Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y
Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r
cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu
hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael
yn y cyfarfod. |
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
||||||||||
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor
(sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais fel y gwnaed cais amdano. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
canlynol – (i)
cais wedi dod i law gan Co-op Food Limited mewn perthynas
â Co-op, Victoria Road, Prestatyn (Atodiad A i’r adroddiad); (ii)
y bwriad i weithredu'r eiddo fel siop gyfleus a fydd ar
agor bob dydd o’r wythnos ac yn gwerthu nwyddau, eitemau amrywiol ac alcohol
i’w yfed oddi ar y safle yn unig; (iii)
mae’r ymgeisydd wedi gofyn am awdurdod i ddarparu alcohol
fel a ganlyn -
(iv)
mae un sylw ysgrifenedig (Atodiad B i’r adroddiad) wedi
dod i law gan barti â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus, yn ymwneud
ag aflonyddwch posibl o sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; (v)
mae’r ymgeisydd wedi nodi parodrwydd i gyfryngu gyda’r
parti sydd â diddordeb, fodd bynnag, mae’r gwrthwynebydd wedi nodi bod gwell
ganddynt i'r mater ddod ger bron aelodau; (vi)
yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i
Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol a
dderbyniwyd, a’r (vii)
opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y
cais. Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD Roedd Mr. R. Arnot,
Cyfreithwyr Ward Hadaway a Mr. O. Jones, Rheolwr Siop Co-op yn bresennol ar ran
yr Ymgeisydd (Co-operative Food Limited). Wrth gyflwyno achos ei
gleient, rhoddodd Mr. Arnot - ·
ychydig o wybodaeth gefndir i Co-operative Food Limited,
gan roi gwybod ei fod yn fanwerthwr mawr, adnabyddus, hir-sefydledig gydag enw
da, gyda chynlluniau am ragor o fuddsoddiad ac ehangiad i Gymru; eglurodd
werthoedd craidd Co-op hefyd a'u bod yn cefnogi cymunedau lleol ac elusennau ·
rhoddwyd gwybod bod y cais yn ymwneud ag adeilad newydd
Siop Co-op ym Mhrestatyn, a oedd i fod i agor yn Ebrill 2019 gydag oriau agor
safonol (6.00 am - 11.00 p.m.) er mwyn gwasanaethu i
anghenion cwsmeriaid ac adlewyrchu arferion siopa modern ·
dangoswyd bod gwerthiant alcohol yn ymwneud â thua 15%
o’r trosiant, gydag 85% o’r trosiant yn ymwneud â bwyd ac eitemau amrywiol, gan
ddangos bod gwerthiant alcohol yn ategol at amrediad eang o gynhyrchion
domestig y Siop ·
ymhelaethwyd ar bolisïau a gweithdrefnau cynhwysfawr
Co-op, gan gynnwys pob mater yn ymwneud ag oedran, gyda chyfeiriad penodol at
hyfforddiant a systemau ar gyfer sicrhau y cedwir yn llym at y polisi Her 25
(roedd manylion ynghylch Llawlyfr Hyfforddiant Craidd Co-op a gwybodaeth Oedran
yn Bwysig wedi'u cylchredeg yn flaenorol i aelodau, ynghyd â chynllun bloc o'r
eiddo) ·
cynllun manwl o’r eiddo a lleoli alcohol yn strategol
oddi wrth y fynedfa, er mwyn atal mynediad uniongyrchol at gwsmeriaid, ynghyd â
nifer a lleoliad y camerâu TCC mewnol ac allanol ·
cynghorwyd, yn unol â'r arfer, y cysylltwyd â’r Heddlu yn
ystod y cam cynnar yn y broses a'u bod wedi cadarnhau eu bod yn fodlon o ran
cynigion ar gyfer y Siop; tynnwyd sylw hefyd at y ffaith nad oedd unrhyw
wrthwynebiadau i’r cais wedi dod i law gan awdurdodau cyfrifol · dyfynnwyd Canllaw a gyflwynwyd o dan Adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 10.15 yn ymwneud ag oriau masnachu: “Dylai siopau ac archfarchnadoedd fod yn rhydd i werthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle ar unrhyw adeg pan fydd y siop yn agored, oni bai bod rhesymau da, yn seiliedig ar amcanion trwyddedu, ar gyfer cyfyngu ar yr oriau hynny” a ... view the full Cofnodion text for item 3. |