Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Croesawyd pawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn
bresennol. Roedd gweithdrefnau’r
gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi
Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod yn ffurfiol. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Hugh Irving yn ffurfiol yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
eitem i’w thrafod yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad a
oedd yn rhagfarnu. |
|
Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 51
Deddf Trwyddedu 2003 (mae amlinelliad o’r cais a’r papurau cysylltiedig
ynghlwm). Nodwch y
weithdrefn i’w dilyn gan yr Is-Bwyllgor os gwelwch yn dda (sydd ynghlwm wrth y
rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD fod
yr amodau ar y Drwydded Eiddo yn cael eu haddasu yn unol â’r deuddeg addasiad
fel yr argymhellwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn eu Cais Adolygu. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) ar – (i)
gais a oedd wedi dod i law
gan Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Adolygu Trwydded Safle mewn perthynas â
Glanglasfor, 1 Glanglasfor, Y Rhyl (copi o'r Drwydded Eiddo bresennol a'r
amserlen weithredu gyfredol wedi'u hatodi fel Atodiad A yn yr adroddiad); (ii)
y sail dros adolygu, a
nodir yn y cais, yw - “o ganlyniad i’r eiddo’n methu â
hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu, yn benodol Atal Trosedd ac Anrhefn, Atal
Niwsans Cyhoeddus ac Amddiffyn Plant rhag Niwed. Yn ogystal, mynegwyd pryder nad oedd yr
eiddo’n cadw at yr oriau a ganiateir yn ei drwydded eiddo. Er gwaethaf ymdrechion gan Heddlu Gogledd
Cymru a Chyngor Sir Ddinbych i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd, roedd yr
eiddo wedi methu yn barhaus ag ymgysylltu .
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ddiffyg hyder yng Ngoruchwyliwr Dynodedig
yr Eiddo, Deiliad y Drwydded Eiddo a Rheolwyr yr Eiddo i reoli'r eiddo’n
gyfrifol” atodwyd
manylion llawn y Cais am Adolygiad fel Atodiad B yn yr adroddiad ond i grynhoi,
mae’n ymwneud â digwyddiad ar 3 Mawrth 2022 pan godwyd pryderon difrifol
ynglŷn â’r posibilrwydd o dorri rheolau’r drwydded eiddo; unigolion meddw
yn yr eiddo; methu â rheoli cwsmeriaid; polisi gwirio oedran; plant yn feddw yn
yr eiddo a’r eiddo yn cloi’r drysau tra bo plant yno, a’r diffyg ymgysylltiad
dilynol gan Ddeiliad y Drwydded Eiddo / Goruchwyliwr Dynodedig yr Eiddo i
drafod y pryderon hynny a phryderon blaenorol yn gysylltiedig â Covid ym mis
Hydref 2020; (iii)
cyfeiriwyd at y protocol
gorfodi ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor, a oedd yn cynnwys
cyfarfod ymgysylltu Lefel 1 gyda’r eiddo am ganiatáu i gwsmeriaid feddwi yn yr
eiddo a methu â darparu lluniau teledu cylch cyfyng i’r Heddlu yn dilyn
ymosodiad difrifol yn yr eiddo; (iv)
yng ngoleuni’r digwyddiadau
sy'n gysylltiedig â'r eiddo, honnodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd gan yr eiddo
fesurau digonol mewn lle i hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu, a thynnodd sylw
hefyd at ddiffyg ymgysylltiad Deiliad y Drwydded Eiddo / Goruchwyliwr Dynodedig
yr Eiddo gyda’r Heddlu a'r Cyngor. O
ganlyniad, roedd yr Heddlu wedi gwneud cais am adolygu’r drwydded eiddo a gofyn
i aelodau ystyried nifer o fesurau ychwanegol er mwyn datrys y mater (atodiad C
yn yr adroddiad); (v)
nid oes unrhyw sylwadau
pellach wedi’u derbyn gan Awdurdodau Cyfrifol nac aelodau o’r cyhoedd mewn
ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus gofynnol o’r Cais am Adolygiad; (vi)
yr angen i ystyried y Cais
am Adolygiad gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a
gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a
sylwadau a dderbyniwyd, ac (vii)
yr opsiynau sydd ar gael
i’r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais. Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu yr adroddiad gan amlinellu ffeithiau'r
achos. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU) Roedd Mr . Aaron Haggas, Swyddog Trwyddedu’r Heddlu
ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, yn bresennol ar ran Heddlu Gogledd Cymru. Wrth gyflwyno achos yr Heddlu, esboniodd Mr. Haggas bod yr Heddlu wedi ceisio ymgysylltu â’r eiddo trwyddedig ar y cyfle cyntaf posibl yn dilyn unrhyw bryder, a oedd yn tueddu i fod ar ffurf llythyr ffurfiol gyda disgwyliad i dderbyn neu wrthod y cynnig. Roedd yn rhwystredig pan na fynychodd y rheiny a wahoddwyd, a hyd yn oed yn fwy rhwystredig pan anwybyddwyd gwahoddiadau dilynol. Amlygwyd pa mor bwysig yw’r berthynas waith rhwng pob awdurdod cyfrifol ac eiddo trwyddedig ac roedd yr Heddlu yn gwbl ymwybodol o’r heriau a’r beichiau sy’n wynebu’r diwydiant trwyddedu. Fodd bynnag, roedd cyfrifoldeb i hyrwyddo’n weithredol y pedwar amcan trwyddedu ac roedd y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â hynny yn cael eu ... view the full Cofnodion text for item 3. |