Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PWYNT HYSBYSU Nid oedd Mrs. Vanessa Steele, y Deilydd Trwydded Eiddo a Goruchwylydd Eiddo
Dynodedig dros The Galley, Y Rhyl (eitem agenda 3) yn bresennol a gohiriwyd
gwrando’r Cais am Adolygiad nes cael cadarnhad am ei chynrychiolaeth. Yn ystod sgwrs dros y ffôn a gafwyd wedyn,
cadarnhaodd Mrs. Steele ei bod yn dymuno cael ei chynrychioli yn y gwrandawiad
gan Ms. Kayleigh Mannion, aelod o staff y bar ar y safle. Cytunodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i fynd
ymlaen ar y sail honno. |
|||||||||||||
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Estynnodd y
Cadeirydd groeso i’r holl bartïon i’r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn
bresennol. Roedd gweithdrefnau’r
gwrandawiad wedi cael eu cylchredeg cyn hynny i’r holl bartïon a darparwyd
copïau o’r Datganiad Polisi Trwyddedu yn y cyfarfod. |
|||||||||||||
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiad personol neu ragfarnus wedi’u codi. |
|||||||||||||
DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO – THE GALLEY, 118 VALE ROAD, Y RHYL PDF 287 KB Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a wnaed yn unol ag Adran 51 o
Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran The Galley, 118 Vale Road, Y Rhyl (amlinelliad o'r
cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). 10.00 a.m. Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) diddymu
Goruchwyliwr Safle Dynodedig, a (b) gwahardd
Trwydded Safle am gyfnod o dri mis neu gyfnod y mae Heddlu Gogledd Cymru yn
dynodi i’r awdurdod trwyddedu ei bod yn fodlon bod rheolaeth y safle yn glynu wrth
amcanion trwyddedu ac yn barod i gael cysylltiad ystyrlon gyda Heddlu Gogledd
Cymru. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a oedd wedi’i gylchredeg cyn hynny) am
– (i)
cais a gafwyd gan Heddlu Gogledd Cymru am Adolygiad o
Drwydded Eiddo a oedd yn cael ei dal gan Mrs. Vanessa Michelle Steele mewn
perthynas â The Galley, 118 Vale Road, Y Rhyl (roedd copi o’r Drwydded Eiddo
bresennol a’r atodlen weithredu gyfredol wedi’u hatodi yn Atodiad A i’r
adroddiad); (ii) y sail dros adolygu mewn
perthynas â’r Amcanion Trwyddedu ar gyfer Atal Troseddu ac Anhrefn a Diogelwch
y Cyhoedd sef – o ganlyniad i’r pryderon sydd gan
Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â rheoli’r eiddo trwyddedig. Mae’r Deilydd Trwydded Eiddo (sydd hefyd yn
Oruchwylydd Eiddo Dynodedig) wedi methu ag ymgysylltu â’r Heddlu i drafod y
pryderon hyn, er bod tystiolaeth glir o ddiffyg dealltwriaeth o’r Amcanion
Trwyddedu sydd wedi’u diffinio o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. manylion llawn y cais am
Adolygiad sydd wedi’u hatodi yn Atodiad B i’r adroddiad; (iii) cyd-fenter a gychwynnwyd
gan Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor i ymweld â safleoedd trwyddedig yn ardal y
Rhyl i dynnu sylw at y gofynion i safleoedd trwyddedig beidio â gwasanaethu
pobl a oedd yn feddw a hefyd i feithrin cefnogaeth i’r cynllun Gwarchod
Tafarndai lleol (roedd y cynllun Gwarchod Tafarndai yn gynllun gwirfoddol
cenedlaethol a sefydlwyd er mwyn sicrhau amgylchedd diogel o dan arweiniad
cyfrifol ar gyfer yfed cymdeithasol ar safleoedd trwyddedig); (iv) ymweliad â The Galley a
gafwyd ar 27 Mai 2018 yn rhan o’r fenter honno pan oedd swyddogion wedi gorfod
dioddef iaith fras ac ymddygiad gwrthdrawiadol ac ymosodol gan aelod meddw o
blith rheolwyr y safle a barn swyddogion bod y tîm rheoli yn ddirmygus i ryw
raddau o’r cynllun Gwarchod Tafarndai ac y byddent yn gwasanaethu pwy bynnag a
ddymunent; (v) llythyr a anfonwyd at y
Deilydd Trwydded Eiddo yn ei gwahodd i ddod i gyfarfod i drafod pryderon yr
Heddlu a chytuno ar ffordd gefnogol ymlaen a’i hymateb i’r perwyl y byddai’n
hysbysu’r Heddlu a’r Awdurdod Lleol pe byddai’n dymuno ymaelodi â’r cynllun
Gwarchod Tafarndai yn y dyfodol; (vi) bod y Deilydd Trwydded
Eiddo hefyd wedi methu â dod i gyfarfod pellach a drefnwyd gan yr Heddlu i
drafod pryderon a chytuno ar gyd-ddealltwriaeth o’r gofyniad cyfreithiol i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ymhellach; (vii)
bod y Deilydd Trwydded Eiddo
mewn ymateb i’r cais am Adolygiad wedi awgrymu ei bod yn barod i ddod i unrhyw
gyfarfodydd o’r cynllun Gwarchod Tafarndai lleol (mae copi o’r ymateb wedi’i atodi yn Atodiad C i’r
adroddiad); (viii) lluniau a ddarparwyd gan
yr Heddlu a dynnwyd gan gamera corff yn ystod ymweliad trwyddedu dilynol ar 1
Mehefin 2018 a oedd wedi’u cyflwyno fel tystiolaeth ac wedi’u gwylio gan
aelodau cyn y gwrandawiad – roedd y lluniau’n dangos unigolyn ar y safle a oedd
wedi’i wahardd o dan y cynllun Gwarchod Tafarndai; (ix) yr angen i ystyried y
cais am Adolygiad gan roi sylw dyladwy i’r Canllawiau a roddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol a Datganiad Polisi Trwyddedu y Cyngor; (x) cyfeiriad at brotocol
gorfodi ar y cyd Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor a’r broses gorfodi dri cham
gyda mecanwaith uwchgyfeirio – bod methiant y Deilydd Trwydded Eiddo i
ymgysylltu â’r Heddlu wedi arwain at uwchgyfeirio’r mater yn syth i gam tri, (xi) opsiynau sydd ar gael i’r
pwyllgor wrth benderfynu ar y cais am Adolygiad. Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (HB) yr adroddiad ac amlinellu ffeithiau’r achos. Cafwyd bod rhywfaint o ddryswch ymhlith rheolwyr y safle ynghylch pwy oedd y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig ac eglurwyd mai Mrs. Vanessa Steele oedd y Goruchwylydd Eiddo Dynodedig, nid Ms. Kayleigh Mannion. Roedd Mrs. Steele ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|||||||||||||
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO NEWYDD – 39 STRYD Y FFYNNON, RHUTHUN PDF 215 KB Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
o ran 39 Stryd y Ffynnon, Rhuthun (mae amlinelliad o'r cais a phapurau
cysylltiedig ynghlwm). 11.30 a.m. Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais yn destun amodau. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a oedd wedi’i gylchredeg cyn hynny) am
– (i)
cais a gafwyd gan Richard John
Green am Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â 39 Stryd y Ffynnon, Rhuthun yn cynnig
ei weithredu fel micro-dafarn a fydd yn gwerthu alcohol i’w yfed ar y safle ac
oddi ar y safle; (ii) cais gan yr ymgeisydd am awdurdodiad i ddarparu’r gweithgareddau
trwyddedadwy canlynol –
(iii) pedwar sylw ysgrifenedig (Atodiad B i’r adroddiad) a gafwyd mewn ymateb i’r
hysbysiad cyhoeddus mewn perthynas ag aflonyddu posibl gan sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; (iv) sylwadau a gyflwynwyd gan Adain Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor (Atodiad C
i’r adroddiad) sy’n ymwneud â’r ffaith bod y safle yn agos iawn i eiddo preswyl
ac yn cynnig nifer o amodau (y mae’r Ceisydd wedi cytuno arnynt) i’w gosod os
rhoddir y drwydded i helpu i atal niwsans cyhoeddus; (v) sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru am y cais a nifer o amodau a
gynigiwyd ganddo (y mae’r Ceisydd wedi cytuno arnynt) i’w gosod os rhoddir y
drwydded er mwyn hyrwyddo’r amcan trwyddedu ar gyfer atal troseddu ac anhrefn
(Atodiad D i’r adroddiad); (vi) ymateb ysgrifenedig a ddarparwyd hefyd gan yr ymgeisydd i bryderon preswylwyr
(Atodiad E i’r adroddiad) a’r ffaith ei fod wedi nodi ei fod yn barod i
gyfryngu â’r Partïon Cysylltiedig – er hynny, roedd rhai gwrthwynebwyr wedi
nodi ei bod yn well ganddynt i’r mater gael ei ddwyn gerbron yr Is-bwyllgor
Trwyddedu; (vii) yr angen i ystyried y cais gan roi sylw dyladwy i Ddatganiad Polisi
Trwyddedu y Cyngor; Canllawiau a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a gafwyd; (viii) yr opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais. Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (HB) yr adroddiad ac amlinellu ffeithiau’r
achos. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD Roedd yr ymgeisydd, Mr. Richard Green yn bresennol i gefnogi ei gais ynghyd
â’i wraig, Mrs. S. Green a’i bartner busnes Mr. D. McPherson. Rhoddodd Mrs. Green grynodeb o’r cais am
ficro-dafarn gan ofyn am oriau a ganiateir rhwng 12 hanner dydd a 10.00 p.m.
ond rhoddodd wybod mai’r oriau agor arferol fyddai rhwng 3.00 p.m. a 10.00 p.m.
ar wahân i ddydd Sadwrn. Ni fyddai’r
busnes yn agored ar ddydd Llun fel arfer oni bai ei fod yn ŵyl banc. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau – ·
darparodd Mr. Green wybodaeth
gefndir am y cynnig busnes gan gynnwys ei brofiad yn y diwydiant bragu a
micro-dafarnau a agorwyd yn ddiweddar yn y Rhyl a Phrestatyn a oedd yn gweithredu
o dan amodau trwyddedu tebyg; rhoddodd sicrwydd hefyd ynghylch cydymffurfio â’r
amodau arfaethedig ·
rhoddodd Mr. McPherson
wybodaeth gefndir hefyd am y rhan y bydd yn ei chwarae a’i brofiad yn y
diwydiant bragu ac ymhelaethodd ar gynlluniau partneriaeth â Mr. Green ar gyfer
y ficro-dafarn arfaethedig yn Rhuthun ·
rhoddwyd sicrwydd nad oedd
unrhyw ddigwyddiadau mewn bod mewn unrhyw un o’r micro-dafarnau a weithredir
gan yr ymgeisydd lle mae’r Heddlu wedi’u galw ac roedd cofnodion yn cael eu
cadw am wrthod gwasanaethu; roedd teledu cylch cyfyng ar waith hefyd ·
darparwyd manylion am
hyfforddiant staff, yn cynnwys gofynion o ran ymsefydlu a pholisi, ynghyd â
chyfleoedd hyfforddi yng nghyswllt trwyddedu a rheoli fel y bo’n briodol; roedd
y rhanddeiliaid yn ymwneud â hyn yn uniongyrchol · cyfeiriwyd at y farchnad arfaethedig gyda nodweddion demograffig a ... view the full Cofnodion text for item 4. |