Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD I benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Penderfyniad: Penodwyd y
Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd y
Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol. Roedd
gweithdrefnau’r gwrandawiad wedi eu hanfon ynghynt at bawb ac roedd copïau o'r Datganiad
Polisi Trwyddedu ar gael yn y cyfarfod. |
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
||||||||||
DEDDF TRWYDDEDU 2003: VINTAGE SUGAR TEAROOMS, 27 - 29 MELIDEN ROAD, PRESTATYN PDF 260 KB Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm). Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd
ynghlwm wrth y rhaglen hon). Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu’r Drwydded Eiddo. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
canlynol – (i)
cais a dderbyniwyd gan Mrs Dawn
Roberts am drwydded eiddo newydd ar gyfer Vintage Sugar Tearooms, 27 - 29
Meliden Road, Prestatyn (atodiad A);
(ii)
bwriad yr ymgeisydd i redeg yr eiddo fel ystafell de yn
bennaf, gan weini te'r prynhawn a chinio gydag alcohol fel dewis ychwanegol, ac
i agor gyda'r nos i weini diodydd alcoholig a bwyd. (iii)
cais yr ymgeisydd i ddarparu alcohol fel a ganlyn –
(iv)
un sylw ysgrifenedig (Atodiad B) sydd wedi ei gyflwyno gan
barti â diddordeb mewn ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus yn ymwneud â’r
aflonyddwch posibl o ganlyniad i sŵn. (v)
parodrwydd yr ymgeisydd i gyfryngu gyda'r parti â
diddordeb – yn anffodus, nid yw'r parti â diddordeb wedi cysylltu â'r Awdurdod
o gwbl i ganiatáu unrhyw fath o gyfryngu; (vi)
yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i
Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i Ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol; i ddeddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol
a dderbyniwyd; a’r (vii)
opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y
cais. Rhoddodd Rheolwr Busnes
Gwarchod y Cyhoedd (IM) grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r
achos. CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD Roedd yr ymgeisydd, Mrs
Dawn Roberts yn bresennol er mwyn cefnogi ei chais. Eglurodd Mrs Roberts y
byddai’r eiddo yn cael ei redeg fel ystafell de yn bennaf a'i bod wedi gwneud
cais am drwydded i agor hyd at 11pm er mwyn gallu cynnal digwyddiadau arbennig
achlysurol fel partïon pen-blwydd priodas a phartïon anrhegion babi. Y bwriad
yw agor ddim cynt na 10am a chau rhwng 5pm a 6pm yn ystod yr wythnos ac i redeg
y lleoliad fel lle bwyta yn bennaf, ac mae cogydd wedi ei gyflogi at y diben
hwnnw. Rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau nad creu sefydliad swnllyd a niwsans yw’r
bwriad, ond i ddarparu sefydliad parchus a fyddai’n gwella’r dref. CYFLWYNIAD Y PARTI Â DIDDORDEB Roedd y parti â
diddordeb wedi mynegi nad oedd yn dymuno mynychu'r gwrandawiad ond gofynnodd
i’w sylwadau ysgrifenedig gael eu darllen allan (Atodiad B). Holodd yr Aelod am
agosrwydd preswylfa’r parti â diddordeb i’r eiddo dan sylw.
Dywedwyd bod preswylfa’r parti â diddordeb dwy stryd i ffwrdd.
Dywedodd yr ymgeisydd ei bod wedi cyflwyno ei hun i’r trigolion cyfagos er mwyn
rhoi sicrwydd iddynt ynghylch ei bwriad a’u hannog nhw i gysylltu á hi os oedd
ganddynt unrhyw bryder. Roedd yr ymgeisydd yn cydnabod y pryderon a fynegwyd
gan y parti â diddordeb a dywedodd ei bod yn fodlon cwrdd â hi i
geisio lleddfu rhai o’r pryderon hynny. Er nad yw’r eiddo yn debygol o arwain
at niwsans o ran sŵn, cadarnhaodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd y
byddai unrhyw gŵyn yn cael ei drin yn unol â’r drefn arferol. DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD Yn ei datganiad terfynol
dywedodd yr ymgeisydd ei bod wedi derbyn ymateb cadarnhaol i’w chynlluniau,
gyda llawer o bobl yn edrych ymlaen at yr agoriad. Er ei bod yn gwerthfawrogi’r
pryderon a godwyd gan y parti â diddordeb, nid oes ganddi unrhyw
fwriad i darfu ar bobl. GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS Ar y pwynt hwn (11.40 am)
gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais. PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Drwydded Eiddo yn unol â’r cais a gyflwynwyd a’r amodau a nodir yn ... view the full Cofnodion text for item 3. |