Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd ar gyfer
y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd ar gyfer
y cyfarfod. Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd
gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r
Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. |
|
Ystyried cais am
amrywio Trwydded Eiddo, a bresennol unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003 o
ran Ellis’s Bar, 42 - 44 Water Street, Y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a
phapurau cysylltiedig ynghlwm). 2.00 pm – 3.30 pm Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu'r cais i Amrywio’r Drwydded Eiddo fel yr
amlinellir yn y cais, gydag amodau ychwanegol. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â - (i)
chais a dderbyniwyd gan Mr.
Leigh Wright a Mrs. Christine Wright i amrywio Trwydded Eiddo presennol drwy gael gwared
ar yr adeilad
yng nghefn yr eiddo i
greu gardd gwrw yn ei
le yn Ellis’s Bar, 42-44 Stryd
y Dŵr, Y Rhyl (Atodiad
A yr adroddiad) (cynllun wedi’i ddosbarthu yn y cyfarfod), (ii)
roedd yr Ymgeisydd hefyd wedi cynnig
dim cerddoriaeth yn yr ardd gwrw
ar ôl 11pm a theledu cylch caeëdig/staff
drws yn monitro’r
ardd gwrw ar ôl 11pm ynghyd
â gosod ail ddrws ar yr ardd
gwrw i atal
sŵn, (iii) mae’r Drwydded
Eiddo presennol (Atodiad B yr adroddiad)
yn awdurdodi darpariaeth gweithgareddau trwyddedadwy rhwng 09.00 i 04.00 dydd Llun
– dydd Sul, (iv) mae saith sylw
ysgrifenedig wedi’u derbyn gan “Unigolion
Eraill” mewn ymateb i’r rhybudd
cyhoeddus angenrheidiol, ac
maent yn ymwneud yn bennaf
ag aflonyddwch posibl yn sgil sŵn,
ymddygiad gwrthgymdeithasol,
a niwsans cyhoeddus (Atodiad C yr adroddiad),
ynghyd â lluniau y cyfeirir atynt mewn un sylw (Atodiad
D yr adroddiad), (v) mae’r ymgeisydd
wedi ymgysylltu gyda Heddlu Gogledd
Cymru ac adain Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor cyn cyflwyno eu
cais ac mae’r ddau Awdurdod Cyfrifol
wedi cadarnhau nad oes ganddynt
unrhyw sylwadau na gwrthwynebiad yn ymwneud â’r
cais (Atodiad E yr adroddiad), (vi) cynigiwyd proses gyfryngu i bob parti sy’n ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, ond ni fu modd
dod i unrhyw
gytundeb ffurfiol. Yn rhan o’r
broses gyfryngu, cynigiodd yr Ymgeisydd nifer
o addasiadau i’r cais, megis codi
sgriniau rhwystr a chau’r ardd gwrw
ar ôl 11pm. Fe gyflwynodd ei asiant
ddatganiad i’r “Unigolion Eraill” (Atodiad F yr adroddiad)
hefyd. Cafwyd un sylw arall gan “Unigolyn
Arall” yn cadarnhau nad oedd
yr addasiadau arfaethedig yn mynd i’r afael
â’u pryderon (Atodiad G yr adroddiad), (vii) yr angen
i ystyried y Cais gan ystyried
Canllaw a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, ac (viii)
yr opsiynau sydd ar gael i’r
Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais. Darparodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a ffeithiau’r achos. Cafodd cynllun oedd yn cyd-fynd â’r
cais a gafodd ei adael allan
o’r adroddiad ei ddosbarthu yn
y cyfarfod. CAIS YR YMGEISYDD Roedd yr Ymgeisydd, Mr.
Leigh Wright yn bresennol i gefnogi’r cais
ac roedd yn cael ei gynrychioli
gan y Cwnsler Brett
Williamson, Linenhall Chambers, Caer. Roedd Rheolwr Bar yr Ymgeisydd hefyd yn bresennol fel
arsylwr. Cyfeiriodd Mr. Williamson at yr Ymgeisydd
fel rhywun sydd wedi bod yn
berchennog busnes ers amser maith
sydd yn adnabyddus
yn lleol ac sydd ag enw da am redeg eiddo trwyddedig
yn Y Rhyl. Rhoddwyd eglurhad bod Ellis’s Bar
yn gweithredu fel clwb nos
ar hyn o bryd gydag oriau
trwyddedig tan 4.00am, ac roedd
adeilad yng nghefn yr eiddo
yn gweithredu fel Hidden hefyd tan 4.00am a fyddai’n parhau petai’r cais yn
aflwyddiannus. Serch hynny, roedd yr
Ymgeisydd yn dymuno trosi rhan
o gefn yr adeilad mewn i
ardd gwrw gan gael gwared
ar y to a gosod byrddau a chadeiriau gyda’r bwriad o’i
droi yn raddol
o glwb nos i far i deuluoedd
a phlant o ddydd i ddydd, a chynlluniau
at y dyfodol i greu cegin gyda’r
posibilrwydd o weini bwyd. Roedd nifer o gonsesiynau wedi cael eu ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD eithrio'r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol ar y sail y byddai’n cynnwys datgelu gwybodaeth a fyddai’n ymwneud ag unigolyn a allai dramgwyddo ei breifatrwydd neu’n debygol o dorri Deddf Diogelu Data 1998. |
|
DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADNEWYDDU TRWYDDED BERSONOL I ystyried
adroddiad cyfrinachol sy’n gofyn am farn yr aelodau ynglŷn â Thrwydded
Bersonol yn dilyn euogfarn am drosedd berthnasol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003
(mae amlinelliad o’r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). 3.30 pm Nodwch y
trefniadau i’w cymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD cynnig na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach mewn
perthynas â’r Drwydded Bersonol. Cofnodion: Cyflwynodd
yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn ag
- (i)
addasrwydd Deiliad Trwydded
Bersonol i barhau i fod â Thrwydded Bersonol yn dilyn euogfarn ym mis Mawrth
2024 am drosedd berthnasol o dan Atodiad 4 Deddf Trwyddedu 2003; (ii)
y pwerau a roddir ar
Awdurdodau Trwyddedu i ohirio (am hyd at 6 mis) neu ddiddymu Trwydded Bersonol
pan mae unigolyn sydd â Thrwydded Bersonol wedi cael ei ganfod yn euog o
“drosedd berthnasol”; (iii)
cyfeiriwyd at hysbysiad
ffurfiol Adran 132A a roddwyd, ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan Ddeiliad y
Drwydded Bersonol o fewn amserlen o 28 diwrnod; (iv)
yr angen i ystyried yr achos gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r
Cyngor a Chanllawiau a gyhoeddwyd o dan Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003 gydag
unrhyw sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a (v)
gwahoddwyd Deiliad y Drwydded Bersonol
i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’r drwydded ac i ateb
cwestiynau’r Aelodau wedi hynny. Roedd Deiliad y Drwydded Bersonol yn bresennol i gefnogi’r adolygiad o’i
drwydded ac roedd un o’i weithwyr gydag o yr oedd wedi galw fel tyst. Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu yr
adroddiad a ffeithiau’r achos. Dywedodd Deiliad y Drwydded Bersonol ei fod wedi cael ei gosbi am ei
weithredoedd ac roedd yr euogfarn wedi cael effaith andwyol sylweddol ar redeg
ei fusnes o ddydd i ddydd. Roedd wedi dweud wrth y Llys fod ganddo Drwydded
Bersonol ac roedd y Llys wedi dweud y byddent yn rhoi gwybod i’r Awdurdod
Trwyddedu, a dyna pam na wnaeth o hynny’n uniongyrchol. Fe eglurodd beth oedd y digwyddiadau a
arweiniodd at y digwyddiad, a’r amgylchiadau lliniarol a oedd eisoes wedi cael
eu hystyried gan y Llys oedd wedi arwain at ddedfryd fyrrach. Yn olaf, fe roddodd sicrwydd ei fod yn
Ddeiliad Trwydded Bersonol cyfrifol, roedd ei fusnesau’n cael eu rhedeg yn dda
heb unrhyw broblemau, a gofynnodd bod hynny’n cael ei ystyried wrth ddod i
benderfyniad. Gan ymateb i gwestiynau, fe ymhelaethodd ar ei fusnes a
gweithredu eiddo trwyddedig. Gofynnodd yr Aelodau rhagor o gwestiynau am y digwyddiad, yr euogfarn
ddilynol a’r rheswm y tu ôl i weithredoedd Deiliad y Drwydded Bersonol. Fe
ymatebodd Deiliad y Drwydded Bersonol i’r cwestiynau hynny a galwodd ar ei dyst
a gefnogodd ei fersiwn o o’r digwyddiadau mewn cysylltiad â’r diwrnod cyn y
drosedd a’r amgylchiadau lliniarol a gyflwynwyd yn yr achos yma. Dywedodd y tyst fod teledu cylch caeëdig a
chofnodion diogelwch wedi cael eu cyflwyno fel tystiolaeth ac roedd y rhain
wedi cael eu derbyn gan y Llys. Pan ofynnwyd pam nad oedd o wedi gwneud sylwadau o fewn y
28 diwrnod a ganiateir o dan hysbysiad Adran 132A, fe eglurodd Deiliad y
Drwydded Bersonol ei fod wedi cael rhybudd a chyngor y byddai’r mater yn mynd
gerbron Pwyllgor i’w ystyried, a chadarnhaodd ei bresenoldeb i egluro’r
sefyllfa. Fe ymddiheurodd nad oedd wedi llwyr ddeall y broses ac nad oedd wedi
cyflwyno sylwadau ymlaen llaw. O ran datganiad terfynol, gofynnodd Deiliad y Drwydded Bersonol i Aelodau
ystyried ei gyflwyniad ac ystyried ei adolygiad o’r drwydded yn ffafriol. Fe
dynnodd sylw at oblygiadau difrifol i’w fusnesau petai ei Drwydded Bersonol yn
cael ei hadolygu ac fe ailadroddodd fod ei fusnesau trwyddedig yn cael eu
rhedeg yn dda ac nad oedd yna unrhyw broblemau. Ar y pwynt hwn (3.45pm), daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben i bawb arall,
ac aeth yr Is-Bwyllgor Trwyddedu ati i ystyried yr achos mewn sesiwn breifat. PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD PENDERFYNWYD cynnig na
ddylid cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r Drwydded Bersonol. Fe gyfleodd y Cadeirydd beth oedd penderfyniad yr Is-bwyllgor i bob parti ... view the full Cofnodion text for item 4. |