Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y
Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd i’r
cyfarfod. Croesawodd y
Cadeirydd yr holl bartïon i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.
Roedd gweithdrefnau’r
gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt i bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi
Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|||||||||||||||||||||||||
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). 9.30 a.m. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais yn cael ei ganiatáu, yn amodol ar amodau
a gostyngiad yn yr oriau a ganiateir fel y gwnaed cais amdano. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais wedi dod i law gan Mr. Steven Evans am Drwydded
Safle newydd mewn perthynas â Prince of Wales, Llangollen; (ii)
yr ymgeisydd a
oedd wedi gofyn am ganiatâd i ddarparu’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol:
(iii)
*mae’r ymgeisydd hefyd wedi gofyn bod y safle yn cael
aros ar agor i'r cyhoedd o 11.00am tan 2.00am ar Noswyl Nadolig a Gŵyl San
Steffan, ac yn ychwanegol at yr amseroedd a nodir uchod, mae'r ymgeisydd wedi
gofyn awdurdodiad i ddarparu alcohol o 1.00am tan 2.00am ar Ŵyl San Steffan
a Noswyl Nadolig; (iv)
un sylw (Atodiad A i'r adroddiad) wedi'i dderbyn gan ddau
sydd â diddordeb ac yn byw ger y safle sydd wedi tynnu sylw at agweddau sy'n
peri pryder mewn perthynas â sŵn, ymddygiad afreolus a sbwriel; (v)
Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyflwyno
sylwadau (Atodiad B i'r adroddiad) yn rhoi gwybod bod yna faterion sydd heb dal
heb gael sylw yn nhermau darpariaethau diogelwch tân yn y safle y dylid eu
datrys cyn i'r drwydded gael ei chyhoeddi; (vi)
Heddlu Gogledd Cymru, ar ôl cyflwyno sylwadau ar y cais
ond yn dilyn trafodaethau gyda'r ymgeisydd wedi llunio nifer o amodau sydd wedi
eu cynllunio i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (Atodiad C i’r
adroddiad) ac ar y sail honno gofynnodd yr Heddlu, pe bai’r aelodau o blaid cymeradwyo’r
cais, eu bod yn ystyried cynnwys yr amodau hynny o fewn Atodlen Weithredu’r
eiddo (Atodiad E i’r adroddiad); (vii)
Adran Rheoli Llygredd y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau
(Atodiad D i'r adroddiad) gan godi pryderon ynghylch agosrwydd y safle i eiddo
preswyl a chynigiwyd nifer o amodau (a gytunwyd gan yr Ymgeisydd) i gael ei
osod pe bai'r drwydded yn cael ei rhoi; (viii)
yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i
Bolisi Datgan Trwyddedu y Cyngor; Canllaw a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd
Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a (ix)
yr opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar
y cais. Arweiniodd y Rheolwr
Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr aelodau trwy’r adroddiad ac amlinellodd
ffeithiau'r achos. Roedd cyfryngu wedi bod yn digwydd rhwng yr Ymgeisydd a'r
trigolion cyfagos er mwyn mynd i'r afael â'u pryderon. Darllenwyd e-bost gan un
o'r trigolion hynny, Mr. Simon Proffitt, yn cynghori bod yr Ymgeisydd wedi
cytuno i ystyried diogelwch cadarn a gwell ar gyfer y ffenestri ochr ac i
orfodi'r gwaharddiad ar gario diodydd agored oddi ar y safle. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD Roedd yr ymgeisydd, Mr. Steven Evans yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais. Mae problem dechnegol gyfreithiol yn golygu na fu'n bosibl i drosglwyddo’r drwydded safle presennol ac roedd angen felly cyflwyno cais newydd. Dywedodd Mr Evans bod yr eiddo wedi bod yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol o dan y drwydded flaenorol ac na fu unrhyw faterion ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|||||||||||||||||||||||||
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I ADOLYGU TRWYDDED EIDDO – BAR BOW, 27 WATER STREET, Y RHYL PDF 138 KB Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a wnaed yn unol ag Adran 51 o
Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). 11.00 a.m. Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu’r Drwydded Eiddo. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
cais wedi dod i law Heddlu Gogledd Cymru i adolygu
trwydded eiddo a ddelir gan Mr. James Benbow mewn perthynas â Bar Bow, 27 Stryd
y Dŵr, Y Rhyl yn unol ag Adran 51 o Ddeddf Trwyddedu 2003; (ii) y sail
ar gyfer adolygu sy’n ymwneud â phob un o’r pedwar amcan trwyddedu (Atal
Trosedd ac Anhrefn, Diogelwch y Cyhoedd; Atal Niwsans Cyhoeddus ac Amddiffyn
Plant rhag Niwed), fel a ganlyn - “o ganlyniad i achosion o drosedd ac anhrefn, a phryderon a godwyd gan
Heddlu Gogledd Cymru ynghylch rheolaeth yn yr eiddo trwyddedig, yn enwedig
methiant i gydymffurfio gydag amodau trwydded yr eiddo. Er gwaethaf ymdrechion gan Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych i
fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd, gan ddefnyddio'r weithdrefn adolygu
safleoedd trwyddedig, mae achosion difrifol yn parhau i ddigwydd yno Mae'r eiddo wedi methu â hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu. Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ddiffyg hyder yn y Goruchwyliwr yr Eiddo
Dynodedig, Deiliad y Drwydded ar gyfer yr Eiddo a rheolwyr yr eiddo i reoli'r
eiddo’n gyfrifol.” mae manylion
llawn y cais adolygu a'r achosion a'r ymyriadau a wnaed gan Heddlu Gogledd
Cymru a Chyngor Sir Ddinbych wedi eu hatodi yn Atodiad 1 i'r Adroddiad hwn; (iii) cynhaliwyd
cyfarfod gyda Deiliad y Drwydded a Goruchwyliwr yr Eiddo Dynodedig i drafod y
pryderon parhaus a chytunwyd ar gynllun gweithredu Cam 1 manwl gan bob parti na
chydymffurfiwyd ag ef. (iv) cynhaliwyd
cyfarfod dilynol ar 6 Gorffennaf 2016 ar gais Cynrychiolydd Cyfreithiol Deiliad
y Drwydded i’r Eiddo i ganiatáu’r cyfle i gyflwyno’r camau a gymerwyd i wella
rheolaeth o’r eiddo trwyddedig (cynigion amlinellol wedi eu rhestru yn y
cyfarfod); (v) copi llawn o'r
Drwydded Safle presennol gan gynnwys yr atodlen weithredu bresennol sydd wedi
ei gynnwys yn y Cais am Adolygiad (Atodiad 2 i’r adroddiad); (vi) yr
angen i ystyried y cais ar gyfer Adolygiad gan roi ystyriaeth ddyledus i’r
Canllaw a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; Polisi Datganiad Trwyddedu y
Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, ac (vii) yr
opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais am Adolygiad. Cyflwynodd y Rheolwr
Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad yn amlinellu ffeithiau'r achos a'r
dewisiadau sydd ar gael i'r Is Bwyllgor wrth wneud eu penderfyniad. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU) Roedd Cyfreithiwr Cynorthwyol yr Heddlu, Gill Jones, y Prif Arolygydd Paul
Joyce, Rhingyll Steve Prince a Rheolwr Trwyddedu yr Heddlu, Aaron Haggas yn
bresennol i gefnogi'r Cais am Adolygiad ar ran Heddlu Gogledd Cymru. Eglurodd Cyfreithiwr Cynorthwyol yr Heddlu fod y cais am adolygiad wedi ei gyflwyno fel y dewis olaf gan gynghori bod y swyddogion wedi gweithio'n galed gyda'r rheolwyr i geisio eu cefnogi ond mae’r holl ymdrechion hynny wedi methu. Roedd yr adolygiad wedi cael ei alw yn seiliedig ar bob un o'r pedwar o'r amcanion trwyddedu ac roedd yn gyfrifoldeb y rheolwyr i fynd i'r afael â'r problemau hynny a sicrhau bod yr adeilad yn cael ei weithredu yn effeithlon. Cyfeiriodd at restr hir o achosion sy'n gysylltiedig â'r safle ers iddo gael ei agor yn 2014 gan gynnwys ymosodiadau difrifol, cyffuriau, lladrata ac yfed dan oed. Mae'r achos diweddaraf fel yr adroddwyd yn y wasg yn cyfeirio at ymosodiad difrifol a oedd wedi digwydd y tu allan i'r adeilad gan arwain at achos lle torrwyd trwyn y dioddefwr gyda’r ymosodwr wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar. Nid oedd Deiliad Trwydded yr Eiddo, Mr. James Benbow yn bresennol ac er bod y cynnig i ... view the full Cofnodion text for item 4. |