Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl LL18 3DP
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r
cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu
hanfon at bawb ymlaen llaw ac roedd copïau o'r Datganiad Polisi Trwyddedu ar
gael yn y cyfarfod. |
|||||||||||||||||
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|||||||||||||||||
Ystyried cais i
amrywio Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD ar y canlynol mewn perthynas â’r amrywiadau y gwnaed
cais amdanynt – i.
Darpariaeth Lluniaeth Hwyr y
Nos 23:00 - 05:00 dydd Llun - dydd Sul - WEDI’I GANIATÁU AR GYFER DIODYDD POETH
YN UNIG (dim darpariaeth bwyd poeth) ii.
Cyflenwi alcohol 24 awr y
dydd o ddydd Llun i ddydd Sul (i’w yfed oddi ar yr eiddo) - GWRTHODWYD Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar - (i)
gais a dderbyniwyd gan Malthurst Retail Limited i amrywio
Trwydded Eiddo mewn perthynas â MRH Rhuthun, Ffordd y Parc, Rhuthun i amrywio
eu horiau i fod ar agor 24 awr i werthu alcohol fel siop drwyddedig ynghyd â
darparu lluniaeth yn hwyr yn y nos (Atodiad A i’r adroddiad); (ii)
roedd yr eiddo yn gweithredu fel gorsaf betrol sydd ar
agor 24 awr y dydd ynghyd â siop fechan gydag oriau trwyddedig i werthu alcohol
yn awdurdodi gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle o ddydd Llun i ddydd Sul
o 06:00 tan 23:00; (iii)
bod yr ymgeisydd wedi ceisio awdurdodiad i ddarparu'r
canlynol-
(iv)
mae naw o sylwadau ysgrifenedig wedi'u derbyn gan bartïon
â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus (Atodiad B i'r adroddiad) yn
ymwneud yn bennaf ag aflonyddwch posibl o sŵn ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol; (v)
nid oedd cyfryngu yn opsiwn yn yr achos hwn oherwydd
nifer y sylwadau a dderbyniwyd; (vi)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau ar y
cais, yn ogystal â nifer o amodau arfaethedig, a gytunwyd gyda’r Ymgeisydd, ac
a fyddai’n cael eu hymgorffori o fewn atodlen weithredu’r eiddo, pe bai’r
amrywiadau’n cael eu cymeradwyo (Atodiad C yr adroddiad). (vii)
bod Atodlen Weithredu arfaethedig yr eiddo wedi’i
chynnwys fel rhan o’r cais gan nodi nifer o amodau ychwanegol; (viii)
yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus
i'r Canllawiau a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol
arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, ac yr (ix)
opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y
cais. Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan
y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD Mr. Robert Botkai –
Cyfreithiwr, Mr. Keith Dissamayake –
Rheolwr Safle a Goruchwylydd Safle Dynodedig a Mr. Paul Masher –Rheolwr Ardal Motor Fuel Group
yn bresennol ar ran yr ymgeisydd (Malthurst Retail Limited). Darparodd Mr. Botkai
rywfaint o gefndir yn egluro newid ym mherchnogaeth y safle’n ddiweddar ond
cadarnhaodd bod y cais yn parhau i fod yn gywir. Roedd y Drwydded Eiddo presennol yn caniatáu
gwerthu alcohol rhwng 06.00 a 23.00 yn unol â’r oriau agor blaenorol. Ers mis Chwefror 2018 roedd yr eiddo wedi
bod yn gweithredu 24 awr y dydd a gwnaed cais i adlewyrchu’r newid i’r oriau
masnachu presennol. Cyfeiriwyd at y
Canllawiau a gyflwynwyd o dan Adran 182 o'r Ddeddf Trwyddedu mewn perthynas ag
oriau masnachu a oedd yn nodi y dylai siopau, storfeydd ac archfarchnadoedd
allu gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo i gyd-fynd â'u horiau agor oni
bai bod rheswm da dros gyfyngu'r oriau hynny.
Roedd Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor hefyd wedi’i ddyfynnu gan ei
fod yn ymwneud â chaniatâd cyffredinol ar gyfer siopau ac archfarchnadoedd i
werthu alcohol yn ystod oriau agor arferol oni bai eu bod yn ganolbwynt ar
gyfer anrhefn ac aflonyddwch. Adroddodd Mr. Botkai ar
ddwy elfen ar wahân o'r cais fel a ganlyn- ·
Lluniaeth yn hwyr yn y nos – roedd yr eiddo eisoes yn
gwerthu diodydd poeth ac roedd cynnig bwyd poeth cyfyngedig. Y bwriad oedd gwerthu diodydd poeth yn unig rhwng 23.00 a 06.00 ac roedd yr Ymgeisydd yn fodlon derbyn amod ar y drwydded yn gwahardd gwerthu bwyd poeth rhwng yr amseroedd hynny. Gobeithiwyd ... view the full Cofnodion text for item 3. |