Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Gadawodd y Cynghorydd Hugh Irving y cyfarfod ar ddiwedd eitem 3 ar y rhaglen a daeth y Cynghorydd Alan James i gadeirio'r cyfarfod yn ei le.

 

 

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Hugh Irving fel Cadeirydd eitem rhaglen 3

Penodwyd y Cynghorydd Alan James fel Cadeirydd eitem rhaglen 4

 

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer eitem 3.

Penodwyd y Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ar gyfer eitem 4.

 

Croesawyd pawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.  Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon at bawb ymlaen llaw ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I ADOLYGU TRWYDDED EIDDO – THE BARRELL, 37-39 STRYD Y DŴR, Y RHYL pdf eicon PDF 298 KB

Ystyried cais gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a wnaed yn unol ag Adran 51 o Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran The Barrell, 37-39 Stryd y Dŵr, y Rhyl (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

10.00 a.m.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD diddymu’r Drwydded Eiddo.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)        cais wedi dod i law gan Heddlu Gogledd Cymru i adolygu trwydded eiddo a ddelir gan Mr Ian Mcallister mewn perthynas â The Barrell, 37-39 Stryd y Dŵr, y Rhyl (copi o'r Drwydded Eiddo bresennol a'r amserlen weithredu gyfredol wedi’u hatodi fel Atodiad A i’r adroddiad);

 

(ii)      y sail i adolygu yn gysylltiedig â’r Amcanion Trwyddedu i Atal Trosedd ac Anhrefn ac er mwyn Diogelwch y Cyhoedd fel a ganlyn –

 

·          “Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ddiffyg hyder yn rheolwyr yr eiddo i reoli'r eiddo’n gyfrifol

·         Methu â herio cwsmeriaid meddw a chaniatáu i gwsmeriaid feddwi ar y safle a gwerthu diod i gwsmeriaid meddw

·         Methu â rheoli ymddygiad cwsmeriaid ar y safle

·         Methiant y safle i reoli achosion o drosedd ac anhrefn yn ddigonol

·         Tystiolaeth o amgylchedd o fewn yr eiddo lle caiff cymryd cyffuriau ei oddef yn agored

·         Methu â rhoi gwybod am yr holl achosion o drosedd ac anhrefn i Heddlu Gogledd Cymru

·         Mae Heddlu Gogledd Cymru o’r farn nad yw’r oriau ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy yn addas ar gyfer yr eiddo a bod y rhan fwyaf o achosion mawr yn digwydd ar ôl 00:00

·         Methu â hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu, yn enwedig Atal Trosedd ac Anrhefn, Diogelwch y Cyhoedd ac Atal Niwsans Cyhoeddus”

 

Manylion llawn y cais i adolygu wedi'u hatodi i'r adroddiad fel Atodiad B;

 

(iii)     nid oedd unrhyw sylwadau pellach wedi dod i law gan Awdurdodau Cyfrifol nac aelodau o'r cyhoedd mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus gofynnol ynglŷn â’r cais i adolygu.

 

(iv)     cyfeiriad at y protocol gorfodi ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor a’r system orfodi tri cham sy’n arwain at gais i adolygu’r Drwydded Eiddo;

 

(v)      Mr Sean Mountford wedi cael ei gynnig i fod yn Oruchwylydd Dynodedig yr Eiddo yn yr eiddo ar ôl cyflwyno'r cais i adolygu, ond nid oedd unrhyw gais swyddogol wedi'i dderbyn yn hynny o beth ac felly Mr David Jai Jones oedd Goruchwylydd Dynodedig yr Eiddo’n dal i fod.

 

(vi)     yr angen i ystyried y cais i adolygu gan roi ystyriaeth briodol i’r Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor, a

 

(vii)    dewisiadau a oedd ar gael i'r Pwyllgor wrth benderfynu ar y cais i adolygu.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) yr adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)

 

Roedd y Prif Arolygydd, Andrew Williams, a Rheolwr Trwyddedu’r Heddlu, Aaron Haggas, yn bresennol i gefnogi'r Adolygiad ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

 

Tynnodd Rheolwr Trwyddedu’r Heddlu sylw at ddyletswyddau eiddo trwyddedig i hybu'r amcanion trwyddedu a chymryd camau gweithredol yn hynny o beth.  Dywedodd na ddylai’r digwyddiadau sy’n cael eu hamlygu yn y cais am adolygiad gael eu cyfrif yn ganlyniad arferol i fusnesau trwyddedig na phroffil y dref ac roedd y camau a gymerwyd gan yr eiddo'n rhoi canllaw i'r safon o ymddygiad a fyddai'n cael ei goddef.  Roedd Heddlu Gogledd Cymru’n ystyried bod y diffyg goblygiadau i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol yn yr eiddo wedi achosi i ymddygiad o'r fath ddod allan i Stryd y Dŵr a bod diffyg rheolaeth a chyfarwyddyd gan yr eiddo’n creu arfer o anhrefn lle mae nifer o ddigwyddiadau angen cymorth gan yr Heddlu.  Dywedwyd hefyd nad oedd yr eiddo wedi gwneud unrhyw ymgais i fynd i'r afael â phryderon ac roedd yr Heddlu wedi cyflwyno nifer o strategaethau, gan gynnwys cwtogi'r oriau a ganiateir, a'r unig newid a weithredwyd oedd trosglwyddo cyfrifoldeb dros reoli'r eiddo i aelod arall o'r teulu.  Roedd yr eiddo'n daer  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED SAFLE NEWYDD – ORIGIN 168 Y STRYD FAWR, PRESTATYN pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried cais am Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran 168, Stryd Fawr, Prestatyn (mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

11.30 a.m.

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn destun amodau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) ar –

 

(i)        gais a dderbyniwyd gan Mr Michael Kenneth Watts ar gyfer Trwydded Eiddo newydd mewn perthynas ag Origin, 168 y Stryd Fawr, Prestatyn, er mwyn gweithredu fel bar gyda cherddoriaeth gefndir dawel gan werthu alcohol i’w yfed ar ac oddi ar yr eiddo;

 

(ii)      cais gan yr ymgeisydd am ganiatâd i ddarparu’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol:

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDADWY

DYDDIAU PERTHNASOL

AMSER

DECHRAU

AMSER GORFFEN

Cerddoriaeth wedi’i recordio (dan do)

 

Amseroedd ansafonol

Amrywiadau tymhorol

Dydd Sul - dydd Iau

Dydd Gwener a dydd Sadwrn

Dydd Sul Gŵyl y Banc

Nos Galan

Noswyl Nadolig

12:00

12:00

 

12:00

11:00

11:00

23:00

01:00

 

00:00

02:00

01:00

Gwerthu alcohol (i’w yfed ar ac oddi ar yr eiddo)

Dydd Sul - dydd Iau

Dydd Gwener a dydd Sadwrn

Dydd Sul Gŵyl y Banc

Nos Galan

Noswyl Nadolig

12:00

12:00

 

12:00

11:00

11:00

23:00

01:00

 

00:00

02:00

01:00

Oriau y bydd yr eiddo ar agor i’r cyhoedd

Fel rhai a geisir ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy

 

(iii)     sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â’r cais a nifer o amodau a gynigiwyd (yr oedd yr Ymgeisydd wedi cytuno iddynt) i gael eu gosod pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu er mwyn hyrwyddo amcanion trwyddedu atal trosedd ac anhrefn a gwarchod plant rhag niwed (Atodiad B i’r adroddiad);

 

(iv)     sylwadau a gyflwynwyd gan Adran Rheoli Llygredd y Cyngor (Atodiad E i’r adroddiad) yn mynegi pryderon ynglŷn â pha mor agos yw'r eiddo at gartrefi preswyl a nifer o amodau a gyflwynwyd ganddynt (yr oedd yr Ymgeisydd wedi cytuno iddynt) i gael eu gosod pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu er mwyn helpu i atal niwsans cyhoeddus;

 

(v)      un sylw ysgrifenedig a dderbyniwyd gan rai sydd â chysylltiad (Atodiad D i’r adroddiad) mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus yn ymwneud yn bennaf ag aflonyddwch posib’ o sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;

 

(vi)     y swyddogion wedi cychwyn cyfryngu rhwng yr Ymgeisydd a’r rhai sydd â chysylltiad heb gyrraedd datrysiad hyd yma;

 

(vii)    yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth briodol i Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i Ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; i ddeddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a’r

 

(viii)  opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) yr adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.  Er bod Heddlu Gogledd Cymru ac Adain Rheoli Llygredd y Cyngor wedi dod i gytundeb ynglŷn ag amodau y dylid eu gosod ar y drwydded i fynd i'r afael â phryderon a hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, ni ddaethpwyd i gytundeb gyda'r rhai sydd â chysylltiad drwy gyfryngu.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD

 

Roedd yr ymgeisydd, Mr Michael Watts, yn bresennol i gefnogi ei gais.

 

Eglurodd Mr Watts ei fod wedi ymgeisio am drwydded gerddoriaeth er mwyn chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio yn y cefndir yn unig a'r bwriad oedd creu amgylchedd i sgwrsio a chymdeithasu wedi'i anelu at gwsmeriaid hŷn.  [Eglurodd y Swyddog Trwyddedu nad oedd cerddoriaeth gefndir wedi’i recordio yn weithgaredd a reoleiddir a oedd angen ei drwyddedu.]

 

CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD CYMRU

 

Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am y sylwadau ysgrifenedig a nifer o amodau a gytunwyd rhwng yr Ymgeisydd a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (i'w gweld yn Atodiad B i'r adroddiad).  Gofynnodd yr Heddlu a fyddai’r aelodau'n ystyried cynnwys yr amodau hynny yn yr Atodlen Weithredu pe baent yn penderfynu caniatáu'r cais.

 

CYFLWYNIAD ADAIN IECHYD YR AMGYLCHEDD

 

Cyfeiriodd Mr Philip Caldwell o Adain Iechyd yr Amgylchedd at ei sylwadau  ...  view the full Cofnodion text for item 4.