Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthin

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT O SYLW

Ar ddechrau'r achos nid oedd yr Ymgeisydd yn bresennol ac nid oedd wedi cynghori a oedd yn bwriadu bod yn bresennol ai peidio neu gael ei chynrychioli yn y gwrandawiad.  Penderfynodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i fwrw ymlaen â'r gwrandawiad yn absenoldeb yr Ymgeisydd.  Cafodd gweithdrefn yr Is-bwyllgor ar gyfer ymdrin â cheisiadau a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 (a ddosbarthwyd gyda'r rhaglen) ei hamrywio ychydig yn ddiweddarach er mwyn hwyluso ar gyfer hwyr ddyfodiad yr Ymgeisydd rhan o'r ffordd drwy'r achos.

 

 

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt i bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni wnaeth unrhyw un ddatgan cysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni wnaeth unrhyw un ddatgan cysylltiad.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED SAFLE NEWYDD – THE POTS, 22 STRYD FAWR, Y RHYL pdf eicon PDF 117 KB

Ystyried cais am Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003 o ran The Pots, Stryd Fawr, Y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

 

 Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn destun amodau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar -

 

(i)        gais a oedd wedi dod i law gan Yvette Giblin am Drwydded Safle newydd mewn perthynas â The Pots, 22 Stryd Fawr, Y Rhyl;

 

(ii)      yr ymgeisydd  a oedd wedi gofyn am ganiatâd i ddarparu’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol:

 

GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG

DYDDIAU PERTHNASOL

AMSER

O

AMSER

I

Darparu cerddoriaeth fyw

 (Dan do yn unig)

Dydd Iau

dydd Gwener a dydd Sadwrn

19:00

19:00

23:00

02:00

Darparu Cerddoriaeth wedi’i Recordio

 (Dan do yn unig)

Dydd Llun – Dydd Iau

dydd Gwener a dydd Sadwrn

Dydd Sul

11:00

11:00

11:00

23:00

02:00

00:00

Darparu Alcohol

Dydd Llun - Dydd Mercher

Dydd Iau

dydd Gwener a dydd Sadwrn

Dydd Sul

11:00

11:00

11:00

11:00

23:00

00:00

02:00

00:00

 

(iii)     yr ymgeisydd a oedd wedi nodi y chwaraeir gerddoriaeth fyw wedi’i chwyddo tan 02:00 ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn unwaith neu ddwywaith y mis yn unig; gall perfformiadau actiwstig ddigwydd ar ôl 23:00; byddai cerddoriaeth fyw hefyd yn cael ei darparu ar Nos Galan tan 02:00; byddai cerddoriaeth wedi’i recordio yn cynnwys cyfuniad o gerddoriaeth gefndir a DJ.

 

(iv)     yy Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a oedd wedi cyflwyno sylwadau (Atodiad A i'r adroddiad) nad oedd y darpariaethau diogelwch tân cyfredol ar y safle yn addas a chyfleus ar gyfer y defnydd arfaethedig, ac yn manylu ar y meysydd pryder ac argymhellion i fynd i'r afael â'r diffygion yn ymateb i'r cais a oedd wedi ei rannu gyda'r ymgeisydd;

 

(v)      Heddlu Gogledd Cymru, ar ôl cyflwyno sylwadau ar y cais ond yn dilyn trafodaethau gyda'r ymgeisydd lluniwyd nifer o amodau sydd wedi eu cynllunio i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (Atodiad B i’r adroddiad) ac ar y sail honno gofynnodd yr Heddlu, pe byddai’r aelodau o blaid cymeradwyo’r cais, eu bod yn ystyried cynnwys yr amodau hynny o fewn Atodlen Weithredu’r eiddo (Atodiad C i’r adroddiad);

 

(vi)     roedd yr ymgeisydd wedi nodi ei pharodrwydd i weithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gyflawni eu gofynion ac argymhellion a’i bod yn gweithio gyda pherchnogion yr eiddo yn hynny o beth;

 

(vii)    yr angen ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i Ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; i ddeddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol a dderbyniwyd.

 

(viii)  yr opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.

 

Cafodd yr Aelodau eu harwain trwy’r adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu a amlinellodd ffeithiau'r achos.

 

SYLWADAU GWASANAETH TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU

 

Roedd Mr. Bob Mason, Dirprwy Pennaeth Busnes a Diogelwch Tân a Mr Nigel Day, Swyddog Cydymffurfio yn bresennol ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac ymhelaethwyd ar bryderon Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas â'r safle.

 

Ar y pwynt hwn, cyrhaeddodd yr Ymgeisydd, Ms Yvette Giblin y cyfarfod yng nghwmni ei chynrychiolydd Mr. Sean Jones.

 

Parhaodd y Swyddogion Tân gyda'u cyflwyniad a chyfeirio at eu sylwadau ysgrifenedig (Atodiad A i'r adroddiad) yn tynnu sylw at feysydd o bryder oedd angen mynd i'r afael â hwy cyn i’r adeilad agor ynghyd â'u hargymhellion i gyflawni'r nod hwnnw.  Roedd y pum prif fethiant a nodwyd i gyd yn faterion diogelwch cyhoeddus o bwys a chyfeiriwyd hefyd at gyngor ewyllys da ynghylch diogelwch trydanol.  Ers eu harolygiad diwethaf, roedd Raven Solar and Electrical Services wedi cynnal peth gwaith adfer ar y safle o ran y larwm tân a goleuadau ac roedd Adroddiad Arolygu a Gwasanaethu ar gael i'r aelodau yn y cyfarfod.  Fodd bynnag roedd pryderon yn parhau dros agweddau eraill a nodwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.