Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnus
mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Ar y pwynt hwn,
roedd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant,
eisiau diolch i'r Adran Briffyrdd, Gwasanaethau Stryd, y tîm gwastraff a staff
y switsfwrdd am eu holl waith dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn cadw pawb
yn ddiogel. Yn gyntaf gyda'r gwynt, eira
a rhew a ddaeth gyda storm Darragh, ac yna gwyntoedd
uchel iawn storm Eowyn yr wythnos ddiwethaf a ddaeth
â thua 30 o goed i lawr, gan flocio llawer o'n ffyrdd. Nid oedd yn hawdd gweithio dan yr amodau
hynny a gofynnodd y Cynghorydd Mellor am gael cofnodi bod pawb yn ddiolchgar
iddynt gan ei fod wedi bod yn gyfnod anodd iawn. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Ar y pwynt hwn,
rhoddwyd gwybod i’r aelodau fod tri chwestiwn wedi dod i law. Cwestiwn 1 Cwestiwn a
gyflwynwyd gan y Cynghorydd Justine Evans i Arweinydd
y Cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan. “A all yr Aelod Arweiniol neu’r Swyddogion esbonio pam na ymgynghorwyd yn
swyddogol ag Aelodau lleol o Gyngor Sir y Ceidwadwyr yn y Rhyl ynghylch Lyons Holiday Parks a CSDd yn trafod cytundeb prydles posibl ar gyfer safle
Acwariwm Môr y Rhyl”. Dywedodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan na fu unrhyw
gynigion sylweddol a oedd wedi arwain at unrhyw gasgliadau. Roedd cynnig wedi'i wneud i brynu, nodwyd mai dim
ond mewn lesddaliad yr oedd gan y cyngor ddiddordeb.
Ar y ddealltwriaeth honno gofynnwyd am ddatganiadau o ddiddordeb, ynghyd â
gwybodaeth bellach am gynllun busnes, defnydd arfaethedig o'r adeilad a
phenawdau’r telerau drafft. Rhoddwyd
terfyn amser a daeth y terfyn amser hwnnw i ben, rhoddwyd estyniad pellach i'r
amser ac ni chafwyd unrhyw wybodaeth. O ganlyniad, credwyd nad oedd y
trafodaethau'n mynd rhagddynt. Petai unrhyw gynigion sylweddol yn dod i law
byddai pob aelod yn cymryd rhan. Cwestiwn 2 Cwestiwn gan y
Cynghorydd Will Price “A all yr Aelod
Arweiniol neu’r Swyddogion roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol safle Sinema
Vue y Rhyl ar ôl iddo gau yn ddiweddar”. Ymatebodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan fod e-bost wedi'i anfon yn ddiweddar yn
nodi bod proses mynegi diddordeb i ddechrau fis nesaf (Chwefror). Roedd gwaith yn cael ei wneud gydag
arbenigwyr sinema i ail-osod y sinema fel sinema. Roedd swyddogion yn cydweithio gyda dull
strategol gan ei fod yn adeilad pwysig ac yn safle pwysig yn y Rhyl. Roedd aelodau'r Rhyl, Grŵp Ardal Aelodau
y Rhyl a Chyngor Tref y Rhyl, Bwrdd Tref y Rhyl, yr AoS,
AS ac aelodau'n cael eu diweddaru'n rheolaidd a rhoddwyd sicrwydd y byddai
aelodau’n cael eu hysbysu pe bai unrhyw ddatblygiadau. Cwestiwn 3 Cwestiwn gan y
Cynghorydd Hugh Irving yn gofyn am gadarnhad bod Tŵr Awyr y Rhyl neu
unrhyw adeiladau eraill wedi'u goleuo’n biws y noson gynt i gydnabod Diwrnod yr
Holocost. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro, Gary Williams y byddai'n gwneud ymholiadau ac yn cysylltu â'r
Cynghorydd Irving yn dilyn y cyfarfod gan ei fod wedi bod yn garreg filltir
bwysig mewn hanes. Gofynnodd y
Cynghorydd Irving gwestiwn atodol o ran a oedd unrhyw Gynghorwyr wedi cael eu
gwahodd i gymryd rhan yn y digwyddiad. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro, Gary Williams, eto y byddai'n gwneud ymholiadau ac yn cysylltu
â'r Cynghorydd Irving ar ôl y cyfarfod. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD Nodi'r ymrwymiadau dinesig a gyflawnwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Scott, ar y digwyddiadau dinesig y bu iddo eu
mynychu. PENDERFYNWYD nodi Dyddiadur y Cadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2024. Materion yn
Codi – Tudalen 11
(Cwestiwn 2) – cadarnhawyd bod neges wedi'i hanfon at y cyhoedd i roi gwybod
iddynt am glirio gwastraff. Roedd y tîm
Rheoli hefyd wedi bod yn gweithio ar y broblem yn ymwneud â chasgliadau biniau
strydoedd dros gyfnod y Nadolig. Roedd
cyllid ar gyfer staff ychwanegol yn y Gwasanaethau Stryd wedi dod i ben ar
gyfer yr Adran yn ddiweddar, a arweiniodd at brinder staff yn y gwasanaeth.
Fodd bynnag, roeddent bellach yn dod yn ôl i drefn a dylai'r gwasanaeth fod yn
gwella. Tudalen 13 -
Rhybudd o Gynnig wedi’i gyflwyno gan y Blaid Werdd ynghylch Ystâd y Goron. Gofynnwyd am gadarnhad a oedd yr Arweinydd
wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac os felly, a ellid dosbarthu copi o'r
llythyr i'r Aelodau. Cadarnhaodd yr
Arweinydd fod llythyr wedi'i anfon ac y byddai'n darparu copi o'r llythyr yn
unol â'r cais. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cadarnhau
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2024 fel cofnod
cywir. |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR 2025/26 Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Darparu Gwasanaeth, Refeniw a Budd-daliadau (copi
ynghlwm) ar gyfer mabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor
a Gofyniad Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth
y Cyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau
Treth y Cyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol)
(Cymru) 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis,
adroddiad Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor 2025/26 (dosbarthwyd ymlaen
llaw). O 31 Mawrth 2013
daeth budd-dal treth y cyngor i ben a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb o roi
cymorth gyda threth y cyngor a’r cyllid sy’n gysylltiedig â hynny i Lywodraeth
Cymru. Cwblhaodd
Llywodraeth Cymru’r ddau set o reoliadau blynyddol ar 24 Ionawr 2025 ac mae’n
rhaid i bob un o’r 22 cyngor yng Nghymru fabwysiadu Rheoliadau Cynllun
Gostyngiad Treth y Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a’r Rheoliadau
wedi’u diwygio erbyn 31 Ionawr 2025. Roedd y
rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau fabwysiadu’r elfennau dewisol yn
eu cynlluniau ac i’r Cyngor gymeradwyo’r tair elfen ddewisol a ganlyn a fu’n
gyson ers dechrau’r cynllun – (i)
Peidio
â chynyddu’r cyfnod talu estynedig safonol o 4 wythnos o Ostyngiadau Treth y
Cyngor i ymgeiswyr ar ôl iddynt ddychwelyd i’r gwaith pan fuont yn cael
budd-dal cymwys perthnasol; (ii)
Diystyru
100% o bensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiynau Rhyfel Gweddw wrth gyfrifo incwm;
a (iii)
Pheidio
â chynyddu’r cyfnod mwyaf ar gyfer ôl-daliadau i Ostyngiadau Treth y Cyngor y
tu hwnt i’r 3 mis safonol. Y cyngor sy’n
gyfrifol am ddilysu'r hawliadau. Bu CSDd yn gweithio gyda'r Fenter Twyll Genedlaethol a oedd yn
ymarfer paru data, a helpodd i atal a chanfod twyll. Roedd CSDd hefyd yn
dibynnu ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddarparu llawer iawn o ddata. Roedd diwygiadau
i Gynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor wedi’u cynnwys yn yr adroddiad i
sicrhau bod rheoliadau 2013 yn parhau’n gyfredol ac yn addas at y diben. Roedd un o'r diwygiadau yn ymwneud ag
Unigolion sydd wedi’u Dadleoli a godwyd yn ystod trafodaethau. Byddai'n ofynnol i unrhyw unigolion sydd
wedi'u dadleoli sy'n cyrraedd y DU o unrhyw un o'r gwledydd a grybwyllwyd yn yr
adroddiad fodloni amodau preswylio. Byddai hyn yn eu galluogi i hawlio
budd-daliadau yn ymwneud ag incwm, anabledd a gofalwyr. Byddai’r newid hefyd yn galluogi’r unigolion
hynny i hawlio o dan Gynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor yng Nghymru. CYNIGIWYD gan y
Cynghorydd Gwyneth Ellis a’i EILIO gan y Cynghorydd Bobby Feeley. Cafwyd pleidlais
drwy godi dwylo a chymeradwywyd yr adroddiad yn unfrydol. PENDERFYNWYD – (i)
Bod aelodau yn mabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor
a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth
y Cyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau
Treth y Cyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) 2025 mewn
perthynas â blwyddyn ariannol 2025/26. (ii)
Bod yr aelodau’n cymeradwyo elfennau dewisol y cynllun, a ddangosir yn
adran 4.4 yn yr adroddiad, ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26. |
|
CYNLLUN CYFALAF 2024/25 - 2027/28 Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) i ddiweddaru'r
aelodau ar Gynllun Cyfalaf 2024/25 a chael cymeradwyaeth y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis,
adroddiad Cynllun Cyfalaf 2024/25 – 2027/28 (dosbarthwyd ymlaen llaw). Diweddarwyr yr
Aelodau ar y Cynllun Cyfalaf a'r Adroddiad Strategaeth Gyfalaf ar gyfer
2025/26. Roedd y Cynllun Cyfalaf yn
cofnodi holl gyllid a gwariant cyfalaf gwirioneddol Cronfa’r Cyngor a’r hyn a
ragwelir. Roedd y Strategaeth Gyfalaf yn
darparu trosolwg lefel uchel, cryno a chynhwysfawr o sut mae gwariant cyfalaf,
ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheoli trysorlys Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif
Refeniw Tai yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor. Roedd Cod Ymarfer Rheoli Trysorlysoedd y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn gofyn i’r Cyngor
gymeradwyo Strategaeth Gyfalaf a’r Dangosyddion Darbodus yn flynyddol. Y tro diwethaf
i’r Cynllun Cyfalaf gael ei adrodd i’r Cyngor oedd ym mis Chwefror 2024. Cyflwynwyd diweddariadau rheolaidd i’r
Cabinet. Roedd y Cyngor yn
wynebu heriau ariannol, fel yr holl gynghorau yng Nghymru, o ganlyniad i bwysau
chwyddiant a phwysau a arweinir gan alw sydd ymhell y tu hwnt i’r lefel o
gyllid a ragwelir. Oherwydd maint yr her
ariannol, cytunwyd ar egwyddorion ar gyfer cynlluniau cyfalaf yn y dyfodol, a
oedd wedi'u nodi o dan 4.2 yn yr adroddiad. Roedd y Grŵp
Craffu Cyfalaf wedi adolygu ceisiadau cyfalaf, gan wneud argymhellion i'w
cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf o 2025/26 ymlaen.
Manylwyd ar y rhain yn Atodiad 3 ac fe geir crynodeb yn Atodiad 4. Yn ystod y
trafodaethau, codwyd y pwyntiau canlynol – (i)
Buddsoddiad
ysgolion yn Ninbych – nid oedd ffigyrau buddsoddi wedi eu cynnwys yn y cynllun
ac roedd y bloc cynnal a chadw wedi gostwng o £3 miliwn i £900 mil. Cadarnhawyd y byddai'r ffigyrau wedyn yn
ymddangos yn y Cynllun ar gyfer cymunedau dysgu cynaliadwy pan fyddai'r achos
busnes llawn wedi'i gymeradwyo. O ran y
bloc cynnal a chadw, roedd y ffigurau ar gyfer 2024/25 a 2025/26. Yr hyn a fyddai yn nhabl 2025/26 fyddai'r hyn
a oedd newydd gael ei gymeradwyo fel rhan o'r dyraniad bloc. Yr hyn a fyddai yn nhabl 2024/25 oedd yr hyn
a ddyrannwyd dros nifer o flynyddoedd, ac a oedd wedi'i gynnwys yn y ffigur mwy
hwnnw. Roedd y ffigwr ar gyfer Gwaith
Cynnal a Chadw Cyfalaf Ysgolion yn Atodiad 4 yr adroddiad. (ii)
Roedd
Cynllun Cyfalaf 2024/25 yn cynnwys ailfodelu’r gwasanaethau Gwastraff, a
gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddai angen cyfalaf ychwanegol wrth symud
ymlaen yn 2025/26. Cadarnhawyd hyd yma
na fyddai angen unrhyw gyfalaf ychwanegol.
Roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau
grant tuag at yr £1.3 miliwn a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Hydref
2024. Felly, byddai'r ffigwr a nodir yn
is ar ôl i'r grant gael ei gymeradwyo. (iii)
Bu
gostyngiad yn y cyllid ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd. Mynegwyd pryderon ynghylch cyflwr gwael y
ffyrdd a byddai angen buddsoddi cyn i gost cynnal a chadw'r ffyrdd
gynyddu. Nodwyd y posibilrwydd o gyllid
ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ond nad oedd modd ei gadarnhau ar hyn o
bryd. Byddai hyn yn lleddfu peth o'r
pwysau ar y gwaith cynnal a chadw priffyrdd.
(iv)
Roedd
pob dyraniad yn cynhyrchu achos busnes llawn, ac o fewn yr achos busnes roedd
allyriadau carbon pob cynllun wedi'u nodi cyn belled ag y bo modd, a byddai'r
wybodaeth honno'n cael ei rhannu gyda'r aelodau. (v)
Cadarnhawyd
y byddai’r grant tai sector preifat o £1.5 miliwn yn cael ei wario’n helaeth ar
y gofynion statudol i ddarparu grantiau cyfleusterau i’r anabl, ar gyfer addasu
cartrefi pobl er mwyn iddynt allu cynnal eu hannibyniaeth a byw’n annibynnol o
fewn y gymuned. (vi) Gofynnodd yr aelodau a oedd ffigwr i godi lefel statudol o ran ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) i gael
cymeradwyaeth y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth
Ellis, y Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT)
2025/2026 ac adroddiad Dangosyddion Darbodus 2025/2026 i 2027/2028 (Atodiad 1)
(dosbarthwyd ymlaen llaw). Mae'r DSRhT yn dangos sut byddai’r Cyngor yn rheoli ei
fuddsoddiadau a'i fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn gosod polisïau
ar gyfer gweithredu swyddogaeth rheoli’r trysorlys. Roedd Cod Ymarfer
Rheoli Trysorlysoedd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r
Dangosyddion Darbodus yn flynyddol. CYNIGIWYD gan y
Cynghorydd Gwyneth Ellis a’i EILIO gan y Cynghorydd Alan James. Cafwyd pleidlais
drwy godi dwylo a chymeradwywyd yr adroddiad gan y mwyafrif, gydag un yn
ymatal. PENDERFYNWYD
bod y Cyngor yn - (i)
Cymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2025/26
(Atodiad 1) (ii)
Cymeradwyo’r gwaith o osod Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2025/2026,
2026/2027 a 2027/2028 (Atodiad 1) (iii)
Cymeradwyo'r Datganiad Darpariaeth Isafswm Wrth Gefn (Atodiad 1 Adran 6) (iv)
Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar
Les (Atodiad 2) fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
TREFNIADAU CRAFFU AR GYFER CYD-BWYLLGOR CORFFORAETHOL GOGLEDD CYMRU Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm)
am y trefniadau Craffu arfaethedig ar gyfer Cyd-Bwyllgor Corfforaethol Gogledd
Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, y Trefniadau Craffu ar gyfer adroddiad
Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (dosbarthwyd ymlaen llaw). Sefydlwyd
Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar 1 Ebrill 2021 fel corff corfforaethol
ar wahân i gyflawni swyddogaethau statudol ar draws y gogledd. Enillodd y Cyd-bwyllgor Corfforedig ei
swyddogaethau wedi hynny ym mis Mehefin 2022. Mae
swyddogaethau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig fel a ganlyn - (i)
Paratoi,
monitro, atolygu a diwygio Cynllun Datblygu Strategol rhanbarthol (ii)
Datblygu
Cynllun Cludiant Rhanbarthol gyda pholisïau ar gyfer cludiant rhanbarthol (iii)
Meddu
ar y pŵer i wneud unrhyw beth a oedd yn debygol o hyrwyddo lles economaidd Mae’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gorff awdurdod lleol ar wahân gyda’i swyddogaethau
ei hun ac aelodaeth yn bennaf o’r chwe chyngor yng ngogledd Cymru ac Awdurdod
Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd yn ofynnol
mabwysiadu’r rhan fwyaf o drefniadau llywodraethu cyffredinol Awdurdod Lleol
gan gynnwys Is-bwyllgor Cyfansoddiad, Llywodraethu ac Archwilio, Is-bwyllgor
Safonau a Gofynion cyfreithiol eraill, gan gynnwys Adolygiadau Perfformiad,
Polisïau Cydraddoldeb a Bioamrywiaeth a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Byddai’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn destun craffu fel rhan o’r broses ddemocrataidd, ac
roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am allu CSDd i
ymuno â’r Grŵp Craffu Rhanbarthol ac i graffu’n unigol ac yn fewnol ar
faterion yn ymwneud â’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Roedd y gyfraith
yn mynnu bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cydweithredu â phwyllgor craffu
perthnasol. Roedd y canllawiau statudol
presennol ar y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn rhagweld y byddai hyn yn seiliedig
ar graffu gan yr awdurdodau cyfansoddol.
Roedd y canllawiau’n awgrymu y byddai’n briodol i’r gwaith craffu ar y
Cyd-bwyllgor Corfforedig gael ei gynnal gan Gyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu,
sef corff rhanbarthol a oedd wedi’i fabwysiadu gan y Cyd-bwyllgorau Corfforedig
eraill ledled Cymru. Roedd profiad yn
lleol o gydbwyllgor craffu a hwnnw oedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a
Sir Ddinbych. Ni fyddai
bodolaeth craffu ar y cyd yn atal Pwyllgorau Craffu lleol rhag craffu ar
faterion lleol sy'n codi o waith y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Byddai 2 aelod o
bob Awdurdod Lleol yn cael eu penodi i'r Cydbwyllgor Craffu yn seiliedig ar
gydbwysedd gwleidyddol pob awdurdod penodi.
Byddai'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn darparu cefnogaeth ysgrifenyddol i'r cydbwyllgor
cyffredinol, a byddai Swyddogion Craffu ar draws y rhanbarth yn gweithio gyda'i
gilydd i reoli eitemau ar gyfer rhaglen waith y Pwyllgor Craffu hwnnw. Argymhellwyd bod
Gweithdy Cyngor yn cael ei gynnal i drafod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig
ymhellach a chraffu arnynt. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai hyn yn cael ei drefnu ar gyfer Gweithdy'r Cyngor yn y
dyfodol. CYNIGIWYD gan y
Cynghorydd Jason McLellan ac EILIWYD gan Alan James. Cafwyd pleidlais
drwy godi dwylo a chytunwyd yn unfrydol i gefnogi Trefniadau Craffu Cydbwyllgor
Corfforedig Gogledd Cymru. PENDERFYNWYD – (i)
Bod y Cyngor yn cytuno i sefydlu Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu
Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru gyda’r Cylch Gorchwyl fel y nodir yn
Atodiad 1 (ii)
Bod y Cyngor yn cytuno y bydd pwerau Pwyllgorau Craffu lleol a ddarparwyd o
dan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2002 yn
cael eu cadw (iii)
Cytuno y bydd cydbwysedd gwleidyddol enwebeion Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer
y Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn adlewyrchu aelodaeth Cyngor Sir Ddinbych
yn hytrach nag aelodaeth cynghorau’r gogledd yn eu cyfanrwydd (iv)
Cytuno y bydd yr ysgrifennydd ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn
cael ei ddarparu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn unol â’r Cylch Gorchwyl |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2023-24 Ystyried
adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Prif
Archwilydd Mewnol (copi ynghlwm) i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, David Stewart, Adroddiad
Blynyddol Drafft y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2023-24 (dosbarthwyd
ymlaen llaw) i’r Cyngor ynghylch gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar
gyfer blwyddyn ddinesig 2023/24. Mae’n ofyniad
statudol ar y Cyngor i gael Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 fel y’i diwygiwyd. Y Pwyllgor yw pwyllgor dynodedig y Cyngor at
y diben hwnnw. Y Pwyllgor hefyd
yw'r corff sy’n gyfrifol am adolygu Cyfansoddiad y Cyngor yn barhaus. Roedd Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gofyn bod traean o aelodau’r
Pwyllgor yn aelodau lleyg. Mae yno
chwech o aelodau etholedig a thri o aelodau lleyg ar y Pwyllgor. Roedd y Ddeddf hefyd yn nodi bod yn rhaid i
Gadeirydd y Pwyllgor fod yn aelod lleyg.
Y Cadeirydd presennol yw Mr David Stewart. Diolchodd yr
aelodau i'r Cadeirydd, David Stewart a holl aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio am eu gwaith da. CYNIGIWYD gan y
Cynghorydd Mark Young ac EILIWYD gan y Cynghorydd Arwel Roberts. Cynhaliwyd
pleidlais drwy godi dwylo a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn Adroddiad Blynyddol
Drafft y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2023-24. PENDERFYNWYD
bod y Cyngor yn
parhau i ystyried mor bwysig yw llywodraethu corfforaethol da ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad, yn enwedig felly: (i)
Yr heriau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu mewn perthynas â’r strategaeth
ariannol (ii)
Effeithiolrwydd parhaus y gofrestr risgiau gorfforaethol (iii)
Pryderon y Pwyllgor ynglŷn ag effeithiau posib ar ddarpariaeth
gwasanaethau a swyddogaethau llywodraethu allweddol yn sgil anawsterau wrth
recriwtio a chadw staff. |
|
ADOLYGIAD O DDOSBARTHIADAU ETHOLIADOL A MANNAU PLEIDLEISIO YN SIR DDINBYCH Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ynghylch yr
adolygiad o Ardaloedd Pleidleisio a Mannau Pleidleisio yn Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price, adroddiad yr Adolygiad o
Ardaloedd Pleidleisio a Lleoedd yn Sir Ddinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd gan y
Cyngor ddyletswydd statudol i adolygu ei ddosbarthiadau etholiadol a mannau
pleidleisio o leiaf unwaith bob pum mlynedd.
Gwahoddwyd
sylwadau gan y cyhoedd ar y dosbarthiadau etholiadol, y mannau pleidleisio a’r
gorsafoedd pleidleisio presennol neu a awgrymwyd yn ystod mis Tachwedd a mis
Rhagfyr 2024. Argymhellwyd y dylai
unrhyw awgrymiadau ar gyfer newidiadau i fannau pleidleisio ystyried y pwyntiau
canlynol - (i)
A
oedd yr eiddo yn ddigon mawr ar gyfer nifer yr etholwyr (pleidleiswyr
cofrestredig) a ddyrannwyd (ii)
A
oedd yr eiddo mewn lleoliad mor ganolog ag sy’n bosibl ar gyfer y dosbarth
etholiadol mae’n ei wasanaethu (iii)
A
fyddai modd gwarantu y byddai’r man pleidleisio ar gael i’w ddefnyddio yn yr
hirdymor (iv)
Fyddai’r
eiddo, cyn belled ag sy'n ymarferol, yn hygyrch i bobl ag anableddau. Aeth yr
ymgynghoriad yn fyw gyda gwybodaeth a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor a'i hanfon
at Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, yr holl gynghorwyr, ac ystod o sefydliadau
hygyrchedd a gwirfoddol yr oedd eu cylch gorchwyl yn cwmpasu Sir Ddinbych. Roedd yr
ymgynghoriad a’r wybodaeth ar y wefan yn cynnwys dolen i holiadur ar gyfer
ymatebion ar y cyd, a dangoswyd yr ymatebion a ddaeth i law yn Atodiad 2. Nid oedd asesu
addasrwydd mannau a gorsafoedd pleidleisio yn dibynnu ar yr adolygiad statudol,
gan y byddai swyddfa'r etholiad yn ystyried newidiadau, newidiadau mewn
amgylchiadau a chynigion ar unrhyw adeg.
Mae profiadau o
etholiadau diweddar a gynhaliwyd yn yr ardal neu ar safle a allai fod yn fwy
addas yn arwain at newid. Mae'n bosibl
na fydd adeilad a ddefnyddiwyd gynt fel gorsaf bleidleisio ar gael mwyach.
Digwyddodd hyn yn ddiweddar, ac arweiniodd at orfod chwilio am ddewis arall
addas ar unwaith. Dywedodd y
Comisiwn Etholiadol y dylai fod dewis o adeiladau cwbl hygyrch wedi'u lleoli'n
gyfleus i etholwyr yn yr ardal, a pherchnogion yn fodlon eu llogi fel gorsaf
bleidleisio am gost isel. Yn anffodus,
yn ymarferol, nid dyma’r achos yn aml ac mewn rhai ardaloedd efallai mai
ychydig iawn o ddewis sydd ar gael.
Ymddengys bod y rhwydwaith presennol yn cael ei groesawu ac yn addas at
y diben. Roedd gwybodaeth yr
ymgynghoriad yn nodi nad oes gofyniad na disgwyliad i gyflwyno sylwadau er bod
croeso i bobl wneud hynny. Pe na bai
unrhyw sylwadau'n cael eu cyflwyno, tybir bod y trefniadau pleidleisio
presennol yn addas ar gyfer y gymuned. Roedd y sylwadau
a wnaed i'w gweld yn Atodiad 2 ac roeddent yn cefnogi'r trefniadau
presennol. Yr eithriad oedd yr awgrym a
wnaed gan y Swyddog Canlyniadau Gweithredol ar gyfer Dwyrain Clwyd, sydd hefyd
yn Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint. Roedd yn gyfrifol am etholiadau
Seneddol y DU ar gyfer Dwyrain Clwyd, gan gynnwys yr ardal a gwmpesir gan
Neuadd Blwyf y Waen y gwnaeth y Swyddog Canlyniadau
Gweithredol ei sylwadau arni. Y newid y
gofynnwyd amdano i'w ystyried oedd cyfuno tair gorsaf bleidleisio, a defnyddio
Neuadd Blwyf y Waen fel yr un orsaf ar gyfer
Etholiadau Seneddol y DU. Cefnogwyd y
newid hwn gan y swyddfa etholiadol gan na fyddai'n effeithio ar bleidleiswyr,
ac ni fyddai pleidleiswyr yn sylwi ar y newid.
Byddai'n ddefnydd mwy effeithlon o staff yr orsaf bleidleisio a byddai
modd rheoli cyfanswm y pleidleiswyr ar gyfer yr orsaf bleidleisio honno. Roedd un gŵyn wedi’i gwneud yng ngogledd y sir mewn etholiad a gynhaliwyd yn 2024 ynghylch dyfais bleidleisio gyffyrddol y gallai pobl â nam ar eu golwg ei defnyddio. Gwrthododd y pleidleisiwr ddefnyddio'r ddyfais. Nid oedd y gŵyn a ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR To consider the Council’s forward work programme (copy attached). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y
Swyddog Monitro gyflwyniad a chrynodeb o sefyllfa ddiweddaraf Rhaglen Waith y
Cyngor a Rhaglen Waith Gweithdai’r Cyngor. Cynhelir cyfarfod
nesaf y Cyngor Llawn ar 20 Chwefror 2025 a Gweithdy nesaf y Cyngor ar 11
Chwefror 2025. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i nodi Rhaglen
Waith y Cyngor a Rhaglen Waith Gweithdai’r Cyngor. |
|
Daeth y
cyfarfod i ben am 12 dydd. |