vii)
yr opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor tra’n penderfynu ar
y cais. Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos. Fe dynnodd sylw hefyd at wybodaeth ychwanegol
oedd wedi cael ei ddosbarthu i bob parti ers cyhoeddi’r adroddiad oedd yn
cynnwys (1) cronoleg lluniau fideo teledu cylch caeedig ar 30 Mawrth oedd wedi
cael eu gadael allan o Atodiad 14 y papurau, a (2) cyflwynodd Heddlu Gogledd
Cymru ddau adroddiad am wybodaeth bellach a datblygiadau diweddar yn yr
eiddo. Fe nodwyd hefyd y byddai’r
Goruchwyliwr Safle Dynodedig – Mr. Nihat Colakoglu yn cynrychioli Deiliad
Trwydded y Safle – Mr. Abdulhamit Salih Colakoglu yn ei absenoldeb. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU) Roedd
Cyfreithiwr Cynorthwyol yr Heddlu Mr. Gareth Preston a Swyddog Trwyddedu’r
Heddlu PC Manus Sheridan yn bresennol ar ran Heddlu Gogledd Cymru. Wrth
gyflwyno’r achos dros yr Heddlu, awgrymodd Mr. Preston fod rheolwyr y safle
wedi methu’n llwyr â chadw at yr amcanion trwyddedu, yn enwedig diogelwch y
cyhoedd, ac o ystyried y pandemig byd eang, roedd hynny’n anfaddeuol. Cafwyd
gwared ar y rheolwr ar y pryd, Derek Coulton fel Goruchwyliwr Safle Dynodedig
yn 2014 yn dilyn Adolygiad blaenorol gan yr Heddlu, ond roedd wedi parhau fel
rheolwr gyda chyfrifoldeb dydd i ddydd ar yr eiddo. Nid oedd unrhyw dystiolaeth
o reolaeth weithgar gan y Goruchwyliwr Safle Dynodedig na Deiliad Trwydded yr
Eiddo. Y sail ar gyfer yr adolygiad yw methu â hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu,
yn enwedig diogelwch y cyhoedd ac atal trosedd ac anrhefn. Fe fanylodd Cyfreithiwr yr Heddlu ar y dystiolaeth gynhwysfawr a ddarparwyd yn y cais i adolygu, ... view the full Cofnodion text for item 3. |