Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.  Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003:–YUMMY PERI PERI CHICKEN, 36 FFORDD WELLINGTON, Y RHYL pdf eicon PDF 279 KB

Ystyried cais am Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am Drwydded Mangre newydd, fel y'i diwygiwyd, yn destun amodau a chyhoeddi nodyn cynghorol cynllunio.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)        cais wedi dod i law gan Mr. Nallaiah Mahendramoorthy am Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â Yummy Peri Peri Chicken, 36 Ffordd Wellington, Y Rhyl;

 

(ii)      yr Ymgeisydd  wedi gofyn am awdurdod i ddarparu’r gweithgareddau Lluniaeth Hwyr Nos canlynol:

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG

DYDDIAU PERTHNASOL

AMSEROEDD

Lluniaeth Hwyr y Nos

Dydd Iau – Dydd Sul

Gwyliau Banc a Noswyl Nadolig

23.00 – 03:00

23.00 – 03.00

Oriau y bydd yr eiddo yn agored i’r cyhoedd

Dydd Iau – Dydd Sul

Gwyliau Banc a Noswyl Nadolig

23.00 – 03:00

23.00 – 03.00

 

(daeth y ddarpariaeth o fwyd poeth a diod ond yn weithgaredd trwyddedadwy rhwng 23.00 a 05.00 yn unig);

 

(iii)      roedd Adran Rheoli Llygredd y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau (Atodiad A i’r adroddiad) yn codi pryderon yn ymwneud â pha mor agos yw'r safle i eiddo preswyl ac amod cynllunio presennol nad oedd yn caniatáu defnyddio offer echdynnu ar ôl 23.00 (22.00 bob dydd Sul), ac argymhellwyd bod nifer o amodau i gael eu gweithredu pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu er mwyn helpu i atal niwsans cyhoeddus;

 

(iv)     cafwyd dau sylw ysgrifenedig (Atodiad B i’r adroddiad) gan bartïon â diddordeb yn ymwneud ag aflonyddwch oherwydd sŵn;

 

(v)      roedd yr Ymgeisydd wedi cynnig addasu’r cais i leihau diwrnodau ac amseroedd agor hwyr nos i ddydd Gwener a dydd Sadwrn tan 01.00am yn unig; roedd yr Ymgeisydd hefyd wedi sôn bod sefydliadau hwyr nos eraill yn yr ardal a oedd yn aros yn agored tan 02.00am, gan gynnwys tafarn drws nesaf a oedd yn aros yn agored tan hanner nos;

 

(vi)     yr Atodlen Weithredu arfaethedig (Atodiad C i'r adroddiad);

 

(vii)    swyddogion cynllunio wedi cynghori, er nad oedd cyfyngiadau ar oriau gweithredol cyffredinol ar yr eiddo, bod amod cynllunio presennol sy’n cyfyngu ar ddefnyddio’r offer echdynnu i 10.00 tan 23.00 dydd Llun i ddydd Sadwrn a 10.00 tan 22.00 bob dydd Sul;

 

(viii)   roedd yr Ymgeisydd yn ymwybodol o’r amodau cynllunio ac wedi cymryd camau i ddiwygio’r amod - yn y cyfamser, roedd swyddogion cynllunio wedi argymell y dylid cyhoeddi nodyn cynghorol os bydd y cais yn cael ei ganiatáu;

 

(ix)     yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth arall berthnasol a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a’r

 

(x)      opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu a diweddarwyd yr aelodau ar y cynnydd gan roi gwybod -

 

·         bod yr amodau arfaethedig a gyflwynwyd gan Adran Rheoli Llygredd y Cyngor wedi eu cytuno gyda’r Ymgeisydd, ac

 

·       wedi cael gwybod am yr amodau arfaethedig a'r lleihad mewn oriau gweithredu, roedd un o'r partïon â diddordeb wedi cynghori ei fod yn barod i dynnu ei sylwadau'n ôl ar yr amod bod sicrwydd gan yr ymgeisydd y byddai pob cam hanfodol yn cael ei gymryd i leihau sŵn cwsmeriaid.   Er bod yr ymgeisydd wedi rhoi’r sicrwydd hwnnw, nid oedd unrhyw ymateb pellach wedi dod gan barti â diddordeb yn cadarnhau eu bod yn tynnu’r sylwadau’n ôl.

 

 

CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD

 

Cyflwynodd Mr Monir Uzzaman ar ran yr Ymgeisydd nad oedd yn gallu dod i’r cyfarfod.  Dywedodd Mr Uzzaman bod yr eiddo wedi agor yn ddiweddar ac yn gweithredu’n dda yna, ond roedd galw gan gwsmeriaid i gael oriau agor hwyrach.  Yn sgil y sylwadau a ddaeth i law, cydnabuwyd y gallai agor hwyr y nos achosi problemau i eraill ac felly roedd yr Ymgeisydd wedi cydnabod lleihau'r oriau fel yr ymgeisiwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.