Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorwyr Michelle Blakeley-Walker, Ellie Chard, Kelly,
Gwyneth Ellis, Carol Holliday, David Williams ac Elfed Williams. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD
gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol, dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai
gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
PENODI PENNAETH CYLLID AC ARCHWILIO (ADRAN 151) Cyfweld ymgeiswyr
ac ystyried penodi i swydd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio. Y Panel Penodiadau
Arbennig fydd yn penderfynu ar nifer yr ymgeiswyr. Cofnodion: Bu i Arweinydd y Cyngor a Phennaeth Dros Dro AD
adrodd ar y broses recriwtio a gynhaliwyd ar gyfer y swydd a rhoddwyd manylion
ynglŷn â’r Panel Penodiadau Arbennig a gweithgareddau asesu a ddefnyddiwyd
i werthuso ymgeiswyr. Roedd y Panel Penodiadau Arbennig wedi nodi un
ymgeisydd a allai fod yn addas i'w benodi ac a oedd wedi'i wahodd i fynychu
cyfarfod y Cyngor. Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad i’r Cyngor ac
ymateb i gwestiynau gan aelodau. Ar ôl
i’r ymgeisydd adael y cyfarfod, bu i’r aelodau drafod y cyflwyniad ac ymatebion
i gwestiynau. PENDERFYNWYD Penodi
Elizabeth Thomas i swydd Pennaeth Cyllid ac Archwilio (Adran 151). Daeth y cyfarfod i ben am 3.00pm. |