Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd ar gyfer
y cyfarfod. Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu
hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael
yn y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|||||||||||||||||||||||||
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
o ran Deutch’s Bar 39 Wellington Road, Y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a
phapurau cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD i roi Trwydded Eiddo ar gyfer yr oriau diwygiedig a
nodwyd yn adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu ac yn amodol ar yr amodau a
nodwyd yn yr Atodlen Gweithredu. Cofnodion: Cyflwynodd
yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y
Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r
canlynol – (i)
cais gan Mr Gary Longworth am
Drwydded Eiddo newydd mewn perthynas â Deutch’s Bar, 39 Wellington Road, y Rhyl
yn cynnig darpariaeth o gerddoriaeth byw (dan do yn unig) ynghyd â darpariaeth
o gerddoriaeth wedi’i recordio (dan do yn unig), darpariaeth o unrhyw beth
tebyg i gerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi’i recordio neu berfformiadau o
ddawns (dan do yn unig), a gwerthu alcohol i’w yfed ar ac oddi ar y safle
(Atodiad A o’r adroddiad); (ii)
cafodd y cais ei gyflwyno’n
wreiddiol ar 19 Medi 2023 ond oherwydd camgymeriad gan yr Ymgeisydd, ni
chyhoeddwyd y rhybudd cyhoeddus angenrheidiol mewn cyhoeddiad lleol o fewn yr
amserlen statudol ac felly ailgyflwynwyd y cais ar 12 Hydref 2023; (iii)
mae’r ymgeisydd wedi gwneud
cais am ganiatâd i ddarparu’r canlynol -
* Oriau diwygiedig a gynigwyd fel rhan o gyfryngu [oriau gwreiddiol a gynigwyd
i werthu alcohol oedd o 10:00 bob dydd; yr Ymgeisydd wedi ailystyried oriau
alcohol yn dilyn y sylwadau a ddaeth i law.] (iv)
daeth tri sylw ar ddeg i law
yn wreiddiol gan Unigolion Eraill mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus gofynnol,
ond mae un sylw wedi’i dynnu’n ôl yn dilyn cyfryngu. Mae a wnelo’r sylwadau eraill yn bennaf ag
aflonyddwch posibl oherwydd sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (Atodiad B
yr adroddiad); (v)
Mae’r Ymgeisydd wedi
meithrin cyswllt â Heddlu Gogledd Cymru ac adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor
ac wedi cytuno i gynnwys nifer o amodau wrth gyflwyno’r cais o’r newydd
(Atodiad C o’r adroddiad) a fyddai’n rhan o’r Atodlen Weithredu pe caniateid y
cais; (vi)
Mae Heddlu Gogledd Cymru
hefyd wedi cyflwyno sylwadau o blaid y cais (Atodiad D o’r adroddiad). (vii)
mae cyfryngu wedi’i gynnig
i holl bartïon ar ôl ystyried y sylwadau a ddaeth i law a does dim cytundeb
ffurfiol wedi’i gyrraedd. Yn sgil y cyfryngu
mae’r Ymgeisydd wedi cynnig diwygio’i gais drwy newid yr oriau gwerthu alcohol,
a chyflwyno ymateb i’r Unigolion Eraill a gyflwynodd sylwadau gyda’r gobaith i
fynd i’r afael â rhai o bryderon a godwyd (Atodiad E o’r adroddiad); (viii)
yr angen i ystyried y cais
gan roi ystyriaeth ddyledus i'r Canllawiau a Datganiad Polisi Trwyddedu’r
Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a (ix)
yr opsiynau sydd ar gael
i’r Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais. Darparodd
yr Uwch Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a ffeithiau’r achos. CAIS YR YMGEISYDD Roedd Mr Gary Longworth, yr Ymgeisydd yn bresennol i gefnogi’r cais. Eglurodd Mr Longworth y rheswm tu ôl ei gais a’i fwriad i weithredu galeri a bar gerddoriaeth, i ddarparu lleoliad i arddangos paentiadau ei dad, ac i arddangos talent leol am ddim, drwy gelf a cherddoriaeth. Ar ôl symud i’r ardal yn ddiweddar, cyfeiriodd ei fod wedi bod yn chwilio am leoliad addas ar gyfer y pwrpas hwn, gan ddarparu man wal ddigonol i arddangos paentiadau ei dad a’r rhai o artistiaid awyddus, ac i roi cyfle i arddangos ... view the full Cofnodion text for item 3. |