Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y
Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r
cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r
gwrandawiad wedi eu dosbarthu ynghynt i bawb a darparwyd copïau o’r Datganiad
Polisi Trwyddedu yn y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiad eu codi. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|||||||||||||||||||||||||||||
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO – THE WELLINGTON, 34 WELLINGTON ROAD, Y RHYL PDF 194 KB Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 Deddf Trwyddedu 2003
(mae amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais fel y gwnaed cais amdano, yn amodol ar yr amodau a gynigir gan Heddlu
Gogledd Cymru ac y cytunwyd arnynt ymlaen llaw gyda'r Ymgeisydd. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar - (i)
gais sydd wedi dod i law gan Mr. Sean Donnelly am
Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â The Wellington (gynt The Liverpool
Arms), 34 Wellington Road, Y Rhyl; (ii)
mae’r ymgeisydd wedi gofyn am ganiatâd i ddarparu’r
gweithgareddau trwyddedadwy canlynol:
(iii)
mae Trwydded Eiddo sy'n caniatáu gwerthu alcohol ac
adloniant a reoleiddir yn y safle wedi cael eu hildio gan ddeiliad y drwydded
blaenorol yn 2011; (iv)
mae’r ymgeisydd wedi nodi bod y safle wedi bwriadu
masnachu fel tafarn; (v)
Gwrthwynebwyd y cais gan Heddlu Gogledd Cymru ond yn
dilyn trafodaethau gyda'r ymgeisydd lluniwyd nifer o amodau sydd wedi eu
cynllunio i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (Atodiad A) ac ar y sail
honno gofynnodd yr Heddlu, pe byddai’r aelodau o blaid cymeradwyo’r cais, eu bod
yn ystyried cynnwys yr amodau hynny o fewn Atodlen Weithredu’r eiddo; (vi)
mae dau o sylwadau ysgrifenedig wedi'u derbyn gan bartïon
â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus (Atodiad B i'r adroddiad) yn
ymwneud yn bennaf ag aflonyddwch posibl o sŵn ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol; (vii)
yr Atodlen Weithredu arfaethedig (Atodiad C i'r
adroddiad); (viii)
Mae angen ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i
Ganllawiau; Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i ddeddfwriaeth arall
berthnasol ac i sylwadau perthnasol a dderbyniwyd. (ix)
Nodwyd y dewisiadau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth
benderfynu ynglŷn â’r cais. Cafwyd crynodeb o’r
adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD Roedd yr ymgeisydd, Mr.
Sean Donnelly yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais. Eglurodd ei fod wedi
cymryd yr eiddo yn ddiweddar a chyn hynny ei fod wedi bod yn denant Tafarn y
Lorne, y Rhyl. Yn ystod ei denantiaeth mae wedi sefydlu perthynas waith
dda gyda'r Heddlu a pharhaodd yn aelod o'r cynlluniau Pubwatch a Chyswllt Tref. Rhoddodd Mr. Donnelly
sicrwydd ynghylch ei fwriadau yn y dyfodol, a rhoddodd wybod am newidiadau mawr
tu mewn i'r eiddo er mwyn creu amgylchedd fel bwthyn i ddenu ei gleientiaid
targed sy’n 30 oed a hŷn. Nid oedd yn dymuno achosi aflonyddwch i gymdogion ac nid
oedd yn bwriadu chwarae cerddoriaeth uchel, a rhoddodd wybod y byddai
cerddoriaeth yn gyffredinol yn dod i ben am 11.30 pm ac y byddai'r adeilad yn
cau tua 12 hanner nos. Mewn ymateb i gwestiynau,
dywedodd yr ymgeisydd - ·
nid oedd y gwaith adnewyddu yn cynnwys insiwleiddio
sŵn ond os bydd sŵn yn broblem byddai'n ystyried y posibilrwydd ·
Rhoddodd wybod am ei brofiad blaenorol yn y fasnach drwyddedig,
gan gynnwys ei denantiaeth yn Nhafarn y Lorne a chyn hynny rai blynyddoedd yn
ôl yn Lloegr. SYLWADAU HEDDLU ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE - CLWB GWLEDIG Y VALE, FFORDD YR WYDDGRUG, RHUTHUN [Mae'r
cais hwn wedi ei dynnu'n
ôl yn ddiweddarach
gan yr Ymgeisydd] Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: Tynnwyd y cais
hwn yn ôl gan yr Ymgeisydd. Cofnodion: Nododd yr Aelodau bod y cais wedi ei dynnu'n ôl gan yr
Ymgeisydd. Daeth y
cyfarfod i ben am 2.35pm. |