Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl LL18 3DP

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.  Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon at bawb ymlaen llaw ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO PRESENNOL – MRH RHUTHUN, FFORDD Y PARC, RHUTHUN, LL15 1NB pdf eicon PDF 258 KB

Ystyried cais i amrywio Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD ar y canlynol mewn perthynas â’r amrywiadau y gwnaed cais amdanynt –

 

i.              Darpariaeth Lluniaeth Hwyr y Nos 23:00 - 05:00 dydd Llun - dydd Sul - WEDI’I GANIATÁU AR GYFER DIODYDD POETH YN UNIG (dim darpariaeth bwyd poeth)

 

ii.            Cyflenwi alcohol 24 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Sul (i’w yfed oddi ar yr eiddo) - GWRTHODWYD

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar -

 

(i)        gais a dderbyniwyd gan Malthurst Retail Limited i amrywio Trwydded Eiddo mewn perthynas â MRH Rhuthun, Ffordd y Parc, Rhuthun i amrywio eu horiau i fod ar agor 24 awr i werthu alcohol fel siop drwyddedig ynghyd â darparu lluniaeth yn hwyr yn y nos (Atodiad A i’r adroddiad);

 

(ii)      roedd yr eiddo yn gweithredu fel gorsaf betrol sydd ar agor 24 awr y dydd ynghyd â siop fechan gydag oriau trwyddedig i werthu alcohol yn awdurdodi gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle o ddydd Llun i ddydd Sul o 06:00 tan 23:00;

 

(iii)     bod yr ymgeisydd wedi ceisio awdurdodiad i ddarparu'r canlynol-

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY

DYDDIAU PERTHNASOL

 O

TAN

Darparu Alcohol (i’w yfed oddi ar safle’r eiddo)

Dydd Llun – ddydd Sul

24 awr

Darparu lluniaeth hwyr (ar ac oddi ar safle’r eiddo)

Dydd Llun – ddydd Sul

23:00

05:00

Oriau Agor yr Eiddo

Dydd Llun – ddydd Sul

24 awr

 

(iv)     mae naw o sylwadau ysgrifenedig wedi'u derbyn gan bartïon â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus (Atodiad B i'r adroddiad) yn ymwneud yn bennaf ag aflonyddwch posibl o sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;

 

(v)      nid oedd cyfryngu yn opsiwn yn yr achos hwn oherwydd nifer y sylwadau a dderbyniwyd;

 

(vi)     Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau ar y cais, yn ogystal â nifer o amodau arfaethedig, a gytunwyd gyda’r Ymgeisydd, ac a fyddai’n cael eu hymgorffori o fewn atodlen weithredu’r eiddo, pe bai’r amrywiadau’n cael eu cymeradwyo (Atodiad C yr adroddiad).

 

(vii)    bod Atodlen Weithredu arfaethedig yr eiddo wedi’i chynnwys fel rhan o’r cais gan nodi nifer o amodau ychwanegol;

 

(viii)  yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i'r Canllawiau a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, ac yr

 

(ix)     opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD

 

Mr. Robert Botkai – Cyfreithiwr, Mr.  Keith Dissamayake – Rheolwr Safle a Goruchwylydd Safle Dynodedig a Mr.  Paul Masher –Rheolwr Ardal Motor Fuel Group yn bresennol ar ran yr ymgeisydd (Malthurst Retail Limited).

 

Darparodd Mr. Botkai rywfaint o gefndir yn egluro newid ym mherchnogaeth y safle’n ddiweddar ond cadarnhaodd bod y cais yn parhau i fod yn gywir.   Roedd y Drwydded Eiddo presennol yn caniatáu gwerthu alcohol rhwng 06.00 a 23.00 yn unol â’r oriau agor blaenorol.   Ers mis Chwefror 2018 roedd yr eiddo wedi bod yn gweithredu 24 awr y dydd a gwnaed cais i adlewyrchu’r newid i’r oriau masnachu presennol.   Cyfeiriwyd at y Canllawiau a gyflwynwyd o dan Adran 182 o'r Ddeddf Trwyddedu mewn perthynas ag oriau masnachu a oedd yn nodi y dylai siopau, storfeydd ac archfarchnadoedd allu gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo i gyd-fynd â'u horiau agor oni bai bod rheswm da dros gyfyngu'r oriau hynny.   Roedd Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor hefyd wedi’i ddyfynnu gan ei fod yn ymwneud â chaniatâd cyffredinol ar gyfer siopau ac archfarchnadoedd i werthu alcohol yn ystod oriau agor arferol oni bai eu bod yn ganolbwynt ar gyfer anrhefn ac aflonyddwch.

 

Adroddodd Mr. Botkai ar ddwy elfen ar wahân o'r cais fel a ganlyn-

 

·         Lluniaeth yn hwyr yn y nos – roedd yr eiddo eisoes yn gwerthu diodydd poeth ac roedd cynnig bwyd poeth cyfyngedig.  

Y bwriad oedd gwerthu diodydd poeth yn unig rhwng 23.00 a 06.00 ac roedd yr Ymgeisydd yn fodlon derbyn amod ar y drwydded yn gwahardd gwerthu bwyd poeth rhwng yr amseroedd hynny.   Gobeithiwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.