Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

PENODI CADEIRYDD

I benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: VINTAGE SUGAR TEAROOMS, 27 - 29 MELIDEN ROAD, PRESTATYN pdf eicon PDF 260 KB

Ystyried cais am Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r Drwydded Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)        cais a dderbyniwyd gan Mrs Dawn Roberts am drwydded eiddo newydd ar gyfer Vintage Sugar Tearooms, 27 - 29 Meliden Road, Prestatyn (atodiad A);

(ii)      bwriad yr ymgeisydd i redeg yr eiddo fel ystafell de yn bennaf, gan weini te'r prynhawn a chinio gydag alcohol fel dewis ychwanegol, ac i agor gyda'r nos i weini diodydd alcoholig a bwyd.

 

(iii)     cais yr ymgeisydd i ddarparu alcohol fel a ganlyn –

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG

DYDDIAU PERTHNASOL

AMSEROEDD

Cyflenwi alcohol (i’w yfed yn yr eiddo ac oddi ar yr eiddo)

Dydd Llun – dydd Sul

08.00 – 23:00

Oriau agor i’r

Dydd Llun – dydd Sul

08.00 – 23:00

 

(iv)     un sylw ysgrifenedig (Atodiad B) sydd wedi ei gyflwyno gan barti â diddordeb mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus yn ymwneud â’r aflonyddwch posibl o ganlyniad i sŵn.

 

(v)      parodrwydd yr ymgeisydd i gyfryngu gyda'r parti â diddordeb – yn anffodus, nid yw'r parti â diddordeb wedi cysylltu â'r Awdurdod o gwbl i ganiatáu unrhyw fath o gyfryngu;

 

(vi)     yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i Ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; i ddeddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol a dderbyniwyd; a’r

 

(vii)    opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Rhoddodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (IM) grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r achos.

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD

 

Roedd yr ymgeisydd, Mrs Dawn Roberts yn bresennol er mwyn cefnogi ei chais.

 

Eglurodd Mrs Roberts y byddai’r eiddo yn cael ei redeg fel ystafell de yn bennaf a'i bod wedi gwneud cais am drwydded i agor hyd at 11pm er mwyn gallu cynnal digwyddiadau arbennig achlysurol fel partïon pen-blwydd priodas a phartïon anrhegion babi. Y bwriad yw agor ddim cynt na 10am a chau rhwng 5pm a 6pm yn ystod yr wythnos ac i redeg y lleoliad fel lle bwyta yn bennaf, ac mae cogydd wedi ei gyflogi at y diben hwnnw. Rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau nad creu sefydliad swnllyd a niwsans yw’r bwriad, ond i ddarparu sefydliad parchus a fyddai’n gwella’r dref.

 

CYFLWYNIAD Y PARTI Â DIDDORDEB

 

Roedd y parti â diddordeb wedi mynegi nad oedd yn dymuno mynychu'r gwrandawiad ond gofynnodd i’w sylwadau ysgrifenedig gael eu darllen allan (Atodiad B).

 

Holodd yr Aelod am agosrwydd preswylfa’r parti â diddordeb i’r eiddo dan sylw. Dywedwyd bod preswylfa’r parti â diddordeb dwy stryd i ffwrdd. Dywedodd yr ymgeisydd ei bod wedi cyflwyno ei hun i’r trigolion cyfagos er mwyn rhoi sicrwydd iddynt ynghylch ei bwriad a’u hannog nhw i gysylltu á hi os oedd ganddynt unrhyw bryder. Roedd yr ymgeisydd yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan y parti â diddordeb a dywedodd ei bod yn fodlon cwrdd â hi i geisio lleddfu rhai o’r pryderon hynny. Er nad yw’r eiddo yn debygol o arwain at niwsans o ran sŵn, cadarnhaodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd y byddai unrhyw gŵyn yn cael ei drin yn unol â’r drefn arferol.

 

DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD

 

Yn ei datganiad terfynol dywedodd yr ymgeisydd ei bod wedi derbyn ymateb cadarnhaol i’w chynlluniau, gyda llawer o bobl yn edrych ymlaen at yr agoriad. Er ei bod yn gwerthfawrogi’r pryderon a godwyd gan y parti â diddordeb, nid oes ganddi unrhyw fwriad i darfu ar bobl.

 

GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS

 

Ar y pwynt hwn (11.40 am) gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.

 

PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Drwydded Eiddo yn unol â’r cais a gyflwynwyd a’r amodau a nodir yn  ...  view the full Cofnodion text for item 3.