Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y
Cynghorydd Huw Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Huw Williams yn Gadeirydd y cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd yr holl bartïon i’r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a
oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi’u dosbarthu ymlaen
llawn i’r holl bartïon a darparwyd copïau o’r Datganiad Polisi Trwyddedu yn
ystod y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|||||||||||||||||||||
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
o ran Rhyl Spice, 64-66 Heol y Frenhines, y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a
phapurau cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais, fel y’i diwygiwyd, yn destun amodau. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw) a oedd yn ymwneud â’r materion isod – (i)
cais gan gwmni Cyfreithwyr
Gamlins Law ar ran yr Ymgeisydd, Md Muhim Uddin (Atodiad A yr adroddiad) ar
gyfer Trwydded Safle newydd ar gyfer Rhyl Spice, 64 – 66 Heol y Frenhines, Y
Rhyl, yn cynnig gweithredu fel bwyty a
siop tecawê gyda darpariaeth danfon archebion dros y ffôn, ac yn yr holl
achosion byddai alcohol yn cael ei werthu neu ei ddanfon dim ond pan fyddai’r
cwsmer yn prynu pryd o fwyd; (ii) cais gan yr ymgeisydd am ganiatâd i ddarparu’r gweithgareddau trwyddedadwy
a ganlyn –
(iii) sylwadau gan Heddlu Gogledd Cymru a chynnig ar gyfer nifer o amodau (a
gytunwyd gan yr Ymgeisydd) i’w gosod ar y drwydded, petai’n cael ei chaniatáu,
yn ymwneud â danfon alcohol er mwyn helpu i hybu’r amcanion trwyddedu a ganlyn:
atal trosedd ac anhrefn ac amddiffyn plant rhag niwed (Atodiad B yr adroddiad); (iv) dau sylw ysgrifenedig a dderbyniwyd gan Bartïon â Diddordeb (Atodiad C yr
adroddiad) mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus, yn ymwneud ag aflonyddu posibl
oherwydd sŵn a llygredd aer; (v) y ffaith bod y swyddogion wedi cynnig gwasanaeth cyfryngu rhwng yr
Ymgeisydd a’r Partïon â Diddordeb ond nad oedd unrhyw ddatrysiad hyd yma; (vi) yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus i Ddatganiad Polisi
Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Gwladol;
deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a hefyd (vii) y dewisiadau sydd ar gael i’r pwyllgor wrth ddod i benderfyniad ar y cais. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) yr adroddiad ac amlinelliad o
ffeithiau’r achos. CAIS YR YMGEISYDD Roedd yr Ymgeisydd Md Muhim Uddin a’i gynrychiolydd cyfreithiol, Mr. P.
Williams o gwmni Cyfreithwyr Gamlins Law yn bresennol i gefnogi’r cais. Esboniodd Mr. Williams y cynigion ar gyfer gweithredu’r drwydded gan
gynghori y byddai alcohol yn cael ei werthu ar y cyd â phrydau bwyd mawr. Ni
fyddai alcohol ar werth ar ôl 01.00 o’r gloch yn y bwyty a’r siop tecawê yn
unol ag amseroedd mynediad olaf, ac ar ôl 02.00 o’r gloch yn achos prydau
tecawê y gwasanaeth archebu a danfon dros y ffôn. Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau yn ymwneud ag amodau ychwanegol posibl i’w cynnwys yn yr Amserlen Weithredu o ran danfon alcohol ac roedd yr Ymgeisydd wedi cytuno i’r amodau hyn. O ran y ddau sylw ysgrifenedig a dderbyniwyd gan Bartïon â Diddordeb mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus angenrheidiol, dywedodd Mr. Williams fod y ddau yn cyfeirio at sŵn gan gwsmeriaid yn gadael y safle ar ôl 23.00 o’r gloch ac yn ymgynnull yn yr ardal ysmygu ynghyd â phroblemau yn ymwneud ag arogleuon. Dywedodd fod y pryderon hynny wedi bod yn seiliedig ar ymddygiad y deiliaid blaenorol a bod y safle wedi cael ei gau rai misoedd ynghynt oherwydd problemau rheoli. Roedd yr Ymgeisydd wedi bod yn gweithredu ar y safle ers 9 Ebrill 2019 yn unig ar sail gyfyngedig ac nid oedd wedi bod ar agor yn ... view the full Cofnodion text for item 3. |