Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r
cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r
gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt i bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi
Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod. |
||||||||||||||||||||||||||
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatga. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
||||||||||||||||||||||||||
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO NEWYDD – PB’S, 17 – 19 STRYD Y DŴR, Y RHYL PDF 123 KB I ystyried cais
am Drwydded Eiddo newydd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor
(sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
Drwydded Eiddo, yn amodol ar amodau ac oriau agor fel y'u diwygiwyd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
ynglŷn â – (i)
chais a dderbyniwyd gan Mr. Jonathon
Ashley Benbow am Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â PB’S, 17 – 19 Stryd y
Dŵr, y Rhyl yn ogystal ag Amserlen Weithredol (Atodiad A i’r adroddiad); (ii)
yn dilyn gwrthwynebiadau gan Heddlu’r Gogledd mae’r
Ymgeisydd wedi diwygio’r oriau agor arfaethedig a geisiwyd yn wreiddiol ar
gyfer darparu gweithrediadau trwyddedig fel a ganlyn -
(iii)
un sylw ysgrifenedig (Atodiad B i’r adroddiad) wedi ei
dderbyn gan aelod o’r cyhoedd sy’n byw gerllaw'r eiddo - tra bod y rhan fwyaf
o'r sylw yn cyfeirio at eiddo sydd eisoes yn gweithredu o fewn y cyffiniau,
roedd y preswylydd yn gwrthwynebu i’r cais gael ei gymeradwyo yn ddiamod; (iv)
Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyflwyno
sylwadau (Atodiad C i'r adroddiad) ynglŷn â materion heb eu datrys yn
ymwneud â’r ddarpariaeth o ran diogelwch tân yn yr eiddo; (v)
Heddlu’r Gogledd wedi cyflwyno sylwadau ar y cais yn
ogystal â chynnig nifer o amodau i gael eu hymgorffori o fewn Amserlen
Weithredol pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo (Atodiad D i’r adroddiad) – tra
bod yr Ymgeisydd wedi cadarnhau ei fod yn barod i dderbyn yr amodau ychwanegol
nid oedd cytundeb terfynol wedi ei wneud; (vi)
Adran Reoli Llygredd y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau
(Atodiad E i’r adroddiad) yn codi pryderon yn ymwneud â pha mor agos yw'r eiddo
i eiddo preswyl ac mae'n cynnig nifer o amodau (sydd wedi eu cytuno gan yr
Ymgeisydd) i gael eu gweithredu pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu er mwyn
helpu i atal niwsans cyhoeddus; (vii)
mae’r Ymgeisydd wedi dangos ei barodrwydd i weithio gydag
Awdurdodau Cyfrifol a hyd yma wedi cytuno i’r holl amodau sydd wedi eu cynnig; (viii)
yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i
Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i Ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol; i ddeddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol
a dderbyniwyd, a’r (ix)
opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y
cais. Arweiniodd Rheolwr
Gwarchod y Cyhoedd yr aelodau drwy'r adroddiad a rhoi diweddariad ar y sefyllfa
ar hyn o bryd. Cynghorwyd Aelodau fod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi
tynnu eu sylwadau yn ôl yn dilyn archwiliad diweddar o'r eiddo a oedd yn
cadarnhau fod yr holl ddiffygion a nodwyd yn flaenorol wedi eu datrys a bod y
ddarpariaeth ar gyfer diogelwch tân sy’n effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd
bellach yn cael eu hystyried yn foddhaol. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD Roedd yr Ymgeisydd, Mr. Jonathon Benbow, yn bresennol er mwyn cefnogi ei gais a hefyd ei wraig, Mrs. Holley Benbow, a chynrychiolaeth gyfreithiol ... view the full Cofnodion text for item 3. |