Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1b, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r
cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu
hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael
yn y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu. |
|||||||||||||||||||
Ystyried cais i
amrywio Trwydded Eiddo yn unol ag Adran 34 Deddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Bodrum
Kebab House, 10 Water Street, y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a phapurau
cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais fel y gwnaed cais amdano. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
canlynol – (i)
cais a dderbyniwyd gan Mr. R. Topac i amrywio Trwydded
Eiddo ac ymestyn oriau gweithredu mewn cysylltiad â Bodrum Kebab House, 10 Stryd
y Dŵr, Rhyl (atodiad A ynghlwm wrth yr adroddiad); (ii)
mae’r eiddo’n gweithredu fel siop bwyd i fynd o dan yr
oriau canlynol ar hyn o bryd -
(iii)
mae’r ymgeisydd wedi gofyn am awdurdodiad i ymestyn yr
oriau fel a ganlyn -
(iv)
dim ond rhwng oriau 23.00 a 05.00 y daeth darparu
Lluniaeth Hwyr y Nos yn weithgaredd trwyddedadwy; (v)
derbyniwyd un sylw ysgrifenedig (Atodiad B ynghlwm wrth
yr adroddiad) gan Barti â Diddordeb mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus yn
ymwneud ag aflonyddwch posibl o sŵn a chynnydd mewn sbwriel ac ati o
ganlyniad i oriau agor hirach; (vi)
ar ôl derbyn manylion y sylwadau cynigiodd swyddogion i
gyfryngu rhwng y partïon ac wrth ymateb dywedodd yr ymgeisydd y byddai’n fodlon
parhau â’i oriau gweithredu presennol ond gyda’r hyblygrwydd i barhau ar agor
rhwng 16.00 a 04.00 ar y diwrnodau canlynol - Gwyliau’r Banc ar ddydd Llun Noswyl Nadolig (pan fydd yn
disgyn ar ddydd Llun – dydd Iau) Diwrnod Nadolig (pan fydd yn
disgyn ar ddydd Llun – dydd Iau) Gŵyl San Steffan (pan fydd
yn disgyn ar ddydd Llun – dydd Iau) Nos Galan (pan fydd yn disgyn ar
ddydd Llun – dydd Iau) (vii)
ar ôl clywed addasiadau i’r oriau gweithredu roedd yr
ymgeisydd yn eu cynnig, dywedodd y Parti â Diddordeb y byddai’n well ganddynt
petai’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Aelodau benderfynu; (viii)
y rhaglen weithredu arfaethedig ar ôl cael ei gynnwys fel
rhan o’r cais yn manylu nifer o amodau ychwanegol; (ix)
yr angen i ystyried y cais gan ystyried Datganiad Polisi
Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol a
deddfwriaeth perthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a (x)
yr opsiynau sydd ar gael i’r pwyllgor tra’n penderfynu ar
y cais. Cyflwynodd y Swyddog
Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos. CAIS YR YMGEISYDD Roedd Mr. R. Topac yn bresennol i gefnogi ei
gais a rhoddodd fanylion ei oriau trwyddedu arferol rhwng 4.00pm tan tua 3.35am ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn a hyd at 1.00am
weddill yr wythnos. Dywedodd, er ei fod
wedi gwneud cais i amrywio’r oriau trwyddedu i 4.00am yn ddyddiol, roedd hyn er
mwyn darparu’r hyblygrwydd ar gyfer oriau trwyddedu hwyrach ar adegau arbennig
megis Noswyl Nadolig, Diwrnod Nadolig, Gŵyl San Steffan a Nos Galan pan
fyddent yn disgyn ar ddydd Llun i ddydd Iau, ac ar wyliau banc ar ddydd Llun.
Doedd dim bwriad i weithredu hyd at 4.00am ar ddydd Llun i ddydd Iau y tu allan
i’r adegau hyn. Wrth ymateb i gwestiynau
aelodau - ·
cadarnhaodd Mr Topac y trefniadau diogelwch roedd yn eu
defnyddio yn yr eiddo yn ystod oriau agor hwyrach hyd at 4.00am · cadarnhaodd mai eiddo bwyd cyflym yn unig oedd yr eiddo a dywedodd yr aelodau nad ... view the full Cofnodion text for item 3. |