Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu dosbarthu ynghynt i bawb a darparwyd copïau o’r Datganiad Polisi Trwyddedu yn y cyfarfod.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM HYSBYSIAD O DDIGWYDDIAD DROS DRO - DENBIGH KEBAB AND BURGER HOUSE, 2 STRYD Y BONT, DINBYCH pdf eicon PDF 44 KB

Ystyried cais am Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro yn unol â Deddf Trwyddedu 2003 mewn perthynas â Denbigh Kebab and Burger House, 2 Stryd y Bont, Dinbych (mae amlinelliad o'r cais a’r papurau cysylltiedig ynghlwm).

 

Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod Gwrth Hysbysiad yn cael ei gyhoeddi i wahardd Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro rhag digwydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar -

 

(i)        Rybudd Digwyddiad Dros Dro a ddaeth i law gan Mr Kuddusi Demir mewn perthynas ag ymestyn oriau'r Drwydded Eiddo bresennol (darparu lluniaeth yn hwyr y nos) ar 19 a 20 Medi, 2015 yn Denbigh Kebab and Burger House, 2 Stryd y Bont, Dinbych;

 

(ii)      mae gan y safle Drwydded Eiddo ar hyn o bryd er mwyn darparu lluniaeth hwyr y nos ar gyfer yr amseroedd canlynol -

 

Dydd Llun i ddydd Iau

Rhwng 23:00 a 01:00

Dydd Gwener a dydd Sadwrn

Rhwng 23:00 a 01:30

Dydd Sul

Rhwng 23:00 a 00:00

 

(iii)     lluniaeth hwyr y nos yn troi’n weithgaredd trwyddedadwy rhwng 23:00pm 05:00am o'r gloch heb fod angen trwydded y tu allan i’r oriau hyn;

 

(iv)     roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno Rhybudd Digwyddiad Dros Dro i ymestyn yr oriau y gallai lluniaeth hwyr y nos gael ei ddarparu o 01:30am i 02:30am ar 19 a 20 Medi, 2015;

 

(v)      roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno Hysbysiad o Wrthwynebiad dan Adran 104 (2) Deddf Trwyddedu 2003 (Atodiad 1 i'r adroddiad) ar y sail y byddai caniatáu i'r eiddo gael ei ddefnyddio yn unol â'r Rhybudd Digwyddiad Dros Dro yn tanseilio'r amcanion trwyddedu, yn benodol (1) Atal Trosedd ac Anhrefn; (2) Diogelwch y Cyhoedd a (3) Atal Niwsans Cyhoeddus – roedd yr Heddlu o’r farn nad oedd gan y safle ddigon o fesurau rheoli ar waith i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu a’u bod yn gwybod eu bod wedi torri eu horiau trwyddedig;

 

(vi)     mae angen ystyried Canllaw a Pholisi Datganiad Trwyddedu’r Cyngor wrth ystyried cyflwyniadau, ac

 

(vii)    yr opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth ystyried y Rhybudd.

 

Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos.

 

SYLWADAU DEFNYDDIWR YR ADEILAD

 

Roedd Mr. Kuddusi Demir yn bresennol ynghyd â'i fab Mr. Osman Demir a fu hefyd yn cyfieithu ar ei ran.  Anerchodd Mr. Demir yr Is-bwyllgor i gefnogi'r Rhybudd Digwyddiad Dros Dro a chadarnhaodd ei fod eisiau ymestyn yr oriau fel y nodwyd yn y Rhybudd.

 

SYLWADAU HEDDLU GOGLEDD CYMRU

 

Roedd Mr Aaron Haggis, Swyddog Trwyddedu yr Heddlu yn cynrychioli Heddlu Gogledd Cymru. Cyfeiriodd at wrthwynebiad ysgrifenedig yr Heddlu a oedd wedi ei seilio i raddau helaeth ar ddigwyddiadau 31 Awst 2015 pan fynychodd y Rhingyll Heddlu lleol y safle. Roedd Rhingyll yr Heddlu yn dyst i ymddygiad gwrth-gymdeithasol gan dyrfa fawr o bobl oedd wedi ymgynnull yn yr adeilad lle roeddynt yn parhau i weini bwyd i’r cwsmeriaid ar ôl yr oriau a ganiateir. Y ddadl oedd, petai’r eiddo wedi cau am 1.30am, yn unol â'r oriau a ganiateir, ni fyddai pobl wedi bod yn ymgynnull yn yr ardal. Cafwyd crynodeb o'r ymddygiad gwrthgymdeithasol a manylodd Mr. Haggis am bryderon yr Heddlu ynghylch diffyg mesurau rheoli i ddelio â chwsmeriaid sy’n cyrraedd a gadael yr adeilad a'r prosesau annigonol sydd yn eu lle i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Codwyd amheuaeth ynghylch agwedd Mr Demir pan ddaeth yr Heddlu ato yn ystod y digwyddiad.  Yn dilyn y digwyddiad roedd yr Heddlu wedi gofyn i Adran Drwyddedu’r Cyngor ymchwilio i’r ffaith eu bod wedi torri’r rheolau a ganiateir a chanfod a oedd modd rhoi rheolau ychwanegol ar waith. I gloi, soniodd Mr. Haggis am ymrwymiad yr Heddlu i gefnogi pob eiddo trwyddedig i wneud y mwyaf o gynhyrchu busnes pan fydd Rhybudd Digwyddiadau Dros Dro yn cael eu cyhoeddi. Serch hynny, yn yr achos hwn, teimlai’r Heddlu y byddai Digwyddiad Dros dro yn achosi anrhefn ar raddfa fawr mewn eiddo trwyddedig.

 

Cafodd Mr. Demir gyfle i ymateb i'r materion a godwyd gan  ...  view the full Cofnodion text for item 3.