Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Croesawyd pawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn
bresennol. Roedd gweithdrefnau’r
gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi
Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Cafodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei phenodi yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd ar gyfer
y cyfarfod. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n peri rhagfarn yn y materion sydd i gael eu hystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad
oedd yn rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad
oedd yn rhagfarnu. |
|
Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i Adolygu Trwydded Eiddo a wnaed yn unol ag Adran 51 yn
Neddf Trwyddedu 2003 mewn perthynas â The Millbank, Grange Road, y Rhyl
(amlinelliad o’r cyflwyniad a’r papurau cysylltiedig wedi’u hatodi). Sylwer ar y
weithdrefn mae’r Is-bwyllgor i’w dilyn (sydd wedi’i hatodi i’r rhaglen hon). Penderfyniad: Penderfynwyd bod y Drwydded Eiddo yn cael ei hatal am gyfnod o ddeng wythnos a bod
amodau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y drwydded er mwyn mynd i’r afael â
phryderon a hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) - (i)
ar ôl derbyn cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i Adolygu Trwydded Eiddo mewn perthynas â’r Millbank, Grange
Road, y Rhyl a ddelir gan Mr. Parmvir Singh Bisla; (ii)
Y sail dros adolygu, fel y
nodwyd yn y cais, yw - “Mae’r eiddo wedi methu â
hyrwyddo Amcanion Trwyddedu: atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus a
diogelu plant rhag niwed. Ar 1 Medi 2023, derbyniodd Heddlu
Gogledd Cymru alwad yn adrodd digwyddiad o ymosodiad cyffredin - A140763 Ar 29 Hydref 2023, derbyniodd
Heddlu Gogledd Cymru alwad yn adrodd digwyddiad o anhrefn cyhoeddus yn yr eiddo
- A173302 Ar 5 Tachwedd 2023, derbyniodd
Heddlu Gogledd Cymru alwad yn adrodd digwyddiad o ymosodiad cyffredin yn yr
eiddo - A176556” roedd
manylion llawn y Cais i Adolygu ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad ond i
grynhoi roedd yn ymwneud â 3 achos o anrhefn ar wahân - · 1 Medi 2023 - adroddiad o ymosodiad cyffredin yn cynnwys aelod o staff a
afaelodd yng ngwddw cwsmer a’u bygwth (Atodiad B yn y Cais i Adolygu) · 29 Hydref 2023 - adroddiad o ddigwyddiad yn erbyn y drefn gyhoeddus a oedd
yn cynnwys aelodau o staff a chwsmeriaid.
Canfu Swyddogion Heddlu a aeth i’r digwyddiad nifer o bobl feddw a dau
ddyn ar y llawr tu allan (roedd un yn anymwybodol ac yn gwaedu o anaf i’w
ben). Ar ôl adolygu fideos TCC roedd yr
Heddlu o’r farn y bu anrhefn gan staff a chwsmeriaid a bod y naill barti a’r
llall wedi defnyddio grym gormodol heb unrhyw amddiffyniad dros ddefnyddio grym
o’r fath. Roedd yr Heddlu hefyd o’r farn
bod y Rheolwr a’u teulu wedi ymddwyn yn hynod fygythiol tuag at gwsmeriaid gyda
phryderon pellach bod un cwsmer, 17 oed, wedi’i ymosod arno sawl gwaith; gydag
un person arall wedi torri eu braich mewn dau le. Roedd yr Heddlu’n credu fod yr anhrefn
wedi’i achosi gan anghydfod yn ymwneud â diodydd yn y bar rhwng staff a
chwsmeriaid, ac wedi mynd i’r pwynt lle’r oedd tri chwsmer a staff/aelodau o’r
teulu yn cwffio, heb reolaeth dros y sefyllfa gan y tîm rheoli (Atodiad C - E
yn y Cais i Adolygu a thystiolaeth TCC o’r digwyddiad) · 5 Tachwedd 2023 - adroddiad o gwffio tu mewn i’r eiddo rhwng staff a
chwsmeriaid, a bod un person wedi cael ei dagu a’i bwnio gan aelod o
staff. Wrth ymchwilio ymhellach,
canfuwyd fod Deiliad y Drwydded Eiddo wedi anfon pedwar cwsmer tu allan, ac
wedi ymosod arnynt y tu allan, gan arwain at un cwsmer yn troi ei arddwrn ac un
arall yn torri ei fys (Atodiad F - G yn y Cais i Adolygu); (iii)
o ystyried difrifoldeb dau
o’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r eiddo, mynegodd Heddlu Gogledd Cymru nad
oedd yr eiddo’n cael ei reoli’n briodol a bod Deiliad y Drwydded Eiddo a’r
staff presennol wedi bod yn rhan o’r digwyddiadau a’r lefel o anrhefn a oedd yn
gysylltiedig â’r digwyddiadau. O
ganlyniad, roedd yr Heddlu yn gofyn am roi ystyriaeth i ddiddymu’r Drwydded
Eiddo oherwydd methiant i gydymffurfio â Deddf Trwyddedu 2003, yn benodol y
methiant i hyrwyddo amcanion trwyddedu o ran Trosedd ac Anrhefn a Diogelu Plant
rhag Niwed; (iv)
nid oes unrhyw sylwadau
pellach wedi’u derbyn gan Awdurdodau Cyfrifol nac aelodau o’r cyhoedd mewn
ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus i Adolygu’r Cais; (v)
yr angen i ystyried y Cais
am Adolygiad gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a
gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a
sylwadau a dderbyniwyd, ac (vi)
yr opsiynau sydd ar gael
i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais. Darparodd ... view the full Cofnodion text for item 3. |