Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neudd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y
Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad
wedi eu dosbarthu ynghynt i bawb a darparwyd copïau o’r Datganiad Polisi
Trwyddedu yn y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiad. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE - DEVINE, PWLL Y GRAWYS, DINBYCH PDF 210 KB Ystyried cais i
amrywio Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor
(sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD gwrthod
y cais. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar - (i)
gais a oedd wedi dod i law gan Mr. John Sydney Wynne i
amrywio Trwydded Safle mewn perthynas â Devine, Pwll y Grawys, Dinbych; (ii)
mae’r Drwydded Eiddo bresennol yn awdurdodi’r canlynol ar
hyn o bryd -
(*daeth darparu Lluniaeth Hwyr y
Nos yn weithgaredd trwyddedig rhwng 23.00 a 05.00 o’r gloch yn unig) (iii)
mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno cais ar gyfer amrywio fel a
ganlyn -
(iv)
roedd un sylw ysgrifenedig wedi dod i law gan barti sydd
â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus (Atodiad A i'r adroddiad) sy’n
ymwneud â niwsans sŵn posibl o ganlyniad i gerddoriaeth uchel ynghyd â'r
aflonyddwch a allai gael ei achosi gan bobl yn gadael yr eiddo yn hwyr yn y nos
ac yn ystod oriau mân y bore; (v)
gwrthwynebwyd y cais gan Heddlu Gogledd Cymru ond yn
dilyn trafodaethau gyda'r ymgeisydd lluniwyd nifer o amodau sydd wedi eu
cynllunio i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (Atodiad B i’r adroddiad)
ac ar y sail honno gofynnodd yr Heddlu, pe byddai’r aelodau o blaid cymeradwyo’r
cais, eu bod yn ystyried cynnwys yr amodau hynny o fewn Atodlen Weithredu’r
eiddo; (vi)
mae Awdurdod Cynllunio’r Cyngor wedi rhoi gwybod bod
rhywfaint o anghysondeb rhwng y defnydd awdurdodedig presennol o'r eiddo i'r
hyn a gynigir yn y cais. (vii)
yr Atodlenni Gweithredu arfaethedig a phresennol (Atodiad
C a D i'r adroddiad); (viii)
mae
angen ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i Ganllawiau a Datganiad
Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth arall berthnasol a sylwadau perthnasol
a dderbyniwyd, a’r (ix)
dewisiadau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu
ynglŷn â’r cais. Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos. Ers cyhoeddi'r adroddiad roedd cyfryngu wedi bod yn mynd rhagddo rhwng yr Ymgeisydd a'r parti sydd â diddordeb o'r eiddo cyfagos a oedd wedi arwain at gael gwared â seinydd o’r wal rhyngddynt dros dro. Roedd y parti â diddordeb wedi bod yn fodlon â’r lefelau sŵn ers hynny ac wedi cytuno i dynnu ei sylw yn ôl os rhoddir gwarantau gan yr Ymgeisydd am lefelau sŵn yn y dyfodol. Er gwaethaf ddarparu sicrwydd ar lafar yn y cyswllt hwnnw roedd yr Ymgeisydd wedi methu i gadarnhau’r cytundeb hwnnw yn ysgrifenedig ac felly mae'r sylw yn dal i sefyll. O ran yr anghysondeb a amlygwyd gan yr Adran Gynllunio am ddefnydd awdurdodedig o'r safle, dywedwyd wrth yr ... view the full Cofnodion text for item 3. |