Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Huw Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Huw Williams yn Gadeirydd y cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr holl bartïon i’r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi’u dosbarthu ymlaen llawn i’r holl bartïon a darparwyd copïau o’r Datganiad Polisi Trwyddedu yn ystod y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED SAFLE NEWYDD – RHYL SPICE, 64-66 HEOL Y FRENHINES, Y RHYL pdf eicon PDF 229 KB

Ystyried cais am Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran Rhyl Spice, 64-66 Heol y Frenhines, y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais, fel y’i diwygiwyd, yn destun amodau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn ymwneud â’r materion isod –

 

(i)        cais gan gwmni Cyfreithwyr Gamlins Law ar ran yr Ymgeisydd, Md Muhim Uddin (Atodiad A yr adroddiad) ar gyfer Trwydded Safle newydd ar gyfer Rhyl Spice, 64 – 66 Heol y Frenhines, Y Rhyl,  yn cynnig gweithredu fel bwyty a siop tecawê gyda darpariaeth danfon archebion dros y ffôn, ac yn yr holl achosion byddai alcohol yn cael ei werthu neu ei ddanfon dim ond pan fyddai’r cwsmer yn prynu pryd o fwyd;

 

(ii)      cais gan yr ymgeisydd am ganiatâd i ddarparu’r gweithgareddau trwyddedadwy a ganlyn –

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY

DYDDIAU Y BYDD YN GYMWYS

O’R AMSER ISOD

TAN YR AMSER ISOD

Lluniaeth ar y safle ac oddi arno yn hwyr y nos

Dydd Llun – Dydd Sul

 

23:00

 

02:00

 

Cyflenwi Alcohol (ar gyfer ei yfed ar y safle neu oddi arno)

Dydd Llun – Dydd Sul

11:00

02:00

Yr oriau y byddai’r safle ar agor i’r cyhoedd

Dydd Llun – Dydd Sul

11.00

02.00

Mynediad olaf i’r bwyty a’r cyfleuster tecawê am 01.00.  Gwasanaeth danfon dros y ffôn tan 02.00.  (Alcohol i’w werthu ar y cyd â bwyd)

 

(iii)     sylwadau gan Heddlu Gogledd Cymru a chynnig ar gyfer nifer o amodau (a gytunwyd gan yr Ymgeisydd) i’w gosod ar y drwydded, petai’n cael ei chaniatáu, yn ymwneud â danfon alcohol er mwyn helpu i hybu’r amcanion trwyddedu a ganlyn: atal trosedd ac anhrefn ac amddiffyn plant rhag niwed (Atodiad B yr adroddiad);

 

(iv)     dau sylw ysgrifenedig a dderbyniwyd gan Bartïon â Diddordeb (Atodiad C yr adroddiad) mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus, yn ymwneud ag aflonyddu posibl oherwydd sŵn a llygredd aer;

 

(v)      y ffaith bod y swyddogion wedi cynnig gwasanaeth cyfryngu rhwng yr Ymgeisydd a’r Partïon â Diddordeb ond nad oedd unrhyw ddatrysiad hyd yma;

 

(vi)     yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a hefyd

 

(vii)    y dewisiadau sydd ar gael i’r pwyllgor wrth ddod i benderfyniad ar y cais.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) yr adroddiad ac amlinelliad o ffeithiau’r achos.

 

CAIS YR YMGEISYDD

 

Roedd yr Ymgeisydd Md Muhim Uddin a’i gynrychiolydd cyfreithiol, Mr. P. Williams o gwmni Cyfreithwyr Gamlins Law yn bresennol i gefnogi’r cais.

 

Esboniodd Mr. Williams y cynigion ar gyfer gweithredu’r drwydded gan gynghori y byddai alcohol yn cael ei werthu ar y cyd â phrydau bwyd mawr. Ni fyddai alcohol ar werth ar ôl 01.00 o’r gloch yn y bwyty a’r siop tecawê yn unol ag amseroedd mynediad olaf, ac ar ôl 02.00 o’r gloch yn achos prydau tecawê y gwasanaeth archebu a danfon dros y ffôn.

 

Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau yn ymwneud ag amodau ychwanegol posibl i’w cynnwys yn yr Amserlen Weithredu o ran danfon alcohol ac roedd yr Ymgeisydd wedi cytuno i’r amodau hyn. O ran y ddau sylw ysgrifenedig a dderbyniwyd gan Bartïon â Diddordeb mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus angenrheidiol, dywedodd Mr. Williams fod y ddau yn cyfeirio at sŵn gan gwsmeriaid yn gadael y safle ar ôl 23.00 o’r gloch ac yn ymgynnull yn yr ardal ysmygu ynghyd â phroblemau yn ymwneud ag arogleuon.  Dywedodd fod y pryderon hynny wedi bod yn seiliedig ar ymddygiad y deiliaid blaenorol a bod y safle wedi cael ei gau rai misoedd ynghynt oherwydd problemau rheoli. Roedd yr Ymgeisydd wedi bod yn gweithredu ar y safle ers 9 Ebrill 2019 yn unig ar sail gyfyngedig ac nid oedd wedi bod ar agor yn  ...  view the full Cofnodion text for item 3.